Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Mae’n gadarnhaol dros ben, oherwydd mae wedi bod yn siomedig, yn ystod y trafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â chyllidebau Llywodraeth, clywed rhai Gweinidogion, efallai’r Prif Weinidog newydd, yn sôn ynglŷn â’r dewisiadau anodd, wrth gwrs, sydd gan y Llywodraeth, ond ddim i weld yn gwerthfawrogi gwerth a budd economaidd y sectorau eithriadol o bwysig hyn, nid yn unig fel cyflogwyr, ond o ran twristiaeth ddiwylliannol ac ati. Felly, a gaf i ofyn, o ran y gwaith hwnnw, yn amlwg dŷn ni yn disgwyl cyn bo hir strategaeth ddiwylliant newydd hefyd, fydd gobeithio yn gallu edrych ar yr ochr economaidd, ond sut wedyn ydych chi’n mynd i sicrhau, wrth drafod cyllidebau blynyddoedd i ddod, ein bod ni hefyd yn edrych ar werth economaidd yr arian sydd yn dod nôl i Gymru wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chyllido, yn hytrach na rhoi cyllideb yn erbyn cyllideb, heb feddwl wedyn am yr effaith economaidd?