– Senedd Cymru am ar 24 Ebrill 2024.
Yr eitem nesaf fydd y ddadl gan y Ceidwadwyr ar addysg, a dwi'n galw ar Tom Giffard nawr i wneud y cynnig hwnnw.
Cynnig NDM8545 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad 'Major Challenges for Education in Wales' a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a amlygodd:
a) bod sgoriau PISA wedi gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022;
b) mai deilliannau addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU;
c) bod disgyblion yng Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn Lloegr;
d) bod yr esboniad am berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru; ac
e) bod y cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno;
b) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
c) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a
d) cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae angen inni siarad am gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru. Roedd canlyniadau PISA a welsom ddiwedd y llynedd yn hynod siomedig. Yn anffodus, gwelsom y sgoriau isaf yn y Deyrnas Unedig ym mhob un pwnc. Boed yn fathemateg, gwyddoniaeth neu ddarllen, roeddem yn gyson ar waelod tablau cynghrair y DU gyfan yma yng Nghymru. Ac roedd hyd yn oed y dirywiad yma yn fwy amlwg nag yng ngwledydd eraill y DU. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, y mae ein cynnig yn sôn amdano, yn darlunio hynny hyd yn oed yn gliriach.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r bai ar bandemig COVID-19, ac mewn rhai ffyrdd rwy'n deall yr amddiffyniad hwnnw. Nid oes amheuaeth fod newid y ffordd yr oeddem yn dysgu ac yn addysgu a'r rhwystrau a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig wedi gwaethygu'r broblem gyda chyrhaeddiad addysgol. Ond yr hyn nad yw'n ei esbonio yw pam oedd y dirywiad yma yng Nghymru mor amlwg. Fel y dywedais eisoes, dyma'r dirywiad mwyaf yn safonau canlyniadau addysgol yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a hynny gan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru nad yw erioed wedi codi o waelod yn y tablau cynghrair yn y pynciau hyn. Nid oes amheuaeth fod pobl ifanc Cymru yr un mor alluog â'r rhai a welwn mewn mannau eraill yn y DU, ond nid yw'r hyn y maent yn ei gyflawni yn ein hysgolion yn eu helpu i'w gyrraedd. Mae hynny er gwaethaf ymdrechion anhygoel ein staff addysgu gweithgar ledled y wlad.
Nawr, mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn ymwneud â pholisi a dull o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis canolbwyntio ar ddull sy'n seiliedig ar sgiliau. Mae sgiliau, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer byd gwaith. Ond efallai mai'r broblem yw'r dull o weithredu. Gadewch imi ddyfynnu dau bwynt o'r adroddiad a allai esbonio'r broblem. Rhif 1 yw ei bod yn anodd mesur y cynnydd a wneir gan fyfyrwyr sy'n dilyn cwricwlwm seiliedig ar sgiliau. Yn hytrach na dod o hyd i ffyrdd o fesur cynnydd myfyrwyr yn effeithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi methu casglu digon o wybodaeth ystadegol i fesur anghydraddoldebau sgiliau a chynnydd disgyblion yn ein system addysg. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar ganlyniadau PISA i adrodd y stori, ond wedyn, pan fydd y canlyniadau hynny'n siomedig, cânt eu diystyru lawn mor barod.
A'r ail bwynt o'r adroddiad yr hoffwn ei nodi oedd y gellir gweld dirywiad yng nghanlyniadau PISA pob gwlad sydd wedi mabwysiadu dull seiliedig ar sgiliau. O ystyried bod adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir ynghylch gwendidau'r dull gweithredu, tybed a yw Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod wedi dewis y llwybr cywir i'n disgyblion. Mae ein pobl ifanc yn haeddu cyflawni eu potensial, a gwybod y gallant gyflawni beth bynnag y maent eisiau ei wneud. Dyna'r uchelgais sydd gan rieni ar gyfer eu plant, a'r un sydd gan athrawon i'w disgyblion, ac rwy'n siŵr ei fod yn uchelgais sydd gan bob Aelod o'r Senedd hon i'n pobl ifanc hefyd. Felly, mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i gyflawni hynny. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas er mwyn gadael dyfodol gwell i'r genhedlaeth nesaf. Ac os mai cael y gostyngeiddrwydd a'r gonestrwydd i edrych eto ar y dull gweithredu yw'r ffordd y gallwn ei gyflawni, dyna ddylem ei wneud. Edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.
Yn ffurfiol.
Wedi ei gynnig yn ffurfiol. Diolch. Heledd Fychan nawr i gynnig gwelliant 2.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am osod y cynnig hwn. Gaf i groesawu hefyd yr Ysgrifennydd Cabinet i'w rôl? Edrychaf ymlaen i gydweithio.
Mae hwn yn bwnc eithriadol o bwysig, a dwi'n credu ei fod o'n gyfle da, gobeithio, i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro i'r Senedd beth fydd hi yn ei flaenoriaethu hefyd fel ymateb i hyn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi amser i fyfyrio ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Un o'r pethau yr hoffwn ei wybod yw beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ar gynnwys yr adroddiad, a hefyd ei myfyrdodau ar y canlyniadau PISA. Yn amlwg, yr hyn sydd gennym yn yr adroddiad yw sylwadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar ymateb Llywodraeth Cymru, neu'r ymateb swyddogol, i PISA. Gyda pheth o'r feirniadaeth a welwyd, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i ni fel gwrthbleidiau ddeall yn iawn sut rydych chi'n teimlo am y sylwadau a'r feirniadaeth honno, a hefyd, os oes unrhyw amddiffyniad, gadewch inni ei gael, ac a oes unrhyw bethau i'w hystyried o ran hynny. Oherwydd ni wnaf ailadrodd yr ystadegau a ddarllenwyd gan Tom Giffard; mae'r rheini'n siarad drostynt eu hunain, nid oes dadl yn eu cylch. Ac fe allem gael dadl am PISA ei hun wrth gwrs a sut yr awn ati i fesur ac yn y blaen, ond y gwir amdani yw ein bod ni'n clywed yn barhaus gan undebau athrawon, athrawon eu hunain a disgyblion eu bod nhw'n teimlo bod yna argyfwng o fewn ein system addysg, ac nid yw hynny'n adlewyrchiad o'r gweithlu.
Hoffwn ddweud yn bendant fod angen inni werthfawrogi a diolch i'n staff gweithgar yn ein hysgolion sy'n gwneud gwaith arwrol o ddydd i ddydd. Byddwn i gyd yn gwybod am athrawon sydd wedi trawsnewid ein cariad neu ein hangerdd tuag at bwnc, ac rydym yn gwybod am y rhai sy'n mynd y tu hwnt i'r galw ddydd ar ôl dydd i sicrhau'r gorau i'r disgyblion yn eu gofal. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd yr hyn y mae undebau athrawon ac athrawon yn ei ddweud wrthym, nad oes digon o staff, eu bod yn pryderu nad oes digon o gynorthwywyr addysgu, rhywbeth a welwn, unwaith eto, oherwydd toriadau, ac ysgolion yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â staff a chymorth addysgu, a phryderon penodol wedyn ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac fe fyddwch chi'n gwybod bod ein hymchwiliad wedi bod yn bellgyrhaeddol a'n bod ni wedi clywed tystiolaeth dorcalonnus. Fel Aelod rhanbarthol o'r Senedd, cynhaliais arolwg tebyg i un Buffy Williams, ac rwy'n siŵr fod y ddwy ohonom wedi cael cannoedd o sylwadau gan blant a phobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr, nad ydynt yn gweld y newidiadau a addawyd yn dod drwodd gyda'r diwygiadau. Rydym hefyd yn clywed yn barhaus gan ysgolion y mae eu cyllidebau ar ymyl y dibyn, lle maent yn ei chael hi'n anodd meddwl am ddiwygiadau'r cwricwlwm. Er eu bod yn gwbl gefnogol, ni allant eu gwireddu am nad yw'r cyllidebau yno i roi bywyd iddynt.
Felly, rwy'n credu bod angen inni oedi a myfyrio, a dyna pam mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ar wahân i bwynt (d), gan nad ydym yn cefnogi cyflwyno ysgolion rhydd ac academïau. Ond rwy'n credu bod yr hyn y mae'r cynnig yn galw amdano, sef rhoi eiliad i oedi a myfyrio, ac edrych go iawn ar y newidiadau a roddwyd ar waith ac sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, i weld a ydynt yn gweithio i'n plant a'n pobl ifanc, a hefyd i athrawon, yn bwysig iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd y cynnig hwn fel y mae wedi'i gyflwyno a gofyn, 'A allwn ni wir edrych ar addysg a gweld a yw'r pethau yr ydym i gyd am eu gweld yn datblygu yn gyraeddadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael ar hyn o bryd?'
Fy mhryder mawr yn hyn oll yw ein bod yn clywed dro ar ôl tro am blant a phobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol o gwbl neu sydd wedi ymddieithrio o fyd addysg, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ganlyniadau yn y dyfodol hefyd. Felly, eich myfyrdodau ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, beth yw eich ymateb, ac a gawn ni weld newid cywair gan y Llywodraeth i ddeall difrifoldeb canlyniadau PISA, a'n bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd—yn drawsbleidiol, ar draws y Senedd, a chyda'r undebau—i sicrhau'r math o system addysg rydym ei hangen ac yn ei haeddu yma yng Nghymru?
Rhaid imi ddweud, yn sgil sgorau PISA Cymru, sy'n destun embaras, mae'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn bur ddamniol. Ar un lefel, rwy'n teimlo'n flin dros yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, ond mewn sawl ffordd, nid yw ond yn cadarnhau'r hyn rydym eisoes yn ei wybod a'r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud ers amser maith: fod diwygiadau addysg Llafur Cymru wedi bod yn drychinebus ac wedi ehangu anghydraddoldeb. Ac rydym i gyd yn cofio blaenoriaethau blaenorol Llafur, sef 'addysg, addysg, addysg', nad ydynt yn gweithio yma yng Nghymru, mae'n amlwg.
Yn wir, mae'r diwygiadau hyn, y cymerodd flynyddoedd lawer i'w llunio, yn systematig yn dal plant difreintiedig yn ôl. Y ffaith fwyaf rhyfeddol yw bod perfformiad plant difreintiedig yn Lloegr naill ai'n uwch neu'n debyg i'r cyfartaledd ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Meddyliwch am hynny am eiliad. Dylai'r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun beri pryder i unrhyw un yng Nghymru sy'n poeni am ddyfodol ein gwlad. Ac yn y lle hwn, mae Llafur yn hoffi awgrymu cymaint y maent yn poeni am gyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Fe glywn foesoli cyson oddi ar feinciau'r Blaid Lafur. Yn y pen draw, mae eu Llywodraeth nhw'n cosbi plant a phobl ifanc dan anfantais.
Felly, ble mae cyfiawnder i blant o deuluoedd tlawd y mae eu cyfleoedd mewn bywyd wedi'u crebachu diolch i fympwyon ideolegol Llywodraeth allan o gysylltiad yma yng Nghaerdydd. Gwyddom nad yw Llafur yn hoffi cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd ac y byddant yn beio unrhyw un, yn enwedig San Steffan, ond fel y mae'r adroddiad yn nodi,
'Mae'n annhebygol y bydd modd egluro gwahaniaethau rhwng perfformiad addysgol Cymru a pherfformiad addysgol Lloegr drwy wahaniaethau mewn adnoddau a gwariant.'
Dyna ddyfyniad uniongyrchol o adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Ac maent hefyd yn nodi
'Mae'r esboniad am berfformiad addysgol is yn llawer mwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau hirsefydlog o ran polisi a dulliau gweithredu, megis lefelau is o atebolrwydd allanol a llai o ddefnydd o ddata.'
Ac rydym ni, ar y llaw arall, yn ymwybodol fod diwygiadau addysg yn Lloegr wedi dwyn ffrwyth go iawn. Fel yr amlinellais, mae addysg yn Lloegr ymhell ar y blaen i addysg yng Nghymru. Nid wyf yn dweud hynny gyda balchder, ond gyda thristwch. Mae gennyf dri o blant yn y system addysg yma yng Nghymru. Mae'r gwannaf yn ysgolion Lloegr yn gwneud cystal neu'n well na chyfartaledd Cymru, diolch i uchelgais, yr academïau ac ysgolion rhydd. Diolch hefyd i gwricwlwm sy'n drylwyr, gyda ffocws ar ganlyniadau a phynciau fel ffoneg, sydd wrth gwrs yn flociau adeiladu cyflawniad i gynifer o blant. Ac mae llawer y gallai Gweinidogion Llafur yma ei ddysgu o'r diwygiadau hynny, ond yn waeth na dim i ni yng Nghymru, mae llawer mwy o fandaliaeth addysgol i ddod gan y Llywodraeth Lafur hon.
Fe wyddom fod y diwygiadau TGAU sydd ar y ffordd, yng ngeiriau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid,
'mewn perygl o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.'
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio'n fawr eich bod yn myfyrio ar y geiriau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy'n cael eu dyfynnu yno. Gwyddom fod addysg, ac addysg o safon, yn un o wastatwyr mawr bywyd, un o'r ffyrdd gorau o ddod â phobl, plant, allan o dlodi, ac mae'n alluogwr i chwalu caledi sy'n pontio'r cenedlaethau. Mae plant Cymru yn ysu am gyfle teg mewn bywyd ac nid ydynt yn cael y cyfle teg hwnnw o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae angen ateb gwell a dyfodol mwy disglair i'r plant hyn, felly rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn.
Lywydd, mae'r dirwedd addysg yng Nghymru yn mynd drwy newid mawr, wedi'i sbarduno gan Gwricwlwm newydd Cymru a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Ychwanegwch at hyn yr heriau ymddygiadol a wynebwn ar draws ysgolion yn sgil COVID a'r argyfwng costau byw, mae'r cyfrifoldeb ar ein hathrawon yn ymestyn yn llawer ehangach nag addysgu. Mae'n hollbwysig caniatáu digon o amser i'r newidiadau hyn wreiddio mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, yn ogystal â gwrando ar athrawon a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt oddi mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Wrth ymweld ag ysgolion ledled y Rhondda, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol ymroddiad ac arloesedd athrawon i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Croesawyd yr ymreolaeth newydd â breichiau agored a brwdfrydedd yn ein hystafelloedd dosbarth. Heb os, mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiadau Estyn llwyddiannus diweddar ar ysgolion ledled y Rhondda. Mae llyfr gwaith Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn dyst go iawn i hyn, gyda disgyblion yn gallu cyflwyno eu gwaith yn hyderus drwy gydol y flwyddyn ysgol mewn dyfnder a dealltwriaeth.
Heb os, bydd rhannu arferion gorau ar draws clystyrau a rhanbarthau yn ateb nodau'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr mwy uchelgeisiol a galluog. Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ategu ymdrechion athrawon a disgyblion â chamau i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion, i ddiwallu anghenion disgyblion sy'n ffynnu i ffwrdd o amgylchedd yr ystafell ddosbarth, ac i greu cysylltiadau llawer cryfach rhwng ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, er mwyn mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl. Bydd parhau i fuddsoddi yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn hanfodol. Byddwn wrth fy modd pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld ag ysgol newydd, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, pan fydd yn agor ei drysau yn nes ymlaen eleni.
Bydd adeiladu ar brosiectau llwyddiannus fel y prosiect Golau Gwyrdd ar draws Rhondda Cynon Taf yn allweddol hefyd, gan ganiatáu i ddisgyblion ddysgu mewn amgylchedd sy'n gweddu'n well i'w hanghenion. Mae croeso hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod ag athrawon a phlant yn y Rhondda i drafod y llwyddiant hwn ymhellach. Ac wrth gwrs, bydd cynyddu'r adnodd a chryfhau'r berthynas i gefnogi iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yn hanfodol. Yn dilyn sylwadau brawychus gan rai ysgolion yn y Rhondda a gwybod sut mae iechyd meddwl bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfathrebu rhwng ysgolion a CAMHS yn waith yr hoffwn yn fawr ei chyfarfod i'w drafod ymhellach.
Gan droi at y Ddeddf ADY, hoffwn ddiolch i'r rhieni a'r gwarcheidwaid a rannodd eu profiad o lywio'r system ADY gyda mi ar gyfer fy adroddiad ADY yn y Rhondda. Er bod llawer iawn o ganlyniadau cadarnhaol ac agweddau cadarnhaol tuag at y Bil gan ein hathrawon, mae gormod o blant yn dal i gael cam. Rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r system yn parhau i'w cyflwyno, boed yn wahaniaethau yn y ddarpariaeth rhwng ysgolion, y pryder y mae teuluoedd ac athrawon yn ei deimlo yn ystod prosesau panel cymhleth, neu'r llif llethol o geisiadau panel a ddaw i law awdurdodau lleol.
Yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae ein hymrwymiad i gasglu tystiolaeth uniongyrchol ar gyfer ein hymchwiliad i ddiwygiadau addysg yn parhau i fod yn ddiwyro, gydag ymweliadau pellach yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru dros y pythefnos nesaf, a byddwn yn cynnal sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar ddechrau'r mis nesaf. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i graffu a thrafod y dystiolaeth a gafwyd gan randdeiliaid i lunio argymhellion gyda'r nod o sicrhau mynediad teg at addysg a gofal plant i blant anabl.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, Buffy. Rydych chi newydd ddod yn gadeirydd y pwyllgor addysg. Un o'r problemau mwyaf yn yr hyn a adawyd ar ôl yn sgil pandemig COVID yw absenoldeb mewn ysgolion. Mewn rhai cymunedau difreintiedig, mae cymaint â 40 y cant o blant heb fod yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd, ac mae honno'n her fawr i'r Llywodraeth, ac yn amlwg mae Gweinidog newydd yn ei swydd nawr. Rwy'n obeithiol y bydd y pwyllgor addysg yma yn gwneud gwaith ar hynny. A ydych chi o'r un farn â minnau fod hwn yn fater eithriadol o bwysig y mae angen mynd i'r afael ag ef a sicrhau adnoddau ar ei gyfer, yn bwysig, fel bod y plant hynny'n dychwelyd i'r ysgol ac yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod; rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Dyma rywbeth yn y Rhondda—. Mae pob ysgol a fynychais yn y Rhondda wedi dod yn ôl ataf a dweud yn union yr un peth, fod ganddynt broblem enfawr gyda phresenoldeb, felly mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni, fel pwyllgor, yn edrych arno ac yn edrych arno'n ofalus iawn.
I orffen, Lywydd, hoffwn ddiolch i'n hathrawon, staff ysgolion a swyddogion cyswllt teuluol ledled y Rhondda. Yng nghanol trallod economaidd ac yn ogystal â rhedeg ysgolion o ddydd i ddydd, mae'r arloesedd a'r haelioni a welir yn rhyfeddol. O bantri Ysgol Gynradd Clydach i'r Big Bocs Bwyd yn Ysgol Gynradd Treorci ac Ysgol Gynradd Gelli, yr archwilwyr sbwriel yn Ysgol Gynradd Maerdy ac Ysgol Gymunedol y Porth, a Chwtsh y Cwm Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, mae gwead yr ysgolion yn y Rhondda yn ymgorffori gwir ystyr teulu a chymuned. Diolch.
Hoffwn ddweud fy mod wedi fy syfrdanu o ddarllen canfyddiadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond mae'r casgliadau a gynhwysir yn yr adroddiad 'Major challenges for education in Wales' yn ailddatgan yr hyn yr oedd llawer ohonom yng Nghymru eisoes yn ei wybod: fod ein system addysg yn gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol; mae'n methu darparu'r canlyniadau addysg priodol, ac yn methu gwella cyfleoedd bywyd y plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn a'n cynnig heddiw yn canu larymau i Lywodraeth Cymru, ac mae angen iddynt wrando, nid yn unig ar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond ar arweinwyr ysgolion ledled y wlad.
Ddydd Llun, siaradais â phennaeth un o'r ysgolion mwyaf yn fy rhanbarth a amlinellodd yr her y maent yn ei hwynebu. Mae'r gwelliannau mawr y maent wedi bod yn eu cyflawni i gyrhaeddiad a mynd i'r afael â materion ymddygiad i gyd mewn perygl oherwydd toriadau i gyllid. Gallai gwaith hanfodol a wneir i wella bywydau pobl ifanc ag anghenion ychwanegol gael ei atal am na allant fforddio parhau i gyflogi'r gweithwyr cymorth.
Ar adeg pan fo angen buddsoddiad o'r fath yng nghenedlaethau'r dyfodol, mae cyllidebau'n cael eu cwtogi a mwy o feichiau'n cael eu gosod ar staff addysgu ac arweinwyr ysgolion. Mae'n amlwg fod angen mwy o athrawon, ond mae angen system addysg sefydlog sy'n gweithredu ar lefel uchel arnom hefyd, ac nid dyna sydd gennym yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Mae pryderon a godwyd gan nifer yn y Siambr hon dros y chwarter canrif diwethaf wedi cael eu gwthio o'r neilltu gan Weinidogion olynol Llywodraeth Cymru, a feiai bawb a phopeth ar wahân iddynt hwy eu hunain. Eto i gyd, dyma ddarllen mewn du a gwyn mai'r achos sylfaenol dros fethiant addysg yw'r system ei hun. Ni allwn feio tlodi, ni allwn feio demograffeg, ond fe allwn roi'r bai ar lunwyr polisi. Mae gennym Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd. Mae'n hen bryd inni gael cyfeiriad newydd.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod y diwygio arfaethedig mewn perygl o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wella addysg yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys oedi newidiadau ac adolygiad annibynnol trylwyr o'r diwygiadau addysgol. Mae llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dibynnu ar gael hyn yn iawn. Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, nid ydym ar y trywydd cywir ac mae angen cywiro hynny ar frys. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi ein cynnig y prynhawn yma felly, ac i wrthod y gwelliannau. Diolch yn fawr iawn.
Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, ond credaf ei bod yn bwysig iawn, os ydym yn mynd i wella’r canlyniadau addysgol i bobl yng Nghymru, ein bod yn rhoi cydnabyddiaeth i'r bobl sydd yn ein hystafelloedd dosbarth, yn addysgu ein pobl ifanc ledled Cymru, sef ein staff addysgu. Weithiau, ni chredaf ein bod yn gwneud digon yn y Siambr hon i gydnabod y gwaith gwych y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd ledled Cymru i ysgogi’r gwelliannau sydd eu hangen arnom i baratoi'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc ar gyfer y gweithle. Y rheswm pam fy mod yn siarad heddiw yw fy mod yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sy'n mynd o gwmpas gyda Buffy ac aelodau eraill, yn clywed yn uniongyrchol gan athrawon am y trafferthion y maent yn eu hwynebu ym myd addysg ar hyn o bryd.
Mae nifer yr athrawon a phenaethiaid sy'n cael trafferth aruthrol gyda'u hiechyd meddwl yn anghredadwy. Mae gennyf athrawon sy'n anfon e-bost ataf yn wythnosol yn dweud nad ydynt am fynd i'r gwaith mwyach, am na allant wynebu gwneud hynny. Maent yn codi am 7 o'r gloch y bore ac yn gweithio tan 8 o'r gloch, 9 o'r gloch y nos i baratoi pethau ar gyfer y diwrnod wedyn. Ni allant reoli eu dosbarthiadau mwyach, am fod ymddygiad yn mynd allan o reolaeth, ac yna maent hefyd yn edrych ar y bobl sy'n dioddef gyda phroblemau ADY. Gan nad ydym yn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol gydag ADY yn ein hysgolion ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar y disgyblion hynny, mae rhai o’n hathrawon a rhai o’n penaethiaid yn treulio eu holl amser yn gofalu am y disgyblion hynny pan ddylai fod ganddynt y mecanweithiau cymorth cywir sydd eu hangen arnynt. Rwy'n credu, ac roedd fy rhagflaenydd, Kirsty Williams, hefyd yn credu, ei bod yn bwysig iawn i ni yma fel llunwyr polisi ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar y diwygiadau ADY a gyflwynwyd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y disgyblion hynny, fel bod ein pobl ifanc ledled Cymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac fel nad yw dysgwyr eraill yn yr ystafelloedd dosbarth hynny yn cael eu trin yn waeth am nad ydynt yn cael y cymorth priodol sydd ei angen arnynt hwythau hefyd.
Ond yn fwy cyffredinol na hynny, rwy'n credu bod angen inni hyrwyddo addysg. Mae angen inni hyrwyddo addysg yng Nghymru. Rydym yn sôn am gael 5,000 yn rhagor o athrawon i mewn i'r ystafelloedd dosbarth. Ni chyflawnwn hynny os nad ydym yn siarad am y gwaith gwych a wnânt a diolch iddynt bob dydd am y gwaith anhunanol a wnânt yn addysgu pobl ifanc ledled Cymru, fel y dywedais o’r blaen. Oherwydd nid lladd ar ein system addysg yw'r ffordd o annog rhagor o athrawon i mewn i'r ystafell ddosbarth. Nid yw hynny'n mynd i annog unrhyw un i ymgymryd â'r proffesiwn addysgu. Felly, rwy’n annog pob Aelod yn y Siambr hon heddiw, os ydym am gael mwy o athrawon ac os ydym am ysgogi gwelliannau i’n system addysg ledled Cymru, mae angen inni ddechrau rhoi cydnabyddiaeth i'r bobl hynny yn yr ystafell ddosbarth am y gwaith gwych a wnânt bob dydd, a dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ie, i sicrhau eu bod yn cefnogi’r athrawon hynny, yn rhoi cymorth iechyd meddwl ar waith ar gyfer yr athrawon hynny ac yn sicrhau bod ganddynt gydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, fel eu bod, pan fyddant yn codi yn y bore i fynd i ofalu am bobl ifanc, yn gwneud hynny hyd eithaf eu gallu a heb fod wedi ymlâdd yn llwyr ar ôl gorfod gwneud popeth arall hefyd.
Rwy’n annog pobl i gefnogi ein cynnig heddiw, ond rwy'n erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i fynd allan i gyfarfod ag athrawon a phenaethiaid o bob rhan o Gymru a deall y trafferthion gwirioneddol y maent yn eu hwynebu bob dydd, oherwydd hebddynt, ni fydd gennym y system addysg rydym ei heisiau a’i hangen yma.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Ni fydd grŵp y Ceidwadwyr yn synnu fy nghlywed yn dweud fy mod yn anghytuno â llawer o gynnwys eu cynnig, ond rwy'n cydnabod difrifoldeb y materion a godwyd, yn enwedig y cyfeiriad at adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r gwaith sydd eto i'w wneud er mwyn darparu’r system addysg y mae pobl Cymru yn ei disgwyl ac yn ei haeddu. Ac nid wyf, mewn unrhyw ffordd, yn hunanfodlon ynghylch y dasg honno.
Bythefnos yn ôl, nododd y Prif Weinidog ei flaenoriaethau mewn datganiad yn y Siambr hon. Roedd gwelliannau parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol, ynghyd â chymorth ehangach i blant a phobl ifanc, ymhlith ei brif flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru. Y gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad fydd fy ffocws fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a byddaf yn cyflwyno datganiad manylach ar fy mlaenoriaethau maes o law.
Ni fyddai unrhyw un yn gwadu bod y canlyniadau PISA a gyhoeddwyd y llynedd yn siomedig, ond ni allwn eu hystyried heb gyd-destun. Cynhaliwyd y profion hyn yn 2022, pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal yn amlwg a COVID yn dal i amharu ar addysg. Gwyddom ein bod wedi gwneud cynnydd cyn COVID, gyda gwelliant yn y sgorau PISA, ac roedd gennym hyder cynyddol fod ein hymdrechion cyfunol i wella perfformiad addysgol yn dechrau dwyn ffrwyth. Bydd ein ffocws newydd ar lythrennedd a rhifedd yn hanfodol fel bod pob dysgwr, ni waeth beth fo’u cefndir, yn gallu cyflawni eu potensial. Rydym wedi buddsoddi £5 miliwn mewn rhaglenni cymorth a darllen o ansawdd uchel, ochr yn ochr â phecyn cymorth llafaredd a darllen newydd i ysgolion a’n cynllun mathemateg a rhifedd. Mae gennym raglen ddiwygio uchelgeisiol ac eang, sydd ond newydd ddechrau cael ei chyflwyno.
Mae ein Cwricwlwm i Gymru, na chafodd ei asesu o dan PISA, bellach wedi’i gyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol ar weithredu'r cwricwlwm, a hyder cynyddol a pherchnogaeth ar gynllunio'r cwricwlwm ymhlith addysgwyr. Mae ysgolion yn addasu eu dulliau ac yn parhau i gefnogi'r newidiadau.
Fy ffocws cynnar fu gwrando’n astud ar ysgolion. Lle mae’n amlwg fod ysgolion yn awyddus i gael mwy o sgaffaldiau, byddaf yn sicrhau eu bod yn cael y cymorth manylach hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud yn glir na ellir ystyried cyrhaeddiad heb ystyried y ffordd y daw plant a phobl ifanc at eu haddysg. Mae eu hiechyd meddwl a’u llesiant a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig ar gyfer cyrhaeddiad, fel y mae llesiant y gweithlu. Yn fy rôl weinidogol flaenorol, roeddwn yn falch o fwrw ymlaen â’r dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a llesiant, a byddaf yn parhau i hyrwyddo hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Nid PISA yw’r unig ddangosydd o ba mor dda y mae ein system addysg yn perfformio. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cenedlaethol ar asesiadau personol ym mis Tachwedd, a byddwn yn dilyn hyn gydag adroddiad blynyddol. Mae adroddiad blynyddol Estyn yn rhoi cyfrif annibynnol pwysig o sut mae ysgolion, addysg a darparwyr hyfforddiant yn perfformio. Mae Estyn wedi tynnu sylw at faterion llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ers COVID, a byddaf yn parhau i ystyried eu canfyddiadau ac yn gwrando ar brofiadau athrawon a dysgwyr ar yr un pryd.
Mae ein harweinyddiaeth genedlaethol yn allweddol i'r gwaith o godi safonau addysg, drwy ymestyn dysgwyr a lleihau'r bwlch cydraddoldeb. Rydym yn cynnull uwch-gyfarfodydd arweinwyr addysg cenedlaethol i sicrhau bod y system yn gweithredu gyda’i gilydd a bod y cyfrifoldeb am weithredu yn cael ei rannu gan bawb ar y cyd. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhoi'r Ddeddf a'r diwygiadau ADY ar waith yn flaenoriaeth allweddol, a dyna pam fod y lefelau uchaf erioed o gyllid gan y Llywodraeth yn cefnogi’r maes hwn bellach.
Bydd yr adolygiad haen ganol hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn llywio ein dull o gydgysylltu gwelliant ar bob lefel. Rydym hefyd yn diwygio addysg ôl-16 drwy reoli colegau, prifysgolion, prentisiaethau a lleoliadau chweched dosbarth fel un system, drwy’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER). Bydd CTER yn gyfrifol am hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg ôl-16, gan sicrhau canlyniadau tecach i bawb. Ac mae ein gwarant i bobl ifanc eisoes wedi helpu dros 27,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed i gael mynediad at raglenni cyflogadwyedd a sgiliau.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod llwyth gwaith yn bryder i lawer o staff addysgu. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid, undebau llafur a chyflogwyr i leihau llwythi gwaith a dileu biwrocratiaeth ddiangen. Sefydlwyd y grŵp cydgysylltu strategol ar lwyth gwaith ym mis Chwefror, ac mae'r grŵp hwnnw’n goruchwylio’r holl faterion sy’n ymwneud â lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth. Mae adolygiad cyfochrog yn ystyried llwyth gwaith darlithwyr addysg bellach. Byddwn yn parhau i gefnogi recriwtio drwy achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon, parhau'r TAR cyflogedig a chymhellion i annog unigolion o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i'r proffesiwn.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn yn fy araith heddiw i ddiolch i'r gweithlu addysg am eu holl waith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn hon, a phob blwyddyn—fe'i gwerthfawrogir yn fawr. Rwy'n gwybod na ellir cyflawni newid a gwelliant heboch chi, ac rwy'n ymrwymo heddiw i weithio gyda chi, mewn partneriaeth â chi, i gyflawni ar ran dysgwyr ledled Cymru. Gwyddom fod yna heriau ym maes addysg, llawer ohonynt nad ydynt yn unigryw i Gymru, ond rydym yn mynd i’r afael â’r rhain drwy gydweithio â’n partneriaid i adeiladu’r system ragorol, gadarn ac uchelgeisiol y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Diolch.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma, ac ailadrodd y geiriau a grybwyllwyd eisoes ein bod yn cydymdeimlo fel grŵp gyda’r rheini yn Ysgol Dyffryn Aman ar ôl y digwyddiad heddiw?
Wrth agor y ddadl, soniodd Tom Giffard am y sgorau PISA ac adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan nodi bod pobl ifanc yng Nghymru yr un mor alluog â phobl ifanc eraill ledled y DU, ond yn anffodus, eu bod yn cael cam yma yng Nghymru. Dywedodd fod angen gwneud popeth sy'n bosibl i sicrhau dyfodol gwell i bobl ifanc a phlant Cymru, a chredaf y dylai pob un ohonom gytuno ag ef.
Yn ei chyfraniad, gofynnodd Heledd gwestiynau clir i Ysgrifennydd y Cabinet am ei blaenoriaethau a’i barn ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r sgorau PISA. Galwodd Heledd yr ystadegau a grybwyllwyd gan Tom Giffard yn 'ystadegau diamheuol'. Roedd thema gyffredin drwy’r holl gyfraniadau heddiw, sef cydnabyddiaeth i athrawon a staff ysgolion, a’u gwaith da yn ein sefydliadau addysg. Roeddwn yn siomedig o glywed na fydd Plaid Cymru yn cefnogi ein galwadau am academïau ac ysgolion rhydd. Credaf fod hon yn un elfen o'r diwygiadau addysgol yn Lloegr sydd wedi bod yn llwyddiant, gan godi safonau, ac felly credaf y dylid archwilio unrhyw gyfle i wella canlyniadau addysgol.
Yn ei gyfraniad ef, galwodd Sam Rowlands adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ‘embaras’ ac yn ‘bur ddamniol’, a dywedodd ei fod yn ehangu’r anghydraddoldebau yma yng Nghymru. Ailadroddodd y neges enwog honno gan Brif Weinidog Llafur blaenorol, 'addysg, addysg, addysg'. Yn anffodus, yma yng Nghymru, 'methiant, methiant, methiant' ydyw. Mae plant difreintiedig yn Lloegr ar lefel debyg o ran cyrhaeddiad i bob plentyn yma yng Nghymru. Ac nid yw'n fater o adnoddau na chyllid, fel y mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei nodi; mae'n rheswm sy'n ymwneud â pholisi a dull gweithredu.
Soniodd Buffy Williams—llongyfarchiadau ar gael eich penodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—am y newidiadau mawr a wnaed i addysg yma yng Nghymru, a bod angen digon o amser i'r newidiadau ddigwydd ac ymwreiddio. Pa mor hir yw digon o amser? Pa mor hir y mae'n rhaid inni aros i'r newidiadau hynny ymwreiddio cyn inni ddweud, 'A dweud y gwir, nid ydynt yn gweithio'? Soniodd hefyd am adroddiadau Estyn ar ysgolion lleol—byddai’n esgeulus imi beidio â defnyddio’r cyfle i longyfarch ysgol Maenorbŷr yn fy etholaeth i, a gafodd adroddiad gwych gan Estyn, a hynny ar ôl dioddef tân yn eu hysgol a’i symud i neuadd bentref am sawl mis. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt ar hynny. Ond roedd Buffy hefyd yn iawn i nodi'r gwahaniaeth o ran iechyd meddwl, y brwydrau a'r berthynas waith agosach rhwng ysgolion a CAMHS—credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig.
Mewn ymyriad, cododd Andrew R.T. Davies fater absenoliaeth, ac rwy’n falch y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar hyn, gan y credaf fod hwnnw’n bwynt gwerth chweil i ni ei archwilio'n fanwl.
Yn ei gyfraniad, mynegodd Altaf Hussain ei syndod ynghylch adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. 'Methu ar ran cenedlaethau'r dyfodol', meddai Altaf, ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i ailadrodd ar y meinciau hyn. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wrando—credaf fod hynny’n hynod o bwysig. Dylid gwrando ar y rheini sy'n gwybod sut i wella'r pethau hyn. Gyda Phrif Weinidog newydd, Cabinet newydd, fe ellid cael cyfeiriad newydd, meddai.
Roedd James Evans, mewn cyfraniad nad oedd yn bwriadu ei wneud, yn hynod o resymegol ac eglur wrth nodi'r angen i gydnabod y staff addysgu, nid yn unig yr athrawon eu hunain, ond yr holl staff mewn sefydliadau addysg yma yng Nghymru, sy’n gweithio’n galed ar ran cenedlaethau'r dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gloi, fe wnaethoch chi gydnabod difrifoldeb y mater dan sylw, maint y dasg, ac fe ddywedoch chi nad oeddech yn hunanfodlon. Digon o rethreg gadarnhaol ynghylch hyn, mae'n rhaid dweud. Roeddech yn siomedig gyda'r canlyniadau PISA, ond fe ddywedoch fod COVID yn ffactor sylfaenol. Nawr, nid yw hyn bob amser yn gwneud synnwyr fel rheswm dros y canlyniadau PISA, pan oedd gwledydd eraill y DU yn ymrafael â COVID hefyd, ac nid oedd y gostyngiad yn eu safonau yn agos at yr hyn a welsom yma yng Nghymru. Yr hyn yr hoffwn ei weld rywbryd yn y dyfodol yw cynnydd ar leihau’r llwyth gwaith i staff, ac edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y gwaith hwnnw wrth inni symud ymlaen.
Yn y rôl hon fel Aelodau o'r Senedd, mae gennym y cyfle a'r fraint o fynd i ysgolion i siarad â'r genhedlaeth nesaf, ac rwyf bob amser yn teimlo bod angen imi eu gadael â rhywbeth i geisio eu hysbrydoli, ac rwyf bob amser yn teimlo atyniad at—bydd y rheini ohonoch sydd wedi defnyddio gorsaf drenau Abertawe wedi gweld llinell wedi'i hysgrifennu ar y llawr, neu os ydych chi wedi gweld ffilm o'r enw Twin Town, fe fyddwch chi'n gyfarwydd â'r llinell—'Ambition is critical', dyfyniad gan David Hughes. Mae uchelgais yn gwbl hanfodol. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol ar ran ein plant ysgol, gadewch inni fod yn uchelgeisiol ar ran ein pobl ifanc, gadewch inni fod yn uchelgeisiol wrth sicrhau nad system addysg yn unig yw’r system addysg sydd gennym yma yng Nghymru, ond y system addysg orau oll. Dylem fod yn arweinwyr, nid yn ddilynwyr, a chyda hynny, rwy’n annog pob Aelod i bleidleisio gyda’r Ceidwadwyr Cymreig heno. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rydym wedi cyrraedd y cyfnod hwnnw. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.