– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 1 Mai 2024.
Symudwn ni i'r ddadl fer nawr. Rwy'n gofyn i'r Aelodau sy'n gadael i adael yn dawel. Peredur Owen Griffiths sy'n cyflwyno y ddadl fer ar Gaza, ymateb Cymreig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Pan ddaeth fy enw i fyny ar gyfer y ddadl fer hon, mae bob amser yn fraint, oherwydd rydych chi'n cael hyd at 15 munud i siarad am rywbeth sy'n bwysig i chi. Rwy'n cael rhoi peth o fy amser i Aelodau eraill siarad, am hyd at funud yr un, a heno mae ceisiadau niferus wedi dod. Ond rwyf wedi mynd ar sail y cyntaf i'r felin, a chytunais i roi munud yr un i Rhun ap Iorwerth, Sioned Williams, Mabon ap Gwynfor, Jenny Rathbone a John Griffiths. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl wedyn ar ran y Llywodraeth, ac nid oes pleidlais ar ddadleuon byr. Felly, fel y dywedais, mae'n gyfle gwych i siarad ar bwnc sy'n bwysig i mi. Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau siarad am Gaza, a nodi ein hymateb Cymreig yn arbennig.
Fe wnaethom ymateb bron ar unwaith, gyda datganiadau gan holl arweinwyr y pleidiau yn y Siambr hon ar 10 Hydref, yn condemnio ymosodiad Hamas ar 7 Hydref ac yn galw am ryddhau'r gwystlon. Aeth Plaid Cymru ymhellach a galw am gadoediad yn ôl bryd hynny. Mae'n anodd credu bod bron i chwe mis wedi mynd heibio ers 8 Tachwedd, pan gynhaliwyd y bleidlais hanesyddol honno yn y Senedd i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza. Diolch i gefnogaeth Jane Dodds a rhai o aelodau meinciau cefn Llafur, derbyniwyd pleidlais y Senedd o blaid y cynnig am gadoediad ar unwaith a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Cafodd Plaid Cymru ei beirniadu rywfaint gan rai am y weithred hon, gyda rhai pobl yn dweud y dylem ganolbwyntio ar faterion yng Nghymru. Mae dau beth i'w ddweud am hynny. Yn gyntaf, mae gan Blaid Cymru draddodiad balch o sefyll ar lwyfan y byd a chodi ein lleisiau pan fo angen. Yn ail, mae yna ddinasyddion o Gymru wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan ddigwyddiadau yn Gaza. Yn gynharach y mis hwn, clywsom gan Gillian a Pete Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr a gollodd eu merch a'u hwyresau yn yr ymosodiad gan Hamas ar 7 Hydref, a mynychais weddïau gyda dyn ym mosg Dar-ul-Isra sydd wedi colli dros 20 aelod o'i deulu agos yn rhyfel Israel ar Gaza.
Ein gwaith ni yn y lle hwn yw cynrychioli pawb yng Nghymru, a dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud. Er fy mod yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan yn condemnio'r hyn a oedd eisoes yn sefyllfa enbyd i bobl Gaza ddechrau mis Tachwedd, mae'r bomio, y newyn a'r lladd wedi parhau'n ddi-baid. Yn ôl Al Jazeera, mae 1,139 o bobl wedi marw yn Israel a 34,979 o Balesteiniaid wedi eu lladd ers 7 Hydref. Mewn gwirionedd, mae'r nifer a fu farw yn debygol o fod yn llawer uwch, wrth i fwy a mwy o gyrff gael eu tynnu allan o'r rwbel a darganfod beddau torfol mewn dau safle claddu gwahanol y tu allan i ysbytai Nasser ac Al-Shifa, lle daethpwyd o hyd i 390 o gyrff. Mae'n ddinistr a gofid ar raddfa annirnadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd siarad amdano, ac mae'n anodd ei wylio. Ond mae'n rhaid siarad amdano. Mae'n rhaid inni dystio i'r hyn sy'n digwydd. Ac mae llawer wedi teimlo eu bod wedi cael eu galw i weithredu. Rwy'n gweld pobl yn yr oriel sydd wedi bod yn gwneud hynny.
Yng Nghymru, mae'r ymateb gan nifer fawr o bobl i'r erchyllterau hyn wedi bod yn glir: 'Nid yn fy enw i'. Mae pobl wedi mynychu ralïau a gwylnosau, mae pobl wedi gorymdeithio, mae pobl wedi codi arian ar gyfer ymdrechion cymorth, ac mae pobl wedi boicotio cwmnïau sydd â chysylltiadau â lluoedd arfog Israel. Yn union fel cynnig cadoediad y Senedd, maent yn anfon neges glir gan bobl Cymru nad ydym yn cefnogi ymosodiad milwrol parhaus Israel yn erbyn sifiliaid yn Gaza. Nid yw gwylio a gwneud dim yn opsiwn pan fydd canlyniadau cyrch Israel ar Gaza mor ddifrifol. Rwyf wedi bod ar orymdeithiau a ralïau, ac mewn digwyddiadau codi arian. Rwyf wedi gweld angerdd pobl sydd ond eisiau gwell o'r byd hwn. A yw ein Llywodraeth yn teimlo'r un angerdd a phenderfyniad? Yn anffodus, nid yw i'w weld yn gwneud hynny. Cefais fy synnu yr wythnos diwethaf pan ddywedodd y Prif Weinidog wrthyf
'Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith.'
Roedd hynny'n newyddion i mi. Roedd hefyd yn newyddion i fy nghyd-Aelodau, ac roedd yn newyddion i'r ymgyrchwyr gwrth-ryfel rwy'n cysylltu â nhw, oherwydd pan ddaeth cynnig cadoediad Plaid Cymru ger bron y Senedd, fe wnaeth holl Weinidogion y Llywodraeth ymatal. Rwy'n dal i aros am eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â pha bryd y newidiodd y safbwynt hwnnw, a sut y cafodd ei gyfathrebu. Mae'n peri pryder nad oedd neb yn gwybod dim am y peth.
Cefais e-bost gan aelod o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru a ddywedodd eu bod wedi anfon llythyr at y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, ym mis Chwefror. Roedd y llythyr yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid i Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sy'n dal i fod heb ei adfer. Gan nad yw Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi cael ymateb i'r llythyr eto, fe wnaethant ei ail-anfon at y Prif Weinidog newydd yr wythnos diwethaf yn dilyn ei sylwadau fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cadoediad ar unwaith. Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro hyn yn ei hymateb ac yn annog y Prif Weinidog i ateb y llythyr.
Wrth edrych ar ymateb unigryw Gymreig i'r sefyllfa yn Gaza, cefais fy nenu at wefan Cyngor Rhyng-ffydd Cymru. Ar y wefan, ers mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Cyngor Mwslimaidd Cymru, gyda Chyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, dan nawdd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ymrwymiad i ddeialog a galwad am heddwch yn y dwyrain canol. Mae'r weithred syml hon yn unigryw ym Mhrydain ac yn dyst i agwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyng-ffydd. Dyma un o'r rhesymau pam rwy'n falch o allu siarad am ymateb Cymreig—un nad yw'n chwilio am raniadau ond yn hytrach, am gydweithio ar gyfer meithrin cyd-ddealltwriaeth ac ymrwymiad ar y cyd i heddwch a dynoliaeth.
Ddirprwy Lywydd a chyd-Aelodau, rwy'n siŵr y gallwn i gyd ganmol y ffordd Gymreig hon o wneud pethau. Ar ôl mwy na chwe mis ers dechrau ymosodiad Israel, mae'n hen bryd cael sancsiynau. Mae'n hen bryd atal anfon arfau. Mae'n hen bryd dadfuddsoddi o gwmnïau a chynlluniau pensiwn sy'n cynnal y gwrthdaro hwn. Mae'r rhanbarth cyfan ar drothwy rhyfel sy'n llawer mwy na'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Rhaid rhoi diwedd arno cyn iddo fynd ymhellach. Mae'n ddyletswydd ar y gymuned ryngwladol i adlewyrchu barn y bobl y maent yn eu gwasanaethu a dweud digon yw digon.
Gall Cymru chwarae ei rhan yn yr ymdrech honno. Rwy'n galw ar y Llywodraeth Lafur hon i fod yn glir ac yn benderfynol yn ei gwrthwynebiad i'r ymosodiad parhaus yn Gaza. Mae hynny'n dechrau gyda galwad glir am gadoediad parhaol ar unwaith a fydd yn caniatáu i'r ymdrech ddyngarol enfawr ddigwydd. Mae angen i hyn ddigwydd er mwyn pobl Gaza, mae angen i hyn ddigwydd er mwyn y gwystlon sy'n dal i gael eu cadw'n gaeth, ac mae angen iddo ddigwydd yn enw heddwch a dynoliaeth. Diolch yn fawr.
Diolch, Peredur, am gyflwyno y ddadl yma heddiw ac am ganiatáu i fi gael gwneud cyfraniad byr hefyd. Y perygl bob amser ydy bod treigl amser yn gwneud i bobl golli ffocws, i ymgynefino efo rhywbeth sy'n digwydd draw fan acw, waeth pa mor erchyll ydy hynny.
Ni allwn adael i'r byd anghofio erchyllterau'r rhyfel hwn. Ni allwn anghofio'r rhai a laddwyd ac a gymerwyd yn wystlon ar 7 Hydref, ac rydym yn mynnu eu bod yn cael eu rhyddhau. Ac ni ddylem byth anghofio'r degau o filoedd a laddwyd ac sy'n dal i gael eu lladd yn Gaza, y cannoedd o filoedd o Balesteiniaid sy'n wynebu amddifadrwydd llwyr, diffyg maeth a digartrefedd. Rhaid inni ail-bwysleisio ein condemniad o'r rhai sy'n gyfrifol, mynnu diwedd ar yr erchyllterau, cadoediad, sancsiynau, cynnydd enfawr mewn cymorth dyngarol. Rwy'n falch fod cymaint o bobl yng Nghymru wedi ymateb. Fe all, ac mae'n rhaid i'n Senedd barhau i godi llais fel rhan o gymuned fyd-eang sy'n sefyll dros oddefgarwch a heddwch.
Rhaid i ddynoliaeth fod yn drech yn Israel a Phalesteina. Mae fy etholwyr yn dweud wrthyf eu bod eisiau cadoediad parhaol ar unwaith, rhyddhau gwystlon, lefelau priodol o gymorth dyngarol, a dechrau ateb gwleidyddol a fydd yn para. Mae António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi siarad yn rymus iawn yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Mae wedi dweud, 'Mae'r rhain yn adegau mewn hanes pan fo'n rhaid gweithredu.' Rwy'n falch iawn fod pobl yng Nghymru wedi gorymdeithio, wedi mynd i ralïau, wedi protestio—ac rwyf wedi bod yn freintiedig iawn i fod yn rhan o hynny—i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed dros ddynoliaeth a heddwch. Rwy'n credu nawr a thrwy gydol yr argyfwng ofnadwy hwn ei bod hi mor bwysig fod cynrychiolwyr gwleidyddol ac arweinwyr gwleidyddol ar bob lefel wedi codi llais a lleisio'u barn—wedi siarad o blaid cadoediad uniongyrchol a pharhaol, y lefelau priodol o gymorth dyngarol, rhyddhau gwystlon a dechrau'r datrysiad gwleidyddol. Dyna'r Gymru rwyf eisiau bod yn rhan ohoni, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gryfhau'r lleisiau hynny nawr, ar yr adeg dyngedfennol hon, ar ran y nifer fawr sydd wedi'u dal yn y gyflafan ofnadwy hon.
Mae mwy na 34,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig, credir bod 72 y cant yn fenywod a phlant. Fel menyw, seneddwr ac fel cynrychiolydd ar ran menywod Cymru yn y lle hwn, mae gennyf ddyletswydd foesol i ddefnyddio fy llais i gondemnio marwolaethau a dioddefaint y menywod a'r plant diniwed hynny. Ni all Llywodraeth Cymru siarad am bwysigrwydd iechyd mamau, urddas mislif, lles plant a hawl a phwysigrwydd addysg heb wneud safiad a defnyddio pob platfform a phob owns o ddylanwad i feirniadu triniaeth echrydus, anghyfiawn ac anghyfreithlon plant a menywod yn Gaza.
Er nad oes gennym bwerau dros faterion rhyngwladol, fe allwn ac fe ddylem wneud datganiad pwerus dros heddwch fel cenedl, fel Senedd genedlaethol ac fel Llywodraeth. Mae gennym draddodiad hir o ddefnyddio'r llais hwnnw dros heddwch, o Gomin Greenham i ryfel Irac, ac ni ddylem byth danbrisio dilysrwydd a phŵer y llais cyfunol hwnnw. Oherwydd pan fydd yn ei siwtio nhw, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod materion rhyngwladol yn helaeth, gan gyfeirio'n aml at faterion rhyngwladol mewn ymateb i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, cytuniadau, cytundebau masnach, adroddiadau pwyllgorau, ac nid oes ond angen inni feddwl am y sylw a roddir gan Weinidogion mewn areithiau a datganiadau i'r ymosodiad echrydus ar Wcráin a'i ganlyniadau dinistriol. Felly, y pwynt hanfodol yma yw na all Senedd a Llywodraeth Cymru fod yn dawel, yn enwedig nawr pan welwn Israel yn benderfynol o gyflawni mwy fyth o ladd a dinistr yn Rafah. Mae angen iddynt godi llais yn glir, a'r geiriau y mae'n rhaid inni eu clywed yw 'Cadoediad nawr'.
Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, ni allwn ddod i arfer â lefel y gyflafan sy'n digwydd; rhaid inni beidio â throi ein cefnau. Plentyn yw Jana Ayad, tua'r un oed â fy ail wyres. Nid yw'n ddim ond croen ac esgyrn, yn llwgu i farwolaeth oherwydd polisi bwriadol i beidio â chaniatáu digon o fwyd i mewn i Gaza i fwydo'r holl bobl sydd wedi'u dadleoli gan y bomio. Gyda'r maeth cywir, gellid achub Jana, pe bai blocâd Gaza yn cael ei godi.
Nos Lun cafodd newyddiadurwr, Salem Abu Toyor, a'i fab, eu lladd pan darodd bom Israelaidd eu tŷ. Mae Israel wedi lladd mwy o newyddiadurwyr yn Gaza na'r holl newyddiadurwyr a laddwyd yn yr ail ryfel byd, mewn dim ond 200 diwrnod. A yw milwyr Israel yn fwriadol yn lladd newyddiadurwyr—neu a oes ganddi agwedd laissez-faire tuag at ladd sifiliaid sy'n byw yn Gaza, ac mae newyddiadurwyr, fel gweithwyr iechyd a gweithwyr cymorth, yn mynd o ffordd eu hymgyrch?
Dywedir wrthym fod y pecyn cadoediad diweddaraf yn gynnig hael, meddai Antony Blinken. Nid yw mis heb fomio a newynu, wedi'i ddilyn gan gyflafan yn Rafah, neu ymosodiad uniongyrchol ar Rafah yn teimlo'n hael, yn ddeniadol nac yn cyd-fynd â rheolau rhyfel. Mae gan y fyddin oresgynnol hon ddyletswydd i ofalu am sifiliaid yn yr ardal, ac nid yw hynny'n digwydd yn Gaza na'r Lan Orllewinol. Rhaid i Lywodraeth yr Unol Daleithiau fynnu cadoediad cadarn ar unwaith, neu atal pob cymorth milwrol i Israel, a rhaid inni barhau i weiddi am gadoediad ar unwaith ac ateb parhaus, cynaliadwy.
Diolch yn fawr iawn i ti, Peredur, am dy agoriad rhagorol a phwerus iawn i'r cyfraniad yma. Mae'r rhai hynny sydd yn amddiffyn gweithredoedd gwladwriaeth Israel yn dweud mai amddiffyn eu hunain mae'r wladwriaeth honno, ond nid gweithred amddiffynnol ydy lladd 35,000 o bobl. Nid gweithred amddiffynnol ydy lladd traean ohonyn nhw yn blant. Nid gweithred amddiffynnol ydy bomio ysbytai gyda chleifion ynddyn nhw, ac yn sicr nid gweithred amddiffynnol ydy atal cymorth dyngarol rhag cyrraedd poblogaeth sydd ar fin marw o newyn. Yn wir, yn ôl diffiniad yr International Court of Justice, gellir diffinio'r gweithredoedd hyn fel gweithred hil-laddiad.
Rŵan, roedd y newyddion ddaru ni ei gael rhai wythnosau yn ôl ynghylch bomio cerbydau World Central Kitchen yn andros o drist, ac fe glywsom ni fod yna dri pherson o’r Deyrnas Gyfunol wedi cael eu lladd. Yn sydyn iawn, ddaru Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddangos diddordeb. Yr hyn welsom ni, mewn gwirionedd, oedd bod bywyd un person gwyn o Brydain yn gyfwerth i fywyd 11,000 o Balestiniaid diniwed.
Rŵan, mae’r bomio yma wedi cael ei alluogi oherwydd bod Israel yn medru prynu arfau, a hynny heb ddim rheolaeth gan y gwladwriaethau sydd yn eu gwerthu nhw. Felly, mae gen i ddiddordeb i glywed yn ymateb y Gweinidog pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw arfau o Gymru, neu ddarnau o arfau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, yn cael eu cyfrannau a’u gwerthu i Lywodraeth Israel. Mae’n rhaid inni atal y gwerthu arfau yma a’r trwyddedu o’r gwerthu yma. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Peredur Owen Griffiths, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae pob un ohonom o amgylch y Siambr hon wedi cael ein dychryn gan y trais parhaus yn Israel, Palesteina a'r rhanbarth ehangach. Er nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod canlyniadau gwirioneddol a pharhaol iawn yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae'n werthfawr ein bod yn cael y cyfle hwn i drafod y canlyniadau hynny'n fanylach.
Mae'r ddadl heddiw hefyd yn adeiladu ar y cynnig cadoediad y cyfeiriodd Peredur ato, ac a drafodwyd yn y Siambr hon ar 8 Tachwedd y llynedd. Yn unol â chonfensiwn—ac rwyf am egluro hyn—fe ymataliodd Gweinidogion Cymru o'r bleidlais ar y cynnig gan nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, yn y ddadl ei hun roedd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn glir fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld cadoediad llawn cyn gynted â phosibl. Ailadroddwyd y safbwynt hwn yn y Cyfarfod Llawn gan y Prif Weinidog a'r cyn Brif Weinidog, a gwn y bydd y Prif Weinidog yn ateb yr ohebiaeth y cyfeiriodd Peredur ati.
Rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, gan ddod â'r dioddefaint ar bob ochr i ben cyn gynted â phosibl. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae argyfwng dyngarol go iawn yn digwydd. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr holl bartneriaid perthnasol yn sicrhau cynnydd sylweddol ac uniongyrchol yn y cymorth i mewn i Gaza, yn cytuno i ryddhau'r holl wystlon, yn dod â'r trais i ben, ac yn cymryd rhan ystyrlon yn natblygiad datrysiad dwy wladwriaeth sy'n para.
Rhaid i roi'r gorau i drais fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer proses wleidyddol fwy hirdymor a phendant tuag at sefydlu datrysiad dwy wladwriaeth yn seiliedig ar wladwriaeth sofran Palesteina ac Israel ddiogel. Ni all fod unrhyw ddiogelwch i unrhyw un yn Israel a Phalesteina heb heddwch hirdymor sy'n deg i'r ddwy wladwriaeth. Fe welwyd dioddefaint annirnadwy i bobl ddiniwed ar bob ochr, ac mae'n parhau, ac mae'n hanfodol fod pawb yn cydnabod dynoliaeth gyffredin pob dioddefwr.
Yng Nghymru, yr her i ni yw nodi'r dylanwad y gallwn ei gael i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld, i atal y casineb a'i ganlyniadau. Mae hanes a geowleidyddiaeth y rhanbarth, yn ogystal â'r trais parhaus a'r ffaith nad yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, yn cyfyngu'n ddifrifol ar yr hyn y gallwn ei wneud, er gwaethaf ein tristwch dwfn. [Torri ar draws.] A gaf i barhau am funud, os gwelwch yn dda? Serch hynny, mae yna bethau y gallwn ni, ac rydym ni'n eu gwneud yng Nghymru i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt sy'n byw yma.
Fe gofiwch, yn Senedd yr Alban, y cynhaliwyd dadl yn galw am gadoediad ar unwaith. Yn ystod y ddadl honno, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Humza Yousaf ei fod wedi anfon llythyr gan Lywodraeth yr Alban at Rishi Sunak a Keir Starmer yn gofyn iddynt alw am gadoediad ar unwaith. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr un peth?
'Nid wyf yn gwybod' yw'r ateb gonest.
Mae hynny'n siarad cyfrolau.
Fe edrychaf ar hynny i chi, ac yn amlwg fe ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi.
Rydym wedi bod yn monitro unrhyw densiynau cymunedol sy'n ymwneud â'r gwrthdaro drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol, ac yn monitro unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau casineb drwy ganolfan cymorth casineb Cymru. Er bod rhai digwyddiadau atgas wedi bod, diolch byth mae'r rhain yn brin, ac nid ydym wedi gweld y niferoedd mawr yr oeddem yn eu hofni. Mae Gweinidogion wedi cyfarfod ag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd i drafod effeithiau'r gwrthdaro yn Israel a Gaza ar ein cymunedau yma yng Nghymru. Rydym wedi annog undod a deialog rhyngddiwylliannol mewn partneriaeth â'n fforwm cymunedau ffydd. Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi mewn ysgolion, gallasom gyd-ysgrifennu llythyr ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru gyda Chyngor Mwslimaidd Cymru a Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phob ffydd, fel y gwnaethom mor dda ers sefydlu'r fforwm ar ôl 9/11, i hyrwyddo cydnabyddiaeth o'n dynoliaeth gyffredin.
Nid oes lle i ragfarn a chasineb yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i honiadau ac achosion o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gael eu harchwilio'n llawn, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater ac atal digwyddiadau pellach rhag digwydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhoddion i sawl apêl gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y blynyddoedd diwethaf—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
A gaf i wneud peth cynnydd, os gwelwch yn dda? Nid ydym wedi gallu gwneud hyn i leddfu peth o'r dioddefaint yn Gaza, oherwydd nid yw'r Pwyllgor Argyfyngau Brys wedi gallu lansio ymgyrch. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn credu mai dim ond cadoediad parhaol fydd yn galluogi ei asiantaethau i ddarparu cymorth mawr ei angen yn Gaza yn effeithiol. Rydym yn parhau i weld argymhellion ar gyfer cynyddu cyflenwadau cymorth o'r môr a gollwng cymorth o'r awyr, a gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o gymorth mwy effeithiol. Byddwn yn parhau i adolygu ein safbwynt pe bai'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn teimlo y gellir bodloni'r meini prawf ar gyfer apêl.
Diolch yn fawr am hynny. A ydych chi'n rhannu fy mhryder dybryd am weithwyr cymorth, sydd yn Gaza ac yn y Lan Orllewinol ar hyn o bryd? Roedd rhai o fy nghyn-gydweithwyr yn ActionAid Palestine yn gaeth yn Gaza am amser hir ar ddechrau'r gwrthdaro hwn, ac maent bellach yn y Lan Orllewinol mewn amgylchiadau ofnadwy. Rydym hefyd wedi clywed am yr hyn a ddigwyddodd yn World Central Kitchen. A ydych chi'n cytuno â mi fod y bobl hyn yn bobl sydd am gadw pobl eraill yn fyw, eu bod yn aberthu eu bywydau er mwyn gwneud y byd hwn yn lle gwell, a dim ond cadoediad brys a diwedd ar y lladd fydd yn sicrhau y gallant gael y cymorth i'r bobl sydd gymaint o'i angen?
Yn hollol. Fel y dywedwch, mae'r bobl hynny'n mynd i'r gwledydd hyn i gadw pobl eraill yn ddiogel, ac mae'n erchyll eu bod yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i ddeall ymdrechion y DU mewn perthynas â'r gwrthdaro, ac i ddeall unrhyw effeithiau canfyddedig i Gymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod, yr wythnos diwethaf, fod sefyllfa'r teulu Brisley wedi cael sylw mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i'r teulu yn yr amgylchiadau erchyll hyn. Ymrwymodd y Prif Weinidog i weithio gydag Aelodau a allai fod ag etholwyr sydd ag aelodau teuluol a oedd yn ddioddefwyr ar 7 Hydref, neu sy'n cael eu dal fel gwystlon, i ddeall a oes angen cymorth pellach. Mae pob dydd y mae gwystlon yn parhau'n gaeth yn ymestyn poen yr erchyllterau, ac rydym am sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael.
Ers 7 Hydref, mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU am gyfleoedd ar gyfer adsefydlu o Gaza i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n ymddangos i ni nad oes unrhyw obaith ar hyn o bryd o gael cynllun adsefydlu Gaza ar gyfer y DU. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol Cymru a'n cymunedau wedi rhoi croeso i Wcreiniaid, i Affganiaid, Syriaid a cheiswyr lloches o lawer o wledydd. Yn unol â hynny, fel cenedl sy'n dyheu am fod yn genedl noddfa, byddem hefyd yn anelu at chwarae rhan lawn mewn unrhyw gynllun adsefydlu Gaza pe bai un yn cael ei sefydlu.
Rydym wedi bod yn dilyn yr ymgyrch am gynllun aduno ar gyfer teuluoedd Gaza gyda diddordeb brwd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi aduno teuluol, gan helpu'r rhai sydd â statws ffoadur i ddod ag aelodau o'u teulu i Gymru drwy lwybr diogel a chyfreithiol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae atgyfeiriadau i'r prosiect o Gaza yn cael eu cymhlethu gan y rhwystrau rhag gadael Gaza. Mae hanes poenus y rhanbarth yn effeithio ar barodrwydd Palesteiniaid i adael, a pharodrwydd gwledydd cyfagos i ganiatáu mynediad. Mae pryder clir na fydd Palesteiniaid byth yn gallu dychwelyd os ydynt yn gadael nawr. Mae sicrwydd—
[Anghlywadwy.]
Ni allaf dderbyn rhagor, mae'n ddrwg gennyf. Mae'n amlwg fod sicrwydd ynghylch yr hawl i ddychwelyd i unrhyw un sy'n gadael Gaza y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i atebion os ydym am allu cefnogi aduno yng Nghymru.
Nid ydym wedi galw'n benodol am gynllun aduno teuluoedd Gaza. Yn hytrach, rydym wedi galw am fersiwn fwy blaengar o gynllun aduno teuluoedd y DU, sy'n adeiladu ar rai o lwyddiannau cynllun teuluoedd Wcráin sydd bellach wedi cau. Fe wnaeth cynllun Wcráin gefnogi 57,000 o bobl a gyrhaeddodd mewn cyfnod byr iawn, yn bennaf oherwydd bod y diffiniad o 'deulu' yn eang a bod prosesu ceisiadau'n gyflym. Gallai'r un dull hwn ar gyfer Palesteiniaid ac eraill gael effaith fuddiol iawn ar les a diogelwch llawer o deuluoedd.
Mae aduno teuluol yn hanfodol i unrhyw un sy'n ceisio noddfa sy'n byw yng Nghymru, ni waeth ble yn y byd y mae eu haelod teuluol a wahanwyd yn byw. Ein dull gweithredu yw cefnogi cynllun teuluol a allai gefnogi Palesteiniaid neu unrhyw berson arall sydd wedi cael noddfa yma yng Nghymru. Byddwn yn parhau i alw am hyn.
I gloi, bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan adeiladol yn cefnogi cymunedau a theuluoedd yr effeithir arnynt yng Nghymru, ac yn ceisio chwarae unrhyw ran a allwn i gefnogi ymdrechion rhyngwladol. Rydym yn galw eto am gadoediad, am gynyddu cymorth, ac am i'r gwystlon gael eu rhyddhau. Diolch.
Diolch i bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.