1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Mai 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch annerch digwyddiad a noddais yma yn y Senedd ar gyfer RenewableUK Cymru, a hoffwn ddiolch i chi am hynny. Helpodd y digwyddiad i dynnu sylw at y cyfleoedd ynni adnewyddadwy anhygoel sydd gan Gymru, gan ddod ynghyd â busnesau, sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n rhannu’r nod cyffredin hwnnw. Yr hyn a amlygodd y digwyddiad hefyd oedd y rhwystrau posibl ar hyn o bryd a fyddai'n ein hatal rhag cyflawni a gwireddu’r cyfleoedd ynni adnewyddadwy hyn, sydd, i fusnesau ar draws clwstwr diwydiannol de Cymru, er enghraifft, nid yn unig yn gyfleoedd, ond yn anghenraid. Mae fy nghynnig i chi i weithio ar y cyd ar ddarpariaeth ynni adnewyddadwy yn parhau i fod yn un diffuant.
Er ein bod yn deall yr angen i symud ymlaen tuag at ynni adnewyddadwy o safbwynt amgylcheddol, gallwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd cyfleoedd cyflogaeth wrth inni wireddu ein potensial ynni. Ond o ystyried bod y Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai 2023 oedd y flwyddyn â'r lefelau uchaf o wrthdaro ers yr ail ryfel byd, a bod yr Ysgrifennydd amddiffyn, Grant Shapps, wedi dweud ein bod yn newid o fyd ôl-ryfel i fyd cyn-ryfel, mae diogeledd ein hynni yn prysur gynyddu o ran blaenoriaeth. Felly, a yw eich Llywodraeth o ddifrif ynghylch diogeledd ynni, o ystyried y cynnydd mewn tensiynau byd-eang, ac os ydyw, sut mae hynny'n cael ei deimlo wrth gyflawni prosiectau ynni ar ac oddi ar arfordir Cymru?
Wel, diolch i’r Aelod am y gwahoddiad a roddodd imi siarad yng nghynhadledd RenewableUK yn ddiweddar, ac roeddwn yn teimlo bod lefel fawr o optimistiaeth yn y drafodaeth y noson honno ymhlith y cyfranogwyr, ac ymdeimlad o ymgysylltu ymarferol â’r hyn rydym am ei wneud fel Llywodraeth, a thrafodaeth onest iawn am sut y gallem weithio hyd yn oed yn well gyda’n gilydd, sef y math o berthynas yr ydych am ei chael pan fo cyfle mor fawr ar y gorwel.
Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig, gyda llaw, o safbwynt amgylcheddol, ein bod yn cyflawni ein nodau hinsawdd, ac yn hollbwysig, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n dangos i bobl fod yr uchelgais hwnnw’n darparu cyfleoedd yn ogystal â’r angen, efallai, am newidiadau llai poblogaidd. A chredaf fod y darlun cyflawn hwnnw’n gwbl hanfodol, felly dyna pam ein bod mor ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i wireddu’r cyfle sydd ar y gorwel i ni. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le yn dweud, oni bai yr eir i'r afael â nhw, y byddem yn wynebu heriau wrth geisio cyflawni'r uchelgais sydd gennym. Ac mae rhai heriau yn ein dwylo ni i fynd i'r afael â nhw, a rhai yn nwylo Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â nhw, a chredaf fod angen inni edrych ar y darlun cyflawn. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y sgiliau sero net a'r llif talent i allu cyflawni'r ystod o rolau y mae'r sector yn dibynnu arnom i'w cyflawni. Ac mae yna arferion da iawn i'w cael, gyda llaw—fel y bydd wedi nodi y noson o'r blaen—lle mae datblygwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda cholegau addysg bellach yn llwyddiannus iawn, gan gynnwys yn ei ran ef o Gymru, ar nodi'r rolau, y sgiliau sydd eu hangen arnynt, ac felly, y ddarpariaeth y mae angen iddi fod ar gael yn lleol.
Felly, mae sgiliau, mae cynllunio, mae'r gwaith o fapio'r gadwyn gyflenwi, sydd ar y gweill gennym, fel bod gennym ddealltwriaeth fanwl o gryfderau a meysydd i'w gwella, ac yna, yn hollbwysig, ffordd gydgysylltiedig o weithio ar draws y Llywodraeth, fel bod ffocws cyffredin ar hyn. Ac edrychwn at Lywodraeth y DU i wella ei buddsoddiad yn y grid, i fwrw ymlaen â hynny gyda mwy o frys ac i greu sefydlogrwydd polisi mwy hirdymor. Os gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn y ffordd honno, credaf fod cyfle gwirioneddol i Gymru fanteisio ar y dyfodol sydd gan ynni adnewyddadwy i'w gynnig.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig sôn am ynni a'r economi gyda'i gilydd, oherwydd pwysigrwydd y naill ar gyfer y llall. Mae economi gref yn talu am ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae economi gref yn un sydd â digon o swyddi o ansawdd da sy’n talu’n dda. Mae’r sector ynni, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i grybwyll, yn yr ystyr draddodiadol ac o ran ynni adnewyddadwy, yn ffynhonnell o swyddi o ansawdd da sy'n talu'n dda. Ond ni all llywodraethau greu'r swyddi. Yr hyn y gallant ei wneud yw creu’r amgylchedd cywir i’r swyddi hynny gael eu creu. Yr hyn sy'n allweddol i hynny, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet, yw sgiliau a sicrhau bod y rhai sy’n ymgymryd ag addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau yn meddu ar y sgiliau cywir fel y gallant gyflawni nid yn unig nawr, ond ar brosiectau'r dyfodol hefyd. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen, ond rwy'n wirioneddol awyddus i drafod y mater ymhellach. Fel cyn-Weinidog addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni erbyn hyn, dylai fod gennych ddealltwriaeth gadarn o ba sgiliau y bydd eu hangen ar weithluoedd yn y dyfodol i lwyddo a ffynnu. Rydych chi wedi sôn am fapio’r gadwyn gyflenwi, ond a ydych chi wedi cynnal ymarfer mapio i ddeall yn iawn o ble y daw’r galw am sgiliau, ym mha ddiwydiannau’n benodol, ac os felly, a ydych chi'n fodlon ar y rhagamcanion presennol sydd gennym ein bod yn datblygu digon o sgiliau yma yng Nghymru i gyflawni ein huchelgeisiau yn y dyfodol?
Gwn y bydd wedi gweld a darllen y cynllun gweithredu sgiliau sero net a bod y cynllun hwnnw wedi bod yn destun ymgynghoriad. Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi’r ymatebion iddo yn yr wythnosau nesaf, yn fuan iawn, fel y gall hynny roi’r sicrwydd y mae’n ei geisio, yn gwbl rhesymol.
Un o’r heriau yn y cyswllt hwn yw pa mor gyflym y mae technolegau’n newid, a sicrhau bod cyflogwyr mewn sefyllfa lle gallant ddeall effaith hynny ar eu gweithle, ac mae hynny, yn gwbl ddealladwy, yn heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Ond rhoddais enghraifft i chi yn gynharach o arfer da llwyddiannus iawn, fel y mae'n digwydd, rhwng RWE a choleg yn eich rhan chi o'r byd ac yn y gogledd, lle bu cysylltiad clir iawn rhwng ymrwymiad y datblygwr i geisio sicrhau bod pobl sy’n gweithio ar y prosiectau yn dod o’r farchnad lafur leol, ac yna, gweithio gyda’r coleg lleol i ddweud, 'Dyma’r sgiliau sydd eu hangen arnom, dyma’r cymwysterau sydd eu hangen arnom' a hynny wedyn yn arwain at lefel integredig iawn o ddarpariaeth. Felly, credaf fod hwnnw'n fodel llwyddiannus. Ond fel y dywed, mae'n hollbwysig gwybod beth yw anghenion yr economi yn y dyfodol nid heddiw, ond hefyd ymhen pum mlynedd, ac efallai y tu hwnt i hynny hyd yn oed. Ac rwy’n siŵr y caiff gysur o'r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu sero net pan gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir.
Yr wythnos diwethaf, yn eich datganiad, fe gyhoeddoch chi yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud i weddnewid economi Cymru gyda’r ysgogiadau sydd gennych yma yng Nghymru. Ond ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i fygu economi Cymru: mae methu cyflwyno'r un lefel o ardrethi busnes yma yng Nghymru yn amharu ar ein strydoedd mawr a mentrau bach a chanolig; mae’r polisi 182 noson ar gyfer llety gwyliau wedi’i ddodrefnu yn effeithio ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru; a gallai'r cynllun ffermio cynaliadwy gostio 5,500 o swyddi ac arwain at ergyd o £199 miliwn i economi Cymru. Mewn gwirionedd, mae polisïau Llafur Cymru mor ddrwg, yn 2023, fel bod y cyflog cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon yn uwch nag yng Nghymru, ac nid oedd ganddynt Lywodraeth weithredol, hyd yn oed. Nid yw Llafur Cymru yn ddim mwy na Llywodraeth Jekyll a Hyde—maent yn dweud y pethau iawn, ond yn y pen draw, eu polisïau nhw sy’n cadw Cymru’n dlotach. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n mynd i wrthdroi tuedd y 25 mlynedd diwethaf, a gwella economi Cymru?
Fel Ceidwadwr, gwn fod ganddo fwy o wybodaeth nag sydd gennyf i, mae'n debyg, am Lywodraeth anweithredol, oherwydd edrychwn ar yr hyn sy’n digwydd dros y ffin, ac mae’n anhrefn bob dydd. Bydd rhai pobl yn y Siambr yn gresynu at y datganiad nesaf. Nid yw Cymru’n wlad annibynnol, ac mae’r hyn a welwn yn ganlyniad 14 mlynedd o gamreoli gan y Ceidwadwyr yn San Steffan. Yr hyn a ddymunwn yw Llywodraeth yno sy'n gallu gweithio gyda ni yma yng Nghymru ar ein blaenoriaethau i gefnogi’r economi, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, fel rydym newydd ei drafod, a chael strategaeth ddiwydiannol, am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, sy'n rhoi lles y genedl yn gyntaf. Mae’n hen bryd inni gael Llywodraeth felly, ac nid gan ei blaid ef y cawn hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Gan gadw at y thema o edrych ar eich datganiad yr wythnos diwethaf, un o’r blaenoriaethau a nodwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd gwella cynhyrchiant. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, fel y dywedais ar y pryd, ond sut y gwnawn ni hynny?
Cyd-destun y blaenoriaethau a amlinellais yr wythnos diwethaf oedd hyn: mae gennym uchelgeisiau fel Llywodraeth, sydd wedi’u nodi yn ein cenhadaeth economaidd, ac maent yn ymwneud â sicrhau pontio teg i ddyfodol cynaliadwy, rhoi cyfleoedd i bobl ifanc, buddsoddi yn y sgiliau a'r arloesedd y gwyddom fod angen inni ei wneud er mwyn gwireddu ein huchelgais ar gyfer yr economi, a gweithio gyda’n partneriaid ym mhob rhan o Gymru ar nifer fwy penodol o flaenoriaethau sy’n gweithio ar ran eu rhanbarthau a'r genedl. Felly, dyna'r cyd-destun eang.
Yr hyn roeddwn yn ei amlinellu'r wythnos diwethaf oedd y lens y byddaf yn ei defnyddio mewn perthynas â blaenoriaethau a gwireddu’r weledigaeth Lafur ehangach honno. Mae cynhyrchiant yn bwysig yn hynny o beth, gan y gwyddom fod cydberthynas gref rhwng cynhyrchiant a lefelau cyflog yn y rhan fwyaf o economïau. Fel Llywodraeth ddatganoledig, nid yw pob ysgogiad yn ein dwylo ni i allu dylanwadu ar hynny. Fel gwlad wledig iawn, gwyddom fod hynny'n peri heriau o safbwynt cynhyrchiant. Ond mae pethau y gallwn eu gwneud ac sydd yn ein dwylo ni, hyd yn oed yn wyneb polisi macro-economaidd sy'n gwneud popeth yn ei allu i danseilio hynny, fel sydd gennym ar lefel Llywodraeth y DU.
Y ddau beth y siaradwn amdanynt fel arfer yw buddsoddi mewn sgiliau, sy’n hollbwysig, a buddsoddi mewn seilwaith, y gwyddom ei fod yn helpu i greu economi fwy cynhyrchiol. Ond gwyddom hefyd, os byddwn yn buddsoddi mewn arloesi, os ydym yn cefnogi cyflogeion mewn busnesau i feddwl am ffyrdd newydd o gyflawni'r hyn y maent yn ei gyflawni—arloesi ar lefel cyflogai—y gallwn helpu i gryfhau arweinyddiaeth yn rhai o'n busnesau. Efallai fod rhai o’n busnesau llai yn ei chael hi’n fwy heriol i allu darparu’r math hwnnw o gymorth a hyfforddiant i’w huwch swyddogion. Beth y gallwn ei wneud i gefnogi’r busnesau hynny sy’n masnachu ag eraill i ddatblygu gwell sgiliau digidol?
Felly, mae pethau penodol y gallwn eu gwneud, a dyna oedd ffocws fy natganiad yr wythnos diwethaf, gan edrych ar yr holl ysgogiadau sydd gennym—drwy Busnes Cymru, y banc datblygu, a'r ymyriadau eraill sydd gennym, drwy'r lens gynhyrchiant honno—gan wybod, yn y tymor hir, mai dyna fydd yn ein helpu i godi cyflogau gweithlu Cymru, sy'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn dymuno ei weld.
Mae'n dda clywed pwyslais yn eich ymateb ar arloesi a arweinir gan gyflogeion. Y rheswm pam y penderfynais edrych ar gynhyrchiant heddiw yw am fod angen cydnabod, onid oes, fod y byd gwaith wedi newid. Weithiau, gall ceisio gwella cynhyrchiant arwain yn anfwriadol at effaith andwyol ar y gweithlu ei hun. Beth a olygaf wrth hynny? Wel, i ddefnyddio enghraifft or-syml ac anghynnil iawn, pe baech am wella cynhyrchiant yn gyflym iawn, mewn ffordd effeithiol iawn, gellid dadlau, byddech yn awtomeiddio popeth, oni fyddech? Nid wyf yn awgrymu, wrth gwrs, mai dyna bolisi'r Llywodraeth, ond mae'n creu delwedd esboniadol hawdd iawn o wrthdynnu posibl o ran gwella cynhyrchiant. Felly, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn edrych ar gynnydd mewn cynhyrchiant, mae angen inni edrych hefyd ar sut y rhoddwn bolisïau ar waith wedyn i sicrhau ein bod yn lliniaru unrhyw effaith negyddol bosibl y gallai cynnydd mewn cynhyrchiant ei chael ar y gweithlu. Felly, yng ngoleuni hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, pa fath o bolisïau y byddech chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn lliniaru'r effeithiau hynny? Oherwydd mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw enillion mewn cynhyrchiant yn cael eu teimlo ar draws y gweithlu, nid gan y rheini ar y brig yn unig.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Byddwn yn cymeradwyo popeth a ddywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, a dweud y gwir. Nid ymarfer mantolen mo hyn; mae a wnelo â phobl, dyna sydd wrth wraidd y peth. Pam ein bod yn cael y drafodaeth hon? Oherwydd ein bod am wella bywoliaeth a bywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Dyna sydd wrth wraidd hyn.
Mae her ym mhob rhan o’r DU o ran cynhyrchiant a’r economi. Dyna pam ein bod wedi gweld cyflogau'n aros yr un fath mewn sectorau ledled y DU. Dyna pam fy mod yn rhoi ffocws ar hyn. Ac nid yw'n ffocws unigryw. Gallech ddweud bod tensiwn rhwng rhai polisïau os edrychwch ar gynhyrchiant ar y naill law a’r mesurau y gallech eu cyflwyno, fel rydym yn awyddus i'w wneud, i leihau anweithgarwch economaidd. Mae rhywfaint o densiwn rhwng rhai o’r rheini. Credaf fod yn rhaid ichi gael darlun cyfannol, ond gobeithio y byddwch yn cydnabod bod rhai o'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach yn ymwneud â chynorthwyo gweithwyr i gael bywoliaeth well o ran yr ymyriadau cynhyrchiant.
Rwy'n cytuno'n llwyr â’r Aelod, lle gwelwn gwmnïau’n defnyddio mwy o dechnoleg, ac yn newid prosesau busnes, mai'r hyn y mae angen i ni ei weld yw sicrwydd fod yr unigolion a oedd efallai’n arfer gwneud y swyddi sydd weithiau’n cael eu hawtomeiddio yn cael eu cefnogi i wella eu sgiliau, ac felly i gael swydd sy'n talu'n well. Gwelais enghraifft dda o hynny yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Fe wnaethant ddisgrifio i mi y broses a oedd ganddynt i gynyddu lefel sgiliau eu gweithlu, a dyna’r math o ddull gweithredu yr hoffem ei weld, fel bod gweithwyr unigol a’u teuluoedd yn elwa o hyn.