Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 1 Mai 2024.
Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth fydd effaith economaidd penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cyllid i amgueddfa genedlaethol Cymru ar yr un pryd â blaenoriaethu eu huchelgais rhyfedd i ddad-drefedigaethu celf gyhoeddus. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid dad-drefedigaethu celf gyhoeddus a dylai ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol neu fentro cael ei symud. Ar wahân i'r ffaith nad yw'r mater yn flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, nid yw'n ffordd aeddfed o fynd i'r afael â hanes, mae arnaf ofn. Gallwn ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol heb ddefnyddio beiro Tipp-Ex Orwellaidd ar waith celf cyhoeddus nad yw'n ffasiynol. Roedd llawer yn drist o glywed prif weithredwr Amgueddfa Cymru ar BBC Radio Wales yn dweud wrth wrandawyr fod yr amgueddfa'n wynebu—[Torri ar draws.]