Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 1 Mai 2024.
Mae mwy na 34,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig, credir bod 72 y cant yn fenywod a phlant. Fel menyw, seneddwr ac fel cynrychiolydd ar ran menywod Cymru yn y lle hwn, mae gennyf ddyletswydd foesol i ddefnyddio fy llais i gondemnio marwolaethau a dioddefaint y menywod a'r plant diniwed hynny. Ni all Llywodraeth Cymru siarad am bwysigrwydd iechyd mamau, urddas mislif, lles plant a hawl a phwysigrwydd addysg heb wneud safiad a defnyddio pob platfform a phob owns o ddylanwad i feirniadu triniaeth echrydus, anghyfiawn ac anghyfreithlon plant a menywod yn Gaza.
Er nad oes gennym bwerau dros faterion rhyngwladol, fe allwn ac fe ddylem wneud datganiad pwerus dros heddwch fel cenedl, fel Senedd genedlaethol ac fel Llywodraeth. Mae gennym draddodiad hir o ddefnyddio'r llais hwnnw dros heddwch, o Gomin Greenham i ryfel Irac, ac ni ddylem byth danbrisio dilysrwydd a phŵer y llais cyfunol hwnnw. Oherwydd pan fydd yn ei siwtio nhw, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod materion rhyngwladol yn helaeth, gan gyfeirio'n aml at faterion rhyngwladol mewn ymateb i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, cytuniadau, cytundebau masnach, adroddiadau pwyllgorau, ac nid oes ond angen inni feddwl am y sylw a roddir gan Weinidogion mewn areithiau a datganiadau i'r ymosodiad echrydus ar Wcráin a'i ganlyniadau dinistriol. Felly, y pwynt hanfodol yma yw na all Senedd a Llywodraeth Cymru fod yn dawel, yn enwedig nawr pan welwn Israel yn benderfynol o gyflawni mwy fyth o ladd a dinistr yn Rafah. Mae angen iddynt godi llais yn glir, a'r geiriau y mae'n rhaid inni eu clywed yw 'Cadoediad nawr'.