– Senedd Cymru am 4:09 pm ar 30 Ebrill 2024.
Grŵp 3 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud ag anghymwyso personau sydd wedi eu heuogfarnu o ddichell o fewn y pedair blynedd diwethaf rhag bod yn Aelod o'r Senedd neu'n ymgeisydd. Gwelliant 43 yw'r prif welliant—yr unig welliant yn y grŵp yma—a dwi'n galw ar Adam Price i gyflwyno'r prif welliant hwnnw.
Diolch, Llywydd. Dyma'r ail gyfle i ni drafod y cynnig hwn i wneud dichell fwriadol gan ymgeiswyr neu Aelodau o'r Senedd yn drosedd benodol, a fyddai, pe bai pobl yn cael eu dyfarnu'n euog, yn arwain at anghymhwyso o'r Senedd. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i'r holl Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol iawn gyda mi wrth lunio'r fersiwn newydd hon o'r gwelliant, ac, yn wir, y trafodaethau adeiladol a gawsom gyda'r Llywodraeth hefyd? Rydym bellach wedi cyrraedd man lle mae gennym Aelodau o bob plaid yn cefnogi'r gwelliant, a chonsensws cynyddol, rwy'n credu, ar draws y Senedd, fod hwn yn faes yr ydym eisiau gweithredu ynddo, gan gydnabod mai cefnlen hyn mewn democratiaethau ledled y byd yw'r gostyngiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, mewn gwleidyddion ac yn ein sefydliadau democrataidd, ac mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch hynny.
Ar un ystyr, mae gwleidyddiaeth bob amser wedi bod â bwlch hygrededd ymhlith dinasyddion, ond credaf mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y bwlch presennol wedi dod yn agendor atebolrwydd yn ystod y degawdau diwethaf, a nawr rydyn ni'n syllu i mewn i affwys. Rydyn ni'n edrych ar fyd yn y dyfodol yn llawn ffugiadau dwfn, gwleidyddiaeth ôl-wirionedd a thon ar ôl ton o dwyllwybodaeth, felly mae angen i ni wneud rhywbeth ac mae angen i ni wneud rhywbeth ar frys. Gallai Cymru wir arwain democratiaeth ledled y byd yn hyn o beth. Pe baem ni'n pasio'r cynnig hwn mewn rhyw ffurf neu'i gilydd, gan ddefnyddio rhyw gerbyd—fe ddown ni ymlaen at hynny, rwy'n siŵr, yn ein trafodaethau—fe fyddem ni'r cyntaf yn y byd yn hyn o beth.
Yn yr ymchwil yr ydym wedi'i gynnal yn y broses o ddatblygu'r gwelliant hwn, fe wnaethom nodi, rwy'n credu, bod tua hanner dwsin o Seneddau ledled y byd—Awstria a thua phum Senedd y Gymanwlad—mewn gwirionedd yn ei gwneud hi'n drosedd i wleidyddion ddweud celwydd wrth y Senedd, ond, mewn gwirionedd, mae'r hyn a ddywedwch y tu allan i'r Senedd yn gofyn am yr un gofal. Mae yna ychydig o Seneddau eraill: mae De Awstralia ers 20 mlynedd, er enghraifft, wedi ei gwneud yn drosedd i chi wneud datganiadau ffug yn ystod ymgyrch etholiadol, ac mewn gwirionedd, mae'r gyfraith honno wedi gweithredu'n effeithiol iawn, iawn. Felly, mae darnau o ddysgu—mae rhai cynseiliau—y gallwn ni dynnu arnyn nhw, ac rydyn ni wedi defnyddio llawer o'r iaith honno yn y gwelliant hwn, felly dydyn ni ddim yn cychwyn o'r dechrau'n llwyr. Ond mae'r gwelliant hwn yn dod â'r holl elfennau hynny at ei gilydd, ac mae'n torri tir newydd mewn gwirionedd gan ei fod yn waharddiad cynhwysfawr ar ddichell, nid yn unig yn ystod cyfnodau etholiad ond drwy gydol y flwyddyn, ym mhob blwyddyn; nid yn unig y tu mewn i'r Senedd, ond y tu allan i'r Senedd hefyd, ar-lein ac all-lein.
I redeg trwy rai o'r elfennau allweddol yn gyflym iawn, iawn, mae ei brif bwyslais wrth gwrs, ar ddatganiadau ffug a thwyllodrus 'mewn manylyn perthnasol'. Beth mae hwnnw'n ei olygu? Wel, mae'n golygu, os ydych chi'n cael rhywbeth yn anghywir, elfen ddibwys, ac ati, yna nid dyna'r hyn rydyn ni'n mynd i'r afael ag ef yma. Mae'n ymwneud â gwneud datganiad ffug arwyddocaol neu sylweddol, a'i wneud, yn hollbwysig, yn ymwybodol. Nid eich bod chi wedi gwneud camgymeriad anfwriadol—rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau ac angen cywiro ein hunain, mae hynny'n naturiol—ond ei wneud mewn ffordd fwriadol—dyna sy'n allweddol—a gyda'r bwriad o gamarwain y Senedd neu'r cyhoedd.
Ac mae'n ymwneud â datganiadau ffeithiol. Rydym yn dweud yn benodol nad yw'n ymwneud â datganiadau barn neu gred; nid ydym yn ymwneud ag atal anghytundebau cyfreithlon a allai hyd yn oed olygu dehongli'r ffeithiau yn wahanol. Hefyd, mae'n eithrio bwriad yn y dyfodol. Mae rhesymau dilys, weithiau, pryd gallwch chi addo rhywbeth ac mae amgylchiadau y tu hwnt i'ch rheolaeth yn golygu nad ydych chi wedi gallu cyflawni hynny. Felly, nid yw'n ymwneud â hynny; mae'n ymwneud â datganiadau ffeithiol sy'n brofadwy, ac mae'n ymwneud â'r sefyllfaoedd hynny pan fo gwleidyddion yn gwybod bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn ffug ac maen nhw'n ei wneud beth bynnag am resymau sinigaidd ac oportiwnistaidd.
Rydyn ni wedi ceisio codi'r safon yma, oherwydd yr hyn nad ydym eisiau ei weld, wrth gwrs—. Nid cyfres gyfan o erlyniadau yw arwydd llwyddiant y fenter hon. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw creu norm diwylliannol yn ein gwleidyddiaeth lle mae pob un ohonom yn derbyn nad yw dichell fwriadol byth yn dderbyniol. Unrhyw adeg mae gwleidydd wedyn yn meddwl y gallai fod yn dod yn agos at y llinell, mae'n ailfeddwl ac mae'n camu'n ôl o'r llinell honno. A dyna'r profiad, rwy'n credu, yn Ne Awstralia gyda'r gyfraith gwirionedd mewn hysbysebu gwleidyddol y cyfeiriais ati.
Yn y gwelliant rydym yn rhoi cyfle i bobl dynnu yn ôl ac ymddiheuro. Felly, un ai ar ôl i chi sylweddoli, 'O, arhoswch, dywedais rywbeth ac nid oedd e'n gywir', neu fod rhywun yn tynnu eich sylw at hyn, mae yna gyfnod rhesymol o amser, 14 diwrnod, pryd y gallwch chi ddweud, 'Edrychwch, dwylo i fyny, roeddwn yn anghywir, a hoffwn gywiro'r gwall.' Mae hwn yn welliant rhesymol. Nid yw, mewn unrhyw ffordd, yn atal trafodaeth rydd. Nid yw'n ymwneud â barn, cred, ac ati; mae'n ymwneud â gosod egwyddor graidd sydd, yn fy marn i, yn ein huno ni i gyd—ein bod ni eisiau dweud yng Nghymru y bydd ein diwylliant democrataidd ni â gonestrwydd wrth ei wraidd. Gyda'r geiriau hynny o gyflwyniad, edrychaf ymlaen at ymateb yr Aelodau.
A gaf i ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r gwelliant hwn heddiw ac am wrando ar adborth Aelodau'r Senedd yn y ddadl yng Nghyfnod 2 ar welliant tebyg? Cytunodd wrth gwrs i dynnu'r gwelliant hwnnw yn ôl a chael trafodaethau trawsbleidiol, yr wyf wedi bod yn gysylltiedig â nhw, ac rwy'n ddiolchgar iawn ei fod wedi estyn allan er mwyn gwneud hynny. Roedd y trafodaethau hynny'n gynhyrchiol iawn ac fe'u cynhaliwyd mewn ysbryd da iawn.
Rwy'n falch iawn ein bod wedi dod o hyd i gonsensws ar y testun yn y gwelliant sydd ger ein bron, oherwydd, fel y mae Adam Price wedi'i amlinellu'n eithaf huawdl, mae gennym broblem mewn gwleidyddiaeth yn fyd-eang ynghylch anwireddau a chamwybodaeth, ac mae hynny'n felltith, rwy'n ofni, ar drafodaeth wleidyddol, ac wedi bod yn felltith gynyddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n tanseilio hyder yn ein democratiaethau. Mae'n arwain at drafodaeth wleidyddol wenwynig ac amgylchedd yr ydym, yn anffodus, i gyd yn boddi ynddo.
Yn ddiweddar, ymwelais, gyda phwyllgor B y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, â'r Ganolfan Ragoriaeth Ewropeaidd ar gyfer Gwrthsefyll Bygythiadau Hybrid yn Helsinki, ac roedd yn ddiddorol gwrando ar rai o'r tueddiadau mewn bygythiadau hybrid sy'n tanseilio democratiaethau ledled y byd. Un ohonyn nhw yw her gwleidyddion, weithiau yn ddiarwybod, yn dod ar draws datganiadau anghywir, anwireddus ac yn eu defnyddio nhw, a'r pethau hynny yn ymledu ar draws pethau fel cyfryngau cymdeithasol. Mae hynny, felly, yn tanseilio'r ymddiriedaeth mewn democratiaeth ac yn chwarae i ddwylo ein gelynion rhyngwladol, a dweud y gwir, y cyfundrefnau awdurdodaidd hynny sydd eisiau niweidio democratiaeth.
Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd yn y Siambr hon i sicrhau bod gonestrwydd ac uniondeb wrth wraidd popeth a wnawn, a gwn fod pawb yn y Senedd hon yn ceisio gwneud yr hyn a allant i sicrhau eu bod yn cynnal y gwerthoedd hynny. Mae gennym ddyletswydd i osod esiampl i'r cyhoedd. Mae'n iawn, felly, ein bod yn hyrwyddo, yn ein rhengoedd ein hunain, y gwerthoedd yr ydym eisiau eu gweld yn ffynnu ar draws cymdeithas, a'i gwneud yn glir bod methu â chynnal y gwerthoedd hynny trwy geisio camarwain pobl yn fwriadol, naill ai yn y Senedd hon neu rywle arall, yn arwain at ganlyniadau amlwg.
Rydym yn gwybod bod gan ddeddfu ar y mater hwn gefnogaeth gyhoeddus eang. Rwy'n deall bod darn tebyg o ddeddfwriaeth wedi ei gynnig mewn Bil Aelod yn San Steffan, a bod rhywfaint o bleidleisio wedi digwydd o amgylch hynny, a bod y mwyafrif llethol—rwy'n credu ei fod yn 75 y cant o bobl o amgylch y DU gyfan—eisiau gweld rhywfaint o ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Mewn gwirionedd, yng Nghymru, roedd dros 90 y cant o bobl yn cefnogi'r angen am rywfaint o ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Felly, rydyn ni'n cyd-fynd â'r cyhoedd yma o ran eu bod nhw eisiau i ni ymdrin â'r mater hwn.
Mae'r gwelliant yn gymesur, mae'n rhesymol, mae ganddo'r mesurau diogelwch hynny i atal pobl rhag ei gam-drin pe bai'n cael ei wneud yn fater troseddol, ac, wrth gwrs, yn bwysig iawn, byddai'n trin gwleidyddiaeth fel proffesiwn yn yr un modd â'r llu o broffesiynau eraill y mae gwleidyddion wedi rheoleiddio ar eu cyfer yn y gorffennol. Mae'n anghyfreithlon i feddyg ddweud celwydd wrthych, ac rydym wedi deddfu fel gwleidyddion, yn gyfan gwbl, i atal meddyg rhag camarwain claf. Pam y dylai fod yn wahanol i ni? Dyna pam rwy'n falch o allu cefnogi'r gwelliant hwn heddiw. Rwy'n gobeithio mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y byd i allu arwain ar y mater penodol hwn.
Rwy'n credu bod gennym gyfle gyda'r Bil hwn y dylem fachu arno er mwyn ymdrin â'r broblem hon o dwyll a mynd i'r afael â hi. Nid wyf eisiau gweld hwn yn cael ei ohirio am chwe mis arall, naw mis, pum mlynedd neu 10 mlynedd. Mewn gwirionedd, cofiwch, mae wedi cymryd 25 mlynedd i'r Bil diwygio'r Senedd ddod ymlaen. A allwn ni aros mor hir i ymdrin â'r mater hwn? Nid wyf yn credu hynny, a dyna pam rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant hwn heddiw.
Diolch i Adam Price am gyflwyno hwn, a Jane Dodds hefyd am ychwanegu ei chefnogaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan glywais i Adam Price yn gwneud y dadleuon y tro diwethaf i ni drafod hyn, roeddwn i'n amheus, ond cytunais i'w drafod ymhellach ac i siarad â'r tîm yn Compassion in Politics a noddodd yr adroddiad, a phrofi'r dadleuon, a rhaid imi ddweud fy mod wedi fy mherswadio bod hwn yn gam synhwyrol a rhesymol i'w gymryd. Mae'n tynnu ar waith a wnaed ar sail drawsbleidiol ar Fil Aelod preifat yn San Steffan dair blynedd yn ôl. Mae ganddo gefnogaeth gyhoeddus, ac mae cynsail, fel y mae Darren Millar newydd ddweud, gan broffesiynau eraill sydd hefyd yn destun rheolau ynghylch camarwain yn fwriadol.
I fod yn glir, ac i dawelu meddwl y rhai a allai fod yn bryderus, nid yw hyn yn ymwneud â cheryddu dadlau gwleidyddol, ac nid yw'n ymwneud ag atal pobl rhag mynegi eu barn na'u gwerthoedd. Mae hyn eisoes wedi'i ddiogelu mewn cyfreithiau hawliau dynol. A gallwch ddarllen yn adroddiad diweddaraf y comisiynydd safonau ar y gŵyn am y ffordd y defnyddiwyd disgrifiad o'r gwaharddiad cyffredinol o 20 mya a bod dadl am ddehongli cyfreithiau hawliau dynol, a bod modd gwneud amddiffyniad o hynny yn ymarferol. Mae'n dangos nad yw'r offer sydd yno eisoes a'r cynsail sydd eisoes yno yn cael eu defnyddio'n swta. Mae yna arlliw. Nid yw hwn yn rhywbeth y dylem fod yn ei ofni.
Mae'r gwelliant yn ymwneud yn benodol ag atal rhywun rhag cyflwyno rhywbeth y mae'n gwybod ei fod yn ffug ac yn dwyllodrus, a byddai'n alinio gwleidyddiaeth â phroffesiynau eraill lle mae camliwio bwriadol yn cael ei wahardd. Ac nid wyf wir yn gweld dadl gref yn ei erbyn, a bod yn onest.
Gadewch imi geisio profi hyn gydag un enghraifft gyfoes y credaf y byddai'n dod o fewn y cwmpas. Ar hyn o bryd, mae honiad bod ein polisi adeiladu ffyrdd yn cynrychioli gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd. Nid yw'n ddehongliad o ffaith. Nid yw'n farn gyfreithlon. Yn syml, mae'n anghywir. A gellir dangos ei fod felly, sef y prawf sydd wedi cael ei grybwyll. A do, wrth gwrs, bu newid yn y meini prawf. Mae dadl bolisi i'w chynnal ynghylch hynny, ond mae ffyrdd newydd yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyflawni, felly nid oes gwaharddiad. Mae'r Ceidwadwyr yn gwybod hynny, maen nhw'n parhau i'w ddweud, ond mae'n ffug, yn dwyllodrus gyda'r bwriad o gamarwain.
Byddai'r bar ar gyfer erlyniad yn briodol yn uchel, ac mae amddiffynfeydd wedi'u rhestru yn y gwelliant y gellir eu defnyddio'n gyfreithlon yn erbyn y cyhuddiad. Mae hefyd yn amlwg na all unigolion ddwyn cyhuddiadau yn erbyn unigolion eraill. Ac fel y dywedodd Adam Price, gall Aelod dynnu'r datganiad yn ôl ac ymddiheuro o fewn 14 diwrnod fel falf ddiogelu.
Rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth rai pryderon technegol ynghylch y gwelliant, ac mae'n annhebygol o symud ymlaen heddiw, ond mae'n bwysig nodi'r gefnogaeth ddwybleidiol i alinio gwleidyddiaeth â'r proffesiynau eraill, a diddordeb y Cwnsler Cyffredinol mewn cydweithio i ddatblygu rhywbeth y gellid ei gyflwyno. Diolch.
Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth fel bod gennym gynrychiolwyr trawsbleidiol sy'n cefnogi'r gwelliant hwn. A diolch i Adam Price hefyd am gyflwyno'r gwelliant hwn.
Er bod nifer o welliannau wedi'u cynnig mewn cyfnodau blaenorol mewn ymgais i wella'r Senedd a hyrwyddo amcanion y Bil diwygio, mae'r gwelliant hwn yn benodol yn wir yn mynd i'r afael â gwarchod rheolaeth y gyfraith a chynnal uniondeb system ddemocrataidd Cymru wrth symud ymlaen. Fel y dywedwyd, ni allwn wadu'r realiti bod gwirionedd a thryloywder yn wynebu heriau sylweddol yn ein cyfnod presennol. Mae gormodedd o gamwybodaeth, newyddion ffug a naratifau twyllodrus wedi dod yn fwyfwy cyffredin, ac mae hynny wedi erydu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y maes gwleidyddol. Er fy mod i fel Democrat Rhyddfrydol Cymru, yn credu bod yn rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus wrth ddiogelu egwyddorion rhyddid i lefaru ac ymgom agored, mae gennym gyfrifoldeb clir hefyd i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd o ran ffeithiau yn ein hymddygiad fel gweision cyhoeddus.
Mae'r gwelliant hwn yn ceisio sefydlu fframwaith clir ar gyfer dal y rhai sy'n dal swydd gyhoeddus yn atebol am ddatganiadau camarweiniol bwriadol a wneir yn rhinwedd eu swyddogaeth swyddogol. Mae'n cydnabod pwysigrwydd atal lledaenu celwyddau yn fwriadol tra bo'n darparu mesurau diogelu rhag hawliadau neu orgyrraedd gwamal. Drwy gefnogi'r mesur hwn, mae gennym gyfle i anfon neges bwerus at bobl Cymru a'r byd—neges sy'n cadarnhau ein hymrwymiad i gynnal ein hunain ag urddas, uniondeb a thryloywder. Gall y gwelliant hwn fod yn gam tuag at adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses wleidyddol, a gosod esiampl i eraill ei dilyn.
Nid yw'n gyfrinach y bu cynnydd pryderus mewn amheuaeth gyhoeddus ynghylch gallu gwleidyddion i weithredu gyda gonestrwydd a chymhwysedd. Nid oes angen i ni fynd ar ôl y sgandalau niferus ac achosion o dwyll sydd wedi cyfrannu at erydiad yr ymddiriedaeth dros amser, ond mae'r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain. Canfu astudiaeth gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn 2021 fod 63 y cant o bleidleiswyr bellach yn gweld gwleidyddion yn meddwl am eu buddiannau eu hunain, sy'n gyferbyniad llwyr i'r ystadegyn saith mlynedd ynghynt, sef 48 y cant.
Canfu arolwg gan Compassion in Politics ar lefel genedlaethol yng Nghymru fod cefnogaeth drawsbleidiol i gyfreithiau newydd i atal dweud celwydd mewn gwleidyddiaeth, gyda 71 y cant o bleidleiswyr Ceidwadol a 79 y cant o gefnogwyr Llafur yn cefnogi'r syniad. Felly, mae'r gwelliant hwn yn cynrychioli dull cytbwys, gan sicrhau nad yw ymgom gyfreithlon a rhyddid mynegiant yn cael eu cyfyngu'n ormodol. Mae'n darparu mesurau diogelwch cadarn yn erbyn hawliadau gwamal neu flinderus, ac yn sicrhau mai dim ond awdurdodau cyhoeddus all erlyn y drosedd.
Gyda'r gwelliant hwn, gall Cymru unwaith eto gymryd safiad arloesol, gan osod esiampl ar gyfer llywodraethu moesegol nid yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, ond ar y llwyfan byd-eang hefyd. Yn y pen draw, ein nod yw cryfhau clymau o ymddiriedaeth rhwng pobl Cymru a'u cynrychiolwyr etholedig, gan feithrin diwylliant gwleidyddol sy'n gwerthfawrogi gonestrwydd, uniondeb ac ymrwymiad diwyro i wasanaethu er budd pennaf ein hetholwyr. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwelliant hwn yn cael ei dderbyn gan y Senedd heddiw. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Y Cwnsler Cyffredinol.
Diolch, Llywydd. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol sy'n sail i'r cynigion i gynyddu atebolrwydd Aelodau. Mae gonestrwydd yn egwyddor gyffredinol yn y cod ymddygiad i Aelodau, ac mae gwirionedd yr Aelodau wrth wraidd y safonau rwy'n credu bod yn rhaid i ni eu cynnal. Mae ymddiriedaeth yn hanfodol i weithrediad priodol democratiaeth yng Nghymru.
Nid yw'r mater o'r hyn sy'n wir, yr hyn nad yw'n wir, yr hyn sy'n ffaith a'r hyn nad yw'n ffaith, wrth gwrs, yn rhywbeth newydd. Aneurin Bevan yr holl flynyddoedd yn ôl a ddywedodd, 'Dywedaf i fy ngwir i, dywedwch chi eich gwir chi.' Fodd bynnag, mae'n bwysig bod dadansoddiad manwl o bolisi a goblygiadau cyfreithiol trosedd sy'n anghymwyso o ddichell fwriadol yn cael ei wneud cyn unrhyw ddeddfwriaeth neu weithredu.
Rwy'n dal i fod o'r farn mai'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddylai ystyried y mater hwn. Mae'r pwyllgor hwnnw wedi cytuno i gynnal ymchwiliad o'r fath mewn ymateb i argymhelliad gan y Pwyllgor Biliau Diwygio. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gefnogi ei waith arfaethedig ar atebolrwydd, ac, yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru, gan gopïo mewn pleidiau eraill hefyd. Felly, er na allaf gefnogi'r gwelliant hwn heddiw, edrychaf ymlaen at ymgysylltu â'r pwyllgor mewn cysylltiad â'i waith yn y maes hwn.
Nawr, ar gyfer system fel yr un a gyflwynwyd gan y gwelliant hwn, rwy'n pwyllo cyn dod i gasgliad cyn i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gael cyfle i ystyried y mater ehangach a hefyd ymgynghori â'r comisiynydd safonau. Mae'r angen am ymddiriedaeth yn ein gwleidyddiaeth yn hanfodol, ond rhaid i ni fod yn ofalus ynghylch canlyniadau anfwriadol posibl, gan gynnwys mewn cysylltiad â gallu'r Aelodau i siarad yn rhydd ar faterion sy'n peri pryder i'w hetholwyr yn y Senedd hon. Byddai angen ystyried yn ofalus hefyd risgiau cymhwysedd posibl mewn cysylltiad â'r gwelliant hwn. Ni all y Senedd ddeddfu i greu troseddau o fath y delir â nhw gan Ddeddf Anudon 1911, sy'n cynnwys gwneud datganiadau ffug yn ymwybodol ac yn fwriadol.
Nawr, drwy gydol y broses o ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, rwyf wedi cymryd gofal mawr i sicrhau bod unrhyw risg bosibl i'r Bil yn cael ei lleihau, yn enwedig yng ngoleuni'r amserlenni gweithredu byr iawn, cyn etholiad 2026. Gallai cynnwys y gwelliant hwn ar hyn o bryd beryglu'r gwaith o gyflwyno'r pecyn yn ei gyfanrwydd. Nawr, mae hwn yn faes pwysig ar gyfer trafodaeth bellach, ac rwy'n sicr yn cefnogi'r uchelgais i wella ein gwleidyddiaeth. Mae mwy o waith yn hanfodol ac, o'r herwydd, rwy'n annog Aelodau i wrthwynebu—
A wnewch chi gymryd ymyriad—
Yn sicr.
—os yw hynny'n iawn, Llywydd? Diolch am ganiatáu'r ymyriad. Rydych chi'n sôn am fwy o waith sydd angen ei wneud, ond rydych chi wedi clywed ein bod ni wedi aros yn hir i gyrraedd y cyfnod hwn, a meddwl oeddwn i tybed a oedd gennych chi syniad yn eich pen o faint o amser y byddech chi'n edrych arno, o ran cyflwyno deddfwriaeth bellach yn y maes hwn. Diolch yn fawr iawn.
Wel, a gaf i ddweud mai'r peth cyntaf, rwy'n credu, yw deddfu ar frys—? Ac mae hwn yn fater sydd angen sylw gofalus iawn, iawn, ac mae angen i ni ddiogelu'r fraint sy'n bodoli yn y Senedd hon, o ran gallu siarad yn rhydd ac yn agored, felly mae angen i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â sut yr ydym yn deddfu yn y maes penodol hwn. Rwyf wedi siarad â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, nid yn unig mewn cysylltiad â hyn, ond hefyd mewn cysylltiad â gwelliant arall sy'n dod, a dyna'r mater o adalw, ac rwy'n credu bod y pethau hyn wedi'u cysylltu mewn gwirionedd, mewn ffordd. Roedd yna ryngweithio rhyngddynt sy'n bwysig iawn i'w ddeall. Yn sicr, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, byddwn yn gweithio gyda phwyllgor y gellid ei benodi—ac rwy'n credu mai'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw'r un priodol mae'n debyg, oherwydd pwysigrwydd ymgysylltiad rôl y comisiynydd safonau hefyd—a chredaf fod pwyllgor sy'n gweithio'n gyflym ac yn cymryd hyn o ddifrif ac yn rhoi'r gwaith i mewn iddo, byddwn yn ymgysylltu ac yn cefnogi hynny, er mwyn cyflawni'r gwaith o ddrafftio deddfwriaeth a fyddai'n ymarferol ac, rwy'n credu, hefyd, yn dderbyniol, ond hefyd yn ddeddfwriaeth sydd hefyd yn diogelu'r rhyddid sy'n bwysig yng ngweithrediad y Senedd hon hefyd.
Adam—
Rwy'n credu fy mod i wedi gorffen yn y fan yna, Llywydd.
Da iawn, a diolch am egluro hynny.
Adam Price i ymateb.
Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl adeiladol iawn ar y Cyfnod 3 hwn, ac rydym ni, rwy'n credu, wedi gweld consensws cynyddol nawr, onid ydym, ar draws y Senedd gyfan, ar draws yr holl bleidiau, a pharodrwydd i ni symud ymlaen a deddfu. Dylwn i ddweud—ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth o bob ochr—dylwn i ddweud, mewn cysylltiad â rhai o'r materion cymhwysedd a'r materion cyfreithiol a gododd y Cwnsler Cyffredinol, fod y dadansoddiad cyfreithiol a gefais yn awgrymu na fyddent yn codi unrhyw faterion cymhwysedd. Ond gallaf ddeall safbwynt y Llywodraeth bod angen gwneud rhagor o ddadansoddi manylion, cyfreithiol a pholisi, ond y peth pwysig, rwy'n credu, o fy safbwynt i, yw na allwn aros tan y Senedd nesaf. Hynny yw, y don o wleidyddion poblyddol, diegwyddor, darparwyr gwleidyddiaeth ôl-wirionedd—rydych chi'n gwybod, dydyn ni ddim yn rhydd rhag hynny. Mae hynny'n dod i'n cyfeiriad ni, a byddai'n rhy hwyr i weithredu adeg y Senedd nesaf; mae angen i ni weithredu yn y Senedd hon.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni symud ymlaen, lle bynnag y bo modd, ar sail drawsbleidiol a hollbleidiol. Mae democratiaeth yn cael ei hamddiffyn orau pan fydd pob democrat yn gweithio gyda'i gilydd. Ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd—cynnydd pwysig, rwy'n credu, cynnydd sylweddol—yn y consensws sy'n dod i'r amlwg, ac ar ôl clywed yr hyn a ddywedwyd ar draws y Siambr, nid wyf am dorri'r consensws hwnnw, rwyf eisiau i ni i weithio gyda'n gilydd mewn gwirionedd, ond ar y sail ein bod yn deddfu yn y Senedd hon, gan weithio gyda phob plaid. Ac rwy'n credu ei bod yn bosibl y gallem wneud hynny ar gyflymder drwy'r pwyllgor ymddygiad, ond gallwn hefyd weld dadl dros y Pwyllgor Biliau Diwygio. Os yw'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, oherwydd bod ganddo lawer o faterion capasiti, yn dweud, 'Wel, ni allwn ni edrych ar hyn', yna efallai fod dewis arall gyda'r Pwyllgor Biliau Diwygio yn cyflwyno Bil pwyllgor. Rydym yn un o bum Senedd yn unig, rwy'n credu, sydd â'r gallu i gyflwyno Biliau pwyllgorau. Rydyn ni wedi ei wneud unwaith, gadewch i ni ei wneud gyda hwn, gan ddod â phawb at ei gilydd. Ac os nad yw hynny'n gweithio, yna rwyf wedi gwirio, Cwnsler Cyffredinol, a byddai gwelliant ar hyn o fewn cwmpas—. Nid ydych eisiau clywed hyn, Mick, mae'n debyg: byddai o fewn cwmpas y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), felly gallai fod yn ddiwrnod groundhog tri a phedwar. Mae yna wahanol ffyrdd y gallem wneud hynny.
Ond gyda'r ewyllys wleidyddol ar draws y Siambr hon, gadewch i ni ei wneud gyda'n gilydd. Ar sail hynny, yn yr ysbryd hwnnw, ac yna'n seiliedig ar yr hyn rwyf wedi'i glywed, ni fyddaf yn gwthio hwn i bleidlais nawr, ond mae angen y cyfle i ddeddfu yn y Senedd hon, a byddwn yn dod o hyd iddo oherwydd bod consensws ar draws pob ochr i'r Siambr. Ni fyddaf yn gwthio hwn i bleidlais. Byddwn i'n gofyn, yn barchus, i bob cefnogwr, yn y cyfnod hwn—. Dydw i ddim eisiau rhoi—. Rwy'n gwybod bod yna lawer o Aelodau Llafur sydd wir eisiau pleidleisio gyda'r gwelliant hwn, ond ni allant, am resymau dealladwy. Nid wyf eisiau eu rhoi mewn sefyllfa o wrthdaro; rwyf eisiau i ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Felly, ar hyn o bryd, ni fyddaf yn ei wthio i bleidlais, gofynnaf i gefnogwyr eraill beidio, ond gadewch i ni ddeddfu hwn nawr, yn y Senedd hon, fel y gallwn greu'r bennod newydd honno ar gyfer ein democratiaeth.
Os ydw i wedi deall hynny'n gywir, mae Adam Price yn ceisio tynnu'r gwelliant yn ôl, ac ni fydd pleidlais arno. Gan fod y gwelliant wedi cael ei gynnig, byddai angen i bob Aelod gefnogi peidio â chael pleidlais ar y gwelliant hwn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Na.
Felly, no objections, ac felly mae'r gwelliant yna wedi'i dynnu yn ôl.