2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 23 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:29, 23 Ebrill 2024

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos yma. Mae dau ddatganiad llafar heddiw wedi cael eu hestyn i 45 munud ac mae’r teitlau wedi newid. Mae’r amser ar gyfer cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi cael ei leihau i 10 munud. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael yn y papurau cyfarfod ar-lein.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 2:30, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Fe wnaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu newydd GIG Cymru gyfarfod y bore yma, Trefnydd, ac, yn siomedig, pleidleisiodd ar benderfyniad i dderbyn cau canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon. Rwy'n siomedig, felly, nad oes datganiad yn y Siambr hon y prynhawn yma, nac wedi'i drefnu ar gyfer yfory, ar fater mor bwysig sy'n effeithio ar ddegau o filoedd o bobl ar draws y canolbarth a'r gogledd.

Ond hefyd, Gweinidog, nid y cyhoedd yn unig sy'n gofidio am y cynnig hwn. Ym Mhowys, er enghraifft, does ganddon ni ddim ysbyty cyffredinol dosbarth, felly rydyn ni'n fwy dibynnol ar wasanaeth ambiwlans awyr critigol, ac felly mae cymaint o glinigwyr sydd wedi'u lleoli yn y Trallwng a Chaernarfon hefyd yn gwrthwynebu'r penderfyniad ar sail glinigol, a chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws ardaloedd eraill hefyd. Hefyd, Gweinidog, gwrthododd bwrdd iechyd Powys a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr y cynigion hyn hefyd yn y cyfarfod y bore yma. Felly, nid aelodau o'r cyhoedd yn unig yw'r rhain; mae gweithwyr proffesiynol hefyd yn dweud mai dyma'r penderfyniad anghywir. Felly, hoffwn i'r Gweinidog ystyried galw'r penderfyniad hwn i mewn, i ganiatáu ar gyfer craffu priodol, ac i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad hwn yn dilyn dadl yn y Siambr hon.

Mae pryder hefyd ynghylch y broses. Yn wreiddiol, cafodd cynigion i gau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon eu datgelu'n answyddogol dros ddwy flynedd yn ôl, ac, ar y pryd, roedd hynny'n seiliedig ar dystiolaeth, y cawson ni wybod, y byddai 583 o ymweliadau ychwanegol â safleoedd yn cael eu cyflawni. Mae hynny wedi cael ei danseilio ers hynny, ac mae'n ymddangos, ers hynny, bod tystiolaeth wedi'i cheisio i gyd-fynd â'r cynigion gwreiddiol a wnaed ddwy flynedd yn ôl. Rwy'n arswydo ynglŷn â'r ffordd y mae'r broses hon wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf—y diffyg tryloywder a methiant i wrando ar y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol hefyd. Felly, a gaf fi ofyn, Trefnydd, i'r Gweinidog iechyd, neu'r Prif Weinidog, wneud datganiad i'r Siambr hon, naill ai heddiw neu yfory, a sicrhau eu bod ar gael i ateb cwestiynau ar fater mor bwysig i bobl yn y canolbarth a'r gogledd?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:32, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Russell George. Mae'n bwysig eich bod chi wedi cael y cyfle hwn heddiw yn y datganiad busnes i godi'r pwynt hwn, oherwydd cafodd y penderfyniad terfynol, fel y dywedoch, sy'n dod ar ôl 18 mis o ymgysylltu, ei wneud yn gynharach heddiw gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Bydd cynlluniau yn cael eu datblygu nawr i gyfuno gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd yn y Trallwng a Chaernarfon ar safle newydd yn y gogledd-ddwyrain, a bydd hyn yn golygu y bydd pawb sy'n derbyn y gwasanaethau adalw a throsglwyddo meddygol brys hynny ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn gofal. 

Yn amlwg, rydych chi, fel y dywedoch, Russell—a chydweithwyr—wedi cymryd rhan yn yr ymgysylltu. Mae llawer o ohebiaeth wedi bod sy'n nodi pryderon a chwestiynau, ond y dystiolaeth yw y bydd y newid yn gwella mynediad i'r gwasanaeth achub bywyd hwn i bobl mewn rhannau o Gymru sydd â mynediad cyfyngedig, os o gwbl, yn ystod y nos ar hyn o bryd. Felly, rydyn ni'n deall cryfder y teimladau sy'n cael eu mynegi gan bobl sy'n byw mewn rhannau o'r canolbarth a'r gogledd, yn enwedig yn y rhai sy'n agos at y canolfannau presennol, ond, yn y pen draw, bydd y penderfyniad yn gwella'r gofal a'r canlyniadau i bobl yn y gogledd a'r canolbarth os byddan nhw'n dioddef argyfwng sy'n peryglu bywyd sy'n gofyn am gymorth EMRTS, yn enwedig yn y nos. 

Byddwn i hefyd yn ychwanegu bod y cyd-bwyllgor comisiynu wedi cael sicrwydd gan y prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans bod yr holl bryderon wedi cael sylw drwy ohebiaeth gyda'r partïon perthnasol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael sicrwydd ysgrifenedig gan y tîm adolygu ynghylch lefel yr ymgysylltu a sut mae adborth trigolion lleol wedi llywio'r broses adolygu.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:34, 23 Ebrill 2024

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r datganiad cyntaf y byddwn yn hoffi gofyn amdano gan y Prif Weinidog, yn ymateb i'r holl adroddiadau o ran y £200,000 y derbyniodd fel rhan o'i ymgyrch arweinyddol. Rydyn ni wedi clywed cwestiynau unwaith eto yr wythnos yma; dydyn ni ddim yn teimlo bod yr atebion yn ddigonol. Mae angen, er mwyn hygrededd y Senedd hon, cael datganiad llawn, diamwys gan y Prif Weinidog, fel ein bod ni'n gallu cael yr atebion angenrheidiol i ni fel Senedd. 

Yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth o ran Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Fe fyddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cael datganiad ysgrifenedig gan ei ragflaenydd, ond fe fyddwch chi hefyd yn gwybod bod nifer fawr o Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus iawn i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen efo hyn, gan gynnwys, wrth gwrs, Senedd Ieuenctid Cymru, a oedd yn daer bod yn rhaid i hwn fynd rhagddo. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael cyfle i ofyn cwestiynau a hefyd deall beth ydy blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes neb yn colli diwrnod o ysgol oherwydd na allwn nhw fforddio bws.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur

(Cyfieithwyd)

O ran eich cwestiwn cyntaf, mae trafodaethau helaeth eisoes wedi digwydd ar y mater hwn. Yn wir, ni chafodd y cwestiwn brys ei gymeradwyo gan y Llywydd heddiw, ac mae'r Prif Weinidog wedi ymdrin ag ef yn llawn heddiw. A hefyd, o ran yr ymateb y gwnaeth y Prif Weinidog ei roi y bore yma ynghylch y rôl a'r gwaith sy'n cael ei gyflawni nawr, a gafodd ei gefnogi gan bwyllgor gweithredol Cymru y penwythnos hwn, mae adolygiad yn cael ei gynnal o drefniadau ein cystadleuaeth arweinyddiaeth. Felly, mae proses glir bellach ar waith gyda'r cynnig hwnnw. A hefyd, yn amlwg, i ddilyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, roedd yr holl roddion i'r ymgyrchoedd yn cydymffurfio yn gyfreithiol a chawsant eu hadrodd yn dryloyw. Bydd yr adolygiad yn adrodd yn yr hydref, a bydd y panel yn dechrau ar ei waith yn fuan.

Hefyd, o ran y cwestiynau sydd wedi cael eu codi o ran Banc Datblygu Cymru, unwaith eto, mae ymatebion helaeth wedi bod i hynny hefyd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, unwaith eto, i ddweud, neu i ychwanegu efallai at ymatebion a roddwyd gan y Prif Weinidog heddiw, bod penderfyniadau buddsoddi sy'n cael eu gwneud gan Fanc Datblygu Cymru yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. A hefyd, efallai y gwnaf i ychwanegu bod y ddogfen fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn nodi sut mae'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r banc yn cael ei rheoli a'i gweithredu. Ac i ddyfynnu, mae'n nodi'n benodol, 'Ni fydd Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ran mewn materion gweithredol o ddydd i ddydd, materion masnachol na phenderfyniadau a wneir ledled grŵp BDC, yn benodol dim ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru o ran gweithrediadau buddsoddi.'

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i, mae gen i ail gwestiwn gan Heledd Fychan. Byddaf i'n codi hyn, o ran yr wybodaeth ddiweddaraf am y Mesur teithio gan ddysgwyr, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei rhoi.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 2:38, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar dai. Rwyf wedi dosbarthu dros 3,000 o daflenni ar draws Dwyrain Abertawe ym mis Ebrill, ac roedd rhwng 1 y cant a 2 y cant o'r holl eiddo yn wag. Ynghyd â methiant Llywodraeth San Steffan i godi lwfans tai lleol, mae hyn wedi arwain at fwy o brinder o eiddo fforddiadwy. Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am lwfansau tai lleol ac a allai Llywodraeth Cymru ystyried pa gamau eraill y gellid eu cymryd o ran eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir. 

Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yn ymwneud â chymdeithion meddygol. Mae cymdeithion meddygol yn raddedigion sy'n ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig ac yn gweithio dan oruchwyliaeth meddyg. Pa feddwl a roddwyd i ddylunio a dangos tystiolaeth o'r rôl yn ffurfiol, a sut y bydd yn cael ei gwerthuso? Oherwydd os bydd yn gweithio'n dda, gallai drawsnewid gofal sylfaenol.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Mae eich cwestiwn cyntaf ar dai yn hanfodol bwysig. Fel y gwnaethoch chi sylwi—ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwneud hynny wrth i ni ymgyrchu yn ein hetholaethau, ein cymunedau, a chwrdd â phobl ar y stryd—rydyn ni'n cydnabod bod cartrefi gwag yno, ac maen nhw'n niwsans ac yn falltod ar ein cymunedau. Mae'n bwysig atgoffa cyd-Aelodau, ym mis Ionawr y llynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun grant cartrefi gwag, er mwyn sicrhau bod hyd at 2,000 o eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn cael eu defnyddio eto. Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai, neu ddarpar berchnogion tai, gael gwared ar beryglon sylweddol o'u heiddo er mwyn sicrhau bod yr eiddo hwnnw yn ddiogel i fyw ynddo ac i wella ei effeithlonrwydd ynni. Rydyn ni hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r amrywiaeth lawn o bwerau deddfwriaethol sydd ar gael iddyn nhw i fynd i'r afael ag eiddo gwag. Yn wir, mae hyn yn cynnwys hyfforddiant i gynghorwyr a swyddogion ar draws llywodraeth leol ar ddefnyddio mesurau gorfodi i ymdrin ag eiddo gwag. Hefyd, er mwyn tawelu meddyliau cyd-Aelodau ar draws y Siambr, mae gan y cynllun grant cartrefi gwag gyllideb o £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, ac mae gwaith yn cael ei gyflymu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac ategu ein cynlluniau presennol.

Mae eich ail gwestiwn hefyd yn gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â chymdeithion meddygol. Maen nhw'n raddedigion, maen nhw wedi ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig ac maen nhw'n gweithio, fel y dywedwch, o dan oruchwyliaeth meddyg. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu tîm amlddisgyblaethol sy'n gweithio o amgylch y claf, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio cymdeithion meddygol mewn gofal sylfaenol. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod, fel yr ydych chi wedi'i nodi, Mike Hedges, yng Nghymru ac yng ngweddill y DU, gyda'r BMA, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae llawer o sylwadau ar hyn. Mae BMA Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch defnyddio meddygon a chwmpas ymarfer meddygon yn GIG Cymru, ond hoffen ni ddweud, fel Llywodraeth Cymru, fod cymdeithion meddygol yn rhan bwysig a gwerthfawr o weithlu GIG Cymru, ac rydyn ni'n gweithio'n agos o ran sicrhau bod cynnydd graddol yng ngweithlu cymdeithion meddygol GIG Cymru. Yn amlwg, mae tystiolaeth gadarn yn cael ei chasglu ar y manteision a all ddeillio o'r rolau hynny mewn lleoliadau a chyd-destunau penodol iawn. 

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr 2:41, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, rwy'n codi eto yn y Siambr hon i ofyn am ddatganiad brys ar y sefyllfa ar safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth i. Fel sydd eisoes wedi'i godi y prynhawn yma, mae pryderon difrifol iawn am y rhodd a dderbyniodd y Prif Weinidog gan Dauson Environmental Group, sy'n gweithredu'r safle tirlenwi hwn. Rwy'n rhannu pryderon yr Aelodau am y rhodd ac yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol bod y mater hwn yn destun ymchwiliad annibynnol. Ond yn bwysicach byth, yn y cyfamser, mae'n rhaid i fy etholwyr barhau i fyw gyda'r drewdod a'r aroglau drwg sy'n dod o safle tirlenwi Withyhedge. Fel y dywedais o'r blaen, mae hwn yn fater amgylcheddol ac, yn wir, yn fater iechyd y cyhoedd. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn egluro'i safbwynt o ran y mater parhaus hwn. Ydy Llywodraeth Cymru yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod pobl sir Benfro yn parhau i ddioddef? Mae fy etholwyr a minnau'n gwbl glir y dylai'r gweithredwr gael ei drwydded wedi'i dirymu'n syth ac y dylai Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd y camau hyn ar unwaith.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:42, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Paul Davies, am eich cwestiwn. Fel y gwnes i ymateb yr wythnos diwethaf, mae hwn yn fater pwysig iawn o ran yr effaith ar eich cymuned a'ch preswylwyr. Hefyd, cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gwyddoch chi, yw monitro, archwilio ac adolygu. Byddaf i'n mynd â hyn yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig o ran yr effeithiau, unwaith eto, yr ydych yn eu cyflwyno i ni yn y datganiad busnes heddiw—yr effeithiau niweidiol ar eich cymuned.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:43, 23 Ebrill 2024

A gaf i alw am ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau gwledig, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, cawsom ni ddealltwriaeth bod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu torri gwasanaethau trên llinell y Cambrian, fel dŷn ni wedi ei glywed. Bydd pedwar gwasanaeth y diwrnod yn llai, gyda'r gwasanaethau yn cael eu hymestyn yn yr haf ar gyfer ymwelwyr, gan amddifadu pobl sy'n byw yn y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan y llinell yma ac sy'n ddibynnol arni ar gyfer eu haddysg, ar gyfer gwaith, siopa a phethau eraill hanfodol. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn toriadau i'r gwasanaethau bysys—y T2, y T3 a'r 32—sy'n golygu bod pobl bellach yn ddibynnol ar geir neu ar gael lifftiau gan deulu a chyfeillion. Yn yr holl achosion yma, dŷn ni ddim wedi cael unrhyw fath o ymgynghoriad dilys na digonol. Yn achos y rheilffordd, mae o'n dilyn y ffaith bod y Llywodraeth wedi tynnu arian ffordd Llanbedr i ffwrdd, gan annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a bellach dydy pobl Llanbedr ddim yn mynd i fedru defnyddio'r rheilffordd yr un mor aml. Fedrwch chi, felly, sicrhau nad ydy hyn yn mynd i ddigwydd, a gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth ddod a rhoi datganiad brys i ni ynghylch hyn, i ddangos sut mae'r Llywodraeth yma yn mynd i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus addas i bobl Dwyfor Meirionnydd a chymunedau gwledig? 

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:45, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor—pwyntiau hollbwysig yr wyf yn siŵr y byddwch chi'n eu codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth y prynhawn yma wrth iddo roi datganiad ar ei flaenoriaethau trafnidiaeth. Ond hefyd, i gydnabod—ac rwy'n credu bod cwestiwn wedi dod i'r Prif Weinidog gan eich cyd-Aelod—mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried hyn o safbwynt gwledig hefyd. Mae hyn yn drawslywodraethol o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Yn amlwg, mae yna bwysau, ond, mewn gwirionedd, mae heriau Trafnidiaeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi troi cornel, gan weld gwelliannau'n gyson, ond gan hefyd ystyried yr hyn y gellir ei fforddio a lle mae arferion teithio teithwyr ar ôl COVID yn gliriach. Unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd y cwestiynau hynny ar gyfer yr Ysgrifennydd Cabinet yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Llafur 2:46, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i gael datganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w wneud i ddiogelu hawliau plant. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn ymwybodol bod Coleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf a gafodd gyhoeddusrwydd eang ac a oedd yn galw ar Lywodraeth y DU a Chynulliad Gogledd Iwerddon i ddilyn arweiniad Cymru a'r Alban a dileu'r amddiffyniad o gosb resymol, gan ei gwneud hi'n anghyfreithlon i rieni ddefnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant. Cyflwynodd yr adroddiad dystiolaeth hefyd a oedd yn dangos bod plant 2.6 gwaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl os ydyn nhw’n cael eu cosbi'n gorfforol a'u bod yn llawer mwy tebygol o ymddwyn mewn modd mwy treisgar yn ddiweddarach mewn bywyd os ydyn nhw'n cael eu cosbi'n gorfforol. Felly, a fyddai hi'n cytuno, yng Nghymru, ein bod ni wedi cymryd cam cadarnhaol iawn pan wnaethon ni newid y gyfraith ac y dylai deddfwriaeth debyg gael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon fel bod pob plentyn sy'n byw yno, gan gynnwys plant o Gymru, wrth gwrs, sy'n byw yn y gwledydd hynny neu'n ymweld â'r gwledydd hynny, yn cael yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag y mae plant yma yng Nghymru?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:47, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Julie Morgan. A gaf i hefyd gydnabod y rôl bwerus yr ydych chi wedi'i chwarae? Yn wir, fe wnaethoch chi gyflawni Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2022. A gawn ni gydnabod eto heddiw ar draws y Siambr hon fod hwn yn gam hanesyddol o ran amddiffyn hawliau a lles plant, y gwnaethoch chi ei ddatblygu yn eich rôl weinidogol flaenorol, ond, yn wir, y gwnaethoch chi ymgyrchu drosto am flynyddoedd lawer cyn hynny, ac, yn wir, fe geisioch chi wneud y newid hwnnw yn Lloegr pan oeddech chi'n AS dros Ogledd Caerdydd hefyd? Rwy'n cofio'r adegau hynny pan oeddech chi'n galw am hynny.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig am hyn—ac rydyn ni'n ymfalchïo'n fawr fel Llywodraeth Cymru ein bod wedi dileu'r amddiffyniad o gosb resymol yng Nghymru—yw bod y gyfraith hon yn rhoi'r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad ag sydd gan oedolion. Mae'n dangos sut yr ydyn ni'n gwerthfawrogi ein plant ac yn parchu ac yn cefnogi eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais. Hefyd, roeddech chi'n rhoi'r dystiolaeth arall honno a gafwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ynghylch amddiffyn hawliau plant a thystiolaeth o'r effaith o ran iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn o ddweud bod canlyniadau'r arolwg diweddaraf, yr wyf yn siŵr eich bod chi'n ymwybodol ohonyn nhw, ar ddod â chosbi plant yn gorfforol i ben, yn parhau i ddangos lefelau uchel o ymwybyddiaeth o'r gyfraith. Rydyn ni wedi gweithio'n galed cyn ac ar ôl ei gweithredu, y gwnaethoch chi ei ysgogi, i sicrhau bod pobl yn cael gwybod yn llawn am y newid a'r hyn y byddai'n ei olygu iddyn nhw. Nid yw dros ddwy ran o dair o'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant o dan saith oed yn gweld unrhyw gyfiawnhad dros gosbi plentyn yn gorfforol ac maen nhw'n cefnogi'r gyfraith, arwydd clir ein bod ni yng Nghymru wedi troi cornel ac yn benderfynol o ddangos sut yr ydyn ni'n gwerthfawrogi ein plant ac yn parchu ac yn cefnogi eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais. Diolch am eich arweiniad ar y mater hwn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 2:49, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Trefnydd, gyda, yn gyntaf, ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Fel y gwyddoch, efallai, cofnododd y bwrdd iechyd 28 o'r adroddiadau hyn mewn cyfnod o 16 mis. Mae hyn yn fwy na phob un o fyrddau iechyd eraill Cymru gyda'i gilydd, ac mae'n ystadegyn sydd, wrth gwrs, yn peri gofid mawr i gleifion a'u hanwyliaid ar draws y gogledd yn gyfan gwbl. Yn gwbl briodol, maen nhw wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol i pam nad yw'n ymddangos bod y bwrdd iechyd hwnnw'n dysgu o'i gamgymeriadau, ac rwy'n cytuno â nhw. Rwy'n credu bod angen cyfle arnon ni i holi'r Gweinidog am hyn, o gofio, mewn adroddiadau dros y penwythnos, bod awgrym nad oedd hi'n teimlo bod ymchwiliad annibynnol i'r marwolaethau hyn a pham bod cynifer ohonyn nhw yn y gogledd yn briodol.

Yn ail, hoffwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ar fater ffyrdd heb eu mabwysiadu. Fe wynebodd Sandy Cove ym Mae Cinmel, sydd â thua 250 eiddo ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, lifogydd yn ystod storm Pierrick ychydig dros 10 diwrnod yn ôl. Cafodd canlyniadau'r llifogydd hwnnw eu gwaethygu'n rhannol oherwydd diffyg draenio ar yr ystad honno. Mae'n amlwg bod angen gwella'r seilwaith draenio. Mae angen i'r ffyrdd hynny fod wedi cyrraedd safon fabwysiadwy, ac mae eu cyflwr gwael yn gwneud bywyd yn anodd i drigolion lleol. Felly, mae angen yr wybodaeth ddiweddaraf arnom gan yr Ysgrifennydd Cabinet am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r mater hwn o ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n gwybod bod cronfa ffyrdd heb eu mabwysiadu wedi'i sefydlu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid wyf yn credu ei bod yn gwneud cynnydd digonol ar y mater hwn, ac mae angen i ni ei symud ymlaen.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:51, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn am y ddau gwestiwn hynny. Mewn gwirionedd, fe gododd y pwynt hwnnw am Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf hefyd—nid wyf i'n siŵr a oeddech chi yn y Siambr bryd hynny—ond roedd yn fater pwysig a godwyd, yn enwedig i adrodd yn ôl ar y pwynt hwnnw bod y bwrdd iechyd, Betsi Cadwaladr, wedi sefydlu rhaglen ymchwiliadau a dysgu, a'r cyfarwyddwr meddygol yw'r uwch swyddog cyfrifol enwebedig. Mae'r rhaglen honno'n cael ei goruchwylio'n uniongyrchol gan y prif weithredwr a'r tîm gweithredol ehangach. Mae'n bwysig bod cysylltiad agos hefyd â'r pwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad fel y gall uwchgyfeirio materion a sicrhau bod y broses yn gadarn. Yn amlwg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd o ran y materion hyn a byddwch chi'n cael cyfle i'w holi pan ddaw hi ymlaen ar gyfer ei chwestiynau llafar yn fuan.

Rydych chi hefyd yn codi pwynt pwysig am effaith llifogydd ac, wrth gwrs, mae hyn yn arbennig o berthnasol i ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hwn yn fater trawslywodraethol hefyd o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, a fydd yn rhoi ei ddatganiad y prynhawn yma ar flaenoriaethau trafnidiaeth, o ran cyfle yno i chi godi'r materion hyn. Ond mae hefyd, o ran y seilwaith, yn fater i'r Gweinidog newid hinsawdd a materion gwledig o ran effaith y storm a'r llifogydd. Felly, unwaith eto, diolch am godi hynny y prynhawn yma.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Democratiaid Rhyddfrydol 2:53, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyflwr cymorth cyflogaeth anabledd yma yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad cywilyddus gan Lywodraeth y DU ar ddileu'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd. Mae'r penderfyniad hwn, ynghyd â chynlluniau i dorri budd-daliadau anabledd i 420,000 o bobl, yn codi pryder mawr ynghylch y rhagolygon swyddi i unigolion anabl yma yng Nghymru. Dangosodd ymchwil gan yr Adran Gwaith a Phensiynau eleni fod y Rhaglen Gwaith ac Iechyd wedi helpu cyfranogwyr i ddod o hyd i waith â thâl 27 y cant yn amlach, gyda thros 80 y cant yn fodlon â'r cymorth personol. Mae llawer o elusennau a phobl anabl yn ofni nawr, heb y cymorth cyflogaeth penodol hwn, y gall cyflogwyr ddychwelyd i arferion cyflogi gwahaniaethol yn erbyn ymgeiswyr swyddi anabl. Felly, hoffwn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda, godi'r mater hwn gyda'i Haelod cyfatebol yn Senedd y DU i fynegi ein pryder mawr ac i ofyn i'r penderfyniad hwnnw gael ei wrthdroi. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:54, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n arbennig o falch eich bod chi wedi codi'r mater hwn oherwydd, ymhlith y cyhoeddiadau a ddaeth ddiwedd yr wythnos diwethaf a thros y penwythnos, a oedd yn gyhoeddiadau a gafodd ei gwneud gan Brif Weinidog y DU—cyhoeddiadau a oedd yn ymwneud â'r ffaith ei fod eisiau torri budd-daliadau i 420,000 o bobl sâl ac anabl; dyna oedd y pennawd—o dan y pennawd, roedd y toriad hwn o £100 miliwn i'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd, sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, ac rydyn ni'n deall ei bod yn mynd i ddod i ben yn yr hydref, mae darparwyr wedi cael gwybod. Mae hi wedi bod yn rhaglen bwysig. Cafodd ei lansio nôl ym mis Tachwedd 2017 ac roedd yn cael rhywfaint o arian gan yr UE. Cynllun gwirfoddol oedd hi'n bennaf, gyda'r nod o helpu pobl anabl i gael gwaith. Roedd hyn, fel y dywedais i, yng nghyd-destun polisi llawer ehangach gan Brif Weinidog y DU, gan Rishi Sunak, sydd eisiau torri budd-daliadau, ac, fel y dywedwch, mae elusennau wedi disgrifio hyn fel ymosodiad di-baid ar bobl anabl.

Bydd ymgynghoriad, rwy'n deall, hefyd, ar daliadau annibyniaeth personol, sy'n helpu pobl anabl i dalu costau ychwanegol byw gydag amhariad neu afiechyd. Felly, er mwyn tawelu meddwl Jane Dodds a'r Senedd, mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei godi gyda Llywodraeth y DU. Mae gennym ni drefniadau dwyochrog yno, fel rhan o weithdrefnau rhyng-weinidogol y Llywodraeth, i gwrdd yn uniongyrchol â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar nawdd cymdeithasol, a byddwn ni'n eu hatgoffa nad yw'r diwygiadau hyn yn cyd-fynd â'n gweledigaeth ar gyfer system fudd-daliadau dosturiol, gyfiawn a theg. Fe wnaethon ni nodi hynny'n glir iawn yn siarter budd-daliadau Cymru Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n bryderus iawn bod gan y newidiadau hyn y potensial i ehangu anghydraddoldebau mewn cymdeithas a gwthio mwy o bobl i dlodi.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Busnes, rwy'n gofyn eto, am yr ail wythnos yn olynol, am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar adolygiad Cass ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'n ei olygu ar gyfer gwasanaethau rhywedd Cymru yng Nghymru yn y dyfodol.

A gaf i ddweud fy mod i'n falch o weld Llafur Cymru yn gwahardd meddyginiaeth atal y glasoed o'r diwedd? Ond, nid oedd hyn drwy unrhyw newid a wnaethoch chi i bolisi, ond o ganlyniad i newid polisi yn Lloegr, ac roedd hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oedd unrhyw lwybr i bobl ifanc dan 18 oed gael meddyginiaeth atal y glasoed ar bresgripsiwn. Mae angen eglurder ar y Senedd hon, Ysgrifennydd Cabinet. Byddai'n well mewn datganiad llafar—naill ai hynny neu ddatganiad ysgrifenedig, ond mae angen eglurder arnon ni. Mae pobl yn galw amdano o bob cwr o Gymru erbyn hyn. Mae angen i'r Llywodraeth fod yn glir ynglŷn â hyn. Yr wythnos diwethaf, cafodd Lloegr ddatganiad a chwestiynau ar adroddiad pwysig adolygiad Cass, bydd hyd yn oed yr Alban, yr wythnos hon, yn cael datganiad a chwestiynau ar yr adroddiad. Ac eto, yma yng Nghymru, rydyn ni'n dal i aros am ddatganiad, yn dal i aros i'r Llywodraeth Cymru hon gyfaddef iddyn nhw fod yn anghywir ac yn dal i aros am eglurder ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i wasanaethau rhywedd i bobl, wrth symud ymlaen. Nid yw'n iawn nad yw datganiad wedi'i gyflwyno eto. Mae angen atebion arnom. Mae angen atebion ar Gymru ac mae angen datganiad arnom, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd Cabinet, ac mae ei angen arnom ar frys.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:57, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, y gwnes i ei ateb yr wythnos diwethaf, ac fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais i'r wythnos diwethaf mewn ymateb i'ch cwestiwn, Laura Anne Jones. Nod adolygiad Cass, yr ydyn ni'n ei wybod ac yr ydyn ni'n ei ddeall, yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd neu sy'n profi dysfforia rhywedd ac sydd angen cymorth gan y GIG yn cael gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n ddiogel, yn gyfannol ac yn effeithiol. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella'r llwybr datblygu hunaniaeth rhywedd a'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru yn unol â'r ymrwymiadau yn ein cynllun gweithredu LHDTC+. Fe wnawn ni ystyried canfyddiadau'r adroddiad. Fe wnawn ni barhau i gael ein hysgogi gan dystiolaeth sy'n cefnogi anghenion pobl ifanc Cymru sy'n cwestiynu eu rhywedd orau. Rydyn ni'n comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd ar gyfer pobl ifanc o GIG Lloegr, ac mae GIG Cymru wedi'i gynrychioli ar fwrdd y rhaglen trawsnewid gwasanaethau dysfforia rhywedd yn Lloegr. Ac mae gwaith y rhaglen honno eisoes wedi'i lunio gan y canfyddiadau yn adroddiad dros dro Cass. Ond rwyf i hefyd eisiau ychwanegu'r pwynt y prynhawn yma fod y rhaglen drawsnewid wedi gwneud cynnydd da yn dilyn adolygiad dros dro Cass, ac mae hyn yn cynnwys dau wasanaeth rhywedd newydd i blant a phobl ifanc, a agorodd y mis hwn. Bydd hyd at wyth canolfan ranbarthol yn cael eu comisiynu a bydd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn gweithio gyda GIG Lloegr i ystyried canolfan ranbarthol yng Nghymru. Mae'r cynnydd hefyd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Goruchwylio Ymchwil Dysfforia Rhywedd Plant a Phobl Ifanc cenedlaethol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Simon Wessely. A bydd y cyd-bwyllgor comisiynu yn gweithio nawr gyda'r rhaglen drawsnewid wrth iddyn nhw ddatblygu cynllun gweithredu ar ôl ystyried adroddiad terfynol Cass. Ond rwy'n credu hefyd fod yn rhaid i ni gydnabod bod yn rhaid i'n pobl ifanc yng Nghymru gael y cyfle i fynegi eu barn a dylanwadu ar y ffordd ymlaen yng Nghymru.