Anghenion Ieithyddol Plant ac Oedolion yn Arfon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:11, 1 Mai 2024

Yr wythnos diwethaf yn y Senedd fe wnes i sôn am y diffyg dybryd o ddeintyddion sydd ar gael ar gyfer gofal NHS yn Arfon. Mae’r sgìl o allu rhoi gwasanaeth yn y Gymraeg yn rhan hanfodol ar gyfer y gweithlu deintyddol mewn ardal fel Arfon, lle mae’r Gymraeg yn brif iaith i lawer ohonom ni. Mae data mae’r Ysgrifennydd Cabinet iechyd wedi’i ddarparu i mi yn cadarnhau mai lleiafrif y myfyrwyr sy’n astudio yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, sef ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn aros yng Nghymru i barhau efo’u hyfforddiant deintyddol sylfaenol ar ôl graddio. Mae hi hefyd wedi cadarnhau wrthyf i fod yna drafodaethau yn digwydd i gynyddu lleoedd hyfforddi deintyddiaeth, a hynny mewn ymateb i argymhelliad pwyllgor iechyd y Senedd y dylai’r Llywodraeth archwilio opsiynau i sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd.

Ydych chi’n cytuno bod y cyfleoedd cyfyngedig sydd i astudio deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, a diffyg effeithiolrwydd y cyfleoedd hynny, o ystyried nad ydyn nhw’n aros yma mewn niferoedd digonol, yn golygu ein bod ni'n colli’r cyfle i wreiddio’r Gymraeg ar hyd y llwybr sydd yn arwain at gymhwyso fel deintydd? Ydych chi'n cytuno, felly, y byddai creu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn rhoi’r cyfle i ni, fel yn achos yr ysgol feddygol, i wreiddio’r Gymraeg ac anghenion yr ardal leol yn rhan naturiol o’r hyfforddiant? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael hefo Eluned Morgan i bwyso’r achos ieithyddol dros sefydlu ysgol o’r fath ym Mangor, a chadarnhau Bangor fel canolfan rhagoriaeth hyfforddiant iechyd a gofal?