Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Mai 2024.
Yn fy nhrafodaeth fwyaf diweddar gyda fy nghydweithiwr, gwnaeth y Gweinidog sôn wrthyf i fod y brifysgol yng Nghaerdydd wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu, dros y tair blynedd nesaf, y rhifau sydd yn dod o Gymru i tua 40 y cant o'r cohort. Fel rwy'n credu gwnaeth hi sôn yn y Siambr, byddai hyn yn gynnydd sylweddol, oherwydd mae e'n debygol y byddai pobl eisiau parhau i fod yn ddeintyddion yma yng Nghymru. Mae'r coleg Cymraeg yn gweithio hefyd gyda'r brifysgol yng Nghaerdydd i ddarparu grant sbarduno ym maes deintyddiaeth yn benodol i gynnig profiadau dysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Bydd yr ysgol ddeintyddiaeth yno yn cynnal, yn ychwanegol i hynny, gyfres o ddigwyddiadau lle bydd darpar fyfyrwyr yn elwa o gwrdd â staff ac ati ac yn derbyn gwybodaeth am y broses ymgeisio. Mae'r cynllun hefyd yn gwarantu cyfweliad i siaradwyr Cymraeg ar gyfer mynediad mis Medi 2025 yn yr ysgol ddeintyddiaeth, felly rŷn ni'n gobeithio ac yn ffyddiog bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael gyda'r her.