2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefydau drwy hyrwyddo byw'n iach? OQ60995
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi pobl yng Nghymru i fyw bywydau iach. Mae peidio ag ysmygu, bod yn gorfforol egnïol lle bo hynny'n bosibl a chario pwysau iach i gyd yn gamau cadarnhaol y gallwn eu cymryd i atal clefydau y gellir eu hosgoi, fel diabetes math 2.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Mae cysylltiad agos rhwng ffordd o fyw ac iechyd, a gall y dewisiadau a wneir am ddeiet, gweithgarwch, cwsg ac ysmygu effeithio ar iechyd a lles. Gall ffordd iach o fyw leihau'r risg o lawer o glefydau, gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo adferiad. Mae llawer o bobl angen gwella'u ffordd o fyw, gyda gordewdra'n un o brif achosion diabetes math 2, clefyd coronaidd y galon, rhai mathau o ganser, fel canser y fron a chanser y coluddyn, a strôc. Felly, gyda'i ddull ataliol cynnar, gall presgripsiynu cymdeithasol helpu i leddfu'r baich ar wasanaethau arbenigol rheng flaen. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ar gynyddu presgripsiynu cymdeithasol, fel ein bod yn gwella ffitrwydd ac iechyd pobl, yn hytrach na'u bod yn ymweld â meddygon, yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys, am eu bod yn ddifrifol wael?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn. Efallai ein bod weithiau'n gor-feddygoli rhai o'r materion sy'n dod trwy ein meddygfeydd, a dyna pam y credaf fod cyfle gwirioneddol yn sgil presgripsiynu cymdeithasol. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd wrth gwrs; mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru, ond mewn pocedi. Ac un o'r materion yr oedd y cyn Weinidog llesiant yn sicr yn awyddus i fynd i'r afael â nhw, a gwn fod y Gweinidog iechyd meddwl newydd yn awyddus i edrych arno hefyd, yw gwneud yn siŵr, pan gaiff pobl eu hatgyfeirio mewn perthynas â phresgripsiynu cymdeithasol, fod yna ansawdd ynghlwm wrth hynny, fel bod meddygon teulu yn gallu—. Mae'r rhain, yn aml iawn, yn bobl fregus; mae angen ichi gael rhywfaint o sicrwydd o'i gwmpas. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn i'w cael yn sgil presgripsiynu cymdeithasol. Cafwyd ymgynghoriad ar y fframwaith hwnnw bellach, felly rydym yn bwrw ymlaen mewn perthynas â'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Ond rydych chi'n llygad eich lle, yn enwedig o ran y ffordd yr ewch ati i newid ffordd o fyw pobl. Mae'n anodd iawn, mae'n bersonol iawn. Beth sy'n ysgogi pobl? Ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfleoedd, nid yn unig drwy bresgripsiynu cymdeithasol, ond hefyd drwy edrych ar y gefnogaeth sydd gennym y gellir ei theilwra'n effeithiol i'r unigolyn. Felly, Pwysau Iach Byw'n Iach, er enghraifft, gall pobl fynd ar y wefan honno a chael cefnogaeth wedi'i theilwra'n deg a fydd yn eu helpu, er enghraifft yn eu hymdrechion i golli pwysau.
Gyda iechyd ataliol wedi cael ei godi, hoffwn fanteisio ar y cyfle i sôn am atal canser y coluddyn yng Nghymru. Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin a'r ail laddwr canser mwyaf yng Nghymru. Mae cynnydd da wedi bod o ran profi am syndrom Lynch yng Nghymru, sef cyflwr sy'n gysylltiedig â rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn, ond mae tua 30 y cant o achosion canser y coluddyn yn y DU yn gysylltiedig â diffyg ffeibr yn y deiet, mae 11 y cant yn gysylltiedig â gordewdra, a 7 y cant yn gysylltiedig â thybaco. Bydd cyfuniad o'r ymddygiadau hyn yn cynyddu eich perygl o ddatblygu'r clefyd yn sylweddol. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ymddygiadol sy'n gysylltiedig â chanser y coluddyn? Diolch.
Diolch yn fawr. Wel, un o'r pethau rwy'n falch iawn ohono yw'r ffaith ein bod bellach wedi gostwng yr oedran y mae sgrinio'n dechrau mewn perthynas â chanser y coluddyn, ac mae hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Ac mae pobl yn awyddus iawn i gymryd rhan yn hynny. Mae rhan o'r broblem serch hynny, os edrychwch chi ar y gwahaniaethau a'r canlyniadau o ran pobl sydd â chanser—unrhyw fath o ganser—yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd tlotach a'r ardaloedd cyfoethocach, ac mae'n rhaid inni wneud mwy i gael ein hardaloedd tlotach yn rhan o hyn. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym gamau wedi'u targedu i sicrhau bod pobl yn yr ardaloedd tlotach yn dychwelyd y profion sgrinio hynny. Yn sicr, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn rhan o'r hyn a wnawn, ond rydych chi'n hollol gywir: cyn hynny, mae'n rhaid inni wneud gwaith atal, ac yn sicr rwy'n gobeithio, gyda'r math o gefnogaeth Pwysau Iach Byw'n Iach y gallwn ei rhoi ar waith, y bydd pobl yn cydnabod yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gynnal ffordd o fyw iach.