3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am ar 23 Ebrill 2024.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amserlenni ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth i ddisodli Deddf Crwydraeth 1824? OQ60957
Mae'r Bil Cyfiawnder Troseddol, i gyflwyno deddfwriaeth i ddisodli'r Ddeddf Crwydraeth, yn cael ei ystyried yn unol â gweithdrefnau cyfansoddiadol sefydledig. Gosododd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ar 29 o fis Ionawr. Rydym ni'n disgwyl i ddyddiad y Cyfnod Adrodd gael ei gyhoeddi yn fuan.
Diolch i chi am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n credu bod cytundeb eang nad yw'r ddeddfwriaeth Sioraidd a orfodir yng Nghymru yn addas i'r diben erbyn hyn. Bythefnos yn ôl, adroddwyd bod 2,500 o arestiadau wedi cael eu gwneud yng Nghymru a Lloegr ers 2019, ac wrth gwrs fe allai rhai o'r rhain fod yn faterion gwirioneddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond yn aml mae pobl ddigartref yn cael eu targedu a'u herlid o dan y Ddeddf hon, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn awyddus i ddiddymu'r Ddeddf Crwydraeth pan fydd deddfwriaeth newydd yn barod, ond roedd anghytundeb ynghylch yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y Bil newydd. Bu llawer o wybodaeth anghywir a chodi bwganod dros gynnwys y Bil hwn, sydd wedi arwain at ei hepgor o Araith y Brenin, a chan hynny gadw'r Ddeddf Crwydraeth ar y llyfr statud am gyfnod hwy.
Mae hi'n ddealladwy ei bod hi'n rhaid i ddeddfwriaeth newydd roi ystyriaeth i'r tebygolrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol problemus a fyddai'n tarfu ar fywydau busnesau a'r cyhoedd, ac rwy'n credu y gellir mynd i'r afael â hynny mewn ffordd dosturiol. Gyda'r llwch yn hel ar y Bil newydd ac Ysgrifennydd Cartref newydd yn ei swydd, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei bwriad i ddisodli'r Ddeddf Crwydraeth a beth yw ei hamserlen ar gyfer gwneud hynny?
Diolch i chi am y cwestiwn a diolch am godi'r mater arbennig hwn. Yn amlwg, fe fyddai'r trafodaethau a fyddai'n cael eu cynnal o ran y polisi a'r materion sy'n ymwneud â phynciau cydsyniad deddfwriaethol, yn amlwg, yn ymgysylltu yn bennaf ag Ysgrifennydd Cabinet yn hynny o beth. Ond, yn amlwg, fe geir materion a godwyd yn y Bil Cyfiawnder Troseddol sy'n peri pryder mawr. Ar y naill law, yn amlwg, mae mater diddymu Deddf Crwydraeth 1824, y darn gwarthus hwn o ddeddfwriaeth sydd yn 200 mlwydd oed, yn gwbl briodol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni o'r farn fod y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati yn gwbl amhriodol mewn gwirionedd.
Fel gwyddoch chi, fe gawsom ni femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 29 o fis Ionawr, ac roedd hwnnw'n tanlinellu, mewn gwirionedd, y pryderon dwfn sydd gennym ni gyda'r cynigion yn y Bil, a phethau fel cardota niwsans, achosi niwsans drwy gysgu ar y stryd, a fyddai'n disodli'r Ddeddf Crwydraeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod pryder gwirioneddol ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos fel awgrym o droseddoli pobl ddigartref. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gwirionedd wrth ddarllen y cylchgrawn, The Big Issue, sy'n mynd i'r afael yn wirioneddol â llawer o'r materion am ddigartrefedd—. Roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen un o'r adroddiadau gan chwythwr chwiban yn Llywodraeth y DU, un o'r gweision sifil, a ddywedodd hyn:
'Nid wyf i erioed wedi bod â chymaint o gywilydd i'm galw fy hun yn was sifil. Mae'r cod yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni weithio ar beth bynnag mae'r llywodraeth yn dymuno i ni ei wneud, ond ar ôl blynyddoedd o syniadau Torïaidd hanner call, ni allaf ddioddef dim mwy. Troseddoli digartrefedd oedd y pennog gyda phwn a dorrodd asgwrn cefn y ceffyl.'
Ac roeddwn i'n cytuno llawer iawn â'r sylwadau a wnaeth Bob Blackman, AS Ceidwadol, unwaith eto, a oedd yn dweud bod y cynigion yn warthus ac yn waeth na chrwydraeth. A gaf i ddweud nad yw troseddoli pobl ddigartref yn datrys digartrefedd? Mae'r syniad y gallai rhywun sy'n ddigartref gael dirwy o hyd at £2,500 yn hollol chwerthinllyd o ran y goel y gallai dirwy o'r fath gael ei thalu fyth. Ac mae'r syniad o garcharu, unwaith eto, yn amcan cwbl anghyson.
Yr ymagwedd y gwnaethom ni ei mabwysiadu yng Nghymru yw defnyddio dull sy'n rhoi'r unigolyn yn y canol ar gyfer helpu pobl oddi ar y strydoedd. Rwy'n credu bod y newidiadau diweddar i'n deddfwriaeth ni'n amlygu ffaith bod yr holl bobl sy'n cysgu allan yn flaenoriaeth ar gyfer cymorth tai a digartrefedd. Unwaith eto, fel dywedais i unwaith eto wrth wneud fy mhwynt diwethaf, nid yw troseddoli pobl ddigartref yn ddatrysiad i hyn. Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir yn hyn o beth, ac rwy'n gobeithio y bydd lle i wneud newidiadau sylweddol, ac yn sicr yn y rhannau hyn, er mwyn ei wella. Ni fyddai unrhyw beth gwaeth na disodli'r Ddeddf Crwydraeth gyda rhywbeth sydd hyd yn oed yn waeth na'r Ddeddf Crwydraeth.