Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 30 Ebrill 2024.
Gan mai hwn yw fy nghyfraniad cyntaf i fel rhan o'r drafodaeth heddiw, mi hoffwn i nodi fy niolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiwyd i'm cynghori drwy'r broses hon a hefyd, wrth gwrs, y clercod a'm cyd-Aelodau ar y pwyllgor diwygio.
Wythnos nesaf, mi fydd hi'n 25 mlynedd ers yr etholiadau cyntaf i'r Senedd hon. Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae'n gyfan gwbl briodol ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol tuag at ddiwygio'r Senedd. Mae'r angen am y diwygiadau hyn wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd lawer. Er bod ystod y pwerau sydd gan y Senedd hon yn parhau i fod yn llawer rhy gyfyngedig, yn enwedig o gymharu â Senedd yr Alban, mae cymwyseddau datganoledig Cymru, serch hynny, wedi cynyddu’n sylweddol o ran nifer a chymhlethdod ers 1999, gyda chynnydd, o ganlyniad, yng nghyfrifoldebau Aelodau etholedig ynghyd â'n gallu i ddeddfwriaethu.
Er gwaethaf y datblygiadau hyn, nid yw maint y Senedd wedi newid, ac mae'n fwyfwy amlwg nad yw maint ein Senedd yn darparu'n ddigonol ar gyfer y pwerau hyn. Fel y gwnes i gyfeirio ato yn ystod ein trafodaethau yng Nghyfnod 2 y Bil hwn, mae Cymru yn haeddu cael Senedd o'r maint sydd ei hangen ar gyfer ein democratiaeth. Yn yr Alban, mae un Aelod ar gyfer tua bob 33,000 o etholwyr. Yng Ngogledd Iwerddon, mae un Aelod ar gyfer tua 15,000 o etholwyr. Yng Nghymru, mae un Aelod i tua 39,000 o etholwyr. Yn bellach, rhaid cofio hefyd ein bod wedi colli nifer o gynrychiolwyr: yr Aelodau o Senedd Ewrop yn sgil Brexit ac, o etholiad nesaf San Steffan, lleihad o 40 i 32 o Aelodau Seneddol. Mae hyn yn gadael Cymru gyda'r gynrychiolaeth etholiadol lleiaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig, a hynny o bell ffordd. Ar y mesur hwn yn unig, mae cyflwyno Bil diwygio'r Senedd yn anghenraid democrataidd, ac mae'n siŵr na allai unrhyw un sydd wirioneddol yn credu mewn democratiaeth gymesur, sy'n gweithredu'n dda, wrthwynebu hyn.
Mae hefyd yn amlwg bod Senedd fwy ei maint yn hwyluso atebolrwydd a chraffu mwy effeithiol ar y Llywodraeth. Mae nifer y meysydd polisi sydd bellach wedi eu datganoli yn golygu bod Aelodau'r gwrthbleidiau yn aml yn cael portffolios lluosog, gan orlwytho'r gwaith craffu angenrheidiol ar draws nifer cyfyngedig o unigolion. Bydd cynyddu nifer Aelodau'r Senedd, felly, yn cyfoethogi, yn gwella ac yn grymuso gwleidyddiaeth wrthbleidiol yng Nghymru—rhywbeth y byddwn yn gobeithio bod hyd yn oed Aelodau Torïaid y Senedd hon yn cydnabod, pan ddim yn y Siambr hon neu o flaen camera.
Rydym hefyd yn falch y bydd y Mesur hwn yn mynd i'r afael â'r angen amlwg am ddiwygio ein system bleidleisio, gan ddileu, unwaith ac am byth, y system gyntaf i'r felin hynafol sydd wedi bod mor niweidiol i ymgysylltiad a brwdfrydedd pleidleiswyr yn etholiadau San Steffan. Mae holl Aelodau Plaid Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn nad yw'r Bil hwn yn cyflawni popeth yr hoffem ei weld o ran diwygio seneddol. Mae ein polisi fel plaid yn parhau i fod yn gefnogol o'r model pleidlais sengl drosglwyddadwy yn hytrach na'r system restr gaeedig a fydd yn cael ei gweithredu gan y Bil hwn, a byddwn yn parhau i wthio i hyn gael ei ystyried fel rhan o'r broses adolygu yn 2030. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan un blaid yn y Senedd y mwyafrif o ddwy ran o dair sy'n ofynnol i gyflawni diwygio ar ei phen ei hun. Ac felly, rydym wedi gweithio'n bragmataidd gyda'r Llywodraeth i ddatblygu set o gynigion a fydd yn medru cyrraedd y trothwy hwn.
I droi at sylwedd y grŵp yma, rydym yn derbyn rhesymeg y Llywodraeth i greu eglurder o ran dyletswyddau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i gyhoeddi adroddiadau ar adolygiadau ffiniau etholaethol, ac i hysbysebu’r wybodaeth mewn mannau priodol, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliannau 1, 24, 25, 26, 27, 30 a 31.