Part of 3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 23 Ebrill 2024.
Diolch am y cwestiwn yna. Rwy'n gweithio gyda chyd-Ysgrifenyddion yn y Cabinet ar effeithiau'r Bil ar eu portffolios nhw. Rydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn â sawl elfen o'r Bil. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn arwain cynnig cydsyniad deddfwriaethol—yr un yr wyf i newydd gyfeirio ato, mae arnaf i ofn—yn y ddadl ar y Bil ar 30 o fis Ebrill.