1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
1. Pa drafodaethau mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â chynnydd darpariaeth addysg Gymraeg yn y Cymoedd? OQ61017
Rwyf wedi cwrdd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac mae hi’n gefnogol i’r gwaith gwych sydd eisoes wedi digwydd drwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, ac mae’n awyddus i adeiladu ar y gwaith da hwn. Bydd cynghorau lleol yn cyflwyno eu hadroddiadau blynyddol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiwedd mis Gorffennaf.
Diolch am hwnna. Os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y Cymoedd yn hollbwysig, ond rydyn ni'n dal i aros am newyddion am yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arfaethedig ar gyfer ardal Bedwas, Tretomas a Machen, ac ymddengys bod cyngor Merthyr yn bwrw ymlaen gydag adnabod safle ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd heb gymryd i ystyriaeth y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud yn ddiweddar yn ardal y Gurnos gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar. Jest dwy esiampl ydy'r rhain o'r heriau sydd yn wynebu rhieni lleol sydd yn ysu am ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg.
A fyddech chi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn fodlon cwrdd â fi a chynrychiolwyr Rhieni dros Addysg Gymraeg lleol i drafod pa gefnogaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i awdurdodau lleol ar draws y de-ddwyrain i wneud yn siŵr fod gan bawb y dewis i ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg?
Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig nad oedd blodyn yn cael ei gynnig fel rhan o'r cwestiwn. [Chwerthin.] Ond mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn gwbl deilwng ac mae’r cynnydd a’r brwdfrydedd dros addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cymoedd yn rhywbeth sydd yn bleser i’w weld. Mae gan bob un o'r cynghorau, yn cynnwys y ddau wnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw, gynlluniau strategol sydd yn uchelgeisiol ac sydd, fel y mae hi'n sôn, yn cynnwys ymrwymiadau i agor ysgolion cynradd newydd. Mae'n bwysig bod hyn yn digwydd mewn ffordd sydd yn edrych ar yr impact ehangach o ran argaeledd daearyddol, ond hefyd o ran datblygiadau o ran lle mae pobl yn byw ac ati, fel bod pwrpas y cynlluniau strategol yn cael ei gyflawni yn y fersiwn fwyaf uchelgeisiol posibl o hynny.
Byddwn yn hapus iawn i gwrdd gyda'r Aelod i drafod hyn ymhellach. Byddwn i jest yn dweud mai'r ddau ddatblygiad rwy’n credu sydd yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw'n dwyn ffrwyth yn y pen draw, yw datblygiad pencampwyr hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y de-ddwyrain, sydd yn gwneud gwaith da i sicrhau bod pobl yn deall beth yw manteision a buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg ar yr un llaw, ac, ar y llaw arall, y brwdfrydedd rŷn ni'n ei weld yn y de-ddwyrain, fel yr ydym yn ei weld ar draws Cymru, o ran y buddsoddiad mewn trochi hwyr. Mae'r ddau ddatblygiad yna, dwi'n credu, yn gyffrous iawn yn ei rhanbarth hi. Ond byddwn i'n hapus iawn i gwrdd â hi a gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn gwneud dysgu a siarad Cymraeg yn rhan annatod o'n cymunedau, rwy'n credu bod angen budd economaidd clir sydd wedi’i hysbysebu’n dda i siarad Cymraeg. Dim ond drwy hyn y bydd pobl yn buddsoddi ac yn gwneud pob ymdrech i annog eu plant i siarad Cymraeg. Mae cynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfle gwych i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i gofleidio'r Gymraeg fel sgìl a all eu helpu yn eu bywydau gwaith, yn enwedig mewn meysydd allweddol megis gwasanaethau cyhoeddus, mewn gofal iechyd ac mewn darpariaeth addysg, yn enwedig addysg y blynyddoedd cynnar. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog creu a defnydd o gynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a pha adnoddau ariannol a glustnodwyd gennych ar gyfer hyn? Diolch.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cytunaf â’r pwynt ei bod yn bwysig inni sicrhau bod yr ystod lawn o gyfleoedd addysgol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i’n pobl ifanc gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a darpariaeth fwy cyffredinol nag ar y cam addysg bellach. Credaf fod gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dechrau dwyn ffrwyth go iawn o ran y cynnydd mewn argaeledd. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd—mae cryn dipyn o ffordd i fynd cyn bod y ddarpariaeth eang y byddai pob un ohonom yn dymuno'i gweld ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'r heriau hynny wedi eu deall yn dda ac maent yn ymwneud â'r gweithlu, ond mae rhai ohonynt yn aml yn ymwneud â disgwyliad. Ac rwy'n llawn edmygedd o waith Coleg Llandrillo Menai, y buont yn siarad â mi amdano yn yr Eisteddfod y llynedd, lle gwnaethant ddatblygu mecanwaith a rhaglen i aelodau unigol o staff nodi’r cyfleoedd hyn a dod â phobl atynt mewn ffordd wirioneddol ragweithiol, a oedd yn fy nharo fel ffordd gynhyrchiol iawn o fynd ati.
Gyda llaw, hoffwn ddweud—gwn nad dyma oedd prif bwynt ei gwestiwn—nad wyf yn siŵr mai’r ffordd y byddwn yn annog mwy a mwy o bobl i ddysgu Cymraeg yw drwy sôn am reidrwydd economaidd hynny yn unig. Mae elfen bwysig i hynny, ond credaf mai’r hyn rydym yn ei ddysgu yw bod perthynas pobl â’r iaith yn llawer mwy na fel trafodiad. Nid wyf yn awgrymu ei fod yn gwneud y pwynt hwnnw, ond mae yna ymdeimlad o gynhesrwydd a chroeso tuag at yr iaith sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sydd o fudd economaidd unigol penodol i ddysgwr. Ond mae’n bwysig sicrhau, fel y dywed, fod y cyfleoedd hynny ar gael, gan ein bod am i fwy o bobl weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein gweithleoedd.