Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Peredur Owen Griffiths, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae pob un ohonom o amgylch y Siambr hon wedi cael ein dychryn gan y trais parhaus yn Israel, Palesteina a'r rhanbarth ehangach. Er nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod canlyniadau gwirioneddol a pharhaol iawn yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae'n werthfawr ein bod yn cael y cyfle hwn i drafod y canlyniadau hynny'n fanylach.
Mae'r ddadl heddiw hefyd yn adeiladu ar y cynnig cadoediad y cyfeiriodd Peredur ato, ac a drafodwyd yn y Siambr hon ar 8 Tachwedd y llynedd. Yn unol â chonfensiwn—ac rwyf am egluro hyn—fe ymataliodd Gweinidogion Cymru o'r bleidlais ar y cynnig gan nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, yn y ddadl ei hun roedd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn glir fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld cadoediad llawn cyn gynted â phosibl. Ailadroddwyd y safbwynt hwn yn y Cyfarfod Llawn gan y Prif Weinidog a'r cyn Brif Weinidog, a gwn y bydd y Prif Weinidog yn ateb yr ohebiaeth y cyfeiriodd Peredur ati.
Rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, gan ddod â'r dioddefaint ar bob ochr i ben cyn gynted â phosibl. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae argyfwng dyngarol go iawn yn digwydd. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr holl bartneriaid perthnasol yn sicrhau cynnydd sylweddol ac uniongyrchol yn y cymorth i mewn i Gaza, yn cytuno i ryddhau'r holl wystlon, yn dod â'r trais i ben, ac yn cymryd rhan ystyrlon yn natblygiad datrysiad dwy wladwriaeth sy'n para.
Rhaid i roi'r gorau i drais fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer proses wleidyddol fwy hirdymor a phendant tuag at sefydlu datrysiad dwy wladwriaeth yn seiliedig ar wladwriaeth sofran Palesteina ac Israel ddiogel. Ni all fod unrhyw ddiogelwch i unrhyw un yn Israel a Phalesteina heb heddwch hirdymor sy'n deg i'r ddwy wladwriaeth. Fe welwyd dioddefaint annirnadwy i bobl ddiniwed ar bob ochr, ac mae'n parhau, ac mae'n hanfodol fod pawb yn cydnabod dynoliaeth gyffredin pob dioddefwr.
Yng Nghymru, yr her i ni yw nodi'r dylanwad y gallwn ei gael i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld, i atal y casineb a'i ganlyniadau. Mae hanes a geowleidyddiaeth y rhanbarth, yn ogystal â'r trais parhaus a'r ffaith nad yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, yn cyfyngu'n ddifrifol ar yr hyn y gallwn ei wneud, er gwaethaf ein tristwch dwfn. [Torri ar draws.] A gaf i barhau am funud, os gwelwch yn dda? Serch hynny, mae yna bethau y gallwn ni, ac rydym ni'n eu gwneud yng Nghymru i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt sy'n byw yma.