Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 1 Mai 2024.
Gaf i jest cytuno â beth ddywedodd yr Aelod ar gychwyn ei gwestiwn? Yn y cyfnod sydd ohoni, mae'n rhaid i ni sicrhau, fel Llywodraeth, fel y mae dyletswydd ar bob llywodraeth, ein bod ni'n deall yn union beth yw impact ac effaith yr holl bethau rŷn ni'n ceisio gwneud, fel bod yr arian cyhoeddus prin sydd gyda ni yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol a'n bod ni'n deall hynny.