1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 23 Ebrill 2024.
2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa yn Gaza yn effeithio arnynt? OQ60991
Mae Gweinidogion a chydweithwyr Cabinet wedi cyfarfod ag arweinwyr ac aelodau'r cymunedau Iddewig a Mwslimaidd ers dechrau'r rhyfel rhwng Israel a Gaza. Rydym ni'n parhau i gydymdeimlo â'r holl bobl hynny y mae'r argyfwng presennol yn effeithio arnyn nhw. Mae nifer o deuluoedd a grwpiau cymunedol yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru. A byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw ddioddefwyr troseddau casineb drwy ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru.
Diolch am yr ateb yna.
Yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad yn y Senedd, clywsom gan Mr a Mrs Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr, y lladdwyd eu merch a'u hwyresau gan Hamas ar 7 Hydref. Fe wnaethon nhw ddweud nad oedden nhw wedi clywed gan neb o Lywodraeth Cymru ers colli eu hanwyliaid. Hoffwn wybod a yw'r un peth yn wir am bob dinesydd o Gymru sydd wedi colli perthnasau yn y rhanbarth yn ystod y chwe mis a hanner diwethaf o wrthdaro gwaedlyd. Hoffwn wybod hefyd a roddwyd unrhyw gefnogaeth i ddinasyddion Cymru sydd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu, yn ariannol ac yn emosiynol, i gael eu perthnasau allan o'r ardal o berygl yn Gaza. Mae rhai o'n trigolion sydd â chysylltiadau â Phalesteina wedi mynd i ddyled ofnadwy i ddiogelu eu hanwyliaid. Rydym ni wir angen i lwybrau diogel gael eu sefydlu i osgoi'r trychineb dyngarol cynyddol yn Gaza, a hoffwn wybod beth all y Llywodraeth ei wneud am hynny. Ac yn olaf, o gofio'r digwyddiadau ers 7 Hydref, gyda mwy na 30,000 o bobl wedi marw, a gwystlon yn dal i gael eu dal, a yw bellach yn cytuno â'r Aelodau ar feinciau Plaid Cymru mai cadoediad ar unwaith yw'r unig ffordd i sicrhau diwedd y tywallt gwaed, ar gyfer dychwelyd y gwystlon, a diwedd ar y newyn yr ydym ni'n ei weld yn Gaza?
Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith. Mae angen cynnydd sylweddol i lwybrau ar gyfer cymorth, yn ogystal â faint o gymorth sy'n cael ei ddarparu, oherwydd mae argyfwng dyngarol gwirioneddol yn digwydd o'n blaenau, yn ogystal â datrys y materion ynghylch yr erchyllterau a ddigwyddodd ar 7 Hydref, sy'n cynnwys rhyddhau'r holl wystlon. Nawr, nid wyf i'n credu, ar draws y Siambr hon, y bydd pobl yn anghytuno â'r safbwynt hwnnw. Ein her yw lefel y dylanwad sydd gennym ni ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y rhanbarth, y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal rhwng gwahanol weithredwyr i geisio sicrhau cadoediad, a'r gallu i roi terfyn ar y lladd.
Nawr, o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol yng Nghymru—fe wnaethoch chi sôn am deulu Lianne Sharabi—rydym ni'n parhau i ddarparu cymorth ymarferol, o ran llesiant emosiynol pobl sy'n byw yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod pobl ar bob ochr i'r gwrthdaro hwn sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol mewn etholaethau a rhanbarthau yma yng Nghymru. Pe gallai'r Aelod roi manylion cyswllt mwy uniongyrchol i mi ar gyfer lle mae'r teulu ar hyn o bryd, a sut y maen nhw neu nad ydyn nhw wedi manteision ar wasanaethau, byddaf yn hapus i wneud yn siŵr bod y cymorth sydd ar gael yn cael ei ddarparu iddyn nhw. Ond rydym ni'n siarad mewn gwirionedd am gefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd. Mae hwn yn faes lle nad oes gennym ni gyfrifoldeb dros ymdrin â pholisïau ffoaduriaid a dychweliadau ac aduniad teuluol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur, fodd bynnag, ein bod ni eisiau dull mwy hael o ymdrin â phobl sy'n ceisio lloches, pobl sy'n ffoi o ardaloedd rhyfel, ac am wasanaeth aduniad teuluol priodol. A dweud y gwir, fe wnaethon ni ddarparu cyllid tuag at y gwasanaeth a ddarperir gan y Groes Goch. Fel y dywedais i, rwy'n cydnabod bod pryder ar bob ochr i'r Siambr hon. Byddwn yn parhau i chwarae rhan mor adeiladol ag y gallwn ni ei wneud yma yn Llywodraeth Cymru, a chyda, fel y dywedais i, yr eglurder yn ein galwad am gadoediad, am gynnydd i gymorth ac i'r gwystlon gael eu rhyddhau.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Fel pobl eraill yn y Siambr hon, rwyf i wedi bod yn bryderus iawn am y cynnydd mewn gwrthsemitiaeth, ac, yn wir, casineb gwrth-Fwslimaidd, ers 7 Hydref, hyd yn oed ar ein strydoedd ni yma yng Nghymru. Nawr, un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, yn enwedig ar ein campysau prifysgol, yw ei gwneud yn ofynnol, fel amod o gyllid ar gyfer ein prifysgolion, i sefydliadau addysg uwch fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth. A yw hyn yn rhywbeth y bydd eich Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ei wneud?
Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs—y Llywodraeth hon yng Nghymru—wedi cydnabod diffiniad IHRA o wrthsemitiaeth. Felly, mae'n cyfrannu at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gweld ein darpariaeth o Gymru wirioneddol wrth-hiliol. Rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod y bu cynnydd mewn gwrthsemitiaeth ar y strydoedd mewn cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli ac, yn wir, cynnydd mewn Islamoffobia. Rwyf i wedi gweld hynny yn fy etholaeth fy hun, yn anffodus. Nid wyf i'n siŵr y bydd y cynnig y mae'n ei wneud o ran ei gwneud yn ofynnol cydnabod yr IHRA fel amod ariannu i brifysgolion mewn gwirionedd yn helpu i gyflawni'r mesurau ymarferol sydd eu hangen arnom ni i weld gostyngiad mewn gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia ar gampysau prifysgolion. Rwy'n credu ei fod yn rhan o her ac ymdrech cymdeithas gyfan, lle rydych chi eisiau i bobl allu trafod pynciau mewn ffordd sy'n ddiogel ac nad yw'n cynyddu'r casineb a'r rhaniad sydd eisoes yn bodoli. Bydd hynny'n parhau i lywio'r dull y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddilyn yn ein hymgysylltiad â theuluoedd, cymunedau a rhanddeiliaid ehangach yng Nghymru.
Prif Weinidog, effeithiwyd ar lawer o deuluoedd yn Nwyrain Casnewydd, ac effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau yn Israel a Gaza, a'r hyn y maen nhw ei eisiau, fel yr ydym ni eisoes wedi sôn amdano, yw cadoediad ar unwaith a pharhaol, rhyddhau gwystlon, cymorth dyngarol digonol yn cyrraedd Gaza ac, yn wir, dechreuadau proses wleidyddol a fydd yn dod ag ateb heddychlon sy'n para. Rwy'n credu bod António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, wedi siarad yn rymus iawn am yr adegau pwysig hyn mewn hanes a'r angen i beidio â bod yn wyliwr. Felly, y cwbl y byddwn i'n ei ddweud, Prif Weinidog, yw bod gennym ni wahanol lefelau o gyfrifoldeb, yn amlwg, fel yr ydych chi wedi sôn, ar wahanol lefelau o Lywodraeth, ond mae'n bwysig iawn i arweinwyr gwleidyddol a gwleidyddion—pob un ohonom ni—ar bob lefel i beidio â bod yn wylwyr ac i alw ar ddynoliaeth i fod yn drech.
Eto, nid wyf i'n credu bod yr un Aelod ar draws y Siambr hon a fyddai'n anghytuno â'r safbwynt a'r datganiad a wnaed gan John Griffiths. Mae gen i ddiddordeb mewn sut y gall sifiliaid diniwed, pa un a ydyn nhw'n Israeliaid neu'n Balestiniaid, gynllunio dyfodol gyda'r heddwch a'r diogelwch yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol yn y wlad hon. Fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru yn eglur: rydym ni eisiau gweld terfyn ar y lladd ar unwaith, cadoediad; rydym ni eisiau gweld cynnydd sylweddol ar unwaith yn y cymorth y gellir ei ddarparu; rydym ni eisiau gweld gwystlon yn cael eu dychwelyd. Fy safbwynt i o hyd yw mai'r ffordd hirdymor i sicrhau'r sefydlogrwydd a'r diogelwch heddychlon y dylai dinasyddion ei ddisgwyl yw cael Israel hyfyw, ddiogel, fel cymydog i wladwriaeth Balesteinaidd hyfyw a diogel. Rydym ni ymhell i ffwrdd o gyflawni hynny mewn gwirionedd.