Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 24 Ebrill 2024.
Diolch yn fawr iawn, Lee, ac rwy'n cydnabod bod hyn yn arbennig o frawychus i bobl a oedd yn adnabod yr ysgol, ac yn arbennig o ofidus. Mae eich pwyntiau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'u gwneud yn dda iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gadael i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad. Roeddent yn glir iawn gyda mi a'r Prif Weinidog yn gynharach nad yw dyfalu diangen o unrhyw ddefnydd. Mae angen inni adael iddynt wneud eu gwaith ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn cefnogi'r ysgol a'r gymuned drwy'r cyfnod anodd hwn.