Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch am hwnna. Os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y Cymoedd yn hollbwysig, ond rydyn ni'n dal i aros am newyddion am yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arfaethedig ar gyfer ardal Bedwas, Tretomas a Machen, ac ymddengys bod cyngor Merthyr yn bwrw ymlaen gydag adnabod safle ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd heb gymryd i ystyriaeth y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud yn ddiweddar yn ardal y Gurnos gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar. Jest dwy esiampl ydy'r rhain o'r heriau sydd yn wynebu rhieni lleol sydd yn ysu am ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg.
A fyddech chi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn fodlon cwrdd â fi a chynrychiolwyr Rhieni dros Addysg Gymraeg lleol i drafod pa gefnogaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i awdurdodau lleol ar draws y de-ddwyrain i wneud yn siŵr fod gan bawb y dewis i ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg?