Camau i Atal Clefydau drwy Hyrwyddo Byw'n Iach

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 2:27, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Mae cysylltiad agos rhwng ffordd o fyw ac iechyd, a gall y dewisiadau a wneir am ddeiet, gweithgarwch, cwsg ac ysmygu effeithio ar iechyd a lles. Gall ffordd iach o fyw leihau'r risg o lawer o glefydau, gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo adferiad. Mae llawer o bobl angen gwella'u ffordd o fyw, gyda gordewdra'n un o brif achosion diabetes math 2, clefyd coronaidd y galon, rhai mathau o ganser, fel canser y fron a chanser y coluddyn, a strôc. Felly, gyda'i ddull ataliol cynnar, gall presgripsiynu cymdeithasol helpu i leddfu'r baich ar wasanaethau arbenigol rheng flaen. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ar gynyddu presgripsiynu cymdeithasol, fel ein bod yn gwella ffitrwydd ac iechyd pobl, yn hytrach na'u bod yn ymweld â meddygon, yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys, am eu bod yn ddifrifol wael?