10. Dadl Fer: Gaza — Ymateb Cymreig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:38, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Fe gofiwch, yn Senedd yr Alban, y cynhaliwyd dadl yn galw am gadoediad ar unwaith. Yn ystod y ddadl honno, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Humza Yousaf ei fod wedi anfon llythyr gan Lywodraeth yr Alban at Rishi Sunak a Keir Starmer yn gofyn iddynt alw am gadoediad ar unwaith. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr un peth?