Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: enw’r Comisiwn (Gwelliannau 44, 45, 46, 47, 48, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 49, 50, 51, 115, 52)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 30 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:48, 30 Ebrill 2024

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n anrhydedd i gychwyn Cyfnod 3 yn ein trafodion ar y Bil yma o bwys hanesyddol o ran ein llwybr cenedlaethol a'n bywyd democrataidd.

Mae'r gwelliant yma a'r, beth yw hi, 78 o welliannau cysylltiedig—does neb yn gallu ein cyhuddo ni o beidio â bod yn drylwyr, a dwi'n ddiolchgar iawn am y cymorth a ges i, wrth gwrs, gyda'r clercod—yn newid enw'r corff sydd yn gyfrifol o fewn y Bil yma am benderfynu ffiniau'r seddi newydd ar gyfer y Senedd hon i gymryd mas y term 'ffiniau'. Mae hynny, ar yr olwg gyntaf, yn edrych braidd yn wrth-resymegol, felly dyma ychydig o esboniad cefndirol.

Enw'r corff perthnasol ar hyn o bryd ydy'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Dyna'r corff sydd ar hyn o bryd yn adolygu'r trefniadau etholiadol o fewn llywodraeth leol, ac mae'r enw presennol yn ceisio ei wahanu o'r Comisiwn Ffiniau i Gymru, sy'n gyfrifol am benderfynu ffiniau etholaethau Senedd San Steffan. Yn y Bil yma, fel mae'n sefyll ar hyn o bryd, mae enw'r corff yn newid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—dwi'n edrych ar y Cwnsler Cyffredinol i weld a ydw i'n gywir—ond, yn Saesneg, Democracy and Boundary Commission Cymru, a hynny yn bennaf i adlewyrchu swyddogaeth ychwanegol y corff i fod yn gyfrifol am osod ffiniau newydd y Senedd genedlaethol o 2026 ymlaen. Mae hyn i gyd yn gwneud synnwyr, a dylwn i ddweud hynny, na ddylwn, gan taw fi yn rhannol oedd wedi cyd-gytuno'r awgrym am yr enw newydd yma wrth drafod y Mesur drafft yn rhinwedd fy rôl ar y pryd yn arweinydd Plaid Cymru

'Felly, pam y gwelliant yma?', dwi'n eich clywed chi'n ei ofyn. Wel, ers cyhoeddi'r Bil hwn, mae yna Fil arall gennym hefyd, y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), sydd yn newid swyddogaethau'r comisiwn dan sylw. Mae'n ymestyn swyddogaeth y comisiwn, er enghraifft, i fod yn gyfrifol am benderfynu lefelau cymeradwyaeth i gynghorwyr a deiliaid swyddi eraill o fewn llywodraeth leol. Mae'n rhoi swyddogaeth ganolog i'r comisiwn, trwy'r bwrdd rheoli etholiadol newydd, wrth asesu cynlluniau peilot sydd yn arloesi ym maes etholiadau yng Nghymru. A'r tebygrwydd yw, hefyd, mai'r corff yma fydd cartref safle gwybodaeth ar-lein newydd arfaethedig i bleidleiswyr, fydd yn cynnig gwybodaeth am ymgeiswyr a'r broses etholiadol ehangach. 

Mae nodyn esboniadol y Bil arall yna yn dweud y bydd gan y comisiwn, ac rwy'n dyfynnu, 

'cyfrifoldeb am oruchwylio’r gwaith o gyd-drefnu a gweinyddu etholiadau datganoledig...yn ogystal â chynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd democrataidd y wlad.'

Felly, cwmpas o ran cyfrifoldeb sydd yn eang iawn yn ymwneud ag iechyd democrataidd, ac, yn wyneb y diffiniad hwnnw, rydw i wedi llunio'r newid yma mewn enw, oherwydd ymddengys i mi y bydd gan y corff ar ei newydd wedd swyddogaeth eang o ran democratiaeth Cymru, ac mae uwcholeuo dim ond un agwedd ar hynny, sef y swyddogaeth ffiniau, ymhlith llawer o dan ddemocratiaeth yn gyffredinol, yn rhoi camargraff ynglŷn â natur eang y swyddogaethau y bydd gan y corff. Mae ailenwi'r corff yn symlach, yn Gomisiwn Democratiaeth Cymru, yn adlewyrchiad gwell o'r sefyllfa newydd yma. Mae teitlau byrrach i gyrff cyhoeddus bob amser i'w ffafrio, dwi'n teimlo, o'i gymharu â rhai hir a chlogyrnaidd, yn enwedig o bersbectif dealltwriaeth y dinesydd o rôl a chyfansoddiad y cyrff dan sylw.

Felly, dyna air o esboniad o ran diben y gwelliant. Dylwn nodi, o ran proses, mai fy mwriad oedd cyflwyno'r gwelliant fel gwelliant procio yn ystod y trafodion ar y Bil arall, gan fod y pwyntiau rwyf wedi eu nodi yn deillio o'r Bil hwnnw. Ond canfuwyd, ar ôl trafod â chlercod y Senedd, na fyddai'r gwelliant o fewn sgôp y Bil hwnnw, a dim ond o fewn cyd-destun y Bil yma y gellir newid enw, y gellir trafod ailenwi. Felly, oherwydd rhyfeddodau gweithdrefnau'r broses seneddol, rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt yma o drafod gwelliant i newid enw corff sydd yn edrych yn rhesymol yng nghyd-destun y Bil yma ond ddim yng nghyd-destun Bil arall nad yw'n bosib gwella i'r perwyl arbennig yma. 

Gwelliant procio ydy hwn o hyd, o ran fy mwriadau i, er mwyn o leiaf rhoi'r cyfle i roi ystyriaeth i'r mater a chlywed y dadleuon ar y naill ochr a'r llall. Rwyf wedi, serch hynny, fel roeddwn i wedi cyfeirio, cyflwyno rhestr gyflawn o welliannau er mwyn rhoi'r cyfle i ni gyflawni'r newid os taw dyna fyddai farn y Senedd, ond nid wyf yn bwriadu gwasgu nhw i gyd i bleidlais os yw hi'n glir nad oes mwyafrif yn mynd i fod o blaid. Felly, gyda hynny o eiriau i ddechrau, edrychaf ymlaen at glywed barn fy nghyd-Aelodau ar draws y Senedd.