Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 24 Ebrill 2024.
Rwy’n bryderus iawn o glywed am y digwyddiad ofnadwy yn Ysgol Dyffryn Aman yn gynharach heddiw, ac rwy'n cydymdeimlo gyda’r disgyblion, y staff a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, ac mae fy swyddogion yn darparu cymorth lle bo angen. Mae’n rhy gynnar i gael darlun clir o fanylion yr hyn sydd wedi digwydd. Hoffwn gynnig fy niolch a fy nghefnogaeth i staff yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau brys, a ymatebodd i’r sefyllfa mor gyflym a phroffesiynol.