Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 30 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 1:40, 30 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Nododd y cwestiwn a ddechreuodd y sesiwn holi hon gan Julie Morgan fod cwmni tacsi yn amlwg wedi torri'r rheolau gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Rwy'n credu bod perchennog y cwmni tacsis hwnnw wedi cyfrannu at eich ymgyrch arweinyddiaeth, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech chi wedi datgan buddiant o gyfeirio atyn nhw'n anfwriadol, ond rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau rhoi hynny ar y cofnod fel y gall pobl ddeall eich bod chi wedi derbyn rhodd ganddyn nhw. Ac wrth sôn am roddion, rydym ni'n amlwg wedi gweld tybiaethau a sylwadau parhaus ynghylch y rhodd sylweddol a gawsoch ar gyfer eich ymgyrch arweinyddiaeth. Nododd y cwmni hwnnw a roddodd i chi, ar ddiwedd eu cyfrifon ar 30 Mehefin 2023, mewn troednodyn ar eu cyfrifon,

'Felly, mae'r cyfleoedd allanol a grëwyd i Grŵp Dauson lwyddo yn parhau i fod wedi'u hysgogi gan ddeddfwriaeth yn bennaf'.

Chi yw arweinydd a Phrif Weinidog y Llywodraeth sy'n pennu'r agenda ddeddfwriaethol. Allwch chi ddim gweld pam mae pobl yn poeni'n ddwys iawn am y tensiynau rhwng y rhodd sylweddol, y sylwadau y gofynnodd y cwmni i bobl eu gweld yn eu cyfrifon am y cyfleoedd deddfwriaethol, a'ch derbyniad o'r rhodd honno?