Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 1 Mai 2024.
Wel, rwy'n credu bod y ddau ohonom eisiau gweld ecosystem ynni nad yw'n echdynnol yn yr ystyr honno ac sy'n adnewyddadwy yn yr ystyr wirioneddol ac yn manteisio'n llawn ar yr adnoddau ynni adnewyddadwy y gallwn eu brolio fel cenedl. Rwy'n credu mai dyna'r uchelgais y mae'r ddau ohonom yn ei rannu, yn ôl pob tebyg. Ac rwy'n gwybod y bydd yn croesawu lansiad Ynni Cymru, y credaf y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at newid y dirwedd i'r cyfeiriad hwnnw. Mae eisoes wedi ymrwymo gwerth bron i £1 filiwn o grantiau adnoddau, a fydd yn helpu grwpiau cymunedol yn uniongyrchol i gymryd rhan mewn cynlluniau ac i gyflymu'r prosiectau sydd gennym ar y gorwel. Felly, rwy'n rhannu ei uchelgais i sicrhau bod y gymuned, mewn unrhyw ardal lle ceir cynhyrchiant, neu drawsyrru yn wir, yn gallu tynnu sylw at fudd iddynt hwy, sy'n dda i'r prosiect ond hefyd yn dda i'n cymunedau.