6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth: Gwrando, partneriaeth, gwneud newid

– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 23 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:02, 23 Ebrill 2024

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ar y blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth—gwrando, partneriaeth, gwneud newid. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan wnes i ymgymryd â'r rôl hon, gosodais dair blaenoriaeth i'm tîm: gwrando, gweithio mewn partneriaeth a gwneud i newid ddigwydd lle mae ei angen. Ar 20 mya, rydym wedi dechrau gwrando. Rwyf wedi bod yn glir yn fy holl sgyrsiau y byddwn yn rhoi cymunedau wrth wraidd ein meddwl ac y byddwn yn gwrando ar leisiau pob dinesydd.

Fel y dywedais yn y Senedd yr wythnos diwethaf, mae consensws cynyddol ar gyflymder diogel mewn cymunedau y gallwn adeiladu arno. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gredu mai 20 mya yw'r terfyn cyflymder cywir mewn mannau ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, mannau chwarae ac mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo plant a phobl agored i niwed mewn cysylltiad agos â thraffig. Prif amcan y polisi yw galluogi pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau drwy leihau gwrthdrawiadau. Yr hyn rwy'n ei wneud nawr yw gwrando ar yr hyn y mae pobl yn dymuno ei gael ar gyfer y ffyrdd yn eu cymunedau, a bwrw ymlaen â mireinio'r polisi a chael y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cychwyn nifer o gamau.

Elfen gyntaf fy null gweithredu yw cael rhaglen wirioneddol o wrando ar bobl. Rhwng nawr a mis Gorffennaf, byddwn yn gwrando ar ddinasyddion, gyrwyr bysiau, gwasanaethau brys, yr heddlu, pobl ifanc, pobl agored i niwed, busnesau a chynghorwyr mewn cynghorau sir, tref a chymuned, er mwyn deall eu safbwyntiau ar ddiogelwch ar y ffyrdd mewn ardaloedd preswyl. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cwrdd ag arweinwyr ac aelodau trafnidiaeth arweiniol o bob awdurdod lleol yng Nghymru i atgyfnerthu fy ymrwymiad i weithio gyda nhw, fel y rhai sy'n gwneud penderfyniadau dros derfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd. Rwy'n falch eu bod i gyd wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth â mi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Ail elfen fy nghynllun yw gweithio mewn partneriaeth â chyrff allweddol i baratoi'r tir ar gyfer newid. Mae cynghorau eisoes yn edrych ar ffyrdd lleol lle gallai fod angen newidiadau. Fel rhan o'n rhaglen wrando, byddaf yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud wrthynt ble maen nhw'n credu y dylid targedu 20 mya. Bydd gwybodaeth am sut y gallwch wneud hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddaf hefyd yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned i sicrhau bod eu lleisiau'n rhan o'r sgwrs genedlaethol hon. Ochr yn ochr â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chanllawiau eithrio, eto trwy weithio mewn partneriaeth â chynghorau.

Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau heddiw fod fy swyddogion wedi gofyn i'r adolygiad allanol presennol ddod â'i waith i ben yn gyflym. Rwy'n disgwyl yr adroddiad terfynol o fewn yr wythnosau nesaf. Byddaf yn ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Byddaf wedyn yn cyhoeddi canllawiau eithrio diwygiedig erbyn yr haf. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol dargedu 20 mya yn well ar lwybrau priodol. Mae'n bleser gennyf adrodd heddiw, er mwyn cefnogi'r broses honno, y byddwn yn defnyddio cyngor gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, a fydd hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth ar newidiadau i bob awdurdod lleol. Yn y pen draw, mae'r penderfyniad yn nwylo'r awdurdod priffyrdd.

Y drydedd elfen wedyn yw cyflawni'r newidiadau angenrheidiol ar lawr gwlad. Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi gweithio gyda chymunedau a bod canllawiau newydd wedi'u cwblhau, bydd awdurdodau priffyrdd yn gallu dechrau'r broses o addasu terfynau cyflymder ar ffyrdd perthnasol, ac rwy'n disgwyl i'r broses hon ddechrau o fis Medi. Yn y pen draw, ni fydd y newid ym mhob un o'n hawdurdodau lleol yn cael ei bennu gennyf i a Llywodraeth Cymru, ond gan y cyhoedd a chynghorau, fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl. A gadewch imi fod yn glir ar bwynt pwysig arall sydd wedi dod i'r amlwg trwy fy ymgysylltiad ag arweinwyr cynghorau yr wythnos hon: rwy'n cydnabod yn llwyr yr ystod o bwysau sy'n wynebu ein partneriaid mewn llywodraeth leol, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithredu newid. Ni fyddwn yn disgwyl i gynghorau, sy'n wynebu pwysau ariannol anodd, dalu cost addasu llwybrau yn ôl i 30 mya.

I grynhoi: byddwn yn gwrando, yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni newid wedi'i dargedu ar lawr gwlad. Nid yw'r dull hwn wedi'i gyfyngu i'n gwaith ar derfynau cyflymder. Byddaf yn parhau i wrando ar bobl ledled Cymru ar faterion trafnidiaeth y maent yn eu hwynebu. Byddwn yn cryfhau partneriaethau â'n rhanbarthau, gan eu galluogi i lunio eu blaenoriaethau trafnidiaeth eu hunain sy'n gweithio i'w cymunedau. A byddwn yn lobïo Llywodraethau'r DU, y presennol a'r dyfodol, i wneud yr un peth, ac i fuddsoddi yn ôl yr angen yma. Rydym yn gwybod bod newid yn bosibl. Rydym ni'n dechrau gweld canlyniadau trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Yn ystod y mis llawn cyntaf o weithredu, roedd gwasanaethau rheilffordd ar reilffordd Treherbert ar amser 92.5 y cant o'r amser.

Rydym yn mabwysiadu dull gwahanol iawn yng Nghymru: rydym yn rhoi teithwyr yn gyntaf ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau'n cwrdd â gofynion megis pryd mae pobl eisiau ac angen teithio ar ôl COVID, ac rydym yn darparu mwy o wasanaethau i'w galluogi i wneud hyn. Diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflyd newydd, mae teithwyr ledled Cymru bellach yn gallu teithio ar drenau newydd, ac mae gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru heddiw yn perfformio'n well nag unrhyw weithredwr arall yng Nghymru.

Drwy leihau cyllid ar gyfer gweithrediadau, cynnal a chadw ac adnewyddu mewn termau arian parod, er gwaethaf yr holl chwyddiant a welsom, mae Llywodraeth y DU yn arwain dirywiad rheoledig o seilwaith rheilffyrdd Cymru y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd. Disgwylir llai o ddibynadwyedd asedau, mwy o fethiannau sy'n effeithio ar wasanaethau a llai o ddibynadwyedd yn ôl Network Rail, a dim ond buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trenau newydd fydd yn atal hyn rhag cael effaith fwy difrifol ar berfformiad a theithwyr yng Nghymru.

Rydym hefyd yn mynd i adeiladu ffyrdd newydd a gwella'r rhai presennol, ond byddwn yn codi safon ac yn adeiladu'n well nag o'r blaen. Byddwn yn defnyddio'r technegau mwyaf arloesol o bob cwr o'r byd. Byddwn hefyd yn dylunio'n well ein rhwydweithiau trafnidiaeth i ddarparu ar gyfer lonydd blaenoriaeth bysiau, ac rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn gefnogi mwy o bobl i gerdded rhwng eu cartref, safleoedd bws a'u cyrchfannau terfynol.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch dyfodol ffyrdd, gadewch imi ddweud hyn: bydd croesfan newydd yr A494 dros Afon Dyfrdwy yn mynd yn ei blaen; bydd gwelliannau Ffordd Yr Wyddgrug i Wrecsam yn mynd yn eu blaen; rydym wedi derbyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer rheoli traffig yn well yng nghyffiniau pont Menai. Dim ond tair enghraifft yw'r rhain. Yn y meysydd hyn, a meysydd eraill, byddwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau sy'n adlewyrchu'r her sero net sy'n ein hwynebu.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i ddiwygio sut mae ein system drafnidiaeth yn cael ei threfnu. Yn benodol, bydd ein Bil bws nodedig yn cywiro methiant trychinebus preifateiddio yng nghanol y 1980au. Bydd yn caniatáu i ni weithio gyda rhanbarthau i ddylunio rhwydweithiau bysiau y mae eu cymunedau eu hangen a rhoi contractau ar waith i'w cyflawni. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd mewn partneriaeth a gobeithio y byddwch yn ymuno â'n cenhadaeth i symud Cymru ymlaen. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:09, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Mae nifer fawr o bobl eisiau siarad. Mae faint rydw i'n llwyddo i'w galw yn dibynnu arnoch chi'n cadw at eich amser ac ar y Gweinidog yn ateb yn gryno. Natasha Asghar.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddatganiad y prynhawn yma. Mae'n amlwg o'r rhethreg fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y polisi 20 mya wedi bod yn draed moch llwyr. Er fy mod yn wirioneddol falch o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet erbyn hyn yn cydymdeimlo â safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig sef mabwysiadu dull o dargedu, i mi'n bersonol, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae angen i ni weld y Llywodraeth yn dychwelyd terfyn cyflymder diofyn Cymru i 30 mya gydag eithriadau 20 mya yn hytrach na'r gwrthwyneb. Yn anffodus, Ysgrifennydd Cabinet, gyda phob parch, yn dilyn eich datganiad yr wythnos diwethaf, mae eich geiriau mewn gwirionedd wedi achosi dryswch sylweddol, gyda grwpiau a sefydliadau llawer o drigolion bellach o dan yr argraff y bydd ffyrdd Cymru yn cael eu dychwelyd i 30 mya yn dilyn y datganiad heddiw, ond nid yw hynny'n wir, nac ydi? Ysgrifennydd Cabinet, a allwch gadarnhau er budd pobl ledled Cymru na fydd y Llywodraeth hon yn diddymu'r polisi 20 mya heddiw? Gwnaiff 'bydd' neu 'na fydd' y tro, oherwydd os nad ydych chi'n ailwampio'r polisi hwn yn llwyr, ac nid yw'r Llywodraeth, yn anffodus, yn gwrando ar y cyhoedd yn wirioneddol, ac er gwaethaf yr holl eiriau cynnes sydd i'w clywed, does dim byd yn newid heddiw.

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn cyflymu'r adolygiad ac wedi ymrwymo i wrando ar y bobl, ond ni allwch anwybyddu'r ffaith bod ychydig llai na hanner miliwn o bobl ledled y wlad wedi lleisio eu barn ar y prosiect £33 miliwn hwn yn gwbl glir: yn syml, nid ydynt eisiau hwn. Un o'r prif bethau sydd wedi cynhyrfu a gwylltio llawer o etholwyr oedd diffyg ymgynghori eich rhagflaenydd a'r Llywodraeth flaenorol gyda'r cyhoedd. Yn ddealladwy, roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u hesgeuluso. Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn mynd i wrando ar ddinasyddion, gyrwyr bysiau, gwasanaethau brys, cynghorau a busnesau, ymhlith eraill, rhwng nawr a Gorffennaf, ac rydw i wrth fy modd eich bod chi'n gwneud hyn. Er fy mod i wir yn croesawu'r dull hwn o waelod fy nghalon, dyna lawer iawn o bobl rydych chi'n mynd i ymgysylltu â nhw mewn cyfnod mor fyr, felly sut allwch chi fod yn ffyddiog eich bod chi'n mynd i grynhoi barn pobl Cymru mewn cyfnod cymharol fyr? Rydych chi wedi rhestru rhai o'r grwpiau rydych chi'n ymgysylltu â nhw, ond a gaf i hefyd eich annog chi i siarad â grwpiau fel y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd?

Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n gwneud yr holl synau cywir; rydych chi'n dweud yr holl bethau iawn am wrando ac ymgysylltu â'r cyhoedd a sefydliadau eraill, ond sut mae'n mynd i weithio? Dyna fy nghwestiwn i. Sut fyddwch chi'n cael y sgyrsiau hyn? A wnewch chi wahodd sylwadau ysgrifenedig? A fyddwch yn mynd i gymunedau ledled Cymru ac yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i glywed barn preswylwyr? Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn flaenorol, fod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch yr union bolisi hwn, a honnwyd bod 60 y cant o bobl yn cefnogi 20 mya mewn gwirionedd. Ac yna daeth yn amlwg mai dim ond 1,002 o bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad i ddechrau. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae angen i'r Llywodraeth hon sicrhau ei bod yn mynd ymhellach wrth geisio gwir deimladau'r cyhoedd y tro hwn. Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, os yw'r Llywodraeth hon yn wirioneddol yn bwriadu gwrando ar bobl Cymru, yna byddai'n derbyn bod y gyfraith hon wedi bod yn gamgymeriad ac yn ei diddymu. Mae unrhyw beth llai, rwy'n ofni, yn sylw arwynebol yn unig. A gadewch i ni fod yn glir, nid gosod polisi, yna penderfynu ystyried barn y cyhoedd yw'r ffordd y dylai'r Llywodraeth fod yn gweithredu, ond dyna fe. Dylai'r llywodraeth ymgysylltu â'r cyhoedd ar bolisi, ei fireinio ar ol cael sylwadau, ac yna ei gyflwyno.

Un o'r pethau mae pobl wedi ei ganfod yn rhwystredig ynghylch y polisi hwn—ac mae 'na lawer—yw'r broses o gysylltu ag awdurdodau lleol i gyflwyno awgrymiadau o ran y ffyrdd y dylid eu dychwelyd i 30 mya. Mae'n ymddangos bod gan bob awdurdod lleol broses wahanol ac nid yw bob amser yn hawdd cysylltu â nhw. Felly, a wnewch chi ymrwymo i symleiddio'r broses ar gyfer cyflwyno apeliadau a cheisiadau? Yn enw tegwch, efallai—ac awgrym yw hwn—mai proses unffurf i bob cyngor ar draws Cymru fyddai'r dull gorau. Byddai hyn yn gwneud pethau'n llawer haws ac yn helpu i adfer ffydd a hyder y cyhoedd yn y Llywodraeth, yn ogystal â'r cyngor lleol o ran y polisi hwn.

Rydym hefyd yn gwybod mai problem fawr arall ynghylch y cynllun 20 mya hwn oedd y dryswch ynghylch canllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru o ran gweithredu'r polisi hwn a oedd ychydig yn aneglur. Nawr, Ysgrifennydd Cabinet, sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw'r un camgymeriad yn cael ei ailadrodd eto wrth gyhoeddi canllawiau diwygiedig i gynghorau Cymru? Rydym i gyd yn gwybod bod cynghorau'n mynd i gael dweud eu dweud wrth lunio'r polisi hwn, o ystyried mai nhw yw'r rhai yr ydym yn cyfeirio atynt fel 'yr esgidiau ar lawr gwlad'. O'r sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gydag arweinwyr cynghorau hyd yn hyn, ynghyd â'ch gwybodaeth, i ba raddau ydych chi'n disgwyl i'r canllawiau i awdurdodau lleol newid, gan y bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar nifer y ffyrdd sy'n newid, a'r gost? Bydd cost y newidiadau hyn, fel y dywedoch, yn cael ei thalu gan Lywodraeth Cymru, felly a oes gennych chi neu'ch swyddogion amcangyfrif bras o ran faint mae hyn yn mynd i gostio? Cawn wybod yma yn y Siambr hon dro ar ôl tro fod Llywodraeth Cymru yn brin o arian, ac nid rhoi pwniad bach yw hwn—byddwch yn dawel eich meddwl pan ddywedaf hyn—gan fy mod yn hapus iawn eich bod wedi newid eich meddwl rywfaint ynghylch y polisi hwn, ond tybed a allech chi amlinellu o ble y daw'r arian ychwanegol hwn. Rwy'n falch o glywed bod gwaharddiad adeiladu ffyrdd Llywodraeth Cymru yn dod i ben, gydag addewid i adeiladu rhai prosiectau seilwaith ffyrdd pwysig. Rydych chi wedi rhestru ychydig yma heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, ond rhaid iddo beidio â stopio yn y fan honno. Mae angen i ni weld cynlluniau, a sonioch am drydedd groesfan Menai, a byddai croeso mawr i ffordd osgoi Dinas Powys a ffordd osgoi Cas-gwent ac mae angen eu cyflawni.

Ysgrifennydd Cabinet, rydych wedi ymrwymo i wella ein ffyrdd presennol, rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano ers tro byd ac wedi ymrwymo i ddefnyddio'r technegau mwyaf arloesol o bob cwr o'r byd. Allwch chi amlinellu beth yw rhai o'r rhain—

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:14, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Dim ond crybwyll yn fyr—

Photo of David Rees David Rees Llafur

(Cyfieithwyd)

Nawr, os gwelwch yn dda.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

—ac rwy'n ymwybodol o amser, sut yn union mae'r Ysgrifennydd Cabinet—[Torri ar draws.] Bydd masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ateb gweddïau'r diwydiant bysiau. Yn lle gwneud—

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:15, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Na. Na, rwyf wedi gofyn ers tro—[Torri ar draws.] Dyma—[Torri ar draws.] Na, Natasha. Mae llawer o bobl eisiau siarad. Mae'n rhaid i chi gadw at eich amser, fel arall ni fydd unrhyw un yn cael ei alw, gan gynnwys eich cyd-Aelodau. 

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rwy'n deall. Rwy'n deall yn llwyr. Felly, Gweinidog, os gwelwch yn dda atebwch y cwestiynau ynglŷn â sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod Cymru yn symud ymlaen eto. Dyna fe. 

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei chyfraniad gwerthfawr i'r datganiad hwn? Gadewch i ni adeiladu ar y consensws y gwnaethom ei gyrraedd yr wythnos diwethaf, yn gyntaf oll. Rydym i gyd yn cytuno bod 20 mya yn gweithio'n dda iawn lle mae'n bwysig iawn. Y tu allan i ysgolion, ysbytai, mewn ardaloedd adeiledig, lle mae plant yn dod i gysylltiad agos â cherbydau modur, mae'n gweithio; mae'r polisi 20 mya yn gweithio yn yr ardaloedd hynny, a bydd yn parhau. Ond rydym hefyd yn derbyn, onid ydym, ar draws y Siambr, ar rai llwybrau nid yw wedi bod yn briodol, a byddwn yn symud yn gyflym, am y gost leiaf, i gywiro hynny. 

Nawr, mae dau opsiwn ar y bwrdd—dau opsiwn—un, opsiwn Llywodraeth Cymru, sef y cyflymaf a'r lleiaf drud o bell ffordd, neu safbwynt y Ceidwadwyr, yn fy marn i, sef cael gwared â'r polisi 20 mya, troi pob un ffordd 20 mya yn ôl i 30 mya ym mhobman, unrhyw fan, ac yna defnyddio gorchmynion rheoleiddio traffig—[Torri ar draws.] Na, gorchmynion rheoleiddio traffig, byddai'n rhaid iddynt ddefnyddio'r rhain, dyma'r unig fodd sydd ar gael i ddychwelyd llwybrau 30 mya yn ôl i 20 mya y tu allan i ysgolion, y tu allan i ysbytai, y tu allan i fannau chwarae. Byddai'n costio £3,500 y ffordd. Ar y cyfrif diwethaf, roedd 148,000 o strydoedd yng Nghymru. Bydden nhw'n gwneud Cymru yn fethdalwr, ac yn ôl pob tebyg, sawl cyngor, a bydden nhw hefyd yn clymu cynghorau am flynyddoedd ar ôl blynyddoedd mewn biwrocratiaeth. Rydym eisiau consensws lle mae anghytundeb. [Torri ar draws.] Byddwn yn croesawu cytundeb y Ceidwadwyr bod gennym y cynlluniau i wneud yn union hynny.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:17, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd Cabinet, un eiliad. Hoffwn wrando ar yr Ysgrifennydd Cabinet, felly pe bai pob Aelod ar bob ochr yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Cabinet roi'r ateb, byddai'n ddefnyddiol iawn. Ysgrifennydd Cabinet. 

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i'n ceisio cyflawni hynny yn y modd mwyaf siriol posib ac mewn ffordd sy'n dangos gostyngeiddrwydd, gobeithio, mewn ffordd sy'n dangos trugaredd, ac mewn ffordd sy'n dangos ein bod yn ymateb i'r cyhoedd. Pe bai Torïaid y DU dim ond yn gallu gwneud yr un peth. Dim gostyngeiddrwydd yn sgil chwalu'r economi, dim derbyn y bu anghymhwysedd difrifol ynghylch HS2, ac, yn sicr, yn y ffordd y mae newid hinsawdd a lloches yn cael eu defnyddio fel arfau gan Brif Weinidog y DU, dim tosturi ychwaith. 

O ran y sgyrsiau sy'n mynd i ddigwydd, mae sefydliadau fel y Gymdeithas Gludo ar y Ffyrdd eisoes wedi'u trefnu i gwrdd â mi. Bydd hwn yn ymarfer mawr i ddod â chymaint o bartïon â diddordeb a chynifer o bobl ynghyd i gyrraedd consensws, lle mae pobl yn cytuno ar y consensws hwnnw y cytunwyd arno yr wythnos diwethaf, bod 20 mya yn gweithio, yn y mannau cywir. Lle mae angen gwneud addasiadau, byddant yn cael eu gwneud, gyda chanllawiau diwygiedig a gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Nawr, byddaf yn mynd i mewn i gymunedau. Siaradais â phapur newydd The Leader ychydig yn gynharach heddiw, ac rwyf wedi dweud y byddaf yn ymuno â nhw ym Mwcle, a oedd yn un o'r cynlluniau treialu. Rwy'n hoff iawn o Fwcle. Treuliais lawer, lawer o nosweithiau Sadwrn yn neuadd ddawns Tivoli pan oeddwn yn tyfu i fyny. Rwyf wir yn hoffi Bwcle, ac rwyf eisiau ymweld â'r lle cyn gynted ag y gallaf i edrych sut mae'n gweithredu ar lawr gwlad a hefyd i edrych ar y llwybrau y mae pobl eisiau eu gweld yn dychwelyd i 30 mya.

Mae un pwynt pwysicach yr hoffwn ei wneud ynglŷn â hyn: mae angen i ni fod â dull cyson ar draws Cymru, nid yn unig ar gyfer yr ymarfer gwrando, yr wyf yn cytuno ag ef arno, ond hefyd o ran y cais. Bwriad cynnull y syrfewyr sirol yw gwneud yn union hynny, i sicrhau bod gan gynghorau yr hyder a'r gefnogaeth i allu rhoi dychweliadau ar waith mewn ffordd gyson a synhwyrol wrth wrando ar y cyhoedd bob amser. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:19, 23 Ebrill 2024

Yn gyntaf, hoffwn eich croesawu chi unwaith eto i'r rôl hon. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Hoffwn nodi rhai o'r meysydd lle teimlwn ni y dylid bod blaenoriaeth. Rwyf eisoes wedi mynegi fy mhryderon ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â mynd ar drywydd camau cyfreithiol ynghylch HS2. Nid yw cledrau HS2 yn teithio i Gymru o gwbl, ond rydyn ni'n dal i dalu amdano. Oherwydd rhyw dwyll yn y Trysorlys, mae wedi ei frandio yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr—penderfyniad llawn twyll, yn amlwg yn wrthbrofadwy i unrhyw un sydd â map a'r mymryn lleiaf o synnwyr cyffredin, cwmpawd a chydwybod. Gofynnaf eto pam nad yw Llywodraeth Cymru yn herio'r dynodiad hwn mewn cyfraith. Pam na wnewch chi wneud hyn yn y llysoedd? Nid dim ond safiad i'w gymryd ar egwyddor yw hwn—mae biliynau o bunnoedd yn y fantol; dylai ein Llywodraeth fod yn mynnu hynny, oherwydd byddai'r arian hwnnw'n cael effaith sylweddol ar wella ein gwasanaethau trafnidiaeth ein hunain.

Ysgrifennydd Cabinet, mae hyn yn dod â fi at flaenoriaeth allweddol arall: cyllid bysiau cynaliadwy. Mae ein gwasanaethau bws wedi cael eu torri'n sylweddol, mae prisiau wedi cynyddu. Mewn cymunedau fel ardaloedd gwledig, fel rhannau o'r Cymoedd hefyd, lle nad yw llinellau trên yn cyrraedd, mae llawer o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau bysiau, ond fwyfwy maen nhw'n methu â chyrraedd pobl er mwyn eu cludo i le mae angen iddyn nhw fod a'u cludo nôl adref. Nawr, rwy'n gefnogwr enfawr o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd. Nid wyf ychwaith yn credu y dylid gwneud hynny ar draul gwasanaethau bws. Felly, sut y byddwch chi'n cysoni'r blaenoriaethau hynny, os gwelwch yn dda?

Nawr, byddwn yn awyddus i weithio gyda chi i weld mwy yn cael ei wneud ar ddiogelwch trafnidiaeth, ac fe wnaethoch chi gyffwrdd â hyn. Roeddwn wrth fy modd rai wythnosau yn ôl i gael cynnig deddfwriaethol wedi'i basio gan y Senedd i wella goleuadau stryd mewn prif orsafoedd ac yn agos atynt ac mewn prif safleoedd bws, gwell hygyrchedd, i edrych ar ymarferoldeb disgwyliad ar ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dylent gludo teithwyr agored i niwed i le diogel ar ôl iddi dywyllu pan gaiff gwasanaethau eu canslo. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda chi a'ch adran i gynnal momentwm ar y materion hynny.

A sôn am ddiogelwch eto, fe drof at 20 mya. Nawr, rwy'n cytuno â chi bod gan weithrediad y polisi hwn ei ddiffygion; mae wedi arwain at ddryswch, arweiniodd at rwystredigaeth. Cafodd gwelliant Plaid Cymru ei basio gan y Senedd hon chwe mis yn ôl yn galw am adolygiad parhaus o weithrediad y polisi, am well arweiniad a phwerau i gynghorau ailddynodi ffyrdd i 30 mya yn yr ardaloedd hynny lle nad yw 20 mya yn gwneud synnwyr ac i wrando ar bryderon lleol. A allwch gadarnhau bod y Llywodraeth bellach yn gweithredu ar y gwelliant hwnnw gan Blaid Cymru a basiwyd?

Nawr, roedd problemau, ond nid wyf eisiau i ni golli golwg chwaith ar ba mor radical yw'r polisi hwn. Mae Sustrans wedi ysgrifennu at ASau yn nodi y lladdwyd plentyn bach pedair oed mewn damwain yn Birmingham ychydig ddyddiau yn ôl. Roedd hi'n chwarae ar y palmant y tu allan i faes chwarae; dylai hi fod wedi bod yn ddiogel. Bydd lleisiau, lleisiau uchel, a fydd yn ceisio ein perswadio mai dim ond y tu allan i ysgolion y mae angen cadw plant yn ddiogel, gan anghofio, efallai, nad yw plant yn byw mewn ysgolion. Maen nhw'n byw ar strydoedd, maen nhw'n chwarae ar strydoedd, mae eu bywydau yr un mor werthfawr ac mor agored i niwed ar strydoedd. Byddwn yn erfyn arnoch chi, os gwelwch yn dda, a gwn fod lleisiau uchel, ond, os gwelwch yn dda, mae lleisiau'r rhai yr effeithir fwyaf arnynt gan hyn yn dal yn rhy ifanc i gael eu clywed yn uchel.

Yn olaf, galwaf ar y Llywodraeth i ailystyried y penderfyniad y mae wedi'i wneud ar gludiant i ddysgwyr. Mae gormod o blant yn cael eu siomi gan y penderfyniad hwn. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch sut y bydd yn effeithio ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, unwaith eto, mewn cymunedau fel y Cymoedd sydd â dalgylchoedd mwy. Os ydyn ni'n mynd i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n haws, nid yn anoddach, i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain gymryd y cam hwnnw i anfon eu plant i addysg Gymraeg. Allwn ni ddim ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw gyrraedd yno, neu ni fydd yr un ohonom yn y pen draw yn y lle rydyn ni eisiau neu angen bod.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:23, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chyfraniad hefyd heddiw? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda llefarwyr yr wrthblaid mewn meysydd y maen nhw'n pryderu amdanyn nhw sy'n benodol i'w pleidiau a'u hardaloedd daearyddol penodol. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i archwilio atebion ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu ac y mae'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

O ran cyllid bysiau, credaf ei fod yn bwynt hynod werthfawr y mae'r Aelod yn ei wneud, bod gwasanaethau bysiau yn gwbl hanfodol i lawer o bobl yn ein cymdeithas. Nid oes gan un o bob pump o bobl fynediad at unrhyw ddull arall o deithio. Iddyn nhw, nid dewis yw'r bws, dyma'r unig drafnidiaeth sydd ar gael, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn creu pont wrth symud tuag at ailreoleiddio. Unwaith y bydd y Bil bysiau wedi'i basio gan y Senedd hon, a gobeithiaf y bydd pob plaid yn cefnogi'r ddeddfwriaeth honno, byddwn yn gallu dylunio system lle rydym yn rhoi teithwyr cyn elw. Yn y cyfamser, mae'n rhaid i ni greu pont i'r cyfnod hwnnw. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda chwmnïau bysiau a gydag awdurdodau lleol yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau presennol a dynodi rhagor o adnoddau i wella gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

O ran diogelwch i fenywod a merched, cefais adroddiad heddiw gan y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd yr hoffent wneud gwaith yn yr union faes hwn. Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu yn fuan, pan fyddaf yn cwrdd â nhw, beth mae eu gwaith yn ei olygu a beth fydd y canlyniadau tebygol, a gobeithio y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod yn fanylach pan fyddwn yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon. Credaf hefyd ein bod ni wedi cyrraedd pwynt, ydw yn wir, o ran y terfyn 20 mya lle mae consensws fod, yn yr ardaloedd hynny lle mae plant mewn perygl—ac rydych chi'n gywir, nid dim ond tu allan i ysgolion yw hynny—lle mae plant mewn perygl, lle mae pobl fregus mewn perygl, lle mae'r henoed mewn perygl, lle mae pobl yn cerdded a beicio mewn perygl, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu. Mae angen i ni helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau. Ac wrth gwrs, lle mae yna ffyrdd wedi'u nodi gan y bobl rydym ni'n eu gwasanaethu a chan awdurdodau lleol a ddylai ddychwelyd i 30 mya efallai, byddwn yn cynorthwyo yn yr ymdrech honno. Ond mae'r egwyddor o wneud Cymru'n fwy diogel yn sefyll, a chredaf fod hynny'n cael ei gefnogi, er gwaethaf peth o'r rhethreg, gan y mwyafrif, y mwyafrif helaeth, o'r Aelodau yma.

O ran trafnidiaeth i ddysgwyr, mae hwn yn faes sy'n peri pryder sydd ar restr hir o bynciau a ddylai fod yn denu rhagor o adnoddau, er bod ein cyllidebau'n parhau i leihau. Mae'n rhywbeth yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef gyda chydymdeimlad ac empathi mawr, ond y gwir amdani yw ein bod yn wynebu amseroedd o brysur bwyso difrifol o ran cyllidebau Cymru.

Ac yn olaf, o ran HS2, roedd y cyngor cyfreithiol yn glir iawn y byddem yn debygol o fethu. Pan fyddwch yn cymryd cyngor cyfreithiol o'r natur honno, mae'n rhaid i chi farnu a fyddai'n synhwyrol ac yn ddoeth i'r pwrs cyhoeddus parhau â rhywbeth rydych chi'n gwybod fydd yn aflwyddianus. Wedi dweud hynny, fe ddylem ni fod wedi elwa o £350 miliwn hyd yma. Mae gwobrau enfawr i'w hennill os bydd Llywodraeth y DU—ac rwy'n amau mai'r un bresennol fydd honno, ond os yw Llywodraeth y DU yn y dyfodol—yn ymrwymo i fuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru fel sydd ei angen ac fel sy'n ddyledus inni; byddai manteision enfawr i'w cael o hyn yn y gogledd, yn y de, yng nghanolbarth ac yng ngorllewin Cymru.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 5:26, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Roedd y symudiad i barthau 20 mya yn digwydd ymhell cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mewn ardaloedd lle nad oedd parthau 20 mya, roedd rhwystrau igam-ogam, twmpathau arafu a dulliau eraill o arafu traffig yn cael eu cyflwyno.

Mae etholwyr wedi dweud wrthyf i, 'Nid oes angen terfynau cyflymder; gadewch i yrwyr benderfynu', bod marwolaeth ac anaf difrifol yn bris sy'n werth ei dalu am 30 mya, ac, y peth tristaf i gyd, os yw plentyn yn cael ei daro a'i ladd, 'Wel, eu bai nhw yw hynny.' Rwy'n cefnogi 20 mya ar ffyrdd mewn ystadau ac ardaloedd o dai hŷn. Mae ffyrdd A a B yn wahanol; dyna pam eu bod yn cael eu dosbarthu felly. Ac rwy'n gofyn i awdurdodau lleol benderfynu ar benderfyniadau ar derfynau cyflymder ar ffyrdd A a B heb unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru.

A yw'r Gweinidog yn cytuno, o ran trafnidiaeth gyhoeddus, bod angen ail-gydbwyso cymorth rhwng bysiau a'r rheilffyrdd? I'r rhan fwyaf o fy etholwyr, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bysiau, ac fel y gŵyr y Gweinidog, mae dros 80 y cant o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu gwneud ar fws. Mae preifateiddio wedi methu ar gyfer defnyddwyr bysiau ac rwy'n edrych ymlaen at y Bil bysiau.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:28, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau? Maen nhw'n anodd iawn, iawn i anghytuno â nhw neu i ganfod unrhyw ddiffyg ynddynt. Byddwn i'n cytuno bod angen i ni nodi ffyrdd o wella darpariaeth bysiau ledled Cymru, a bydd hynny'n cael ei wneud ar y cyd â'n gwaith o bwyso am y ddeddfwriaeth sydd ei hangen mor daer arnom ni. Roedd preifateiddio gwasanaethau bysiau yng nghanol yr 1980au yn drychineb llwyr, yn gamgymeriad mawr, ond byddwn yn ei gywiro gyda'n deddfwriaeth, a byddwn yn edrych am unrhyw ffordd i wella gwasanaethau bysiau i bobl Cymru yn y cyfamser.

Rwyf hefyd yn credu, o ran 20 mya, wrth gwrs, fod parthau 20 mya yn bodoli cyn i'r polisi gael ei gyflwyno ac mae'n ymddangos fy mod yn cofio, rai blynyddoedd yn ôl, Aelodau'r Siambr hon yn rhuthro i gael tynnu lluniau, gan weiddi fod 'ugain yn ddigon', ond sydd bellach yn gwrthwynebu'r polisi. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol, serch hynny, ein bod ni yn ymbwyllo ac yn rhoi ffrwyn ar y rhethreg dros hyn ar bob ochr, oherwydd credaf y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle mae consensws ledled y wlad, lle mae 20 mya yn gweithio, ei fod yn gweithio'n dda iawn wrth amddiffyn pobl ac y dylai aros, a, lle nad yw'n gweithio, gellir gwneud cywiriadau.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 5:29, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i ddiddordeb gwybod sut y gallai eich canllawiau a'ch proses fynd i'r afael â rhai cyfyngiadau cyflymder eraill ar y ffyrdd hefyd, fel 30 mya a 40 mya. Felly, er enghraifft, mae yna lawer o barthau 30 mya sy'n fwy priodol i fod yn 40 mya, a pharthau 40 mya i fod yn 30 mya. Er enghraifft, os ydw i'n teithio ar hyd y gefnffordd yng nghanolbarth Cymru, pentrefannau tebyg iawn, mae un ar hyn o bryd yn 20 mya ac mae un yn 40 mya. Yn fy marn i, byddai'n llawer mwy synhwyrol petai'r ddau yn 30 mya. Felly, dim ond i ddeall sut y gellid mynd i'r afael â hynny yn y datganiad rydych chi wedi'i amlinellu heddiw, Gweinidog.

Yn ogystal, dros y 13 mlynedd diwethaf, fy mhrofiad o fod yn aelod lleol yw fy mod yn aml yn cael sylwadau gan gynghorau tref neu gymuned, a chynghorwyr sir, a gofynnir i mi gyflwyno sylwadau ar eu rhan. Os yw'n gefnffordd, rwy'n gwneud hynny i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Yr ateb arferol y byddaf yn ei gael yn ôl yw, 'Wel, byddwn yn edrych ar hyn yn yr adolygiad ffyrdd nesaf, sy'n digwydd ymhen hyn a hyn o flynyddoedd.' Os byddaf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol, yr ateb a gaf yn ôl yw, 'Does gennym ni mo'r arian ar gael ar hyn o bryd mewn gwirionedd.' Felly, sut, yn y broses hon, y gallwch ei gwneud hi'n haws, lle mae cefnogaeth leol glir drwy'r dref, y gymuned, Aelodau'r Senedd leol, i wneud newidiadau i gyfyngiad ar y ffyrdd, ac nad yw'r un ymateb ag yr wyf newydd ei amlinellu i chi?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:30, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad? Cefais sgwrs gydag un arall o'ch cyd-Aelodau, Darren Millar, y prynhawn yma, ynglŷn â chefnffordd drwy ei etholaeth. Mae yn Llanferres. Aeth tri o fy neiaint i'r ysgol yn Llanferres, ac rwy'n adnabod yr ardal honno'n dda iawn. Ar hyn o bryd mae'n 40 mya, a hoffai Darren Millar ei weld yn gostwng i 30 mya. Byddwn i hefyd. Rwy'n credu y byddai'n gwneud synnwyr mawr o ran diogelwch ar y ffyrdd.

Mae yna ddarnau eraill o ffyrdd fel yna ar draws Cymru y dylid eu lleihau mewn cyflymder efallai. Y ffordd fwyaf priodol o wneud hynny fyddai trwy orchmynion rheoleiddio traffig. Nawr, mae pob plaid yn derbyn, rwy'n credu, bod y ddeddfwriaeth sy'n sail i orchmynion rheoleiddio traffig yn drwsgl ac nad yw'n addas i'r diben. Mae honno'n ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdani ar hyn o bryd. Mae'n gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl sy'n berthnasol iddo. Felly, fe hoffem ni weld Llywodraeth yn y dyfodol yn diwygio'r problemau a grëwyd drwy'r Ddeddf sy'n sail i orchmynion rheoleiddio traffig.

Yn y cyfamser, mae dwy broblem yn wynebu awdurdodau lleol. Un yw cyllid, yr wyf eisoes wedi'i chrybwyll, a'r ail yw'r broses ei hun a nifer y ceisiadau am newid cyflymder darnau o ffyrdd. Felly, byddaf yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch y Ddeddf y mae gorchmynion rheoleiddio traffig yn deillio ohoni, yn y gobaith y gallwn ni gael ffordd llawer symlach ac effeithlon o newid cyfyngiadau cyflymder ledled y DU yn y dyfodol.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:32, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu datganiad heddiw. A gaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar fysiau, os gwelwch yn dda? Roeddwn yn falch o glywed yn eich ymateb y gydnabyddiaeth mai dyma'r unig ffordd o deithio i nifer o bobl yn ein cymunedau. Rwy'n gwybod ei fod yn aml yn un o'r cwynion, achos mae'n effeithio wedyn ar bobl yn gallu cyrraedd apwyntiadau meddygol, sydd wedyn yn golygu methu apwyntiadau, ac yn y blaen. Mae angen i ni sicrhau bod pwyslais, felly rwy'n croesawu'r sylwadau gan Mike Hedges hefyd, oherwydd mae'n rhaid blaenoriaethu cael hyn yn iawn i fynd i'r afael ag ynysu yn ein cymunedau hefyd.

Hoffwn hefyd ategu'r pwynt a wnaed gan Delyth Jewell ynghylch mesur teithio dysgwyr, a gofyn a allwch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y plant hynny sy'n colli'r ysgol ar hyn o bryd oherwydd na allan nhw fforddio mynd ar fws—. Mae newidiadau ar y gorwel, mewn llefydd fel Rhondda Cynon Taf, fydd yn golygu bod llai o ddisgyblion yn gymwys. A allwch chi weithio i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli diwrnod ysgol oherwydd nad yw'n gallu fforddio'r bws?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:33, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Gallaf, fe allaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ar ddyfodol teithio dysgwyr. Mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod Lynne Neagle yn bryderus iawn, iawn amdano—yr angen i sicrhau ein bod yn lleihau absenoldeb yn yr ysgol, sy'n aml yn gysylltiedig â ffactorau eraill, ond sy'n gallu bod oherwydd bod diffyg trafnidiaeth ar gael. Mae'n ffaith o hyd, mae gen i ofn, mewn rhannau o Gymru, na all hyd at 20 y cant o bobl ifanc hyd yn oed gyrraedd eu cyfweliad swydd oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio na chael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, yn bennaf mewn ardaloedd lle mae yna wasanaethau bysiau yn unig.

Gadewch i mi eich sicrhau bod dyfodol bysiau yng Nghymru yn un o'm prif flaenoriaethau. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael dewis arall i'r car. Os ydym ni am sicrhau ein bod yn cael newid moddol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yna system drafnidiaeth gyhoeddus addas i'r unfed ganrif ar hugain sy'n cynnig gobaith a chyfle i bawb yng Nghymru.

Photo of Hefin David Hefin David Llafur 5:34, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Gallaf feddwl am dri rheswm pam mae angen diwygio'r polisi hwn. Yn gyntaf oll, mae yna ffordd yn fy etholaeth sy'n 20 mya, ac mae bron pawb yn cytuno y dylai fod yn 30 mya. Prin fod unrhyw dai arni, ac mae pobl ond yn anwybyddu'r terfyn cyflymder, sy'n tanseilio holl ethos yr 20 mya. Mae yna ffordd yn fy etholaeth i sy'n 60 mya ac sydd â thri thŷ arni, ac fe ddylai fod, yn y fan yna, yn 20 mya. Ac mae ystadau diwydiannol y mae'r cwmnïau bysus wedi dweud y dylent fod yn 30 mya, nid 20 mya, oherwydd eu bod yn arafu eu llwybrau. Y tair enghraifft hynny, rwyf wedi codi gyda'r cyngor, a phob tro, yr ymateb yw, 'Ni allwn wneud hynny, oherwydd ni fydd y canllawiau yn gadael i ni.' Felly, mae'n amlwg bod angen adolygu'r canllawiau hyn, i ddatrys y broblem hon, ond hefyd, yn bwysig, cynnwys cynghorwyr ward lleol yn y penderfyniad hwn, o ba bynnag blaid. Rydych chi'n gwybod y byddan nhw mewn cyswllt agos iawn—neu'r cynghorwyr gorau, beth bynnag—mewn cysylltiad â thrigolion, a bydd eu cael yn rhan o'r drafodaeth yn helpu i ddod â newid perthnasol pellach a fydd yn datrys rhai o'r problemau gyda chyflwyno'r polisi hwn.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:35, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Hefin David am ei sylwadau, a gwneud dau bwynt mewn ymateb? Un, rwy'n awyddus i ymweld ag etholaethau a rhanbarthau gydag Aelodau i ddeall sut mae'r polisi hwn o fudd i bobl a chymunedau, fel yr amlinellwyd gan lawer o bobl, ond hefyd i edrych ar y ffyrdd hynny y gellid eu hadolygu a'u troi'n ôl i 30 mya. Felly, rwy'n hapus i ymweld ag unrhyw etholaeth gydag unrhyw Aelod fel rhan o'n rhaglen o wrando ar bobl Cymru. A byddwn yn cytuno â Hefin David ar yr ail bwynt bod cynghorwyr ward yn hanfodol bwysig wrth sicrhau ein bod yn gwrando ar bobl ac yn gwneud newidiadau sy'n briodol, ac yn sensitif hefyd, i gymunedau. Roedd yn ffaith yn ystod COVID, y cawsom ein hatgoffa ohoni yn rheolaidd, po agosaf ydych chi at gymunedau, fel cynrychiolydd etholedig, y mwyaf y mae pobl yn ymddiried ynoch chi. Felly, bydd cynnwys cynghorwyr yn y rhaglen wrando yn gwbl ganolog i'r hyn a wnawn.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr 5:36, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i fanteisio ar y cyfle i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl a dechrau drwy ddiolch i'w ragflaenydd am y gwaith a wnaeth i sicrhau goleuadau traffig ar gyffordd Nash Fingerpost ar yr A477, nad yw wedi ei gwblhau eto, ond gwn fod y gymuned yn ddiolchgar iawn am y gwaith ar hynny? Fodd bynnag, rwyf yn ailadrodd fy ngalwadau am adolygiad llawn o ddiogelwch ar hyd yr A477 o Sanclêr i Ddoc Penfro, yn dilyn nifer o faterion a godwyd gyda mi gan drigolion Milton, Rhos-goch a Llanddowror. A gaf i holi a gofyn am estyniad i'r adolygiad hwn i gwmpasu rhan yr A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin? Nawr, mae'r rhan hon o'r ffordd wedi cael ei galw'n un o ffyrdd peryclaf y genedl, gan ystyried y nifer fawr o gyffyrdd ar y brif gerbytffordd, ac nid oes gan y rhan fwyaf ohonyn nhw lonydd ymuno. Yn wir, ers dechrau'r ddegawd, yn anffodus rydym ni wedi gweld y ffordd hon yn hawlio tri bywyd—rhai James Beer ym mis Medi 2020, Swyddog Heddlu Dyfed-Powys Lynwen Thomas ym mis Chwefror 2021, ac Owen Lewis yn oriau mân Dydd Llun y Pasg eleni. Mae astudiaeth arweiniad ar werthuso trafnidiaeth yn cael ei chynnal ar y rhan hon o'r ffordd, fodd bynnag, fe hoffwn i wybod canlyniad hyn. Ond os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ddidwyll yn ei gynnig o wrando, a gaf i ofyn iddo wrando ar fy ngalwadau a  chreu adolygiad diogelwch o'r holl ddarn o'r A40 a'r A477 rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin? Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:37, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sam Kurtz am ei sylwadau ac am ei gwestiynau, ac rwy'n gwybod gan Joyce Watson ac Eluned Morgan pa mor bwysig yw diogelwch ar y ffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Deallaf fod cyffordd yr A477 Nash Fingerpost yn fater a aeth i'r Pwyllgor Deisebau ac a gafodd ei hystyried gan Jack Sargeant a'r pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar iawn i Lee Waters am fynd ar ofyn gwelliannau diogelwch ar y gyffordd honno, a fydd yn cael eu cyflawni.

Rwyf hefyd yn barod i drafod sut i wella'r A477 i gyd, ac os byddai'r Aelod yn dymuno cyfarfod â mi, rwy'n fwy na pharod i drafod hynny ymhellach. Ac, wrth gwrs, ar yr A40, mae gwelliannau diogelwch rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin bellach yn cael eu hystyried, ac mae cynllun diogelwch ar y ffyrdd wedi'i gynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddatblygu drwy gamau WelTAG, a bydd y cynllun, gallaf eich sicrhau, o fudd i bawb sy'n defnyddio'r ffordd. Ond, unwaith eto, byddwn yn hapus i gael sgwrs fanylach am y rhaglen benodol honno gyda'r Aelod.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:38, 23 Ebrill 2024

Mae yna argraff glir yng nghefn gwlad Cymru erbyn hyn fod y Llywodraeth yma wedi cefni ar Gymru wledig. Yn fy etholaeth i, rydyn ni wedi gweld gwasanaethau bysiau y T2, y T3, y T19, gwasanaeth y 32, ac eraill, yn crebachu. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod pobl yn methu mynd i'r ysgol, neu fynd i'r colegau, pobl yn methu mynd i'r siopau, pobl yn methu mynd i'r gwaith. Ar ben hyn, yr wythnos diwethaf, ddaru ni glywed bod llinell trên y Cambrian am gwtogi ei gwasanaethau, ond yn ymestyn nhw yn ystod yr haf ar gyfer twristiaid, a'r un modd wedyn hefyd efo llinell Calon Cymru yn gweld gwasanaethau wedi'u cwtogi.

Roeddech chi'n dweud ar ddechrau eich cyflwyniad chi mai eich bwriad chi a'ch gobaith chi oedd gwrando ar bobl. Yn yr holl achosion yma, does yna ddim ymgynghoriad llawn wedi bod a dydy pobl y cymunedau sy'n cael eu heffeithio ddim wedi cael eu lleisiau wedi'u clywed neu wedi cael cymryd rhan mewn proses i benderfynu ar hyn. Felly, pa gamau ydych chi am eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau bysys yma am ddod yn ôl, a'n bod ni ddim am golli gwasanaethau trenau y llinell Cambrian a llinell Calon Cymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:40, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn roi sicrwydd i Mabon ap Gwynfor fod dyfodol cymunedau gwledig yr un mor bwysig i Lywodraeth Cymru â dyfodol cymunedau trefol. Ac o ran cefnogaeth i wasanaethau bysiau ac ymgynghori â chymunedau mewn ardaloedd gwledig, rwyf eisoes wedi siarad â Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ymgynghoriadau llawn yn digwydd yn y dyfodol gyda phobl mewn cymunedau lle gallai newidiadau i wasanaethau gael effaith.

Credaf fod y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud am heriau mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o bwysig o ran y gwaith sy'n cael ei wneud gan Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r rhain yn gynlluniau hynod bwysig a fydd yn galluogi ac yn grymuso rhanbarthau i ddatblygu patrymau gwasanaeth, darparu gwasanaethau, ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rwy'n credu'n gryf bod awdurdodau lleol a chynghorwyr yn adnabod eu cymunedau orau, ac felly os ydyn nhw'n arwain ar gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, rwy'n credu'n gryf y byddwn yn gweld gwell rhwydwaith o drafnidiaeth gyhoeddus i bobl Cymru ar draws pob cymuned.

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Llafur 5:41, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y Rhondda yn profi un o'i drawsnewidiadau mwyaf gyda'r addewid o deithio gwyrddach, cyflymach ac amlach ar y rheilffordd, ond yn y Rhondda Fach does dim gwasanaeth trên, mae'r ffordd osgoi ond yn cyrraedd cyn belled â Phont-y-gwaith, ac er bod pedwar bws yr awr, mae trigolion sy'n teithio ar fws yn talu mwy na thrigolion y Rhondda Fawr sy'n gallu teithio ar y trên. Mae grŵp angerddol o bobl sy'n ymgyrchu am fwy na £200 miliwn i gwblhau ail gam y ffordd osgoi, ond rwy'n credu bod ateb llawer mwy cyraeddadwy i'w ganfod y gellir ei weithredu yn llawer cynt. Rhannodd dros 600 o drigolion eu barn gyda mi ynghylch ailgyflwyno'r bysiau gwennol trên, gyda dros 90 y cant yn dweud y byddent yn dal y bws trên a dros 85% yn dweud y byddent yn defnyddio'r trên yn fwy. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi i drafod y data hwn ac o bosib cael trafodaeth ehangach gyda darparwyr bysiau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:42, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Buffy Williams am ei chais a dweud, ydw, rwy'n fwy na pharod i gwrdd â chi a'ch trigolion ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ynghylch dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn eich cymunedau? Rwy'n credu eich bod yn gwneud sylw amhrisiadwy bod cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn benderfynol, trwy ddeddfwriaeth, drwy'r Bil bysiau, i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i bobl nad ydynt, ar hyn o bryd, yn gallu mynd o'u cartrefi i wasanaethau neu weithio yn hawdd ac yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy ar fws neu ar y trên. Rwy'n gwybod, yn y Rhondda, fod y cymorth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau bysiau wedi golygu bod cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gallu diogelu a chadw gwasanaethau bysiau yn eu hardaloedd, yn ogystal ag adfer rhai gwasanaethau bws gyda'r nos ar rai llwybrau, ond rwyf yn cydnabod yr her benodol sy'n wynebu trigolion yn y Rhondda Fach, a dyna pam y byddaf yn hapus i gwrdd â nhw a gyda chi. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:43, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Yn y datganiad, dywedodd y Gweinidog

'rydym wedi derbyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer rheoli traffig yn well yng nghyffiniau pont Menai.'

Roedd argymhellion y comisiwn yn ymwneud â rheoli traffig yng nghyffiniau Pont Britannia. Ydy'r Gweinidog yn sôn am y bont gywir? Ac o ystyried ei ddatganiadau am fod yn fodlon, efallai, i edrych eto ar yr angen am ddeuoli, yn y bôn, pont Britannia, gyda thrydedd groesfan dros y Fenai, a all roi mwy o fanylion inni ynghylch sut mae'n bwriadu bwrw ymlaen â hynny?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:44, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, ac ymddiheuriadau—roeddwn i'n meddwl fy mod i'n cyfeirio at groesfan y Fenai, yr ydw i wastad yn ei hystyried yn bont Britannia. Os dywedais 'Pont Menai', rwy'n ymddiheuro, ond roeddwn i'n golygu dweud 'croesfan y Fenai'. 

Nawr, mae'r argymhellion gan gomisiwn Burns bellach wedi derbyn cymorth ariannol ar gyfer bwrw ymlaen â nhw, ac maen nhw'n cynnwys ymyriadau y gellir eu datblygu yn bur gyflym hefyd a ddylai wella cydnerthedd yn y maes hwnnw. Fodd bynnag, ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod angen i ni gadw llygad ar anghenion pobl Ynys Môn yn y dyfodol, gwrando ar gymunedau, gwrando yn arbennig ar yr awdurdod lleol, ac i'r perwyl hwnnw byddaf yn cyfarfod â chynghorwyr i drafod dyfodol croesfan y Fenai a thrydedd groesfan bosibl dros y Fenai. Mae'n rhaid i mi rybuddio o ran unrhyw drafodaeth am adeiladu ffyrdd yn y dyfodol, serch hynny, bod ein cyllid cyhoeddus yn hynod dynn, yn enwedig cyllid cyfalaf. 

Ond rwy'n cydnabod, yn enwedig gyda photensial Wylfa Newydd, y gallai fod galw ychwanegol sylweddol am le ar y ffyrdd ac am drafnidiaeth gyhoeddus hefyd ar yr ynys ac i'r ynys, y bydd angen mynd i'r afael ag ef fel rhan o unrhyw ystyriaeth o'r hyn sy'n cael ei adeiladu ar safle Wylfa Newydd, a'r potensial am gyflogaeth ychwanegol. Felly, byddaf yn cyfarfod â'r Aelod, rwy'n siŵr, am groesfan y Menai, boed yn rhan o grŵp trawsbleidiol neu yn ni ein dau, a byddaf yn falch iawn o glywed ei farn am y pwnc hwn.  

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 5:45, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn bwysig iawn i gynghorau yn y gogledd, gan fod ganddyn nhw lawer o brif lwybrau gydag ardaloedd preswyl poblog ar hyd y prif lwybrau hynny. Rwy'n croesawu y bydd croesfan yr A494 dros yr Afon Dyfrdwy, sydd wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, yn mynd yn ei blaen. A fydd ymgynghoriad ar y cynlluniau yr haf hwn, fel y cynlluniwyd o'r blaen? A dim ond ynglŷn â ffyrdd a gynhelir yn lleol yn ogystal â phriffyrdd strategol, maen nhw hefyd yn dirywio'n gyflym. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi gweld dros ddegawd o gyni sydd wedi cael effaith wirioneddol. Wrth symud ymlaen, sut y byddwch chi'n gallu mynd i'r afael â hyn gyda'ch cyllideb gyfyngedig? 

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:46, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn am yr angen i gynnal y rhwydwaith ffyrdd. Mae'r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer pawb sy'n ei defnyddio—i fodurwyr ac i feicwyr—ac mae rhwydwaith ffyrdd a gynhelir yn wael yn beryglus i fodurwyr ac i feicwyr. Un thema allweddol sydd wedi dod i'r amlwg o'r trafodaethau rwyf wedi'u cael gydag arweinwyr ac aelodau arweiniol yr wythnos hon ledled Cymru yw'r angen i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cynnal a chadw ffyrdd. Wrth gwrs, mae ystyriaethau ariannol yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn ni ar hyn o bryd, o ystyried bod cyllid cyhoeddus dan straen, ond rydym yn chwilio am bob ffordd o ryddhau cymaint o arian ag y gallwn ni i fynd i'r afael â'r ffyrdd hynny y mae angen cynnal a chadw brys arnynt. 

Wrth gwrs, mae'n werth cofio hefyd—ac fe gaiff y Gweinidog Cyllid fy nghywiro ynghylch hyn—bod awdurdodau lleol wedi cael eu diogelu'n well yn ystod ac ers cyni nag awdurdodau lleol yn Lloegr, sydd efallai'n esbonio pam, pan fyddwch chi'n gyrru ar ffyrdd dros y ffin, rydych chi'n dod o hyd i dyllau ym mhobman. Nid yw hynny'n golygu nad oes gennym her yma yng Nghymru, ond o leiaf rydym wedi diogelu cynghorau yn well i gadw eu ffyrdd yn cael eu cynnal a'u cadw'n well. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:47, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ailadrodd y pwynt y mae Heledd Fychan eisoes wedi'i wneud ynglŷn â chludiant o'r cartref i'r ysgol. Rhywbeth sydd wedi dod yn amlwg iawn i mi ers fy ethol i'r Senedd yw'r rhwystr y mae hynny'n ei gyflwyno i lawer o deuluoedd, nid yn unig yn fy rhanbarth fy hun ond ledled Cymru, yn enwedig i'r rhai o gefndiroedd incwm isel. Rwy'n rhoi esiampl o gwm Llynfi. Ym mlaenau cwm Llynfi—bydd Aelodau yn y Siambr sy'n ymwybodol o'r lle—mae Caerau. Mae gennym ni sefyllfa lle mae angen i blant o gefndiroedd incwm isel gerdded dros awr i gyrraedd yr ysgol ym mhob tywydd, rhai ohonyn nhw'n cyrraedd yr ysgol, pe bai hi wedi bod yn bwrw glaw, yn wlyb domen ac yn eistedd yn yr ysgol am weddill y dydd yn wlyb domen. Mae hynny'n rhwystr enfawr i lawer o bobl, yn rhwystr na ddylai fodoli, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ei datrys cyn gynted â phosib. 

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:48, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am wneud unwaith eto sylw gwerthfawr iawn am gludiant i ddysgwyr? Dylai pob person ifanc ddisgwyl gallu cael eu haddysgu lle maen nhw'n dymuno cael eu haddysgu, boed hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, a dylid rhoi'r cymorth sydd ei angen. Rwy'n amau mai eitem rhif 1 ar yr agenda fydd hon pan fyddaf yn cwrdd â Delyth Jewell yn ddiweddarach yr wythnos hon. Byddaf yn sicr o gael sgwrs drylwyr am ddyfodol teithio i ddysgwyr a'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu pobl ifanc ledled Cymru.  

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n cytuno'n fawr bod consensws cryf yn y Siambr hon a hefyd allan yn ein cymunedau bod y polisi 20 mya yn sylfaenol gywir, ac mae ei angen i amddiffyn ein cymunedau, yn enwedig plant. Dyna rwy'n clywed gan bobl yn Nwyrain Casnewydd. Ond maen nhw hefyd yn cytuno'n fawr iawn bod nifer fach o ffyrdd y gellid eu toi'n ôl o 20 mya i 30 mya heb gyfaddawdu'r diogelwch ar y ffyrdd sydd mor bwysig. Felly, rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud heddiw. 

Un o'r materion yr hoffwn sôn amdano'n fyr yw teithio llesol, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n dda iawn bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cymaint o arian ar gael ar gyfer teithio llesol, sydd, yn fy marn i, yn gwbl gywir, ond ni yw pob man yng Nghymru yn cael yr un budd ohono. Er bod amgylchiadau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd, credaf fod achos i'w wneud dros fwy o gefnogaeth ganolog, gan gydnabod y gwahanol gapasiti mewn adrannau priffyrdd awdurdodau lleol gwahanol, a swyddogion teithio llesol yn arbennig. Mae lle yma i Trafnidiaeth Cymru, rwy'n gwybod, ond a wnewch chi sicrhau bod yr ymgyrch ganolog honno yn bodoli i sicrhau bod ein cymunedau i gyd yn elwa o bolisi teithio llesol?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:50, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Bu John Griffiths wastad yn eiriolwr cadarn dros amddiffyn pobl ifanc a bregus, ac rwy'n diolch iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud yn hynny o beth. O ran teithio llesol, credaf fod yr Aelod yn llygad ei le bod angen cymorth ar awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau a chynigion ar gyfer gwell teithio llesol, a dyna pam rydym ni'n datblygu'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol hynny, gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod â dirnadaeth a chyngor amhrisiadwy i lawer o awdurdodau lleol yn barod, yn unigol ac yn rhanbarthol, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod y cymorth hwnnw'n parhau i fod ar gael i gynghorau ledled Cymru.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu eich pwyslais ar ymgynghori â rhanddeiliaid cyn i chi ruthro i wneud penderfyniadau. Nid wyf eto wedi cwrdd ag unrhyw un sydd eisiau cynyddu'r terfyn cyflymder ar y ffordd maen nhw'n byw arni, a meddwl ydw i tybed a gawsoch chi—byddai gen i ddiddordeb clywed ganddyn nhw. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod yn bwriadu caniatáu i Lywodraeth Cymru dalu am gost addasu llwybrau yn ôl i 30 mya. Mae hynny'n swnio ychydig fel gwobrwyo methu ag ymgynghori â chymunedau'n iawn yn y lle cyntaf, o gofio bod rhai awdurdodau lleol wedi dehongli'r rheoliadau yn wahanol iawn i eraill. Hoffwn eglurder y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn talu costau lleihau o 30 mya i 20 mya mewn ardaloedd lle mae pobl eisiau cyflymderau arafach yn eu cymunedau.

Yn olaf, rwy'n croesawu'n fawr eich pwyslais ar lonydd blaenoriaeth bysiau—ffordd bwysig iawn o gynyddu dibynadwyedd bysiau. Tybed, yn eich golwg chi ar gefnogi pobl i gerdded rhwng y cartref a'r cyrchfannau terfynol, pe byddech yn ystyried blaenoriaethu llwybrau cerdded a beicio i'r ysgol ac oddi yno, oherwydd, yn amlwg, plant yw'r rhai mwyaf agored i niwed ar y ffordd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:52, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Allwn i ddim cytuno mwy. Yn fyr, oes, mae angen i ni flaenoriaethu llwybrau cerdded a llwybrau beicio i ac o ysgolion. Credaf fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd mewn gwirionedd yng nghyfran y bobl ifanc sy'n cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond rwy'n gwybod, o sgyrsiau wrth giât yr ysgol, y byddai llawer mwy o rieni yn hoffi i'w plant feicio, neu y byddent yn cerdded gyda'u plant neu'n beicio gyda'u plant, pe bai'r seilwaith ar gael. Diogelwch yw'r pryder mwyaf y mae rhieni'n ei godi gyda mi bob amser, felly rwy'n benderfynol o bwyso am well cyfleoedd teithio llesol rhwng tai ac ysgolion.

O ran cefnogi cynghorau, byddwn, byddwn yn cefnogi cynghorau gyda newidiadau i'r naill gyfeiriad neu'r llall.

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn i chi am yr A494 ym Mhwll-glas ac yn Llanferres? Roeddech yn sôn am yr angen am gyflymder priodol ar ffyrdd priodol. Yn amlwg, mae'r terfyn cyflymder o 40 mya drwy'r ddau bentref hynny'n amhriodol, ac, wrth gwrs, mae'r rhain ar y rhwydwaith cefnffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Rydych chi wedi dweud eich hun eich bod yn teimlo bod 30 mya yn fwy priodol yn Llanferres; ymwelodd y Prif Weinidog blaenorol, yn garedig iawn, â Phwll-glas, a gwelodd drosto'i hun y terfyn cyflymder amhriodol trwy'r pentref hwnnw a theimlai, yn yr un modd ag y gwnewch chi, y dylid lleihau cyflymder. A gaf i ofyn pa mor hir y bydd yn cymryd i Lywodraeth Cymru weithredu'r newidiadau hyn ar y ffyrdd y mae'n gyfrifol amdanyn nhw, nid dim ond y ffyrdd hynny y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanyn nhw?

Ac yn olaf, mae ffyrdd heb eu mabwysiadu yn dal i greu trafferthion mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae gan bob un ohonom ni nhw yn ein cymunedau, ond mae gen i'r broblem fwyaf o ran ffordd heb ei mabwysiadu, mewn ardal o'r enw Sandy Cove ym Mae Cinmel, a fu o dan ddŵr yn ddiweddar, ac oherwydd y diffyg draeniau ar y ffyrdd hynny, gwnaed y llifogydd hynny yn waeth. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn ein cymunedau, fel y gall pobl fyw ar ffyrdd y gallan nhw fod yn falch ohonyn nhw?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 5:54, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiynau a chytuno y bu trigolion Llanferres a Phwll-glas yn glir iawn y dylid lleihau'r terfyn cyflymder drwy eu cymuned? Mae'n rhywbeth y mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohono. Rwy'n hapus i ymweld â'r naill neu'r llall o'r pentrefi hynny, os byddai'r Aelod yn dymuno i mi wneud hynny, fel y galla i weld eto yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. O ran amserlenni ar gyfer unrhyw newid posibl, byddai angen i mi ysgrifennu at yr Aelod, oherwydd byddai'n rhaid ymgymryd â'r rhain yn unigol, ac nid ydynt yn rhan o'r adolygiad yr ydym yn ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch 20 mya.

O ran ffyrdd heb eu mabwysiadu, rwy'n credu bod y sefyllfa ddiweddaraf i'w gweld mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig gan eich cyd-Aelod, arweinydd y Ceidwadwyr, felly mae gwybodaeth ar gael ynglŷn â ffyrdd heb eu mabwysiadu. 

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 5:55, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Roedd yn gwestiwn a ofynnais i mewn gwirionedd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur

(Cyfieithwyd)

Eich cwestiwn chi oedd e—mae'n ddrwg gen i. 

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rydych chi eisoes wedi ateb y pwyntiau roeddwn i'n eu codi, os caf ddweud hynny.

Photo of David Rees David Rees Llafur

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelodau am gadw at eu hamseroedd? Roedd yn caniatáu i bob Aelod ofyn eu cwestiynau.