1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru? OQ60992
Yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn y genhadaeth economaidd, rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau gyda'r nod o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru, gan gynnwys cefnogaeth i fusnes, datblygu sgiliau, a seilwaith cyfathrebu—y cyfan gyda'r nod o gynyddu ffyniant a chynhyrchiant.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Nawr, un ffordd o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru yw buddsoddi yng nghanol trefi, fel Aberdaugleddau yn fy etholaeth i, sydd angen buddsoddiad a chymorth yn ddybryd. Wrth gwrs, dylai'r nod o adfywio strydoedd mawr a chanol trefi olygu eu datblygu fel canolfannau datblygu economaidd. Rhaid inni sicrhau, yn achos Aberdaugleddau, nad yw canol y dref yn cael ei esgeuluso tra bo rhannau eraill, fel y ddyfrffordd a'r marina, yn parhau i ddatblygu. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio canol trefi fel Aberdaugleddau? Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ynghylch adfywio canol trefi a chefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru?
Wel, rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn un da. Wrth inni edrych ar rai o'r prosiectau a'r datblygiadau seilwaith mwy o faint, mae'n bwysig ein bod hefyd yn sicrhau ein bod yn cefnogi ein trefi i barhau i fod yn fywiog ac yn lleoedd lle mae pobl eisiau bod ac eisiau mynd iddynt. Mae ein hegwyddor 'canol y dref yn gyntaf' mewn cynllunio ac mewn datblygu yn fwy eang yn mynd at wraidd hynny. Sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn lleoli asedau yng nghanol trefi fel y gallwn ddenu'r ymwelwyr sydd eu hangen er mwyn i fusnesau lleol o bob math allu ffynnu? Mae hon yn drafodaeth barhaus, un rwy'n ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, ac rwyf wedi ei chael gyda hi mewn rolau Cabinet blaenorol hefyd. Gwn ei bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod ein trefi ledled Cymru yn fywiog, fel sbardun allweddol i economïau lleol, a chydnabyddiaeth glir fod yn rhaid i'r gwaith a wnawn fel Llywodraeth gael ei wneud law yn llaw ag awdurdodau lleol.
Rŷn ni'n gwybod bod y cyfnod diweddar yma wedi bod yn anodd i fusnesau cefn gwlad, yn arbennig ein tafarnau ni. Maen nhw wedi gweld cost trethi busnes yn codi, cost ynni, bwyd, diod ac yn y blaen, a dyw'r cwsmeriaid ddim wedi dod nôl fel oedden nhw cyn y pandemig. Ac o ganlyniad, rŷn ni wedi colli gormod o dafarnau sydd wrth wraidd ein cymunedau gwledig. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, fy mod i'n cynrychioli rhanbarth lle mae yna nifer o enghreifftiau o gymuned yn dod at ei gilydd i godi arian i brynu tafarnau a'u rhedeg nhw, wedyn, fel mentrau cymdeithasol a hybiau cymunedol.
Wythnos diwethaf, fues i draw yn cefnogi ymgyrch i brynu'r Angel Inn, tafarn yr Angel, yn Salem ger Llandeilo. Nawr, petai'r grŵp yma yn yr Alban, mi fydden nhw wedi cael rhyw fath o first refusal i brynu'r ased cymunedol yma o dan gynllun community right to buy. Nawr, yng Nghymru, dyw'r hawliau yna ddim yn bodoli, ac mae'n golygu bod yr ymgyrchwyr yma yn gorfod cystadlu ar y farchnad agored. Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i sefydlu comisiwn ar berchnogaeth gymunedol ac edrych ar ddeddfwriaeth i gefnogi community right to buy. Gaf i ofyn i chi beth yw'r diweddariad ar y cynlluniau yna?
Wel, fe wnaf i basio hynny ymlaen i'r Gweinidog sydd yn gyfrifol yn uniongyrchol am hynny, ond o fewn y gwaith rwyf i wedi gallu gwneud fel Gweinidog y Gymraeg, mae'r gronfa Perthyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi galluogi tafarndai i gael eu prynu yn y ffordd mae'r Aelod yn sôn amdani, a'u datblygu fel llefydd cymunedol i bobl. Lle bydden nhw wedi eu cau, maen nhw wedi cael eu hail-adfywio yn ganolfannau diwylliannol, cymdeithasol bywiog iawn. Felly, mae hynny yn rhan bwysig, dwi’n credu, o’r mix hwnnw, sut rŷn ni’n cefnogi cymunedau cefn gwlad, cefnogi cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol, ac mae hynny’n rhan bwysig o’r gwaith rŷn ni’n gallu ei wneud fel Llywodraeth.