Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 1 Mai 2024.
Gyda iechyd ataliol wedi cael ei godi, hoffwn fanteisio ar y cyfle i sôn am atal canser y coluddyn yng Nghymru. Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin a'r ail laddwr canser mwyaf yng Nghymru. Mae cynnydd da wedi bod o ran profi am syndrom Lynch yng Nghymru, sef cyflwr sy'n gysylltiedig â rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn, ond mae tua 30 y cant o achosion canser y coluddyn yn y DU yn gysylltiedig â diffyg ffeibr yn y deiet, mae 11 y cant yn gysylltiedig â gordewdra, a 7 y cant yn gysylltiedig â thybaco. Bydd cyfuniad o'r ymddygiadau hyn yn cynyddu eich perygl o ddatblygu'r clefyd yn sylweddol. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ymddygiadol sy'n gysylltiedig â chanser y coluddyn? Diolch.