Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 23 Ebrill 2024.
Diolch am y cwestiwn. Nid yw penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio ariannu ei chynllun grantiau ansawdd aer lleol yn effeithio ar Gymru. Mae'n cefnogi awdurdodau lleol yn Lloegr yn unig, na fyddant yn gallu cael mynediad i'r cynllun hwnnw. Fodd bynnag, yng Nghymru, ar 19 Ebrill, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gyllideb o £1 filiwn ar gyfer cronfa cymorth rheoli ansawdd aer leol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol yr ydyn ni ynddi nawr.