– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 24 Ebrill 2024.
Dwi wedi cytuno i dderbyn cwestiwn brys i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i'w ofyn gan Adam Price.
Dwi'n ddiolchgar, Llywydd.
1. A wnaiff y Llywodraeth ddatgan pa wybodaeth y gall ei rhannu parthed y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw? EQ40
Rwy’n bryderus iawn o glywed am y digwyddiad ofnadwy yn Ysgol Dyffryn Aman yn gynharach heddiw, ac rwy'n cydymdeimlo gyda’r disgyblion, y staff a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, ac mae fy swyddogion yn darparu cymorth lle bo angen. Mae’n rhy gynnar i gael darlun clir o fanylion yr hyn sydd wedi digwydd. Hoffwn gynnig fy niolch a fy nghefnogaeth i staff yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau brys, a ymatebodd i’r sefyllfa mor gyflym a phroffesiynol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb hynny. Mi oedd e'n ysgytwad i gymaint ohonom ni. Fyddai neb ohonom ni wedi meddwl am unwaith y byddem ni'n wynebu'r sefyllfa yma. Fy ysgol i yn fy nhref i, fel sawl Aelod arall fan hyn, ac, wrth gwrs, o ran y gymdogaeth gyfan, mae Ysgol Dyffryn Aman yn gymaint o ganolbwynt i'r gymuned gyfan. Dwi'n ategu yn fawr y diolchiadau mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i staff yr ysgol a'r gwasanaethau brys am y ffordd gwnaethon nhw ymateb mor gyflym i'r sefyllfa. Ac, wrth gwrs, mae ein meddyliau ni i gyd, yn bennaf ar hyn o bryd, wrth gwrs, gyda'r sawl sydd wedi cael eu hanafu, ac mae ein gweddïau ni gyda nhw i gyd. Dwi'n croesawu, wrth gwrs, y geiriau o ran unrhyw gefnogaeth fydd angen ar yr ysgol, ar y gymuned ysgol, plant, teuluoedd a fydd wedi cael eu hysgwyd, wrth gwrs—cymaint o ansicrwydd. Y rhai ohonom ni sydd yn rhieni ond yn gallu dychmygu beth fyddai'r oriau yna o aros i glywed mwy wedi'u golygu.
Fel rŷch chi'n dweud, Gweinidog, wrth gwrs, mi fydd mwy o fanylion yn dod mas ar yr amser iawn yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Mae'n bwysig bod yr heddlu nawr yn cael y gofod sydd ei angen er mwyn ymchwilio yn gywir, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno—ac mae'n siŵr eich bod chi—na ddylai unrhyw un ddod i'r ysgol, boed yn aelod o staff neu ddisgybl, ac wynebu sefyllfa lle maen nhw'n mynd i gael eu hanafu, fel oedd wedi digwydd heddiw? Felly, ar yr adeg iawn, a heb dorri ar draws nawr, wrth gwrs, y gwaith pwysig sydd yn gorfod digwydd yn ystod y dyddiau nesaf—ar yr adeg iawn, a fyddai'r Llywodraeth yn barod i gynnull, i gomisiynu gwaith ynglŷn â'r cwestiwn yma o sut rŷn ni'n gallu gwneud yn sicr—pa bethau mwy dŷn ni'n gallu eu gwneud dŷn ni ddim yn eu gwneud, pa wersi sydd yna, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion ni yn llefydd diogel i bawb sydd yn mynd yno am un rheswm, ontefe, i ddysgu, ac a ddylai fod yn gallu cael eu sicrhau bod y mannau hynny yn cael eu gwneud mor ddiogel ag sy'n bosib?
Diolch yn fawr, Adam Price, am eich cwestiwn atodol. Rwy’n ymwybodol ichi fynychu’r ysgol, fel y gwnaeth Aelodau eraill yn y Siambr, a bod hynny’n peri cryn ofid, ac mae pob un ohonom wedi ein syfrdanu'n fawr gan y digwyddiadau heddiw, ac fel chi, rwy'n falch iawn fod y gwasanaethau brys wedi gallu ymateb mor gyflym. Ein ffocws nawr, wrth inni adael i’r heddlu gynnal eu hymchwiliad, yw sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi’r ysgol, y teuluoedd a’r gymuned ehangach yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn. Rwyf am i’n holl ysgolion fod yn lleoedd diogel, meithringar. Fel rydych chi wedi'i nodi, mae'n rhaid i'r heddlu ymchwilio i hyn nawr i weld beth yn union a ddigwyddodd. Byddaf yn darparu diweddariadau pellach. Cefais i a’r Prif Weinidog ein briffio gan uwch swyddogion heddlu Dyfed-Powys yn gynharach heddiw, a byddant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, a bydd pob asiantaeth yn edrych ar unrhyw wersi y gellir eu dysgu o’r sefyllfa hon.
Er na chaf yr anrhydedd o gynrychioli Rhydaman yma yn y Senedd, cefais fy magu yn y dref honno, rwy'n ei hadnabod yn dda iawn, ac rwy'n adnabod yr ysgol yn dda iawn hefyd, a phan welwch y golygfeydd o arswyd a thrais annisgrifiadwy yn ymddangos mewn lle rydych chi'n ei adnabod, rydych chi'n meddwl y dylai fod yn rhywbeth sy'n digwydd filltiroedd i ffwrdd ar gyfandir pell, ond mae ei weld yn digwydd ar stryd rydych chi'n ei gyfarwydd â hi, mewn ysgol rydych chi'n ei hadnabod, rhieni rydych chi'n eu hadnabod yn aros y tu allan i'r ysgol i wybod a yw eu plant y tu mewn i'r ysgol yn ddiogel, mae hwnnw'n ddarlun anhygoel o anodd i'w brosesu, ac roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn heddiw hefyd.
Yr hyn yr oeddwn am ei ofyn i chi, er hynny, Weinidog, yw y bydd hyn yn amlwg yn cael effaith hirdymor, rwy'n credu, ar dref Rhydaman ac ar ddisgyblion ledled Cymru a fydd yn gweld rhai o'r lluniau hyn ac yn poeni ynglŷn â mynd i'r ysgol eu hunain y diwrnod wedyn. Yn gyntaf oll, tybed a fyddech chi'n ymuno â mi i alw ar rai cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd wedi rhannu lluniau o'r digwyddiad ar Twitter heddiw, cyn i deuluoedd gael gwybod hyd yn oed fod eu hanwyliaid yn ddiogel—. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl anghyfrifol ac rwy'n meddwl tybed a wnewch chi ymuno â mi i'w hannog i ddileu'r rheini cyn gynted â phosibl os nad ydynt wedi gwneud hynny'n barod.
Yn ail, a allech chi sôn am y gefnogaeth fugeiliol a fydd ar gael nid yn unig i'r ysgol, ond i dref Rhydaman a'r ardal ehangach? A hefyd pa neges sydd gennych i'r rhai sydd, efallai, wedi gweld rhai o'r digwyddiadau, wedi clywed am natur y digwyddiadau graffig a ddigwyddodd yn sir Gaerfyrddin heddiw, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r rhai a allai fod yn poeni am fynychu'r ysgol, wrth symud ymlaen? Diolch.
Diolch am y pwyntiau pwysig hynny, a byddwn yn sicr yn adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud am y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr heddlu wedi bod yn glir iawn wrth ofyn i bobl beidio â rhannu unrhyw luniau cyfryngau cymdeithasol o'r ysgol wrth iddynt ymchwilio i'r digwyddiad hwn. Nid yw'n ddefnyddiol, ac mae'n achosi gofid ar adeg pan fo pobl eisoes yn ofidus oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd heddiw.
O ran cefnogaeth fugeiliol, rydych chi wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn. Rydym am i blant fod yn gyfforddus a theimlo'n ddiogel yn dod i'r ysgol yn yr un ffordd ag yr ydym am i'n staff wneud hynny. Rwy'n credu y bydd yna ymateb ar unwaith o ran cefnogaeth fugeiliol, ac rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf ac rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod am wneud popeth yn ein gallu i gefnogi cymuned yr ysgol, ac rwy'n ymrwymo hefyd, wrth symud ymlaen, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn fwy hirdymor. Yn ffodus, mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o brin, ond nid yw hynny'n lleihau maint y gofid a'r trawma i gynifer o bobl heddiw.
Y peth cyntaf rwyf am ei ddweud, ac adleisio'r hyn a ddywedwyd eisoes, yw bod fy meddyliau a fy nymuniadau gorau gyda phawb sydd wedi cael eu hanafu, ond hefyd pawb sydd wedi bod yn dyst ac wedi bod yn rhan ohono, ac felly wedi'u trawmateiddio ganddo. Rwyf am dalu teyrnged i'r athrawon a weithredodd yn gyflym, i Gyngor Sir Caerfyrddin a oedd wedi rhoi hyfforddiant ar drefniadau cloi a diogelu, a'r ffaith ei bod yn ymddangos, o'r hyn a ddarllenais hyd yn hyn, fod pawb wedi deall y broses honno. Mae hynny'n hanfodol pan fyddwch chi mewn sefyllfa beryglus. Wrth gwrs ein bod wedi ein syfrdanu, ac wrth gwrs ein bod yn yn drist. Rwyf wedi gweithio gyda disgyblion yn yr ysgol honno, ac mae ethos da yno, ethos da, cyfeillgar, a'r hyn y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono—ac rwy'n siŵr eich bod—yw peidio â difetha'r ethos da, cyfeillgar hwnnw sy'n croesawu disgyblion ac athrawon ar sail un digwyddiad. Ond serch hynny, bydd yn rhaid inni ddysgu gwersi ohono: sut y digwyddodd, a ellid bod wedi'i atal. Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau. Ac rwy'n mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Tom Giffard—y cais sydd wedi'i roi allan gan yr heddlu i beidio â rhannu lluniau na sylwadau, ond i ganiatáu i'r broses briodol ddigwydd fel nad ydych chi'n achosi braw a gofid pellach i'r rhai sy'n gysylltiedig.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb yn gyflym ac yn effeithiol iawn, ac o'r hyn y gallaf ei gasglu, fe wnaethant dawelu'r sefyllfa'n weddol gyflym, yn enwedig gyda'r rhieni a'r plant a oedd yn yr ysgol.
Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n edrych ar gynnig cwnsela a help i'r disgyblion hynny, ac wrth gwrs, bydd angen i hynny ddigwydd, ac nid dim ond heddiw, oherwydd nid yw pobl bob amser yn deall i ddechrau fod angen help arnynt; efallai y bydd ei angen yn y dyfodol agos. Felly, hoffwn wybod y bydd hynny i gyd yn ei le, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn fwy hirdymor wrth i'r effeithiau ddatblygu, o bosibl, ym meddyliau pobl.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny, Joyce, ac am ail-bwysleisio pa mor bwysig yw hi i bobl beidio â rhannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol o'r hyn a ddigwyddodd heddiw. Rwyf hefyd yn adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud am broses y cyngor ar gyfer ymdrin â'r sefyllfa heddiw. Mae gan bob ysgol gynlluniau ar waith ar gyfer ymdrin ag argyfyngau, ac mae'r cynlluniau heddiw, yn amlwg, wedi cael eu gweithredu'n gyflym ac yn briodol mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n diolch iddynt ac yn eu canmol am hynny.
Os caf ail-bwysleisio, ar y cymorth bugeiliol, rwy'n cydnabod bod yna ddisgyblion a staff ac aelodau o'r gymuned y bydd angen cymorth ar unwaith arnynt o ganlyniad i'r digwyddiad hwn, ond rwyf hefyd yn rhoi ymrwymiad fy mod yn llwyr gydnabod yr angen am gymorth mwy hirdymor. Fel y gwyddoch, rwy'n teimlo'n angerddol am y cymorth iechyd meddwl a ddarparwn yn ein hysgolion. Rwyf am iddynt fod yn lleoedd diogel, meithringar, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r ysgol i sicrhau bod cymorth yno cyhyd ag y bydd ei angen.
Diolch. Rwyf innau hefyd yn siarad fel un o gyn-ddisgyblion yr ysgol a rhywun sy'n cynrychioli rhan o'r dalgylch, ac rwyf am gydymdeimlo'n fyr â phawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad a'r rhai sydd wedi ymateb.
Gwelsom i gyd y lluniau o rieni'n rhuthro at gatiau'r ysgol yn poeni am eu plant, a gall pob un ohonom sy'n rhieni ac sydd â phlant yn ein teuluoedd ddychmygu pa mor ofidus oedd hynny. Fel y dywedwyd, mae Rhydaman yn gymuned glos a chroesawgar. Rwy'n credu bod y ffaith fod hyn wedi digwydd nawr yn oes y cyfryngau cymdeithasol yn ychwanegu trallod pellach.
Ac rwy'n credu y dylem oll fyfyrio a gofyn i bobl beidio â rhuthro i ffurfio barn. Nid ydym yn gwybod yr amgylchiadau. Nid ydym yn gwybod beth a arweiniodd at hyn. Nid ydym yn gwybod beth yw profiad y person sydd wedi cael ei arestio a'r amgylchiadau'n gysylltiedig â hynny. Yn amlwg, mae rhywbeth drwg iawn wedi mynd o'i le yma. Ac fel y dywedwch, mae'r ymateb wedi bod yn galonogol iawn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn oedi cyn ffurfio barn, cyn bod pobl yn ymateb yn emosiynol, ac yn ddealladwy felly, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rwy'n meddwl bod angen i bob un ohonom oedi, a bod yn falch fod y nifer a anafwyd yn fach o ran nifer—mae ein meddyliau gyda nhw; gobeithio y byddant yn gwella'n iawn—ond rhoi'r amser sydd ei angen i feddwl am oblygiadau llawn ac achosion hyn.
Diolch yn fawr iawn, Lee, ac rwy'n cydnabod bod hyn yn arbennig o frawychus i bobl a oedd yn adnabod yr ysgol, ac yn arbennig o ofidus. Mae eich pwyntiau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'u gwneud yn dda iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gadael i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad. Roeddent yn glir iawn gyda mi a'r Prif Weinidog yn gynharach nad yw dyfalu diangen o unrhyw ddefnydd. Mae angen inni adael iddynt wneud eu gwaith ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn cefnogi'r ysgol a'r gymuned drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.