Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 1 Mai 2024.
Ein gwaith ni yn y lle hwn yw cynrychioli pawb yng Nghymru, a dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud. Er fy mod yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan yn condemnio'r hyn a oedd eisoes yn sefyllfa enbyd i bobl Gaza ddechrau mis Tachwedd, mae'r bomio, y newyn a'r lladd wedi parhau'n ddi-baid. Yn ôl Al Jazeera, mae 1,139 o bobl wedi marw yn Israel a 34,979 o Balesteiniaid wedi eu lladd ers 7 Hydref. Mewn gwirionedd, mae'r nifer a fu farw yn debygol o fod yn llawer uwch, wrth i fwy a mwy o gyrff gael eu tynnu allan o'r rwbel a darganfod beddau torfol mewn dau safle claddu gwahanol y tu allan i ysbytai Nasser ac Al-Shifa, lle daethpwyd o hyd i 390 o gyrff. Mae'n ddinistr a gofid ar raddfa annirnadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd siarad amdano, ac mae'n anodd ei wylio. Ond mae'n rhaid siarad amdano. Mae'n rhaid inni dystio i'r hyn sy'n digwydd. Ac mae llawer wedi teimlo eu bod wedi cael eu galw i weithredu. Rwy'n gweld pobl yn yr oriel sydd wedi bod yn gwneud hynny.
Yng Nghymru, mae'r ymateb gan nifer fawr o bobl i'r erchyllterau hyn wedi bod yn glir: 'Nid yn fy enw i'. Mae pobl wedi mynychu ralïau a gwylnosau, mae pobl wedi gorymdeithio, mae pobl wedi codi arian ar gyfer ymdrechion cymorth, ac mae pobl wedi boicotio cwmnïau sydd â chysylltiadau â lluoedd arfog Israel. Yn union fel cynnig cadoediad y Senedd, maent yn anfon neges glir gan bobl Cymru nad ydym yn cefnogi ymosodiad milwrol parhaus Israel yn erbyn sifiliaid yn Gaza. Nid yw gwylio a gwneud dim yn opsiwn pan fydd canlyniadau cyrch Israel ar Gaza mor ddifrifol. Rwyf wedi bod ar orymdeithiau a ralïau, ac mewn digwyddiadau codi arian. Rwyf wedi gweld angerdd pobl sydd ond eisiau gwell o'r byd hwn. A yw ein Llywodraeth yn teimlo'r un angerdd a phenderfyniad? Yn anffodus, nid yw i'w weld yn gwneud hynny. Cefais fy synnu yr wythnos diwethaf pan ddywedodd y Prif Weinidog wrthyf
'Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith.'
Roedd hynny'n newyddion i mi. Roedd hefyd yn newyddion i fy nghyd-Aelodau, ac roedd yn newyddion i'r ymgyrchwyr gwrth-ryfel rwy'n cysylltu â nhw, oherwydd pan ddaeth cynnig cadoediad Plaid Cymru ger bron y Senedd, fe wnaeth holl Weinidogion y Llywodraeth ymatal. Rwy'n dal i aros am eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â pha bryd y newidiodd y safbwynt hwnnw, a sut y cafodd ei gyfathrebu. Mae'n peri pryder nad oedd neb yn gwybod dim am y peth.
Cefais e-bost gan aelod o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru a ddywedodd eu bod wedi anfon llythyr at y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, ym mis Chwefror. Roedd y llythyr yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid i Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sy'n dal i fod heb ei adfer. Gan nad yw Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi cael ymateb i'r llythyr eto, fe wnaethant ei ail-anfon at y Prif Weinidog newydd yr wythnos diwethaf yn dilyn ei sylwadau fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cadoediad ar unwaith. Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro hyn yn ei hymateb ac yn annog y Prif Weinidog i ateb y llythyr.
Wrth edrych ar ymateb unigryw Gymreig i'r sefyllfa yn Gaza, cefais fy nenu at wefan Cyngor Rhyng-ffydd Cymru. Ar y wefan, ers mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Cyngor Mwslimaidd Cymru, gyda Chyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, dan nawdd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ymrwymiad i ddeialog a galwad am heddwch yn y dwyrain canol. Mae'r weithred syml hon yn unigryw ym Mhrydain ac yn dyst i agwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyng-ffydd. Dyma un o'r rhesymau pam rwy'n falch o allu siarad am ymateb Cymreig—un nad yw'n chwilio am raniadau ond yn hytrach, am gydweithio ar gyfer meithrin cyd-ddealltwriaeth ac ymrwymiad ar y cyd i heddwch a dynoliaeth.
Ddirprwy Lywydd a chyd-Aelodau, rwy'n siŵr y gallwn i gyd ganmol y ffordd Gymreig hon o wneud pethau. Ar ôl mwy na chwe mis ers dechrau ymosodiad Israel, mae'n hen bryd cael sancsiynau. Mae'n hen bryd atal anfon arfau. Mae'n hen bryd dadfuddsoddi o gwmnïau a chynlluniau pensiwn sy'n cynnal y gwrthdaro hwn. Mae'r rhanbarth cyfan ar drothwy rhyfel sy'n llawer mwy na'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Rhaid rhoi diwedd arno cyn iddo fynd ymhellach. Mae'n ddyletswydd ar y gymuned ryngwladol i adlewyrchu barn y bobl y maent yn eu gwasanaethu a dweud digon yw digon.
Gall Cymru chwarae ei rhan yn yr ymdrech honno. Rwy'n galw ar y Llywodraeth Lafur hon i fod yn glir ac yn benderfynol yn ei gwrthwynebiad i'r ymosodiad parhaus yn Gaza. Mae hynny'n dechrau gyda galwad glir am gadoediad parhaol ar unwaith a fydd yn caniatáu i'r ymdrech ddyngarol enfawr ddigwydd. Mae angen i hyn ddigwydd er mwyn pobl Gaza, mae angen i hyn ddigwydd er mwyn y gwystlon sy'n dal i gael eu cadw'n gaeth, ac mae angen iddo ddigwydd yn enw heddwch a dynoliaeth. Diolch yn fawr.