1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 30 Ebrill 2024.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Nododd y cwestiwn a ddechreuodd y sesiwn holi hon gan Julie Morgan fod cwmni tacsi yn amlwg wedi torri'r rheolau gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Rwy'n credu bod perchennog y cwmni tacsis hwnnw wedi cyfrannu at eich ymgyrch arweinyddiaeth, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech chi wedi datgan buddiant o gyfeirio atyn nhw'n anfwriadol, ond rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau rhoi hynny ar y cofnod fel y gall pobl ddeall eich bod chi wedi derbyn rhodd ganddyn nhw. Ac wrth sôn am roddion, rydym ni'n amlwg wedi gweld tybiaethau a sylwadau parhaus ynghylch y rhodd sylweddol a gawsoch ar gyfer eich ymgyrch arweinyddiaeth. Nododd y cwmni hwnnw a roddodd i chi, ar ddiwedd eu cyfrifon ar 30 Mehefin 2023, mewn troednodyn ar eu cyfrifon,
'Felly, mae'r cyfleoedd allanol a grëwyd i Grŵp Dauson lwyddo yn parhau i fod wedi'u hysgogi gan ddeddfwriaeth yn bennaf'.
Chi yw arweinydd a Phrif Weinidog y Llywodraeth sy'n pennu'r agenda ddeddfwriaethol. Allwch chi ddim gweld pam mae pobl yn poeni'n ddwys iawn am y tensiynau rhwng y rhodd sylweddol, y sylwadau y gofynnodd y cwmni i bobl eu gweld yn eu cyfrifon am y cyfleoedd deddfwriaethol, a'ch derbyniad o'r rhodd honno?
Felly, ceir un neu ddau o wahanol bwyntiau i'w gwneud yma. Y cyntaf yw bod Veezu Holdings Limited wedi gwneud rhodd. Mae hynny wedi cael ei ddatgan yn ffurfiol ac yn briodol. I ateb y cwestiwn cyntaf am nodi'r camau a gymerwyd ganddyn nhw i gael gwared ar y gyrrwr-weithredwr unigol hwnnw o'u platfform ac o ran adrodd y mater hwnnw i Gyngor Caerdydd fel y dylen nhw fod wedi ei wneud—. Ac rwy'n falch eu bod nhw wedi gwneud hynny.
O ran y ddeddfwriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar ei thrywydd, mae'n dychwelyd eto at y cwestiwn cyntaf. Byddwn ni'n mynd ar drywydd y gwelliannau i dargedau bioamrywiaeth, byddwn ni'n gwella nid yn unig y ddeddfwriaeth, ond hefyd y dirwyon i bobl nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau sy'n mynd i mewn i ddeddfwriaeth. Bydd gan y Senedd hon o'i blaen yn y tymor hwn y Bil cynaliadwyedd amgylcheddol sylweddol hwnnw. Bydd yn cael ei gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Nid oes unrhyw gwestiwn o unrhyw newid i ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflwyno'r mesurau hynny. Ac eto, rydym ni'n dychwelyd at yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd, lle mae rhoddion wedi cael eu datgan yn briodol neu lle mae'r rheolau wedi cael eu dilyn i wneud hynny, ac nid oes unrhyw gysylltiad rhwng unrhyw ddewis y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud a'r hyn sydd wedi digwydd yn y gystadleuaeth arweinyddiaeth, ac mae pob gwrthdaro gwirioneddol yn cael ei reoli. Mae hwn yn fusnes, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i. Ni allwn, nid wyf ac ni fyddaf yn gwneud unrhyw fath o ddewis gweinidogol o amgylch y cwmni hwnnw.
Wel, fe glywsom ni hefyd mewn cwestiynau y prynhawn yma gan yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd am ba mor werthfawr yw gwastadeddau Gwent. Ond rydym ni'n gwybod bod yr unigolyn a wnaeth y rhodd i chi wedi bod yn destun achos llys ac wedi ei gael yn euog ar ddau gyfrif o ddympio a llygru gwastadeddau Gwent. Ond, yn yr un modd, rydym ni wedi clywed gan ffigurau uwch eraill o fewn eich rhengoedd eich hun dros yr wythnos ddiwethaf—Andrew Morgan, er enghraifft; cefnogwr brwd ohonof i ar Twitter, dylwn ychwanegu—sydd wedi amlygu, yn amlwg, ei bryderon, a fe yw arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym ni hefyd wedi cael Beth Winters, Aelod Seneddol Cwm Cynon, ac roedd hyd yn oed eich dirprwy de facto, Ken Skates, pan gafodd ei gyfweld ddydd Mercher diwethaf, yn ei chael hi'n anodd, rwy'n credu, i'w roi'n garedig, i amddiffyn y sefyllfa. Felly, beth ydych chi'n ei ddweud wrth yr unigolion pwysig hynny o fewn y mudiad Llafur sydd â phryderon gwirioneddol, a'r cyhoedd ehangach sydd â phryderon gwirioneddol, pan fyddan nhw'n edrych ar y dystiolaeth sydd o'u blaenau?
Eto, os hoffech chi ddychwelyd at y dystiolaeth, y dystiolaeth yw bod rhoddion wedi cael eu datgan yn gwbl briodol gan y ddwy ymgyrch yn dilyn y gystadleuaeth arweinyddiaeth. Mae proses adolygu ffurfiol yn cael ei chynnal i edrych ar hyd yr ymgyrch, cyllid ymgyrchu ac amrywiaeth o faterion eraill. Mae hynny'n cael ei drafod yn agored ac yn dryloyw. Mater i'm plaid yw penderfynu ar y rheolau ar gyfer cystadlaethau arweinyddiaeth yn y dyfodol.
Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw canolbwyntio ar fusnes y Llywodraeth hon a'r wlad hon, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl: yr argyfwng costau byw; y realiti bod llawer o deuluoedd yn dal i fynd i'w gwelyau yn poeni am dalu eu biliau ar ddiwedd yr wythnos neu ddiwedd y mis; y realiti ein bod ni'n gwybod bod gennym ni fwy i'w wneud o ran ein gwasanaethau cyhoeddus; pwysigrwydd allweddol y setliad cyllido sydd gennym ni; ac wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, y newyddion gan Tata eu bod nhw'n bwriadu bwrw ymlaen â'u cynigion nid yn unig i gael gwared ar dros 2,500 o swyddi uniongyrchol, ond i gael effaith ar economi mwy na 10,000 o bobl. Dyna'r busnes y mae'r Llywodraeth hon yn ymgysylltu ag ef.
Dyna pam, yr wythnos nesaf, yr wyf i'n bwriadu mynd i Mumbai i gyfarfod â Tata i ddadlau'r achos eto nid yn unig dros y dewis amgen, ond achos clir yr ydym ni wedi parhau i'w wneud ac y byddwn ni'n parhau i'w wneud i beidio â chael unrhyw ddiswyddiadau gorfodol caled, ac i edrych eto ar y cyfleoedd ar gyfer dur yng Nghymru a Phrydain, a'r hyn y bydd yn ei olygu nid yn unig ar gyfer ein dyfodol adnewyddadwy, ond ar gyfer dyfodol cyffredinol ein heconomi. Dyna Brif Weinidog a Llywodraeth sy'n bwrw ymlaen â'r hyn sy'n bwysig i bobl Cymru.
Mae'n hyfryd clywed eich bod chi'n cael adolygiad mewnol yn y Blaid Lafur i ymchwilio i hyn i gyd. Mae'n fy atgoffa o oes y Blaid Gomiwnyddol pan oedden nhw'n arfer cael y politbiwro yn llongyfarch eu hunain ac yn dweud, 'Rydym ni wedi gwneud gwaith gwych, cymerwn ni olwg gyflym ar y cynllun pum mlynedd nesaf, ac rydym ni'n dal i fod yn yr un sefyllfa.' Y gwir amdani yw, mae gan bobl gyffredin ar y stryd gwestiynau difrifol am y mater penodol hwn. Mae'n codi dro ar ôl tro, ynghylch pam £200,000, a'r hyn a ddisgwyliwyd o dderbyn y £200,000 hwnnw. Oherwydd ni chafodd ei roi i'r Blaid Lafur, fe'i rhoddwyd i chi yn benodol i geisio cael swydd y Prif Weinidog.
Collodd Humza Yousaf ei swydd fel Prif Weinidog ddoe oherwydd iddo fethu â deall y sefyllfa. Prif Weinidog, ydych chi'n methu â darllen meddyliau'r cyhoedd yng Nghymru ar y mater penodol hwn trwy beidio â dod ymlaen a chomisiynu'r ymchwiliad annibynnol hwnnw i'r materion pwysig y mae pobl wedi nodi fel rhai sy'n peri pryder mawr iddyn nhw, fel y gallwn ni gael eglurder ynghylch hyn, yn hytrach na'ch cael chi'n farnwr, yn rheithgor ac yn ddienyddiwr, os mai dyna sy'n ofynnol ar ddiwedd y broses hon? Rwy'n gobeithio nad ydyw, ond yn y pen draw rydym ni angen yr eglurder a dyna pam rydym ni angen yr ymchwiliad annibynnol. Beth sydd gennych chi i'w ofni?
Rwy'n credu bod nifer o bwyntiau i'w gwneud. Y cyntaf yw bod etholiad, wrth gwrs—nid ceisio cael y swydd, cael etholiad ar gyfer y swydd. Fe wnaeth aelodau ddewis mewn pleidlais un aelod, un bleidlais. Yr ail yw, cyfeiriodd yr Aelod at Humza Yousaf, ac mae'n ein hatgoffa o ba mor anodd a chreulon y gall busnes gwleidyddiaeth fod. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, ym mhob un o'm rhyngweithiadau â Humza Yousaf, roeddwn i o'r farn ei fod yn unigolyn rhadlon. Wrth gwrs, mae gennym ni wahanol farn ar ddyfodol cyfansoddiadol, ond rwy'n dymuno'n dda iddo ef a'i deulu. Bob hyn a hyn dylem gydnabod bod yna bobl radlon ar bob ochr i'n rhaniad gwleidyddol, yn ceisio gwneud y peth iawn dros eu gwlad.
O ran sut mae'r cyhoedd yn teimlo, nid wyf i'n credu y bydd y cyhoedd yn ralïo i faner y Torïaid o ran sut y dylid ariannu gwleidyddiaeth. Yn wir, pan edrychwch chi ar sut mae'r cyhoedd yn teimlo am amrywiaeth eang o faterion, nid yw'r dystiolaeth diweddaraf o arolygon yn cefnogi dadl yr Aelod. Mae'r cyhoedd yn poeni fwyaf ac yn fwyaf obsesiynol am yr argyfwng costau byw, maen nhw'n poeni am ddyfodol y DU a Chymru, maen nhw'n poeni am ba mor dda y mae eu gwasanaethau cyhoeddus wedi'u hariannu, ac maen nhw'n poeni am y math o economi y gallem ni ei chael. Pe baech chi'n mynd i Bort Talbot neu i Lan-wern neu i Shotton neu i Drostre, fyddech chi ddim yn dod o hyd i bobl ag obsesiwn am y mater y mae'r Aelod eisiau ei godi. Maen nhw'n poeni am y mater hwn. Maen nhw'n poeni am fater dyfodol eu swyddi. Maen nhw'n poeni am ddyfodol eu cymunedau. Maen nhw'n poeni pa un a yw Llywodraeth y DU yn barod i gefnogi dyfodol boddhaol i ddur. Dyna beth mae pobl yn poeni amdano. Dyna fydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio arno. Rwy'n edrych ymlaen at wneud yn union hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae pobl eisiau gwybod bod ganddyn nhw Lywodraeth a Phrif Weinidog y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw, a dyna pam mae cymaint o sylw cyhoeddus ar y crebwyll gwael y gwnaethoch chi ei ddangos wrth dderbyn yr arian hwnnw yn rhan o'ch ymgyrch arweinyddiaeth. Edrychaf ymlaen at barhau â'r craffu pan edrychwn ni ar hyn eto yn y Senedd brynhawn yfory, oherwydd ni wnaiff y cwestiynau hyn ddiflannu.
Nodais hefyd efallai y dylai'r Prif Weinidog fyfyrio ar ba un a oes angen datganiad o fuddiant pan soniodd nid unwaith ond ddwywaith, yn gadarnhaol, am gwmni tacsi, Veezu, y rhoddwyd £25,000 iddo ganddo fel rhodd i'w ymgyrch. Mae'n fater o ddatganiad o fuddiant. Ond, y prynhawn yma, rwy'n mynd i droi at Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ym mis Chwefror, mi gyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd drosodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ôl canfyddiad bod yna ddiwylliant o aflonyddu rhywiol a misogyny. Mi wnaeth y comisiynwyr a gafodd eu hanfon i mewn gan y Llywodraeth benodi Stuart Millington yn brif swyddog tân interim. Ond mi ddaeth hi i'r amlwg bod Mr Millington ei hun yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth yn dilyn cyhuddiad o aflonyddu a gwahaniaethu yn ei rôl efo gwasanaeth tân ac achub y gogledd. Rŵan, er i undeb y frigâd dân, yr FBU, ofyn am dynnu ei apwyntiad yn ôl, mi gafodd y penodiad ei amddiffyn gan y comisiynwyr. Ond ydy'r Prif Weinidog yn gwbl hyderus bod gan y comisiynwyr a'r Gweinidogion yr holl wybodaeth berthnasol yn eu meddiant er mwyn gallu dod i gasgliad am briodoldeb ei apwyntiad o, pa un ai ydy hyn yn wybodaeth gyhoeddus ai peidio?
Fe wnaf i ddychwelyd yn gyntaf at y pwynt am Veezu, y ffaith bod datganiad wedi cael ei wneud ac y cyfeiriwyd ato heddiw, ac roeddwn i'n tynnu sylw'n ffeithiol at yr hyn yr oedden nhw wedi ei wneud mewn ymateb i'r driniaeth anodd dros ben a chwbl annerbyniol o etholwr Julie Morgan. Ac mae hwnnw'n fater syml o ffaith bod yr adroddiad hwnnw wedi cael ei wneud.
O ran realiti penodi Stuart Millington yn brif swyddog tân dros dro gwasanaeth tân ac achub de Cymru gan y comisiynwyr, rwy'n cydnabod, mewn ymchwiliad mewnol blaenorol, er na chymerwyd unrhyw gamau disgyblu, bod pwyntiau dysgu i Mr Millington am ei arddull reoli. Rwy'n deall y math o sylwadau y gall hynny arwain ato. Wrth gwrs, rwyf i wedi bod yn gyn stiward siop undeb llafur ac yn gyfreithiwr cyflogaeth fy hun. Rwy'n deall llawer am realiti byd gwaith a pha mor anodd y gall fod i bobl wneud cwynion yn y lle cyntaf, ond hefyd mewn materion dadleuol sut mae angen yn aml i'r arweinydd neu'r rheolwr dan sylw gyflawni a derbyn newidiadau i'w arddull reoli ei hun.
Wrth gwrs, mae yna dribiwnlys cyflogaeth y disgwylir iddo gael ei gynnal ar 7 Mai, y mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymatebydd a enwir ynddo. Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cymryd diddordeb yn y dystiolaeth a ddarperir yn y tribiwnlys hwnnw ac, yn wir, y canlyniad. Os bydd angen cymryd camau pellach ar ôl hynny, byddwn ni'n gwneud hynny, ond mae proses ar waith i gael arweinydd parhaol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'r gwelliant y mae'n amlwg sydd ei angen o fewn y sefydliad hwnnw.
Mae'r penodiad dros dro yn un pwysig. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae newyddiadurwyr yn ITV Wales yn mynd ar ei drywydd. Pan benodwyd Stuart Millington, cyhoeddodd prif swyddog tân gogledd Cymru, Dawn Docx, ddatganiad yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Er y byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau ar unrhyw gŵyn benodol, rydym ni'n rhoi manylion achosion o ymddygiad amhriodol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys bwlio ac aflonyddu, yn rheolaidd.'
Nawr, dywedwyd wrthym ni mai cyfleoedd dysgu, neu fân gyfleoedd dysgu, yn unig oedd y cwynion yr oedd Mr Millington yn eu hwynebu—ymadrodd a ailadroddwyd gan y Prif Weinidog heddiw. Ni ystyriwyd bod yr un ohonyn nhw'n ddigon difrifol i gyrraedd y trothwy i banel disgyblu gyfarfod, ond mae gen i gopi yma o'r adroddiad a gyflwynwyd i Dawn Docx ar 12 Hydref y llynedd, adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan wasanaeth tân gogledd Cymru ar honiadau yn erbyn Mr Millington. Daeth i'r casgliad bod tystiolaeth i gefnogi achos prima facie a allai fod yn gyfystyr â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, neu aflonyddu ar sail gweithgarwch undeb llafur. A yw'r Prif Weinidog yn fodlon bod ymateb Dawn Docx wedi rhoi adlewyrchiad cywir o gasgliadau'r adroddiad hwn? Ac a yw'n gwybod pa un a oedd y comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r adroddiad annibynnol hwn pan wnaethon nhw ddyrchafu Mr Millington i'w swydd bresennol?
Nid wyf wedi cael y fantais o ddarllen yr adroddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato o fis Hydref y llynedd. Y pwynt am achos prima facie yw bod angen i chi ymchwilio i hynny'n llawn wedyn er mwyn deall yr hyn sy'n dod o hynny. Ac rwyf wedi cynrychioli yn fy mywyd cyn dod i mewn i'r Siambr hon bobl ar bob ochr i'r berthynas gyflogaeth, felly ni fyddwn eisiau ceisio gwneud dyfarniad ar adroddiad nad wyf wedi ei ddarllen, nad wyf wedi cael mynediad ato, ac, yn wir, heb ddeall yr ymchwiliad a gynhaliwyd neu na chynhaliwyd.
Yr hyn sy'n bwysig, rwy'n credu, yw pan ddarperir gwybodaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wneud dewis yn ei chylch, gallwch chi ddeall pam y digwyddodd hynny. Pan mewn gwirionedd, fel yn yr achos hwn, ceir awgrym y gallai fod mwy o wybodaeth ar gael, wel byddwn i eisiau i ni ystyried hynny. Ac, fel y dywedais, mae hwn yn fater lle mae tribiwnlys cyflogaeth yn cael ei gynnal am Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, lle gallai Mr Millington fod yn rhan o hynny neu beidio. Bydd angen i mi ddeall hynny, a gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio eisiau deall hynny hefyd, i weld a oes unrhyw beth i ni ei wneud, ond y pwynt cyntaf yw i'r comisiynwyr ddeall sut mae hynny'n edrych.
Mae hyn yn bwysig i gael yr arweinyddiaeth a'r diwylliant yn iawn, nid yn unig yn ne Cymru, ond ar draws ein hawdurdodau tân ac achub. Nid oes dim o hyn yn tynnu oddi wrth ddewrder a gwasanaeth yr holl ddiffoddwyr tân ledled y wlad, ond mae'n rhaid i'r diwylliant fod yn iawn i bawb gael y cyfle i ymuno ac i allu symud ymlaen fel y dylen nhw o fewn yr awdurdod tân ac achub, a lle nad yw hynny'n wir, rydym ni eisiau gweld camau'n cael eu cymryd.
Mae'r Prif Weinidog yn iawn: mae'n allweddol yr hyn a ddigwyddodd ar ôl yr ymchwiliad annibynnol hwn. Holwyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio am benodiad Mr Millington yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dim ond yr wythnos diwethaf. Yn ei thystiolaeth, dywedodd, do, cyn penodi Mr Millington, bod cwyn wedi cael ei gwneud amdano yn 2023, ei fod wedi bod yn destun ymchwiliad, a bod
'hwnnw wedi dod i'r casgliad nad oedd achos disgyblu i'w ateb.'
Ond rydym ni'n gwybod bod yr ymchwiliad allanol annibynnol wedi dweud bod achos i fynd ar ei drywydd. Fe wnaeth uwch gynghorydd tân ac achub y Llywodraeth, Dan Stephens, hefyd fychanu'r honiadau yn erbyn Mr Millington. Yn yr un pwyllgor, dywedodd fod yr ymchwiliad disgyblu wedi canfod nad oedd unrhyw agweddau ar yr honiadau a wnaed yn erbyn Mr Millington yn cyrraedd y trothwy ar gyfer camau disgyblu. Ond rydym ni eisoes wedi canfod bod yr adroddiad allanol wedi dod o hyd i dystiolaeth i gefnogi achos prima facie a allai fod yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu, a phe bai'n cael ei gadarnhau, daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai hyn fod yn gyfystyr â chamymddwyn neu gamymddwyn difrifol. Nawr, o gofio bod Dan Stephens yn ymwybodol
'o'r holl gwynion a wnaed yn erbyn prif swyddogion a'r canlyniadau'— ei eiriau i'r pwyllgor—a oes gan y Prif Weinidog, eto, hyder bod y Llywodraeth wedi cael cyfrif cywir o'r ymchwiliadau, yr holl ymchwiliadau, gan gynnwys yr un allanol annibynnol hwn?
Rwy'n credu bod dwy agwedd bwysig ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Mae'n cynnwys ei sylw cynharach am achos prima facie; nid casgliad ar ddiwedd proses ddisgyblu yw hwnnw, ond y pwynt ynglŷn â chamau disgyblu pe bai'r cyhuddiadau prima facie hynny yn cael eu cadarnhau, a dyna'r hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo. Nid yw'r camau disgyblu hyd yma wedi dod o hyd i achos dros weithredu a gadarnhawyd. Gallai'r tribiwnlys cyflogaeth a'r dystiolaeth ynddo newid y darlun. Rwy'n gwybod mai'r hyn nad wyf i'n barod i'w wneud yw gwneud sylw cyn hynny, cyn i mi ddeall yr hyn sydd wedi digwydd. Bydd yr un peth yn wir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio. Mae angen i ni ddeall pa dystiolaeth a ddarperir yn y tribiwnlys cyflogaeth hwnnw, ac os yw honno'n newid y sefyllfa i'r comisiynwyr.
Y darlun ehangach, fodd bynnag, yw'r newid diwylliannol sydd ei angen o hyd o fewn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru i wneud yn siŵr bod y diwylliant yn y gwaith yn un croesawgar, lle ceir her a chefnogaeth priodol yn y gweithle, ac nad ydym yn goddef ymddygiadau yr ydym ni'n benderfynol o'u gyrru allan o gymdeithas ehangach. Dyna'r llwybr yr wyf i eisiau i ni ei ddilyn, a pheidio â chael ein tynnu oddi wrtho. Os yw hynny'n golygu bod her gydag unrhyw uwch reolwr yn y gwasanaeth tân ac achub mewn unrhyw ran o Gymru, yna byddaf eisiau gweld hynny'n cael sylw ac i Weinidogion gael eu hysbysu'n briodol nid yn unig am yr ymchwiliadau, ond y camau y mae angen eu cymryd.