Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 1 Mai 2024.
Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn derbyn y ffordd y mae’r Aelod yn disgrifio'r sefyllfa. Mae’r targedau sydd gennym yn uchelgeisiol. Rydym am allu cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i’n holl ddefnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac erbyn yr un pryd, hoffem pe bai o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Rydym wedi ailosod y targed hwnnw i'w wneud yn fwy uchelgeisiol, o ystyried ein bod yn cyrraedd y targed blaenorol arall cyn pryd. Rwy'n credu bod angen cymysgedd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod angen cymysgedd. Ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith y gwn y bydd Ynni Cymru, a sefydlwyd yn sgil y cydweithio â Phlaid Cymru fel rhan o’n cytundeb cydweithio, yn gallu ei wneud i gefnogi mentrau ynni cymunedol ac i sicrhau bod gennym ynni lleol fel rhan sylfaenol o’r cymysgedd yn y dyfodol. A soniodd am bwysau cyllidebol. Mae gan Ynni Cymru gyllideb gyfalaf o £10 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau cyffrous a fydd ganddynt i gefnogi twf yn y rhan hon o’r sector.