Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 1 Mai 2024.
Yn union fel yr Aelod dros Orllewin Caerdydd, rwy’n deall pa mor ddibynadwy yw data ystadegol a pha mor hanfodol ydyw ar gyfer llunio polisïau. Amlinellodd cyn Weinidog yr Economi, sydd bellach yn Brif Weinidog, yn 2021 rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â'r gwaith o wella data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru. Felly, mae bron i dair blynedd wedi bod ers y gwaith disgwyliedig hwnnw, ac ymddengys bod pryderon dwys am y data o hyd, ac rydych chi wedi cyfeirio at rywfaint o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond o ystyried yr ateb cynharach, a allwch chi rannu pa gynnydd pellach a wnaed dros y tair blynedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod data dibynadwy gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru?