Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 30 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:50, 30 Ebrill 2024

Ym mis Chwefror, mi gyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd drosodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ôl canfyddiad bod yna ddiwylliant o aflonyddu rhywiol a misogyny. Mi wnaeth y comisiynwyr a gafodd eu hanfon i mewn gan y Llywodraeth benodi Stuart Millington yn brif swyddog tân interim. Ond mi ddaeth hi i'r amlwg bod Mr Millington ei hun yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth yn dilyn cyhuddiad o aflonyddu a gwahaniaethu yn ei rôl efo gwasanaeth tân ac achub y gogledd. Rŵan, er i undeb y frigâd dân, yr FBU, ofyn am dynnu ei apwyntiad yn ôl, mi gafodd y penodiad ei amddiffyn gan y comisiynwyr. Ond ydy'r Prif Weinidog yn gwbl hyderus bod gan y comisiynwyr a'r Gweinidogion yr holl wybodaeth berthnasol yn eu meddiant er mwyn gallu dod i gasgliad am briodoldeb ei apwyntiad o, pa un ai ydy hyn yn wybodaeth gyhoeddus ai peidio?