1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 23 Ebrill 2024.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar draws byrddau iechyd yng Nghymru? OQ60990
Gwnaf. Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar ein hymrwymiad i sicrhau darpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn o 100 y cant ledled Cymru erbyn mis Medi 2024.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyfaddefodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd eich Llywodraeth yn agored nad yw'r GIG yng Nghymru yn perfformio'n ddigon da, wrth i record arall gael ei chyrraedd eto o ran amseroedd aros. Yn ôl eich sylwadau diweddar, yr amseroedd aros hyn yw eich prif flaenoriaeth, ond ceir ymrwymiadau eraill y bydd angen i chi eu hystyried ochr yn ochr os ydych chi'n mynd i osgoi torri eich addewidion. Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd iechyd ddatganiad yn ymrwymo i sicrhau, fel y gwnaethoch chi sôn, ddarpariaeth o 100 y cant i bob bwrdd iechyd gan wasanaethau cyswllt toresgyrn erbyn 2024. Ond, yn anffodus, Prif Weinidog, rydym ni bellach ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r amserlen o 18 mis a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a dim ond pedwar o'r saith bwrdd iechyd sydd â'r gwasanaethau hyn hyd yn oed. Yn anffodus, mae mwy i hyn nag a welir, gan mai dim ond 21 y cant o gleifion torasgwrn yn genedlaethol sy'n cael eu nodi yn ein GIG yng Nghymru, oherwydd tanberfformiad yn y gwasanaethau hyn, hyd yn oed lle maen nhw'n weithredol ar hyn o bryd. Gan ei bod hi'n edrych yn fwyfwy annhebygol bellach y bydd y targed hwn a osodwyd ym mis Chwefror 2023 yn cael ei gyrraedd, a allwch chi gadarnhau heddiw a yw eich Llywodraeth yn dal i fod wedi ymrwymo i'r ffigur o 100 y cant, ac, os felly, y bydd hyn yn cynnwys mynediad i bawb dros 50 oed yng Nghymru at wasanaeth cyswllt toresgyrn o ansawdd sy'n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol safon glinigol genedlaethol? Diolch.
Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Edrychaf ymlaen at weld y gwasanaethau newydd yn dechrau ym mis Medi i gyflawni yn erbyn yr ymrwymiad hwnnw. Rydym ni'n cydnabod y gall torasgwrn breuder fod yn boenus ac o bosibl yn wanychol. Dyna pam rydym ni wedi cydnabod swyddogaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn, sy'n darparu ymyrraeth gynnar a mynediad hawdd at ofal osteoporosis i leihau'r risg o doresgyrn o'r fath. Ac mae llawer o gynnydd wedi cael ei wneud ers penodi Dr Inder Singh fel yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cwympiadau ac eiddilwch yn 2022. Rydym ni wedi dod yn bell. Mae mwy i fynd, ond rydym ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd.
Prif Weinidog, ar gyfartaledd, mae menywod yn colli hyd at 10 y cant o'u màs esgyrn yn y pum mlynedd gyntaf ar ôl y menopos. Mae bod â lefelau is o estrogen yn cynyddu'r risg o ddatblygu osteoporosis, felly mae menywod sy'n mynd drwy'r menopos mewn mwy o berygl o dorri esgyrn. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol y bydd un o bob dwy fenyw dros 50 oed yn torri asgwrn yn ystod eu hoes. Mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn ym mhob ardal bwrdd iechyd yn gam ymlaen i'w groesawu'n fawr, ond beth arall sy'n cael ei wneud i wella iechyd esgyrn a gwasanaethau GIG yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn. Mae'n bwynt pwysig i'w wneud ein bod ni'n disgwyl y bydd un o bob dwy fenyw dros 50 oed yn torri asgwrn yn ystod y cyfnod hwnnw o'u hoes. Nawr, i ni, mae hynny'n ymwneud â'r ddau bwynt yr ydych chi'n eu gwneud—am iechyd esgyrn a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu gwneud eu dewisiadau eu hunain am sut i fyw'n dda a gwella eu hiechyd esgyrn eu hunain, yn ogystal â'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud. Dyna'r model gwasanaeth y mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn yn ei gynrychioli. Mae hefyd, fodd bynnag, yn ymwneud â bod â mynediad at y dystiolaeth a'r cymorth triniaeth diweddaraf hefyd. Dyna pam y gwnaeth y Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis gydnabod penderfyniad NICE—y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—i wneud y driniaeth cyffur osteoporosis newydd gyntaf ar gael mewn degawd. Mae'r cyffur newydd hwnnw—dydw i ddim yn mynd i ynganu'r enw technegol gan ei fod yn dipyn o gwlwm tafod, â sawl z ynddo—wedi bod ar gael yng Nghymru ers 2022. Mae'n enghraifft arall o le mae meddyginiaethau newydd yn cael eu gwneud ar gael, a argymhellir gan NICE, yng Nghymru, oherwydd y ffordd yr ydym ni'n cefnogi'r broses honno ac, yn wir, y ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein cyllid. Mae'r mynediad cynnar hwnnw at driniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gael ledled Cymru gyfan bellach. Wrth gwrs, bydd mwy y gallwn ni ei wneud. Wrth i ni gyflwyno'r gwasanaeth cyswllt toresgyrn, byddwn yn dysgu gwersi o'i weithredu, ac edrychaf ymlaen at weld Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, yn ogystal â'r arian y mae wedi dod o hyd iddo i fuddsoddi yn y gwasanaeth.
Wrth gwrs, rwy'n croesawu creu'r gwasanaethau cyswllt toresgyrn ledled Cymru, ond a allech chi, Prif Weinidog, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth ym Mhowys, lle nad oes unrhyw ysbytai cyffredinol ardal, a sut y bydd y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu?
Mae'n bwynt teg, wrth gwrs, gan ein bod ni'n disgwyl i'r chwe bwrdd iechyd ag ysbytai gofal eilaidd fod ar y trywydd iawn i ddarparu'r gwasanaeth erbyn diwedd mis Medi. Mae gan bedwar y gwasanaeth hwnnw eisoes. Rydym ni'n disgwyl i'r ddau arall fod ar y trywydd iawn i ddarparu ym mis Medi, gan gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Mae gwahanol fodel yn cael ei ddatblygu ym Mhowys gan nad oes ysbytai gofal eilaidd yno. Felly, yn y sefyllfa unigryw honno, mae Powys yn gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i wneud yn siŵr bod gan boblogaeth Powys fynediad at y gwasanaeth hwnnw. Felly, mae angen i'r model ddarparu nid yn unig yn y chwe bwrdd iechyd sydd â'r ddarpariaeth ysbyty, ond gofal teg a mynediad ato i drigolion ym Mhowys, ac rydym ni ar y trywydd iawn i wneud hynny. Mae Powys, wrth gwrs, wedi arfer â gorfod darparu'r gwasanaethau hyn mewn gwahanol ffordd—i gomisiynu a threfnu gwasanaethau o fewn Cymru ac, yn wir, weithiau dros y ffin. Felly, rydym ni'n eglur y dylai'r llwybr fod ar waith i bobl sy'n byw ym Mhowys gael yr un mynediad teg at yr un ansawdd o ofal a'r gwelliant y mae'r gwasanaeth hwn yn ei gynrychioli.