Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch am y diweddariad hwnnw. Er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu, mae'n dda gweld bod cynnydd yn cael ei wneud ar yr argymhellion niferus yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Rwy'n arbennig o falch o weld y gwaith sy'n cael ei wneud yma gan Lywodraeth Lafur Cymru ar hyrwyddo rôl gadarnhaol undebau llafur yn y gweithle a thu hwnt. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â'r Llywodraeth Dorïaidd bresennol sydd, dro ar ôl tro, wedi ymosod ar undebau llafur ac wedi ceisio dileu'r hawliau yr ymladdwyd yn galed i'w cael i weithwyr. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, sy'n coffáu'r brwydrau a'r enillion a welodd y mudiad llafur. Felly, Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen ethol Llywodraeth Lafur yn yr etholiad cyffredinol a gweithredu cytundeb newydd trawsnewidiol Llafur yn y DU ar gyfer gweithwyr?