Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n wynebu gostyngiad o £4.5 miliwn yn ei chyllideb gan Lywodraeth Cymru ac mae ei dyfodol bellach mewn perygl. Mae eicon diwylliannol amhrisiadwy yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi bywydau ar draws cenedlaethau bellach yn wynebu gorfod cau ei drysau i'r cyhoedd oherwydd toriadau yn y gyllideb. Felly, er mwyn osgoi edrych fel Llywodraeth Philistaidd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r cyllid angenrheidiol fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn elwa o'r un cyfoeth diwylliannol ac artistig ag yr ydym mor ffodus o'i gael yma yng Nghymru? A gallaf weld y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol yn chwerthin am ben fy sylwadau, ond rwy'n siŵr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n mwynhau'r hanes diwylliannol cyfoethog sydd gennym yn y wlad hon yn ei ystyried yn ddoniol.