Buddion Cymunedol Prosiectau Cynhyrchu Ynni

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:15, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Gwelwyd bod manteision cymunedol real a diriaethol yn hanfodol er mwyn denu cefnogaeth trigolion lleol i gynlluniau ynni adnewyddadwy. Gall y cynlluniau budd-daliadau hyn fynd ymhellach, ond o leiaf maent yn cael eu cynnig. Yn anffodus, o ran cynlluniau gwaith glo, ni welir buddion cymunedol yn unman. Mae yna enghraifft arbennig o wael yn fy rhanbarth i o gymuned yn cael ei cham-drin yn llwyr gan berchnogion pwll glo brig Ffos-y-fran, sydd wedi gadael trychineb amgylcheddol ar eu holau ar ôl gwneud llawer iawn o elw dros bron i ddau ddegawd o sŵn a llwch i drigolion lleol.

Mae cynllun gwaith glo arall yn fy rhanbarth ar safle hen lofa Bedwas yn addo adfer, a gwella'r tir mewn rhai achosion, ar ôl codi miloedd o dunelli o lo. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw sôn am fudd cymunedol diriaethol eto. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi, pryd bynnag yr echdynnir adnoddau naturiol, ar ba ffurf bynnag, y dylid cael iawndal i drefi a phentrefi cyfagos ar ffurf budd cymunedol diriaethol sy'n cael effaith hir a pharhaol?