Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Ebrill 2024.
Mae Gweinidogion a chydweithwyr Cabinet wedi cyfarfod ag arweinwyr ac aelodau'r cymunedau Iddewig a Mwslimaidd ers dechrau'r rhyfel rhwng Israel a Gaza. Rydym ni'n parhau i gydymdeimlo â'r holl bobl hynny y mae'r argyfwng presennol yn effeithio arnyn nhw. Mae nifer o deuluoedd a grwpiau cymunedol yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru. A byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw ddioddefwyr troseddau casineb drwy ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru.