7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru'

– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 24 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:11, 24 Ebrill 2024

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru'. A galwaf ar y Cadeirydd, Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8544 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru', a osodwyd ar 8 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:11, 24 Ebrill 2024

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar ôl inni glywed am ddirywiad ym mherfformiad Dŵr Cymru, gyda'r cyfryngau yn tynnu sylw at ollyngiadau anghyfreithlon o garthion o nifer o weithfeydd trin dŵr gwastraff y cwmni, fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i drafod y materion yma.

Nawr, mae ein hadroddiad ni'n cynnwys 12 o argymhellion: pedwar i Lywodraeth Cymru, chwech i Dŵr Cymru, un i Ofwat ac un arall i Cyfoeth Naturiol Cymru. A dwi'n falch o ddweud bod yr ymatebion sydd wedi dod i law, ar y cyfan, beth bynnag, wedi bod yn reit gadarnhaol. Mae'n werth nodi, er tegwch, mi oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, ac, o ystyried y sefyllfa anarferol y mae yn ei ffeindio'i hun ynddi heddiw, mi fyddai o ddiddordeb i ni i gyd, dwi'n siwr, glywed os yw e am ychwanegu unrhyw beth at yr ymateb a gawson ni gan ei ragflaenydd i'r adroddiad. Felly, edrychwn ni ymlaen at hynny.

Ond mae'r pwysau, wrth gwrs, sy'n wynebu cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac, yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, yn hysbys i bawb: seilwaith hynafol, twf poblogaeth, effeithiau newid hinsawdd ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, mae'n dal i fod gan gwmnïau dŵr ddyletswyddau statudol i'w cyflawni, yn ogystal â gofynion rheoliadol i gadw atyn nhw ac ymrwymiadau gwasanaeth i'w bodloni hefyd.

Ac er bod statws nid-er-elw Dŵr Cymru yn golygu ei fod e efallai wedi osgoi peth o'r feirniadaeth lem sydd wedi'i hanelu at gwmnïau dŵr dan berchnogaeth breifat—ac rheini, nifer ohonyn nhw, â dyledion mawr—mae eu hadroddiadau perfformiad diweddar nhw yn dangos bod angen i Dŵr Cymru hefyd godi ei gêm i gyflawni ar gyfer ei gwsmeriaid a'r amgylchedd.

Ar berfformiad amgylcheddol, mae Dŵr Cymru bellach wedi disgyn o sgôr o 4*, sef ei fod yn arwain y diwydiant, i sgôr o 2* yn unig, ac mae ei berfformiad cyffredinol wedi'i gategoreiddio fel 'ar ei hôl hi' os mai dyna yw'r cyfieithiad o 'lagging' yn Saesneg, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Llygredd, gollyngiadau, ansawdd a thoriadau cyflenwad yw dim ond rhai o'r problemau y mae Dŵr Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â nhw. Ar ben hyn, mae dicter y cyhoedd, wrth gwrs, yn dilyn gollyngiadau carthion hefyd yn cynyddu. Yn gryno, felly, o ran llygredd, rŷn ni wedi pwysleisio i Dŵr Cymru mai'r unig lefel dderbyniol o ddigwyddiadau llygredd yw sero. Rŷn ni'n disgwyl i'r cwmni ddangos ei fod yn cynllunio i ymdrin â phwysau newid hinsawdd yn y dyfodol i liniaru'r risg o ddigwyddiadau llygredd difrifol. Hefyd, rŷn ni'n disgwyl i'r cwmni fod yn fwy uchelgeisiol o ran targedau lleihau llygredd yn y dyfodol.

Rhwystrau mewn pibau, neu blockages yn Saesneg, yw prif achosion y digwyddiadau llygredd, a hynny'n costio £7 miliwn y flwyddyn i Dŵr Cymru. Arian fel arall, wrth gwrs, y gellid ei wario'n well ar faterion eraill. Mae bron i chwarter y rhwystrau yn cael eu hachosi gan weips gwlyb, neu wet wipes. Ac rŷn ni'n falch iawn, wrth gwrs, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yn gynharach yr wythnos hon ei bod yn bwriadu rhoi gwaharddiad ar gyflenwi a gwerthu wet wipes sy'n gynnwys plastig. Rŷn ni'n disgwyl gweld, yn sgil hynny, gostyngiad mawr mewn llygredd o'r fath pan ddaw'r gwaharddiad hwnnw i rym.

Gan symud ymlaen at ollyngiadau carthion, fe ddaeth y mater hwn yn ôl o dan y chwyddwydr yn ddiweddar, wrth gwrs—llynedd, dwi'n meddwl, roedd hi, ontefe—yn dilyn sylw yn y cyfryngau i ganfyddiadau'r Athro Peter Hammond mewn perthynas â gollyngiadau o nifer o weithfeydd Dŵr Cymru. Nawr, ar y pryd, fe gyfeiriodd yr Athro Hammond, sydd wedi dadansoddi data ar gyfer gweithfeydd yng Nghymru a Lloegr, at Aberteifi fel y safle gwaethaf iddo fe ddod ar ei draws yn y cyd-destun yma. Yr hyn sy'n amlwg o'r stŵr a ddilynodd yw bod canfyddiad yn parhau ymhlith y cyhoedd fod Dŵr Cymru yn gallu gollwng carthffosiaeth yn anghyfreithlon a hynny heb gosb.

Nawr, roedd achos Aberteifi, wrth gwrs, yn gymhleth, a does gen i ddim amser i drafod y manylion yn llawn heddiw, heblaw i ddweud iddi gymryd llawer gormod o amser i ddod o hyd i ddatrysiad boddhaol yn fanna. Mae'r pwyllgor wedi ei gwneud yn glir nad ydyn ni'n disgwyl i'r profiad hwn gael ei ailadrodd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad iddo adolygu ei ymateb i’r achos o safbwynt rheoleiddio a gorfodi, i nodi pwyntiau dysgu a gwelliannau i brosesau sy’n bosib eu gwneud. Ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael adroddiad ar eu canfyddiadau nhw.

Yn fwy cyffredinol o ran gollyngiadau carthion, mae’r dull presennol o ymdrin â gollyngiadau, wrth gwrs, yn rhoi blaenoriaeth i ddileu niwed amgylcheddol yn hytrach efallai na lleihau pa mor aml y mae gollyngiadau’n digwydd yn y lle cyntaf. Nawr, mi fydd hi'n cymryd amser i’r dull hwn gael effaith, ac mi fydd angen buddsoddiad hirdymor sylweddol er mwyn sicrhau llwyddiant. A beth mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, yw cynnydd mewn biliau i gwsmeriaid, sy'n golygu bod cefnogaeth y cyhoedd yn hanfodol i hyn. Ac fel cam cyntaf, mae'n rhaid i'r cyhoedd ddeall y dull sy’n cael ei ddilyn. A nod argymhelliad 8 yn ein hadroddiad ni yw i geisio hwyluso hynny. 

Nawr, ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru yn gweithio tuag at ddileu niwed amgylcheddol o orlifoedd storm erbyn 2040. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gallu gweld cynnydd, felly, o flwyddyn i flwyddyn. Ac rydyn ni wedi argymell bod Dŵr Cymru yn cyhoeddi manylion ei raglen waith i ymdrin â gollyngiadau, a bod hynny'n cynnwys targedau, a hefyd eu bod nhw'n ymrwymo i gyhoeddi adroddiadau cynnydd rheolaidd. A dwi yn falch o ddweud bod y cwmni wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion hyn.

Mae Dŵr Cymru yn awyddus, wrth gwrs, i fwrw ymlaen â datrysiadau mwy arloesol, er enghraifft rhai sy'n seiliedig ar natur, rhai sy'n creu gwlypdiroedd ar y cyd, efallai, â’r sector amaethyddiaeth neu amgylcheddol er mwyn ymdrin â’r llygredd sy’n llifo i mewn i’n hafonydd. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn dod â manteision lluosog eraill hefyd, yn cynnwys rheoli llifogydd a dal a storio carbon. Felly, mae angen i’r camau hyn gael eu cefnogi gan brosesau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n eu cydnabod fel y dewis gorau o ran gweithredu. Ond dwi yn rhannu ychydig o rwystredigaeth ynglŷn ag arafwch y broses honno er mwyn i'r datrysiadau yn seiliedig ar natur yma gael eu caniatáu a'u gweithredu ar fyrder.

Cyn cloi, mi fyddai'n esgeulus i mi beidio â sôn am gynllun buddsoddi Dŵr Cymru yn y dyfodol. Os bydd y cynllun yma yn cael ei gymeradwyo gan Ofwat, mi fyddwn ni'n gweld buddsoddiad o £3.5 biliwn rhwng 2025 a 2030. Ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad i leihau'r niwed amgylcheddol sy’n deillio o ollyngiadau. Ac rydyn ni yn disgwyl i Ofwat ystyried y dull y mae Cymru yn ei ddefnyddio i ymdrin â gollyngiadau wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo'r cynllun.

Nawr, mae gan y cynllun y potensial i gyflawni gwelliannau mawr eu hangen mewn seilwaith, gan ganiatáu i'r cwmni ymdrin â rhai o'r heriau parhaus sy'n effeithio ar ei berfformiad presennol. Ond mi fydd hynny, wrth gwrs, fel roeddwn i'n dweud gynnau, yn arwain at gynnydd mewn biliau cwsmeriaid, a dyw biliau uwch i gwsmeriaid byth yn rhywbeth i’w croesawu, ond mae angen dirfawr am y buddsoddiad yma, ac felly yn anffodus rŷn ni'n teimlo bod dim dianc rhag biliau uwch. Ond mae Dŵr Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cynyddu capasiti eu cynlluniau tariff cymdeithasol i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd i fforddio talu, ac mae hynny i'w ganmol.

Felly, mae yna lawer iawn o faterion wedi cael sylw yn yr adroddiad. Mi fyddwn ni'n parhau i graffu ar Dŵr Cymru, wrth gwrs, wrth inni fynd yn ein blaenau, ond yn ei hanfod, rŷn ni eisiau gweld y label yma o gwmni sydd ar ei hôl hi, neu yn lagging, yn cael ei ddileu, a gorau po gynted y mae’n hynny'n digwydd. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 4:19, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn amlwg yn fater pwysig iawn ac rwy'n siŵr fod ein holl etholwyr yn bryderus iawn yn ei gylch. Mae gennym system ddraenio Fictoraidd nad yw'n addas i'r diben o gwbl, nid yn unig oherwydd y cynnydd yn ein poblogaeth, ond oherwydd y newidiadau yn ein hinsawdd a'r tywydd eithafol sy'n gallu taro ar unrhyw ddiwrnod ac yn cyfateb i lawiad mis mewn amgylchiadau blaenorol. Felly, ni ddylai neb ddadlau bod heriau difrifol yn wynebu Dŵr Cymru, ond mae'n rhaid iddo wneud yn well.

Un peth cadarnhaol i Dŵr Cymru yw nad Thames Water mohono. Mae ganddo sgôr risg buddsoddiad sy'n ei gwneud yn gwbl bosibl i Ofwat ystyried ei gynllun busnes a'i gael yn fforddiadwy gobeithio. Ond yn amlwg, mae hynny'n dechrau o sylfaen isel iawn. Mae'r biliynau o bunnoedd a gafodd eu dwyn o asedau Thames Water wedi hen ddiflannu, byth i'w hadfer, ac erbyn hyn mae pobl sy'n byw yn ardal Llundain yn wynebu cynnydd o 40 y cant yn eu biliau. Mae'n gwbl anghynaliadwy, ac ni fydd hyd yn oed hynny'n datrys unrhyw un o'r problemau sy'n dal i fodoli gyda llygru'r afonydd a'r môr o amgylch afon Tafwys.

Felly, Dŵr Cymru, cawsom sesiwn drylwyr iawn gyda nhw am yr achosion difrifol o lygredd sydd wedi digwydd, ac mae'n dda darllen yn eu hymateb i'n hadroddiad eu bod bellach yn anelu at ddim achosion o lygredd difrifol. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud i adfer hyder y cyhoedd yng Nghymru, y gallant ganiatáu i'w plant nofio yn ein hafonydd a'n moroedd yn ddiogel heb iddynt fynd yn ddifrifol wael. A dyna lle rydym arni, ac mae'n sefyllfa ddifrifol iawn. Felly, mae'n rhaid inni obeithio y byddant yn llwyddo i ddefnyddio eu cyfleusterau trin carthion mewn ffordd na fydd yn arwain at sefyllfa mor ddifrifol â'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol.

Fel y dywedais, mae'n rhaid inni ailfeddwl yn llwyr y ffordd y rheolwn ein dŵr, oherwydd ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r dŵr llwyd sy'n disgyn o'r awyr yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, felly mae'n cael ei drin fel pe bai'n garthion, ac mae hynny'n gwbl anghynaliadwy. Fe ellid ac fe ddylid defnyddio'r rhan fwyaf o'r dŵr llwyd i ddyfrio'r ardd, i lanhau'r strydoedd, i fflysio ein toiledau, pethau nad oes angen dŵr yfed arnynt mewn gwirionedd, ac rydym filiynau o filltiroedd o lle mae angen inni fod ar hyn, a bydd angen lefel enfawr o fuddsoddiad ar gyfer ei wneud yn addas at y diben. [Torri ar draws.] Ie.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 4:22, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rydych chi newydd fy atgoffa am gasgenni dŵr. Pe bai pob cartref a ffermwr yn cyflwyno casgenni dŵr, a hyd yn oed pe gallem gyflwyno hynny fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy—adeiladau fferm—mae'n amlwg iawn, ond yn rhywbeth y mae pawb yn meddwl amdano; rydym yn cael llawer o gyfnodau o law trymach, ond cyfnodau sych hirach hefyd. A ydych chi'n meddwl bod hynny'n syniad da?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 4:23, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Yn bendant. Roedd cynghorau'n arfer dosbarthu casgenni dŵr yng Nghaerdydd, ond yn anffodus, oherwydd y toriadau, nid ydynt yn gwneud hynny mwyach. Ond serch hynny, gall y rheini sy'n gallu gwneud hynny gynaeafu eu dŵr oherwydd mae'n well dŵr ar gyfer y planhigion am nad oes fflworid ynddo. Ond mae'n rhywbeth—.

Rydym wedi atal adeiladau newydd, datblygiadau tai newydd rhag peidio â gwahanu eu dŵr llwyd oddi wrth eu carthion, ac mae'n amlwg mai dyna'r ffordd ymlaen, ond nid yw hynny'n golygu nad oes gennym waddol enfawr o'r hen system, nad yw'n addas at y diben ar hyn o bryd, ac mae'n golygu ein bod yn gwastraffu dŵr sydd fel aur, ac rydym o bosibl yn wynebu sychder yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni ddal ati gyda'r mater hynod bwysig hwn.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 4:24, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Felly, rydym yn gwybod, onid ydym, fod adroddiadau perfformiad diweddar ac ymchwiliadau ein pwyllgorau yn dangos mai prin droedio'r dŵr y mae Dŵr Cymru  wrth gyflawni ar ran eu cwsmeriaid, a'n hamgylchedd yn wir. Gwelodd cyfanswm yr achosion o lygredd carthion ddirywiad mewn perfformiad, gan ddisgyn o wyrdd i oren, gyda digwyddiadau llygredd yn cynyddu tua 7 y cant o'i gymharu â 2021 hyd yn oed. Cafwyd pum digwyddiad difrifol o lygredd carthion, sy'n golygu bod perfformiad ar y metrig hwn hefyd wedi dirywio, gan ddisgyn o oren i goch, ac mae perfformiad ar hunangofnodi digwyddiadau wedi dirywio, gan ostwng 7 y cant unwaith eto. Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Ofwat ei adroddiad cwmni dŵr, gan ddangos bod Dŵr Cymru yn un o saith cwmni sydd wedi'u categoreiddio fel rhai sydd ar ei hôl hi, ac ond wedi cyflawni pump yn unig o'i 12 targed perfformiad allweddol, a dyna'r ail flwyddyn i Dŵr Cymru fod yn y gwaelod.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 4:25, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Gallwn barhau drwy restru data sydd, yn briodol ddigon, yn achosi pryder ar ôl pryder, ond mae'n rhaid inni sylweddoli na allwn wneud cynnydd dros nos. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod bod y cwmni dŵr yn gwneud gwelliannau. Mae hynny'n ffaith, ond mae angen i bethau gyflymu. Fis Hydref diwethaf, fe wnaethant gyflwyno cynllun busnes arfaethedig ar gyfer 2025-30 i Ofwat, a bydd yn arwain at y rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed gan y cwmni, gwerth £3.5 biliwn dros y pum mlynedd. Ond bydd unrhyw un sy'n talu biliau dŵr yn dweud, 'Wel, yn y pen draw, rydym yn talu symiau sylweddol am ein dŵr.'

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £1.9 biliwn yn yr amgylchedd yn 2025-30, ac mae ymrwymiadau cadarnhaol eraill yn cynnwys lleihau nifer y gollyngiadau o chwarter a gosod pibellau yn lle pibellau plwm 7,500 o gwsmeriaid, a chyfrannu £13 miliwn y flwyddyn rhwng 2025 a 2030 i helpu i gynnal ac ehangu eu cynllun tariff cymdeithasol i gyrraedd 190,000 o gwsmeriaid. Ond os ydynt yn gwylio'r ddadl hon, rwy'n gobeithio y byddant yn gwrando pan ddywedaf wrthych fy mod i'n gwybod, yn eithaf aml, pan fydd etholwyr yn dweud wrthyf eu bod wedi adrodd am bibellau sy'n gollwng, lle mae galwyni a galwyni o ddŵr yn cael eu gwastraffu, fod yr amser ymateb i'r mathau hynny o ddigwyddiadau yn llawer rhy hir.

Roeddwn yn falch o glywed Peter Perry yn egluro nad ydym eisiau unrhyw ddigwyddiadau llygredd. Na ninnau ychwaith. Y brif broblem yw rhwystrau. Mae lle i'r Llywodraeth hon yng Nghymru ddarparu cap sugno, ac rwy'n cytuno, ac rwyf wedi dadlau ers tro o blaid y gofyniad yn argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru wahardd weips gwlyb. Rydym newydd wahardd cynhyrchion plastig untro. Rwy'n gwybod bod cymhlethdodau gyda weips gwlyb, ond dylai hynny nawr—. Dylai'r Gweinidog newydd edrych ar hynny. Gallai camau o'r fath leihau nifer y digwyddiadau 25 y cant.

Mae angen i Dŵr Cymru roi mwy o gamau ar waith hefyd. Nid yw'r ymrwymiad i leihau cyfanswm yr achosion o lygredd 24 y cant erbyn 2030, gan ddarparu targed o 69 digwyddiad neu lai, yn ddigon cryf. Rwy'n credu'n gryf fod un digwyddiad llygredd yn un digwyddiad llygredd yn ormod. Fel y nodwyd yn argymhelliad 3, dylem i gyd gytuno mai sero yw'r unig lefel dderbyniol. Mae Dŵr Cymru wedi ymateb gan ddweud ei bod yn afrealistig disgwyl i hyn gael ei gyflawni'n ymarferol. Fodd bynnag, os nad ydym yn anelu'n uchel, ni fydd y nifer hwnnw byth yn cael ei gyflawni. Yn y pen draw, y cyfaddawd fyddai, pe ceid digwyddiad llygredd, na ellid caniatáu iddo achosi niwed amgylcheddol. Unwaith eto, yn rhy aml, rydym yn adrodd am achosion o lygredd a gall gymryd sawl diwrnod, ac wythnosau mewn gwirionedd, cyn i CNC ymwneud â'r mater ac i gamau gael eu rhoi ar waith a chyn cael eglurder ynglŷn â beth oedd y digwyddiad llygredd.

Ar ôl darllen ymateb Dŵr Cymru i argymhelliad 5, rwy'n glir nad yw dau gyfarfod llawn y flwyddyn lle mae perfformiad yn brif eitem ar yr agenda yn ddigon da. Mae angen trafod hyn yn fwy a mwy aml. Nawr, rwy'n derbyn bod gan aelodau Glas Cymru opsiwn i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol; nid yw hynny'n gwarantu eu bod yn gwneud hynny. Mae angen i fwy o atebolrwydd helpu i sicrhau bod yna benderfyniadau amserol. Er enghraifft, fel pwyllgor, fe wnaethom gwestiynu, yn briodol ddigon, a oedd ymatebion Dŵr Cymru ac CNC mor gyflym ag y gallent fod wedi bod fel arall i'r argyfwng yn Aberteifi. Os yw'r gwaith ailadeiladu'n cael ei gyflawni o fewn yr amser, erbyn mis Ebrill 2027, bydd wedi cymryd ymhell dros ddegawd i ddatrys y mater hyd yn oed. Nid yw'n ddigon da. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad sy'n cael ei gynhyrchu gan CNC ac y cyfeirir ato mewn ymateb i argymhelliad 11.

Yn olaf, nodais o'r blaen ei bod yn wendid nad yw CNC yn gallu derbyn ymrwymiadau amgylcheddol am dorri rheolau o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, yn wahanol i Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr. Felly, unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog edrych ar hyn yn fanwl. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad yn wan. Yn hytrach nag ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd, rydych chi am ddod yn ôl atom maes o law. Nid yw'n ddigon da.

Yn y pen draw, rydym am gyrraedd sefyllfa lle nad yw seilwaith Dŵr Cymru byth yn arwain at unrhyw niwed amgylcheddol. Rwy'n obeithiol fod Dŵr Cymru yn adeiladu tuag at ddarparu gwasanaeth sy'n cyflawni hynny, ond yn y cyfamser, mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn dangos ei chyhyrau a gwneud llawer mwy i helpu'r cwmni dŵr i gyflawni. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:30, 24 Ebrill 2024

Diolch i’r pwyllgor, i Gadeirydd y pwyllgor a'r tîm am eu gwaith ar yr ymgynghoriad hwn. Mae'r sialensiau sy’n wynebu cwmnïau dŵr yn adnabyddus i ni i gyd: isadeiledd hen, twf yn y boblogaeth, a sgil-effeithiau newid hinsawdd. Ond, er gwaethaf y sialensiau, rhaid dal Dŵr Cymru i gyfrif yn sgil eu dyletswyddau statudol, a'r gofynion sydd arnynt o ran rheoleiddio. Yn anffodus, mae adroddiadau perfformiad diweddar wedi amlygu tueddiadau problemus. Dros ddwy flynedd yn unig, fel y clywsom ni, gwelwyd gostyngiad ym mherfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru o bedair seren i ddwy seren. Bu beirniadaeth hallt o gyfeiriad Ofwat.

Mae haenau yma y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt. Mae maint y pibellau yn issue. Mae'r ffordd y mae'r diwydiant yn mesur llygredd weithiau yn gallu bod yn anffafriol ar gwmnïau fel Dŵr Cymru sydd gyda maint pibellau a CSOs lot llai nag, er enghraifft, Thames Water. Rhaid unioni’r ffyrdd o gasglu data i adlewyrchu realiti'r sefyllfa yn well. Ond mae yna broblem yma, wrth gwrs, o hyd. Buaswn i eisiau hefyd ddweud pa mor galed mae eu haelodau staff nhw’n gweithio. Rhaid ei bod hi'n anodd iddynt glywed straeon negyddol o hyd pan fyddan nhw'n gweithio i wella pethau. Felly, diolch iddynt am eu gwaith.

Rwy'n cydnabod y bydd y buddsoddiad sydd ar y gweill ar gyfer 2025-30 yn sylweddol, ac wrth gwrs, yn sylweddol fwy na'r gyfundrefn fuddsoddi bresennol. Erys yr angen am gadarnhad, wrth gwrs, gan Ofwat. Bydd cydbwyso anghenion cwsmeriaid heddiw yn ystod y creisis costau byw a'r angen i fuddsoddi mewn isadeiledd yn dasg anodd. Ond dylem ni ddim fod yn y mès hwn—yn llythrennol, neu yn egwyddorol. Camgymeriad pellgyrhaeddol oedd preifateiddio’r system cyflenwad dŵr. Ac oes, mae gennym ni system sy'n well na'r un yn Lloegr, ond mae'r cysyniad hwn fod angen inni fod yn siarad am gwsmeriaid am gyflenwad sydd mor sylfaenol angenrheidiol â dŵr yn wrthnysig. Dylem ni ddim fod yn y sefyllfa hon.

Bydd y buddsoddiad hwn gan Dŵr Cymru, sydd yn angenrheidiol, yn arwain, fel dŷn ni wedi clywed, at filiau uwch, ac mae'r biliau ymysg yr uchaf yn y sector. Croesawon ni fel pwyllgor yr ymrwymiad y mae Dŵr Cymru wedi'i wneud i ehangu eu cynlluniau social tariff, ond rhaid gwneud mwy, nawr. Mynnon ni fel pwyllgor bod Dŵr Cymru yn blaenoriaethu gwelliannau yn eu systemau rheoli llygredd a hunanadrodd. Bydd unrhyw beth llai na dychwelyd i dair seren yn eu perfformiad amgylcheddol yn annerbyniol. Ac eto, mae atebolrwydd yn bwysig. Rŷn ni'n cwestiynu'r cyfiawnhad dros roi bonysau i uwch staff ar adeg pan fo disgwyl i gwsmeriaid dalu biliau mor andros o uchel am gyflenwad mor sylfaenol.

Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, mae atebion, wrth gwrs, sy'n fwy radical, sy'n mynd ymhellach na sgôp ein hadroddiad, fel ailwladoli’r system. Yn sicr, mae rhyw obaith ar y gorwel fel canlyniad i'r buddsoddiad hwn, ond dylem ni byth wedi bod yn y sefyllfa hon, a byddwn ni fel pwyllgor yn cario ymlaen i gadw golwg ar hyn oll.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:33, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Os caf ddechrau'n fyr drwy gydymdeimlo â disgyblion, athrawon a theuluoedd Ysgol Dyffryn Aman. Mae nifer ohonom yn y Siambr hon yn gyn-ddisgyblion, ac mae pob un ohonom yn bryderus o weld yr hyn sy'n digwydd yno y prynhawn yma.

Rwy'n falch iawn o weld bod y gwaith o graffu ar berfformiad Dŵr Cymru yn mynd rhagddo. Mae llawer o ewyllys da i'w gael tuag at gwmni sydd, fel y dywed, er lles Cymru, nid er elw. Ond ar adegau, rwy'n credu bod yr ewyllys da hwnnw wedi cyfyngu ar y craffu a’r her sydd eu hangen ar bob sefydliad. Fel y dywedodd y rheoleiddiwr, Ofwat, wrth y pwyllgor, ni ddylai’r model di-ddifidend esgusodi perfformiad gwael ac ni ddylai esgusodi aneffeithlonrwydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Heb bwysau a chraffu gan gyfranddalwyr, mae angen penodol i sicrhau bod perfformiad y cwmni'n cael ei gwestiynu'n gadarn, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y model craffu ar aelodau Dŵr Cymru, fel y'u gelwir, wedi profi ei hun.

Ac mae cwestiynau i'w hateb gan Ofwat hefyd. Ymddengys i mi nad yw’r model gwahanol yng Nghymru wedi cael y sylw pwrpasol gan Ofwat y mae ei angen ac yn ei haeddu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i berfformiad, ar y naill law, ag y mae i gydnabod amcanion hirdymor Dŵr Cymru, nad ydynt yn berthnasol i'r cwmnïau dŵr eraill y mae'n eu rheoleiddio. Mae Ofwat wedi defnyddio un dull sy'n addas i bawb o reoleiddio, dull nad yw, mewn gwirionedd, wedi gwasanaethu pobl Cymru yn dda. Dywedodd Ofwat wrth y pwyllgor fod diffyg atebolrwydd wedi deillio o statws nid-er-elw Dŵr Cymru. Wel, a dweud y gwir, eu gwaith nhw yw rheoleiddio hynny. Nid eu rôl nhw yw beirniadu'r model perchnogaeth. Eu rôl nhw yw gweithio gydag ef, caniatáu i Dŵr Cymru gyflawni ei fandad i'w gwsmeriaid, ond craffu arno hefyd.

Rydym wedi gweld gan Thames Water fod cwmnïau cyfranddalwyr yn tanberfformio hefyd, a'u bod yn cael eu llywodraethu'n wael, ac na wnaeth Ofwat eu gwaith yno ychwaith. Rwy’n falch nad yw Dŵr Cymru yn gwmni confensiynol sy’n cael ei redeg gan gyfranddalwyr. Mae’r sgandal yn Thames Water a’r swm anweddus o arian y caniatawyd ei dynnu o’r cwmni a’i droi’n ddyled yn feirniadaeth ddamniol o breifateiddio’r cyfleustod hollbwysig hyn sy’n hanfodol i les. Yn union fel preifateiddio bysiau, lle mae nifer y teithwyr wedi cwympo, neu breifateiddio'r rheilffyrdd, lle mae’r holl fasnachfreintiau bellach wedi’u rhoi’n ôl i’r Llywodraeth, neu breifateiddio nwy neu drydan, lle mae argyfwng ynni wedi arwain at yr elw mwyaf erioed ochr yn ochr â'r lefelau tlodi tanwydd uchaf erioed, mae preifateiddio dŵr hefyd wedi methu gwireddu'r addewidion a wnaed gan Margaret Thatcher. Credaf y dylai’r Ceidwadwyr fod yn ddigon gwylaidd i gydnabod mai canlyniad eu cynlluniau nhw yn y 1980au yw hyn.

Nawr, mae'n rhaid inni unioni'r methiant hwn yn y farchnad. O ganlyniad i’r diffyg yn y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, rydym yn gweld y canlyniadau yn Llanelli. Mae systemau carthffosiaeth wedi'u gorlethu yn arwain yn rheolaidd at ollyngiadau sy'n niweidio ansawdd dŵr. Mae adeiladu tai heb seilwaith priodol yn rhoi pwysau ar system garthffosiaeth sydd eisoes wedi’i gorlethu, ac mae hynny’n arwain at gyfeintiau gormodol o elifiant, nad oes unman ganddo i fynd heblaw am ein hafonydd a’n moroedd.

Mae cocos a physgod cregyn eraill wedi diflannu o'r aber yn gyfan gwbl, gan achosi niwed gwirioneddol i ddiwydiant lleol gwerthfawr. Rwy’n falch o ddweud y gallwch gael bag o gocos Pen-clawdd o farchnad hyfryd Llanelli o hyd, ond maent yn aml yn fach iawn, ac mae’r nifer a gesglir gan y casglwyr cocos yn llai o lawer. Dywed yr ymgyrchwyr lleol Bill Thomas a Robert Griffiths wrthyf fod Dŵr Cymru wedi cyfaddef ei fod wedi gollwng dros 6 miliwn o dunelli metrig o garthion amrwd i’r aber, gan halogi’r gwelyau cocos. Roedd hynny chwe blynedd yn ôl, ac maent yn mynnu bod y casglwyr cocos yn dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu.

Mae CNC yn ei chael hi'n anodd cyflawni ei ddyletswyddau fel rheoleiddiwr. Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud nad yw’n fodlon fod Dŵr Cymru wedi cael sgôr o ddwy seren am berfformiad amgylcheddol, a dywed CNC mai ei nod yw dim un achos o lygredd. Ond yn ei dystiolaeth, dywed mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae'n cyfarfod â Dŵr Cymru, ochr yn ochr â’r rheoleiddiwr arall, Ofwat, ar gyfer cyfarfod rheoleiddio. Nid yw hynny'n ddigon da. Anaml y mae'n mynd ar drywydd erlyniadau am dorri amodau, ac yn wahanol i Loegr—fel y crybwyllwyd—ni all fynnu ymgymeriadau amgylcheddol fel dewis amgen yn lle erlyn.

Nid oes unrhyw atebion syml, ac rwy'n cydymdeimlo â safbwynt Dŵr Cymru y byddai angen buddsoddiad cyfalaf o rhwng £7 biliwn ac £11 biliwn er mwyn uwchraddio ein system garthffosiaeth yn llwyr. Nid yn unig y byddai cost cyfle bwysig i hynny, ond byddai’n cynhyrchu llawer iawn o garbon ymgorfforedig, a fyddai’n ychwanegu at niwed amgylcheddol ehangach. Rwy'n credu mai dyma’r hyn y mae'r academyddion yn ei alw'n broblem enbyd.

Rwy'n credu mai'r broblem sylfaenol yw bod y fframwaith preifateiddiedig y mae Dŵr Cymru wedi gorfod gweithredu oddi mewn iddo, a maint y buddsoddiad sydd wedi’i ganiatáu o ganlyniad, yn methu cyflawni ein hanghenion. Mae angen newid y fframwaith deddfwriaethol ar lefel y DU. Yn y cyfamser, mae gan Dŵr Cymru ac Ofwat lawer mwy i’w wneud, a gadewch i’r cam cyntaf fod yn gamau gweithredu ar bob un o argymhellion y pwyllgor. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:39, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Gofynnodd y pwyllgor am ddadl 30 munud, ond mae gennym ddiddordeb gan ddau Aelod arall, sy’n mynd â ni ymhell dros hynny. Rwy’n mynd i ganiatáu i’r ddau Aelod arall siarad ar yr achlysur hwn. Efallai y gallwn edrych ar hyn mewn dadleuon yn y dyfodol, o ran pa mor hir y dylent fod.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Rydw i'n cytuno gyda'r cyfeiriad yr oedd Lee Waters yn mynd â ni ar ei hyd, a dweud y gwir, ac rydw i eisiau ffocysu, yn fy sylwadau i, ar y cwestiwn o lywodraethiant ac atebolrwydd. Mae yna fwlch atebolrwydd yma, yn sicr. Mae hynny'n eithaf amlwg, ac mae e yno am nifer o resymau, oherwydd y math o fodel perchnogaeth, ond hefyd oherwydd ble ydyn ni o ran y fframwaith datganoli. Ond, yn sicr, ddylen ni ddim derbyn y sefyllfa sydd ohoni. Yn y nodyn briffio gawson ni gan y cwmni, maen nhw'n cyfeirio at y map lle mae modd edrych ar y sefyllfa gyfredol o ran gorlif storm, ac os ŷch chi'n mynd ar y map, mae e'n dangos, ar rai o draethau mwyaf enwog Cymru—Amroth, Pendine, Llangrannog, Poppit Sands—mae yna orlif wedi bod y mis yma, heb sôn am y ffigurau yn mynd dros gyfnod y flwyddyn. Mae'n sefyllfa hollol annerbyniol. 

Dwi'n croesawu'r ymchwiliad byr yma i mewn i berfformiad y cwmni, ond a gaf i ofyn i'r pwyllgor, neu'r Llywodraeth, am ymchwiliad dyfnach i'r holl gwestiwn o lywodraethiant, a hynny mewn tri maes ac am ddau reswm? Yn gyntaf, ar berchnogaeth, mae'n rhaid inni gwestiynu a ydy model Glas Cymru yn gweithio. Mae yna fodelau eraill, yn sicr y model o berchnogaeth cyhoeddus. Os ydyn ni'n cymharu'r sefyllfa perfformiad yn yr Alban dros y ddau ddegawd diwethaf, ar sawl mesur, mae e'n well na'r perfformiad sydd wedi bod yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: a ddylen ni symud i'r model hwnnw o berchnogaeth? Ac, wrth gwrs, ddylen ni ddim anghofio Hafren Dyfrdwy, lle mae yna gwmni preifat, wrth gwrs, yn cyflenwi dŵr ar hyn o bryd i rai o'n dinasyddion ni.

Yr ail gwestiwn o lywodraethiant ydy'r cwestiwn o reoleiddio. Mae gyda ni sefyllfa ryfedd. Mae gyda ni rywfaint o ddatganoli, ond mae gyda ni gyrff Cymru a Lloegr sydd yn rheoleiddio: Ofwat a'r Drinking Water Inspectorate. Dwi'n meddwl ein bod ni'n colli mas fan hyn, achos mae profiad yr Alban yn dangos y fantais o gael agosatrwydd rhwng rheoleiddwyr a'r cwmnïau maen nhw'n rheoleiddio. Mae gyda ni system, fel roedd Lee Waters yn dweud, sydd ddim yn gweithio i ni, oherwydd mae'r fframwaith, y model rheoleiddio, wrth gwrs, wedi cael ei ddatblygu ar gyfer yn bennaf cwmnïau preifat gyda chyfranddalwyr. Wel, beth am i ni newid hynny? Mae gyda ni y pŵer nawr i ddeddfu. Does dim rhaid i ni ofyn i San Steffan i ddeddfu i gael gwared ar system reoleiddio Lloegr a Chymru. Fe allen ni greu system Gymreig, fel sydd yn yr Alban. Mae gyda nhw, wrth gwrs, y Water Industry Commission for Scotland a'r Drinking Water Quality Regulator for Scotland. Fe allwn ni ddeddfu fan hyn i gael gwared ar Ofwat. Os ydyn ni'n meddwl bod hwnna'n broblem, bod hwnna'n ein hatal ni rhag symud ymlaen, mae modd i ni ddeddfu i'r cyfeiriad hwnnw. 

Ac yn drydydd, wrth gwrs, mae'r gallu gyda ni i ddatganoli'r cyfan oll o ran pwerau dros ddŵr, ond, fel rydyn ni wedi clywed o'r blaen, dydyn ni ddim wedi gwneud y cais i San Steffan eto. Felly, a gaf i glywed gan y Gweinidog newydd a ydyn ni'n mynd i wneud y cais yna, fel ein bod ni'n gallu cael y pwerau llawn?

Pam gofyn y cwestiynau yma ynglŷn â llywodraethiant? Wel, mae bron yn 25 mlynedd nawr ers creu Glas Cymru, felly mae'n amser i ni gael asesiad ar a ydy e'n gweithio. Mae yna etholiad ar y gorwel yn San Steffan, sydd efallai yn mynd i olygu eu bod nhw'n mynd i wladoli—wel, efallai fod Thames Water yn mynd i fynd, beth bynnag, mewn i berchnogaeth gyhoeddus; efallai fydd y cwbl lot yn newid—ac mae yna oblygiadau yn mynd i fod i ni, beth bynnag, o hynny. Ond y rheswm arall, wrth gwrs, yw, gyda'n hetholiad ein hunain ar y gorwel yn 2026, nawr yw'r amser i ni gael trafodaeth eang yng Nghymru ar a ydy'r model sydd gyda ni o fewn y sector dŵr yn gweithio i ni, ac os nad yw e—a dwi'n meddwl bod yna ddigon o dystiolaeth ei fod e ddim—fe ddylen ni nawr drafod pa fodel amgen dŷn ni am ei greu.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Llafur 4:44, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn, a hefyd i bawb a ymatebodd iddo. Mae'n eithaf cymhleth, a dweud y gwir, onid yw, gan eich bod wedi rhoi argymhellion i wahanol bobl, gwahanol sefydliadau, ond Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond chi sydd yma heddiw i ateb ein cwestiynau. Ac fel y gwyddoch, mae'r gollyngiadau difrifol yn effeithio'n arbennig ar fy nghymuned, sef Porthcawl. Rydym wedi cael protestiadau heddychlon, er enghraifft, ar draeth Newton, a drefnwyd gan y Bluetits, gan eu bod yn nofio bob dydd, boed law neu hindda, a nhw yw’r rhai sy'n fwyaf ymwybodol o effaith ac amlder y gollyngiadau hyn.

Yn anecdotaidd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone—mae’n effeithio ar iechyd pobl. Mae cynnydd wedi bod mewn heintiau, heintiau eithaf cas hefyd. Hoffwn nodi hefyd, serch hynny, fod Dŵr Cymru wedi trefnu digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned ym Mhorthcawl yn ddiweddar a fynychwyd gan nifer, yn eich cynnwys chi yn rhinwedd eich swydd fel yr Aelod o'r Senedd dros Ogwr, ac fe’i croesawyd yn fawr iawn gan y gymuned, am iddynt gael cyfle i ofyn yr holl gwestiynau hyn iddynt. A byddwn yn cytuno â'u hymateb fod yn rhaid gwneud mwy o hyn, ac rwyf hefyd am gydnabod eu bod wedi bod yn ceisio hybu ymgyrch Stopio'r Bloc, sy'n cael ei daflu i'r cysgod gan bopeth a godwyd yn yr adroddiad hwn. Ond maent yn gwneud ymdrech.

Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ganolbwyntio heddiw ar y dystiolaeth a ganfuwyd yn yr adroddiad hwn. Roedd data ar weithfeydd trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru a gafwyd gan yr Athro Hammond drwy gais rheoliadau gwybodaeth yr amgylchedd yn dangos 2,274 diwrnod gydag achosion o dorri trwyddedau yn ymwneud â gollyngiadau carthion heb eu trin rhwng 2018 a 2023, ac yn ôl Windrush Against Sewage Pollution (WASP), roedd 77 yn ollyngiadau sych, sef dim glaw ar y diwrnod neu'r diwrnod cyn y gollyngiad, gyda llif gwaith trin uwchlaw’r capasiti. Hefyd, adroddwyd bod Dŵr Cymru wedi torri ei drwyddedau fwy na 200 o weithiau yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ond ddwywaith yn unig y cafodd ddirwy, ac mewn ymateb, cyfaddefodd Dŵr Cymru fod ganddo rhwng 40 a 50 o weithfeydd trin dŵr gwastraff yn gweithredu yn groes i'w trwyddedau ar hyn o bryd.

Rwy'n mynd i fod yn blwmp ac yn blaen, a gwn nad yw hynny'n nodweddiadol ohonof, ond rwyf am ddweud nad oes ots gan fy etholwyr, ar y pwynt hwn—nid oes ots o gwbl ganddynt—pwy sy'n gyfrifol am hyn. Nid oes ots ganddynt pwy sy'n ei ariannu. Nid ydynt hyd yn oed yn gofyn am ddirwyon neu sancsiynau neu unrhyw beth felly ar hyn o bryd. Maent yn gwybod ei fod yn mynd i gymryd amser, ond maent wedi bod yn amyneddgar iawn hefyd, a phopeth sy'n cael ei ddweud heddiw—maent ond eisiau gwybod pryd y gallant fynd i nofio mewn dŵr glân heb boeni am gael heintiau a heb boeni am anfon eu plant i mewn iddo. Felly, dyna sydd ei angen arnom ar y pwynt hwn. Popeth rydych chi wedi'i ddweud, yr holl argymhellion—ond a gawn ni amserlen os gwelwch yn dda? Achos ni allaf barhau i fynd yn ôl atynt a dweud nad ydym yn gwybod. Diolch.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ymateb i'r pwynt olaf hwnnw? Rydym wedi ymateb i’r heriau hyn o’r blaen. Rydym wedi gwneud hynny o'r blaen. Mae’r hyn a wnaethom ar bethau fel ansawdd dŵr ymdrochi arfordirol, mewn degawdau blaenorol, yn dangos, lle ceir ewyllys a’r gallu, ein bod yn ei wneud, ond rydym yn ei wneud ar y cyd ac rydym yn ei wneud gyda’n gilydd. A gofynnwn i bawb sydd â rhan i'w chwarae i chwarae eu rhan ac i wneud hynny gyda'r brys sydd ei angen.

Ond gadewch imi droi at yr adroddiad, ac rwy'n teimlo braidd fel potsiwr wedi troi'n giper.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am ei adroddiad ac i Llyr Gruffydd hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i'r Aelodau eraill sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.

Cyn imi ddechrau, rwyf yn nodi ar gyfer y cofnod yr oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor a luniodd yr adroddiad hwn cyn imi ddechrau yn fy rôl bresennol. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd blaenorol eisoes wedi ymateb i argymhellion y pwyllgor i Lywodraeth Cymru drwy lythyr ym Mawrth. Felly, mewn ymateb i'r ddadl hon, byddaf i'n achub ar y cyfle i ganolbwyntio ar yr heriau mwyaf dybryd i Dŵr Cymru a'r sector dŵr ehangach.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 4:48, 24 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yma heddiw fod newid hinsawdd yn berygl gwirioneddol ac uniongyrchol i'r sector dŵr. Fel y clywsom heddiw, mae Cymru’n wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, digwyddiadau tywydd eithafol amlach a mwy dwys fel sychder. Yn anochel, mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar ein cyflenwadau dŵr a’n seilwaith, yn ogystal â’n hecosystemau ac allbwn sectorau allweddol fel amaethyddiaeth hefyd. Felly, mae ein sector dŵr yn wynebu her ddigynsail ac uniongyrchol. Mae'n rhaid iddo ddatgarboneiddio, adeiladu gwytnwch i wrthsefyll newid hinsawdd, gwrthdroi colli bioamrywiaeth—oll yn erbyn cefndir o argyfwng costau byw.

Nawr, rydym yn dibynnu ar ein cwmnïau dŵr i gamu i'r adwy a chyflawni gydag uchelgais gwirioneddol ar ran y cwsmeriaid, y cymunedau a'r amgylchedd. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’n cwmnïau dŵr gyflawni gwelliannau ar draws pob maes gweithredu, ac mae sector dŵr Cymru, fel y nodwyd, yn wahanol i weddill y DU. Mae gennym berthynas unigryw gyda Dŵr Cymru fel ein prif gyflenwr dŵr. Mae'n gweithredu fel cwmni nid-er-elw heb gyfranddalwyr. Mae gennyf ddiddordeb yn y pwyntiau a wnaed gan Adam ac eraill am drefniadau yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at hynny maes o law, ond mae gennym eisoes sefyllfa unigryw lle na chaiff yr elw ei ddychwelyd mewn difidendau i gyfranddalwyr, caiff ei ailfuddsoddi yn y sefydliad. Serch hynny, fe wnaethom osod ein disgwyliadau yn ein datganiad blaenoriaethau strategol a gyhoeddwyd i Ofwat yn 2022, ac mae'r datganiad blaenoriaethau strategol hwnnw'n nodi'n glir y dylai cwmnïau dŵr ragweld tarfu, ac y dylent gynnal gwasanaethau i bobl a diogelu'r amgylchedd naturiol, nawr ac yn y dyfodol.

Nawr, dengys adroddiadau perfformiad diweddaraf Dŵr Cymru gan Ofwat, fel y rheoleiddiwr economaidd, a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddiwr amgylcheddol, fel y dywedwyd yn wir, ei fod yn ddarlun cymysg. Mae rhai meysydd lle mae Dŵr Cymru yn perfformio'n dda, yn enwedig boddhad cwsmeriaid, darparu gwasanaethau i gwsmeriaid agored i niwed ac ymateb i doriadau ac atgyweiriadau heb eu cynllunio, ac mae'r rhain i'w canmol.

Fodd bynnag, mae'r cwmni'n parhau i fod yng nghategori 'ar ei hôl hi' Ofwat gan fod meysydd lle mae'r perfformiad yn is na'r cyfartaledd, gan gynnwys gollyngiadau, defnydd y pen, toriadau i'r cyflenwad, atgyweirio'r prif gyflenwad a chydymffurfiaeth gweithfeydd trin carthion, fel y nodwyd. Ac yn ychwanegol at hynny, mae asesiad CNC o adroddiadau perfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru wedi golygu bod y cwmni wedi disgyn o bedair seren i ddwy seren rhwng 2021 a 2023. Felly, dywed hynny wrthym fod gan Dŵr Cymru lawer o waith i'w wneud i fynd i’r afael â’r heriau sy'n cael eu hachosi gan yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda Dŵr Cymru, yn ogystal ag Ofwat a CNC, i fynd i’r afael â methiannau ac i wella gweithdrefnau a goruchwyliaeth. Mae gwella perfformiad a chyflawni ar ran pobl Cymru yn brif flaenoriaeth. Yn wir, cyfarfûm â Dŵr Cymru ddoe i amlinellu fy nisgwyliadau uchel a dangos y ffordd yr hoffwn weithio dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Gan droi at rai materion penodol iawn, mae ein cwmnïau dŵr yn darparu amrywiaeth enfawr o wasanaethau dŵr wrth gwrs, ond yr agwedd sy’n cael y sylw mwyaf ar hyn o bryd yw asedau gorlifoedd storm. Mae gorlifoedd storm yn chwarae rhan hollbwysig yn galluogi ein rhwydwaith o garthffosydd i weithredu ar adegau o bwysau mawr yn dilyn glawiadau trwm, sy’n digwydd yn amlach gyda’n hinsawdd newidiol. Bydd llawer ohonoch wedi gweld y data monitro hyd digwyddiadau, y data EDM, ar gyfer 2023 a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth. Mae hwn yn dangos yr heriau parhaus, er y dylid nodi, er diddordeb yn unig, fod y cynnydd yn nifer y gollyngiadau o 2022 i 2023, yn wir, 17 y cant yn is yng Nghymru na’r cynnydd yn Lloegr, ond mae angen inni wneud llawer mwy o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro y byddai cael gwared ar yr holl orlifoedd storm presennol yn brosiect carbon-ddwys hirdymor a fyddai'n costio biliynau o bunnoedd. Nid dyma fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr nac ychwaith y ffordd fwyaf gwydn rhag pwysau cynyddol newid hinsawdd. Felly, ein blaenoriaeth yw sicrhau nad oes unrhyw orlif storm yn achosi niwed amgylcheddol i statws ecolegol ein hafonydd. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru ac eraill drwy'r tasglu gwella ansawdd afonydd i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd storm yng Nghymru. Mae'r tasglu wedi nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym drwy gyfres o gynlluniau gweithredu sydd ar gael ar-lein.

Mae adroddiad—. Rwy'n sylweddoli fy mod wedi mynd dros yr amser yma. Ymddiheuriadau, Lywydd. Mae adroddiad 'Tystiolaeth Cymru ar orlifoedd storm' a gyhoeddwyd gan y tasglu ym mis Hydref y llynedd yn dangos nad oes unrhyw atebion cyflym; mae'n rhaid inni gael dull gweithredu hirdymor. Ond fel y mae cyd-Aelodau wedi'i nodi, rydym yn gwneud cynnydd mewn rhai meysydd, yn enwedig gyda systemau draenio cynaliadwy, sydd bellach yn orfodol ar bron bob datblygiad adeiladu newydd. Dyma'r ffordd i fynd i'r afael â phroblemau'r dyfodol.

Felly, i gloi, Lywydd, mae'r adolygiad pris wedi'i grybwyll. Mae’r adolygiad pris parhaus hwnnw’n cynnig cyfle i Dŵr Cymru a’n holl gwmnïau dŵr gyflawni newid sylweddol yn eu buddsoddiad mewn gwelliannau amgylcheddol. Y garreg filltir nesaf yw 12 Mehefin pan gyhoeddir y penderfyniadau drafft. Rwy'n gobeithio y bydd cynlluniau busnes y cwmni yn dangos yr uchelgais y mae’r cyhoedd yn haeddu ei weld, a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r broses.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 4:53, 24 Ebrill 2024

Diolch yn fawr i'r pwyllgor a diolch yn fawr i'r Aelodau eraill hefyd. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Llyr Gruffydd felly, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Yn yr ychydig eiliadau sydd gen i i ymateb, a gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Dwi yn teimlo bod hon yn drafodaeth sydd yn mynd i barhau, wrth gwrs, ac mae'n bwysig bod hynny yn digwydd. Roedd nifer o bwyntiau diddorol—yr awgrym ynglŷn ag ymchwiliad dyfnach gan y pwyllgor i edrych ar lywodraethiant ac atebolrwydd, yn enwedig yng nghyd-destun y model perchnogaeth a rheoleiddio, a'r holl sefyllfa o ran gwneud cais am ddatganoli pwerau llawn dros ddŵr. Dwi yn meddwl bod yna merit yn hynny. Mater ymarferol yw hi o pryd fydd hynny yn gallu digwydd a phryd fydd yr amser gorau i hynny ddigwydd, ond mae'n sicr yn rhywbeth awn ni nôl ag e i'w ystyried fel pwyllgor.

A gaf i ddiolch yn benodol i Sarah Murphy am ein hatgoffa ni? Rŷn ni'n sôn am yr effeithiau amgylcheddol yn gyson pan fyddwn ni'n cael y drafodaeth yma, ac mae yna dueddiad i anghofio, wrth gwrs, fod hynny yn dod ag effeithiau iechyd uniongyrchol i nifer o ddefnyddwyr, ac mae hynny yn rhywbeth inni beidio ag anghofio. 

Yr hyn rŷn ni eisiau dweud yw y dylai lefel perfformiad Dŵr Cymru, fel y mae e, ddim dod yn rhyw fath o norm. Mae'n rhaid i Dŵr Cymru weithio'n galetach, yn gyflymach i ddychwelyd i flaen y gad o fewn y diwydiant o ran eu perfformiad amgylcheddol. Mae hynny yn rhywbeth, wrth gwrs, maen nhw eisoes wedi dangos eu bod nhw'n gallu ei wneud yn y gorffennol. Mae hefyd rhaid i'r cwmni ddangos eu bod yn gwneud cynnydd wrth ymdrin â gollyngiadau carthion, ac mae'n rhaid iddynt hefyd gymryd camau breision i gael gwared ar y label annymunol yna mae nifer ohonom ni wedi'i grybwyll, sef eu bod nhw'n 'lagging' neu ar ei hôl hi, a gorau po gynted y maen nhw'n gwneud hynny.

Ond fel dwi'n dweud, mi fydd y pwyllgor yn parhau i graffu ar Dŵr Cymru a'r sector dŵr ehangach yng Nghymru, ac mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn gyson, gobeithio, yn cael cyfle i wyntyllu hynny fan hyn yn y Siambr hefyd. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:55, 24 Ebrill 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi'i nodi.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.