Y Sefyllfa yn Gaza

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 23 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 1:41, 23 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, effeithiwyd ar lawer o deuluoedd yn Nwyrain Casnewydd, ac effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau yn Israel a Gaza, a'r hyn y maen nhw ei eisiau, fel yr ydym ni eisoes wedi sôn amdano, yw cadoediad ar unwaith a pharhaol, rhyddhau gwystlon, cymorth dyngarol digonol yn cyrraedd Gaza ac, yn wir, dechreuadau proses wleidyddol a fydd yn dod ag ateb heddychlon sy'n para. Rwy'n credu bod António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, wedi siarad yn rymus iawn am yr adegau pwysig hyn mewn hanes a'r angen i beidio â bod yn wyliwr. Felly, y cwbl y byddwn i'n ei ddweud, Prif Weinidog, yw bod gennym ni wahanol lefelau o gyfrifoldeb, yn amlwg, fel yr ydych chi wedi sôn, ar wahanol lefelau o Lywodraeth, ond mae'n bwysig iawn i arweinwyr gwleidyddol a gwleidyddion—pob un ohonom ni—ar bob lefel i beidio â bod yn wylwyr ac i alw ar ddynoliaeth i fod yn drech.