Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â’r uned beirianneg newydd yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl a chyfarfod â’n prentisiaid a noddir gan RWE gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gogledd Cymru yn lle delfrydol ar gyfer ynni adnewyddadwy gwynt, tonnau a solar. Gyda'i gilydd, gallant ddarparu cyflenwad sylfaenol digonol o ynni. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y dylai ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol fod o fudd i drigolion hefyd drwy ostyngiad yn eu biliau ynni. Byddai hynny'n wych.
Gall morgloddiau llanw ddarparu ynni cyson hefyd, a gweithredu fel amddiffynfa rhag llifogydd, sy’n broblem enfawr yng ngogledd Cymru. Byddent yn cael eu croesawu’n fawr gan drigolion sydd wedi bod yn poeni am lifogydd yn ystod llanw uchel a thywydd stormus yn ddiweddar. Bu bron i reilffordd gogledd Cymru gael ei gorchuddio hefyd gan y llanw uchel diweddar. A yw morglawdd llanw ar gyfer y gogledd yn rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w archwilio wrth symud ymlaen?