Darpariaeth Addysg Gymraeg yn y Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Ceidwadwyr 1:33, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn gwneud dysgu a siarad Cymraeg yn rhan annatod o'n cymunedau, rwy'n credu bod angen budd economaidd clir sydd wedi’i hysbysebu’n dda i siarad Cymraeg. Dim ond drwy hyn y bydd pobl yn buddsoddi ac yn gwneud pob ymdrech i annog eu plant i siarad Cymraeg. Mae cynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfle gwych i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i gofleidio'r Gymraeg fel sgìl a all eu helpu yn eu bywydau gwaith, yn enwedig mewn meysydd allweddol megis gwasanaethau cyhoeddus, mewn gofal iechyd ac mewn darpariaeth addysg, yn enwedig addysg y blynyddoedd cynnar. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog creu a defnydd o gynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a pha adnoddau ariannol a glustnodwyd gennych ar gyfer hyn? Diolch.