– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 17 Ebrill 2024.
Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), a galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o wneud y cynnig ar yr agenda yn fy enw i, ac felly, wrth agor y ddadl, rydym yn cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11, yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r tîm o bobl sydd wedi fy helpu i baratoi’r Bil hwn a’r llu o gyd-Aelodau sydd wedi cynnig her a chymorth drwy’r amrywiol bwyllgorau a thu hwnt i’r pwyllgorau hynny hefyd dros y misoedd diwethaf. Yn benodol, hoffwn ddiolch i staff Comisiwn y Senedd, y mae rhai ohonynt yma heddiw, am eu hymdrechion sylweddol, yn ogystal â fy nhîm fy hun, ynghyd â’r rheini yn y sector awyr agored ac addysg sydd wedi fy nghefnogi, yn enwedig Graham French, Dave Harvey, Clare Adams a Paul Donovan, a ddarparodd fewnwelediad academaidd a mewnwelediad amhrisiadwy gan y sector. Hefyd, rwy'n ddiolchgar am ymgysylltiad ysgolion a phlant drwy gydol y broses hon. Eu hangerdd a'u hymrwymiad hwy a rhanddeiliaid ledled Cymru a wnaeth fy argyhoeddi ynghylch pwysigrwydd y Bil hwn a'r angen amdano.
Pan gyflwynais y Bil hwn ym mis Tachwedd y llynedd, agorais drwy ofyn cwestiwn, a’r cwestiwn oedd: a wnaiff Cymru arwain y ffordd? Ers hynny, rydym wedi clywed tystiolaeth gan ystod eang o grwpiau ac unigolion, y rhan fwyaf ohonynt yn cefnogi’r Bil. Yn wir, er bod nifer o bwyntiau pwysig i’w dadlau, mae wedi bod yn amlwg fod bron bob unigolyn sy’n rhoi tystiolaeth, boed o blaid neu yn erbyn y syniad o ddeddfwriaeth, yn cydnabod gwerth addysg awyr agored breswyl a’r mynediad anghyfartal at fuddion cysylltiedig sydd wrth wraidd y Bil.
Mae'r Bil wedi'i gyflwyno yng nghyd-destun addysg, ond credaf fod ganddo gwmpas ehangach o lawer sy'n berthnasol i wahanol bortffolios a phob agwedd ar ein bywydau. Mae manteision addysg awyr agored breswyl i’w teimlo’n gryf ar lefel bersonol ac maent yn chwarae rhan allweddol wrth ehangu gorwelion pobl ifanc a datblygu eu hymdeimlad o gynefin. Ond mae’r profiadau hyn hefyd yn cyfrannu at Gymru mewn ystyr ehangach. Mae iechyd, llesiant, cyfalaf diwylliannol a’r economi oll yn agendâu hollbwysig yma yng Nghymru ac maent oll yn cael eu hybu gan y Bil hwn. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, drwy wneud cyrsiau addysg awyr agored breswyl yn rhad ac am ddim ac yn rhan warantedig o daith addysg plant, mae’r Bil yn dileu’r elfen loteri cod post o fynediad at y manteision personol hynny. Credaf y bydd pob un o'r Aelodau'n cytuno na ddylai unrhyw blentyn fod ar eu colled oherwydd eu hamgylchiadau personol, a dyna pam, yn dilyn proses graffu drylwyr iawn, fod y Bil hwn ger eich bron heddiw ar ei ffurf bresennol.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud fy mod wedi mwynhau’r broses graffu, a diolch i bob un o Aelodau’r pwyllgor sydd wedi fy holi i a fy nhîm, ac yn sicr, cafwyd digonedd o gwestiynau treiddgar. Er nad wyf am wneud hynny eto ar y pwynt hwn, rwyf wedi ymateb yn fanwl i bob argymhelliad pwyllgor, ac rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen fy ymateb os digwydd eich bod yn cael trafferth cysgu. Rwyf wedi nodi ‘derbyniwyd mewn egwyddor’ neu ‘derbyniwyd’ ar gyfer llawer o’r argymhellion a wnaed yn dilyn hyn, sy’n dangos pa mor gynhyrchiol oedd y broses graffu, ac rwy'n bwriadu cyflwyno nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 i ymateb i'r rhain. Ond ceir rhai pwyntiau allweddol yr hoffwn dynnu sylw'r Aelodau atynt yn y cyfamser serch hynny.
Diben y Bil, i’ch atgoffa, yw galluogi pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir i gael o leiaf pedair noson o addysg awyr agored breswyl yn rhad ac am ddim, gyda’r gallu i rannu'r ddarpariaeth honno’n sawl ymweliad byrrach os oes angen. Mae rhywfaint o ddadlau wedi bod ynghylch diffinio addysg awyr agored, ond o ystyried yr ystod eang o safbwyntiau ar hyn, rwyf o’r farn y byddai gosod diffiniad ar wyneb y Bil yn cyfyngu ar ei weithrediad yn y dyfodol o bosibl, gan y byddai unrhyw welliant i’r diffiniad er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn ymarfer neu'r galw am rai elfennau o addysg awyr agored angen deddfwriaeth sylfaenol bellach.
Mae mabwysiadu’r dull hwn hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion benderfynu ar y math o brofiad sy’n briodol i’w disgyblion. Ynghyd â'r math o brofiad, dylai'r ysgolion hefyd allu dewis hyd yr ymweliad, yn briodol i oedran, gallu ac anghenion eu plant. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r Bil yn gwneud darparu cwrs addysg awyr agored preswyl yn rhan orfodol o’r cwricwlwm—byddai’n orfodol, felly, i ysgolion ddarparu’r cwrs addysg awyr agored preswyl hwn—ond y bwriad yw na ddylai plant gael eu gorfodi i'w wneud. Eisoes, gall penaethiaid ysgolion a gynhelir benderfynu na ddylai darpariaethau cwricwlwm Cymru fod yn gymwys i blentyn neu ddisgybl. Felly, os na fyddai plentyn yn dymuno cymryd rhan yn y cwrs o addysg a ddarperir o dan y Bil, gallai pennaeth yr ysgol wneud y penderfyniad hwnnw.
Wrth imi symud drwy’r broses a chynnal ymgynghoriadau ar yr amcanion polisi yn y Bil drafft, daeth yn amlwg fod safbwyntiau cryf y dylid ehangu’r Bil i gynnwys disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol. Rwy’n llwyr gydnabod y gallai plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, fel y rheini mewn unedau cyfeirio disgyblion, elwa’n arbennig o brofiad addysg awyr agored preswyl a ddarperir o dan y Bil. Rwy’n cydnabod bod hon yn rhan o’r Bil y gellid ei chryfhau. Mae clywed tystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod proses Cyfnod 1 wedi amlygu hyn ymhellach. Felly, os yw'r Bil yn symud yn ei flaen, rwy’n ymrwymo i adolygu’r mater hwn ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu dichonoldeb ymestyn y ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac i weld ai drwy'r Bil fyddai'r ffordd orau o wneud hynny neu drwy ffyrdd eraill.
Mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi cynnig gwelliannau'n ymwneud â’r canllawiau y mae’n rhaid eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru, ac rwy'n croesawu hynny. Yn ystod Cyfnod 1 y Bil, rwyf wedi rhoi ymrwymiad penodol i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Rwy’n fwy na pharod i osod gofyniad fod addysg awyr agored breswyl yn cynnig cyfleoedd i bob disgybl ddysgu a chael profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg a’i fod yn hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. Pa mor ddymunol bynnag yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, serch hynny, mae'n werth nodi bod diffyg gallu yn y sector i fodloni'r nod hwn yn llawn ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa'n gwella, diolch i gymwysterau newydd ym maes addysg awyr agored a sefydliadau fel y Bartneriaeth Awyr Agored, ond mae'n newid cenedliadol yn hytrach nag ateb dros nos. Rwy'n hyderus, serch hynny, y byddai pasio fy Mil yn hwb i ddyheadau 'Cymraeg 2050' ac yn hybu ein hiaith ledled Cymru, yn enwedig o ystyried bod llawer o'r safleoedd addysg awyr agored wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad a'i dathlu'n eang.
Nid yw’n syndod fod dadl ynghylch cyllid wedi bod yn thema ganolog yn y Bil hyd yma. Wrth ddatblygu’r asesiad effaith rheoleiddiol, gwnaed cryn dipyn o waith, gan gynnwys gyda darparwyr addysg awyr agored breswyl, ac rwy'n credu o ddifrif fod y costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn gadarn ac yn gallu gwrthsefyll unrhyw graffu. Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas ag addysg awyr agored breswyl, a bod yn rhaid i’r canllawiau wneud darpariaeth o ran y costau y mae’n rhesymol eu talu yn gysylltiedig ag addysg awyr agored breswyl. Dylai hyn roi rhywfaint o amddiffyniad fod yn rhaid i gost ymweliadau fod yn rhesymol. Fodd bynnag, rwy'n fwy na pharod i archwilio'r angen i gryfhau darpariaethau canllawiau yn y Bil i hyrwyddo ymhellach yr angen i sicrhau gwerth am arian.
Byddwn yn dadlau y byddai’r Bil hwn yn cael effaith economaidd gadarnhaol net hirdymor, nid yn unig o ran hybu economi ehangach Cymru, yn enwedig lle mae’r safleoedd preswyl hynny’n bodoli, ond drwy hybu a chefnogi iechyd corfforol a meddyliol hirdymor ein pobl ifanc, a fydd yn talu ar ei ganfed am ddegawdau yn y dyfodol. Credaf fod fy Mil yn angenrheidiol, oherwydd er bod gennym system addysg a chwricwlwm sydd â'r nod o ddarparu’n gyfartal ar gyfer pob plentyn, y gwir amdani yw nad yw pob agwedd ar yr addysg honno ar gael i bawb ar delerau cyfartal. Mae plant, rhieni ac athrawon fel ei gilydd yn gwerthfawrogi sesiynau addysg awyr agored breswyl, ac eto, i'r rheini na allant fforddio mynediad atynt, maent yn anghyraeddadwy. Credaf fod hyn yn sylfaenol anghywir, ac mae’r Bil hwn yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau ariannol rhag gallu cymryd rhan mewn profiadau a all newid bywydau.
Mae yna ddadl nad oes angen deddfwriaeth, ac rwy’n ymwybodol fod darpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn rhoi pŵer drwy reoliadau i Weinidogion Cymru ddiwygio meysydd dysgu a phrofiad. Ond mae fy Mil yn sicrhau y bydd ei fanteision yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn y bôn, rydych yn deddfu ar gyfer ac yn ariannu’r hyn sy’n bwysig yn eich barn chi, ac os ydych am i rywbeth gael ei warantu, rydych yn rhoi hynny mewn cyfraith. Dyna rwy’n ei wneud gyda’r Bil hwn ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i wneud hynny y prynhawn yma. Byddaf yn pleidleisio dros weledigaeth o'r dyfodol sy'n wirioneddol hygyrch i holl blant Cymru, un sydd â photensial i effeithio ar lesiant yn y dyfodol ac ar ddiwylliant ac economi Cymru hefyd. Rwy'n gobeithio'n fawr, Aelodau, y byddwch chi'n gwneud yr un peth. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn a’r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) i’r Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Buffy Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf siarad heddiw yn fy rôl newydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Wedi bod yn Aelod o’r pwyllgor ers 2021, mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy ethol yn Gadeirydd. Rydym wedi gwneud gwaith hollbwysig o dan arweiniad rhagorol ein cyn Gadeirydd, Jayne Bryant. Ar ran yr holl bwyllgor, hoffwn ddiolch i Jayne am fod yn Gadeirydd pwyllgor penigamp. Edrychwn ymlaen at eich ymgysylltiad parhaus â ni yn eich rôl newydd fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. Hoffwn ychwanegu diolch arbennig hefyd i Ken Skates ar ran y pwyllgor am ei gyfraniadau gwerthfawr a'i fewnwelediad.
Gan droi at y Bil, hoffwn ddiolch i'r Aelod sy'n gyfrifol am ei sylwadau agoriadol a'i ymagwedd agored ac adeiladol tuag at ein craffu. Mae’n ddefnyddiol cael ymateb ysgrifenedig i’n hargymhellion cyn y ddadl, felly diolch am hynny. Hoffwn ddiolch i’r rhai a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Yn olaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu dull ystyriol a chydweithredol o graffu ar y Bil.
Er y cafwyd cytundeb unfrydol â bwriadau ac amcanion polisi’r Bil, ni allem ffurfio safbwynt unfryd ar egwyddorion cyffredinol. Roedd gan rai Aelodau bryderon ynghylch cost y Bil a phroblemau posibl gyda'i weithredu, tra bo Aelodau eraill yn teimlo y gallai’r Aelod sy’n gyfrifol fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn ystod gweddill y broses graffu ac y dylai’r Bil fynd yn ei flaen felly. Rwy’n siŵr y byddwn yn clywed rhai o’r safbwyntiau gwahanol hyn yn ystod gweddill y ddadl. Fodd bynnag, fe wnaethom wyth argymhelliad. Derbyniodd yr Aelod sy’n gyfrifol ddau yn llawn, dau yn rhannol, ac un mewn egwyddor. Gwrthododd ddau, ac fe nododd un.
Trof yn awr at rai o’r rhain mewn mwy o fanylder. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi dweud yn glir iawn fod yr anghydraddoldeb presennol mewn darpariaeth addysg awyr agored breswyl yn ffactor blaenllaw ar gyfer cyflwyno’r Bil. Fe'i disgrifiodd fel mater cyfiawnder cymdeithasol; roeddem yn cytuno â hyn. Ac eto, mae’r Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd yn eithrio rhai plant a phobl ifanc mewn addysg, ac felly nid yw’n darparu ar gyfer darpariaeth gyffredinol. Yn benodol, clywsom sut y gallai plant a phobl ifanc mewn addysg heblaw yn yr ysgol elwa’n arbennig o’r cyfleoedd a ddarperir gan addysg awyr agored breswyl. Roedd llawer o’r rhanddeiliaid y siaradasom â nhw yn teimlo bod hwn yn fwlch yn y Bil. Roeddem yn teimlo’n gryf fod hwn yn faes i’w wella pe bai’r Bil yn mynd yn ei flaen, ac fe wnaethom argymell gwelliannau i gynnwys disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol o fewn cwmpas darpariaeth y Bil.
Cafodd hyn ei dderbyn mewn egwyddor gan yr Aelod sy’n gyfrifol. Nododd y sail y'i galluogwyd i fwrw ymlaen, sef er mwyn ceisio sefydlu dyletswydd statudol i sicrhau bod pob unigolyn ifanc sy’n derbyn addysg a gynhelir yn cael cyfle i brofi addysg awyr agored breswyl. Wrth ddatblygu’r Bil, dywedodd y teimlid mai’r ffordd orau o gyflawni hyn oedd trwy ddefnyddio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae Deddf 2021 yn gosod gofynion cwricwlwm gwahanol ar blant mewn addysg heblaw yn yr ysgol. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol yn cydnabod bod hwn yn faes lle gellid cryfhau’r Bil ac rydym yn falch o weld hyn. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn i adolygu’r mater hwn ymhellach, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu dichonoldeb ymestyn cymhwystra. Os bydd y Bil yn mynd rhagddo, byddwn yn cadw llygad ar y datblygiadau hyn.
Mater hollbwysig arall a archwiliwyd yn fanwl gennym ni a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad oedd natur orfodol y ddarpariaeth. Roedd yr Aelod sy’n gyfrifol yn glir yn ei dystiolaeth i ni na fyddai plant yn cael eu gorfodi i fynychu, ac mai’r hyn a oedd yn orfodol oedd y cynnig a wneir gan ysgolion. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i unrhyw system optio allan gael ei rhoi ar waith drwy’r mecanwaith a nodir yn adran 42 o Ddeddf 2021. Disgrifiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd hyn fel erfyn di-awch ar gyfer y dasg benodol hon. Roeddem yn cytuno, ac felly fe wnaethom argymell bod gwelliannau’n cael eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i nodi ar wyneb y Bil nad oedd yn orfodol i blant dderbyn y cynnig o ddarpariaeth addysg awyr agored breswyl. Sylwaf fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi gwneud argymhelliad tebyg yn galw am ddiwygio’r Bil i gynnwys mecanwaith optio allan. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi derbyn ein hargymhelliad, er ei fod yn dweud nad yw’n siŵr a oes angen gwelliant, ond mae’n barod i archwilio i weld a fyddai gwelliant o’r fath yn gwneud bwriad y Bil yn gliriach a’i effaith yn haws i’w rheoli’n ymarferol. Rydym yn croesawu’r ymagwedd agored hon, a phe bai'r Bil yn mynd rhagddo, bydd gennym gryn ddiddordeb mewn unrhyw welliannau perthnasol a gyflwynir ar gyfer Cyfnod 2.
Hoffwn sôn yn fyr am rai o’r argymhellion eraill a wnaethom. Roedd y rhain yn cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad o gapasiti o fewn y sector gyda ffocws penodol ar ddarpariaeth hygyrch a chynhwysol a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r rhain yn faterion y clywsom amdanynt yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil hwn a hefyd mewn perthynas â darpariaeth gynhwysol fel rhan o’n gwaith ar edrych ar fynediad i rai anabl at addysg a gofal plant. Bydd hyn yn amlwg yn fater i Lywodraeth Cymru yn hytrach na’r Aelod sy’n gyfrifol os yw'r Bil yn mynd yn ei flaen, ond mae’n dda gweld y byddai’r Aelod sy’n gyfrifol yn croesawu adolygiad o’r fath a’i fod yn gallu gweld sut y byddai’n cefnogi'r gwaith o weithredu'r Bil.
Yn olaf, rwy'n nodi argymhelliad 6, a oedd yn cefnogi’r gwelliannau arfaethedig a awgrymwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn rhannol. Dywedodd y byddai’n hapus i dderbyn y gwelliannau a fyddai’n sicrhau y dylai darpariaeth addysg awyr agored breswyl, yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, ddarparu cyfleoedd i bob disgybl ddysgu a chael profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac y dylai darpariaeth hybu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Cymru. Rydym yn croesawu hyn. Fodd bynnag, nid yw’n derbyn y gwelliant a gynigiwyd gan y comisiynydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr allu cynnig darpariaeth drwy’r Gymraeg. Rwy’n disgwyl y bydd y materion hyn ac eraill yn cael eu trafod ymhellach os aiff y Bil yn ei flaen.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl Cyfnod 1 yma ar yr ail Fil arfaethedig Aelod i gael ei gyflwyno yn y Senedd hon. Mae ein hadroddiad yn dod i bedwar casgliad, ac yn gwneud 11 o argymhellion. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands a’i swyddogion am ddod i’r pwyllgor ac am ddarparu ymateb i’n hadroddiad cyn y ddadl heddiw. Hoffwn longyfarch Sam a'i dîm ar lefel y manylder a ddarparwyd ar yr amcangyfrifon cost—sydd yn haws i fi ei ddweud na neb—sydd wedi eu cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Credaf fod y dull hwn yn gosod esiampl dda ar gyfer Biliau'r dyfodol. Wedi dweud hynny, mae’n siomedig nad yw’r Aelod wedi gallu derbyn dros hanner ein hargymhellion.
Er ein bod yn fodlon ar y cyfan â’r costau sydd wedi’u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, yn amodol ar yr argymhellion yn ein hadroddiad, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod y lefel sylweddol o gyllid sydd ei angen ar gyfer y Bil hwn, a hynny yn erbyn cefndir o bwysau cyllidebol ar Lywodraeth Cymru.
Cyn troi at argymhellion penodol, hoffwn dynnu sylw at ein disgwyliad y dylai cyllid ar gyfer pob Bil gael ei ystyried ar sail gyfartal ac i’r un safon. Yn ystod ein hystyriaeth o’r Bil hwn, dywedodd y Gweinidog ei bod yn ormod o risg i ymrwymo i brisiadau rhagolygol heb unrhyw gyllidebau dangosol ar ôl mis Mawrth 2025, o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol a’r dull ‘newydd’ o ariannu un agwedd ar y cwricwlwm. Ein barn ni yw bod cyfnod arfarnu pum mlynedd ar gyfer y Bil hwn yn briodol ac yn unol â’r amserlenni a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu effaith y Biliau y mae’n eu cyflwyno.
Yn yr un modd, cododd y Gweinidog bryderon hefyd ei bod yn bosibl na fydd y costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn lleihau dros y cyfnod arfarnu o bum mlynedd, oherwydd y gyfradd chwyddiant gyfredol. Rydym yn fodlon ar y dull a fabwysiadwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol o ddiystyru chwyddiant wrth brisio'r Bil, gan ei fod yn dilyn canllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF ac yn cyd-fynd â’r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, oherwydd cost sylweddol ei Fil, rydym yn argymell bod yr Aelod sy’n gyfrifol yn cynnal dadansoddiad pellach o effaith bosibl chwyddiant, ac mae’n dda gweld bod yr argymhelliad hwn wedi’i dderbyn.
Gan symud ymlaen, mae’n siomedig fod ein hargymhelliad i ddarparu dadansoddiad pellach wrth amcangyfrif manteision y Bil wedi’i wrthod. Fodd bynnag, roedd yn galonogol fod yr Aelod sy’n gyfrifol yn cefnogi’n llawn unrhyw ddadansoddiad ôl-ddeddfwriaethol ynglŷn ag a wireddwyd manteision disgwyliedig y Bil. Mae’r pwyllgor hefyd yn croesawu ymrwymiad gan yr Aelod sy’n gyfrifol i archwilio’r posibilrwydd o gynnwys adolygiad ôl-weithredu ar wyneb y Bil, os yw'r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2. Mae cynnwys adolygiad ôl-weithredu cadarn yn arfer da ac yn helpu i roi sicrwydd ynghylch y modd y caiff y gwaith o gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth ei fonitro. Yn ogystal, mae’r pwyllgor yn croesawu’r eglurhad a ddarparwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol am unrhyw ofynion arolygu posibl sy’n gysylltiedig â’r Bil, gan gynnwys unrhyw rôl i Estyn, a’r wybodaeth bellach a ddarparwyd ar gyflawni gwaith monitro effeithiol.
Gwnaeth y pwyllgor sawl argymhelliad arall yn gofyn am ragor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiad o’r costau amcangyfrifedig mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, athrawon cyflenwi, eitemau anarbenigol fel dillad ac esgidiau, ac olrhain cyfranogiad disgyblion. Mae’n siomedig fod pob un o'r rhain wedi’u gwrthod, ond nodwn y rhesymau a roddwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol yn ei ymateb.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, cafodd ein hargymhelliad i wneud gwaith pellach ar y goblygiadau cost a fyddai’n deillio o newidiadau posib i ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol ei wrthod hefyd. Er bod hyn hefyd yn peri siom, gan fod y gost hon o bosib yn sylweddol, rydym yn cydnabod yr anawsterau o ran llunio amcangyfrif o’r fath ac yn nodi’r rhesymau a roddwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Sarah Murphy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth fy ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Rwy'n croesawu'r her newydd hon. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag aelodau eraill o’r pwyllgor, yn ogystal â'r tîm clercio da iawn. Hoffwn hefyd ddiolch a chydnabod gwaith ac ymrwymiad y cyn-Gadeirydd, Huw Irranca-Davies. Ble bynnag rydych chi, Huw, fe fydd yn anodd llenwi eich esgidiau. Nid oeddwn yn aelod o’r pwyllgor yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil wrth gwrs, ond hoffwn ddiolch i Sam Rowlands, fel yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd, am roi tystiolaeth yn gynharach eleni i lywio ei waith craffu. Teimlaf ei bod yn bwysig cydnabod y gwaith y mae Sam wedi’i wneud ar gyflwyno’r Bil, ac felly hoffwn dynnu sylw at ganfyddiadau’r pwyllgor. Hoffwn ddiolch i Sam hefyd am gyhoeddi ymateb cynhwysfawr ddydd Llun i’r chwe argymhelliad a wnaeth y pwyllgor yn ei adroddiad.
Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad yn ymwneud â nod craidd y Bil, sef, fel y dywedodd yr Aelod sy’n gyfrifol wrth y pwyllgor, sicrhau bod cwrs addysg awyr agored preswyl yn cael ei ddarparu fel rhan orfodol o’r cwricwlwm, er na fyddai plant yn cael eu gorfodi i fynychu. Barn yr Aelod sy’n gyfrifol yw y gall disgybl optio allan o gael y ddarpariaeth honno drwy ddibynnu ar reoliadau presennol a wnaed o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Fodd bynnag, canfu’r pwyllgor nad yw’r rheoliadau hynny’n cyflwyno mecanwaith priodol i ddisgybl optio allan o ddarpariaeth o'r fath. Daeth i’r casgliad hwnnw am ddau reswm. Yn gyntaf, dim ond dros dro y byddai’r mecanwaith yn caniatáu i ddisgybl optio allan, ac yn ail, byddai hefyd yn ofynnol i ddisgybl gefnogi eu cais i optio allan gyda rhesymau i bennaeth eu hystyried. Felly, argymhellodd y pwyllgor, os yw’r Bil hwn yn mynd yn ei flaen heddiw, y dylid ei ddiwygio i gynnwys mecanwaith optio allan mwy priodol ar ei wyneb. Sylwaf nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol yn rhannu barn y pwyllgor ar y mater hwn, ond mae wedi ymrwymo i archwilio a ellid cyflwyno gwelliant o’r fath yng Nghyfnod 2 i wneud bwriad y Bil yn gliriach ac i’w gwneud yn haws rheoli ei effaith yn ymarferol.
Mae argymhelliad 2 yn adlewyrchu’r ffaith nad yw’r Bil, fel y’i cyflwynwyd, yn cynnwys diffiniad o ‘addysg awyr agored breswyl’. Barn y pwyllgor yw y dylai’r Bil gynnwys diffiniad o’r fath, er nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol yn cytuno. Ym marn y pwyllgor, mae hyn am resymau'n ymwneud â hygyrchedd ac arfer da, ac mae cynnwys diffiniad ar wyneb y Bil yn fwy priodol na dibynnu ar wybodaeth sydd yn y memorandwm esboniadol, neu’r cod addysg awyr agored breswyl, fel yr awgrymwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol.
Trof yn awr at argymhellion 3 a 4 yn yr adroddiad, sy'n ymwneud â’r ffaith bod y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas ag addysg awyr agored breswyl. Mae’r Bil, fel y’i drafftiwyd, yn cynnwys gofynion rhagnodedig y mae’n rhaid eu nodi yn y canllawiau hynny. Fodd bynnag, nid yw’n glir i’r pwyllgor pam nad yw’n briodol i ddarpariaeth o’r fath gael ei rhoi ar wyneb y Bil. Argymhellodd y pwyllgor, felly, y dylid diwygio’r Bil i ddileu’r gofyniad i’r materion hynny gael eu nodi mewn canllawiau, ac yn lle hynny, eu gosod yn uniongyrchol ar wyneb y Bil. Yng ngoleuni’r argymhelliad hwn, argymhellodd hefyd y dylai’r Aelod sy’n gyfrifol ystyried a yw’n angenrheidiol i’r Bil osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau. Yn wir, nid yw'n barnu bod y gofyniad hwnnw’n angenrheidiol. Argymhellodd y pwyllgor y dylid diwygio’r Bil i gynnwys y ddyletswydd fel darpariaeth ar ei phen ei hun yn Neddf 2021. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi derbyn argymhelliad 3 yn yr adroddiad mewn egwyddor, drwy ymrwymo i ystyried pob un o’r gofynion rhagnodedig hyn yn eu tro, i benderfynu a ellir eu rhagnodi neu ymdrin â nhw mewn ffordd wahanol. Mae hefyd wedi derbyn argymhelliad 4, drwy ymrwymo i gyflwyno gwelliant i gynnwys y ddyletswydd fel darpariaeth ar ei pen ei hun.
Rydym yn nodi bod yr Aelod sy’n gyfrifol wedi gwrthod argymhelliad 5, a bod yr Aelod sy’n gyfrifol, o ganlyniad, yn fodlon gyda gofyniad y Bil am ganllawiau i ddarparu mai dim ond yn amodol ar argaeledd a phan ofynnir amdani y dylid darparu addysg awyr agored breswyl yn y Gymraeg.
Roedd yr argymhelliad olaf yn cwestiynu a ddylid diwygio’r Bil i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r cod addysg awyr agored breswyl a’r canllawiau cyntaf. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod sy’n gyfrifol am dderbyn yr argymhelliad hwn, yn amodol ar ddeialog bellach gyda’r Gweinidog ar y mater hwn, os yw’r Bil yn mynd rhagddo heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands a'i dîm am ei waith ar y Bil hwn, a diolch iddo hefyd am ei ymgysylltiad â mi a fy rhagflaenydd? Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeiryddion ac aelodau'r tri phwyllgor craffu am y gwaith y maent wedi'i wneud ar y Bil.
Fel fy rhagflaenydd, ac o fy ngwaith fel y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwy'n cydnabod cymaint sydd gan addysgu yn yr awyr agored a phrofiad o'r awyr agored i'w gynnig, gan ehangu gorwelion a chyfrannu at iechyd corfforol da a llesiant meddyliol ac emosiynol. Mae'r manteision hyn wedi cael eu cydnabod yn eang gan bawb yn natblygiad y Bil hyd yma. Mae ein Cwricwlwm newydd i Gymru yn atgyfnerthu'r manteision hyn ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu, nid ar un adeg yn nhaith dysgwr yn unig, ond sicrhau eu bod yn gweu drwy gydol cyfnod dysgwyr yn yr ysgol. Dyna pam mae'r canllawiau statudol ar gyfer y cwricwlwm yn disgwyl i ysgolion ddatblygu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored, o dair oed hyd at 16 oed. Mae'r fframwaith yn nodi disgwyliad clir fod plant yn dysgu yn yr awyr agored yn rheolaidd, a bod hyn yn eu helpu i ddod yn unigolion iach a hyderus. Mae'n elfen arbennig o gryf yn ein cefnogaeth i'n dysgwyr ieuengaf, ond mae angen ei ddatblygu drwy gydol y daith drwy'r ysgol.
Bydd manylion hyn yn amrywio o ysgol i ysgol, yn dibynnu ar ofod yr ysgol, ac oedran a datblygiad y dysgwyr. Mae hyn yn cydnabod y bydd yr hyn sy'n ennyn diddordeb dysgwyr orau ac sy'n fwyaf cefnogol iddynt ddatblygu cariad gydol oes tuag at yr awyr agored yn amrywio. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae hefyd yn cydnabod, os ydym am newid ymddygiad plant wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion, fod angen datblygu'r ymddygiadau hyn dros amser, drwy gysylltiad parhaus â'r awyr agored. Mae hyn yn bwysicach o lawer nag unrhyw ymyrraeth unigol.
Mae'r manteision hyn yn allweddol, ond yn anffodus, nid wyf fi na fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o'r farn mai'r Bil hwn yw'r ffordd orau o ehangu'r manteision hynny neu'r ddarpariaeth addysg awyr agored breswyl ar hyn o bryd. Byddai'r Bil hwn yn gosod rhwymedigaeth lwyr ar Lywodraeth Cymru i sicrhau darpariaeth ac ariannu profiad awyr agored preswyl i bob dysgwr o oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, gyda chost debygol ymhell dros £20 miliwn y flwyddyn.
Yr effaith yw y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu addysg awyr agored breswyl yn benodol yn ychwanegol at unrhyw agwedd arall ar y cwricwlwm newydd, ac yn wir, unrhyw ddarpariaeth addysg arall. Rwy'n cydnabod bod yr Aelod wedi gwneud llawer iawn o waith ar gwmpasu cost debygol hyn. Rwy'n cydymdeimlo â hynny, gan fy mod yn ymwybodol o ba mor anodd yw'r dasg honno.
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cydnabod bod llawer mwy o waith i'w wneud o hyd i sefydlu beth fyddai'r costau go iawn, pe bai'r Bil yn cael ei dderbyn. Rwy'n ddiolchgar hefyd fod adroddiad y Pwyllgor Cyllid wedi nodi'r pwysau cyllidebol presennol a'r lefel sylweddol o gyllid y byddai ei hangen. Ar ben hynny, drwy gydol y broses o gasglu tystiolaeth Cyfnod 1, codwyd pryderon sylweddol gan randdeiliaid, yn enwedig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg a'n hundebau addysg, am yr effaith ar sefyllfa ariannol sydd eisoes dan bwysau.
Mae llawer o randdeiliaid wedi tynnu sylw at yr agenda newid sylweddol sydd eisoes yn cael ei rheoli gan ysgolion mewn perthynas â gweithredu diwygiadau, a'r risg o heriau ychwanegol i'n llwyth gwaith ysgol. Byddai cyflawni gofynion y Bil hwn yn golygu bod angen newidiadau i delerau ac amodau staff mewn ysgolion, er enghraifft, ac mae llawer yn credu y gallai hynny gael effaith niweidiol ar y gwaith o recriwtio a chadw staff o fewn y gweithlu.
Nodaf hefyd y pryderon sylweddol a godwyd ynghylch capasiti'r sector addysg awyr agored preswyl i fodloni darpariaethau'r Bil, yn enwedig o ran y ddarpariaeth Gymraeg a sicrhau tegwch y ddarpariaeth i'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel y clywsom, roedd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bryderon tebyg. Er bod aelodau'r pwyllgor yn unfrydol ynglŷn â bwriadau'r Bil, nid oeddent yn gallu dod i gonsensws ar yr egwyddorion cyffredinol oherwydd pryderon sylweddol ynglŷn â'r modd y câi ei ariannu a'i weithredu.
Rydym hefyd o'r farn fod y Bil yn cynnwys nifer o wendidau deddfwriaethol, y mae llawer ohonynt wedi'u hamlygu gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Er enghraifft, nid yw'r Bil yn cynnig diffiniad o beth yw addysg awyr agored breswyl ar ei wyneb. Nid yw'n berthnasol i unedau cyfeirio disgyblion. Ac nid yw'n darparu mecanwaith cyfreithiol priodol i ddisgybl gael ei eithrio rhag y gofyniad gorfodol i bob disgybl ymgymryd â chyfnod o addysg awyr agored breswyl. Nodaf yma fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi argymell bod yr Aelod yn cyflwyno sawl gwelliant i fynd i'r afael â'r pethau hyn.
Yng ngoleuni'r uchod, rydym yn parhau i fod yn argyhoeddedig na ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, er bod eu bwriadau'n dda. Yn olaf, fodd bynnag, fel rwyf i a fy rhagflaenydd wedi dweud droeon, mae'r cyfraniad y mae addysg awyr agored breswyl yn ei wneud i addysg yng Nghymru a datblygiad ein plant a'n pobl ifanc yn bwysig ac mae'n haeddu ein cydnabyddiaeth a'n sylw. Felly, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae wedi'i wneud ar y Bil hyd yma, ac am godi ymwybyddiaeth o'r rhan hanfodol hon o daith ddatblygu ein dysgwyr. Cyfarfu'r Aelod a minnau yn gynharach yr wythnos hon i drafod hyn, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cytuno bod nifer o feysydd y tu hwnt i ddeddfwriaeth y gallem eu harchwilio gyda'n gilydd i geisio gwella'r cyfraniad hwn hyd yn oed ymhellach. Diolch.
I ddechrau, hoffwn longyfarch Sam am gyflwyno hyn, a llongyfarch tîm y Bil hefyd am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud, a'r gwaith o ansawdd uchel, fel y clywsom gan y Cadeirydd cyllid. Rwy'n credu y byddai'r Bil hwn yn rhoi Cymru'n gadarn ar y map am fabwysiadu dull pragmataidd ond arloesol o ymdrin ag addysg a datblygiad cymdeithasol ein pobl ifanc.
Yn aml ym myd addysg, gwelwn wneuthurwyr polisi'n ceisio cyflawni newidiadau radical i ddarparu'r arfau gorau i genedlaethau'r dyfodol allu naddu eu dyfodol eu hunain, ac eto rydym yn anwybyddu'r blociau adeiladu go iawn i addysg plentyndod, pethau nad ydynt yn cael eu dysgu ar e-fwrdd, ond sy'n cael eu dysgu mewn amgylchedd naturiol, megis hyder, annibyniaeth a gweithio mewn tîm—nodweddion hanfodol bwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Sam yn ceisio ei warantu yn ein system addysg gyda'r Bil hwn, a hynny'n briodol.
Yn sir Fynwy, mae cynnal a sybsideiddio mynediad at addysg awyr agored wedi bod yn flaenoriaeth ers degawdau. Fe wnaethom ddarparu'r gwasanaeth i gynghorau eraill Gwent, ond dros y blynyddoedd fe dynnodd cynghorau cyfagos eu cefnogaeth yn ôl a'r unig reswm am hynny oedd oherwydd eu bod am wneud arbedion effeithlonrwydd. Byddwn i'n dweud bod hwnnw'n adlewyrchu'n wael arnynt. Fodd bynnag, fe wnaethom ni symleiddio ein darpariaeth a chadw'r cynnig, gan ein bod wedi gweld y manteision i blant ers degawdau. Bydd fy mhlant fy hun, a llawer ohonoch chi yma heb os, wedi elwa o'r profiadau a gawsant wrth gael addysg awyr agored. Mae hi mor hawdd diystyru pethau ar sail ariannol, fel rydym wedi'i glywed eisoes, ac rwy'n siŵr y bydd yna Aelodau a fydd yn cefnogi rhinweddau'r Bil, ond a fydd yn anffodus wedi cael cyfarwyddyd i beidio â chefnogi oherwydd y gost—rhywbeth a glywais pan gyflwynais fy Mil fy hun, ac mae'n adlewyrchu'n wael ar y lle hwn nad yw'n ei gwneud yn bosibl i ddeddfwriaeth meinciau cefn allu gwneud cynnydd.
Fel rwyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae angen inni feddwl am bethau mewn ffyrdd gwahanol. Pa bris a roddwn ar lesiant plentyn? Mae'n ffaith ddiymwad fod treulio amser yn yr awyr agored yn cyfrannu at lesiant meddyliol gwell, ochr yn ochr â chadw'n heini. A ddoe fe glywsom y Prif Weinidog yn dweud y bydd y Llywodraeth yn gwneud ein pobl ifanc yn flaenoriaeth, gan roi'r cyfleoedd gorau mewn bywyd iddynt, meddai.
'Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall plant dyfu i fyny yn teimlo'n hapus ac yn obeithiol am eu dyfodol.'
Mae'n sicr y byddai'r Bil hwn yn hanfodol i'r perwyl hwnnw, Ddirprwy Lywydd. Os gallwn gymell cariad gydol oes tuag at yr awyr agored a gweithgarwch corfforol yn y genhedlaeth nesaf, byddwn nid yn unig yn gadael y cyhoedd yng Nghymru mewn sefyllfa well nag y maent ynddi nawr, byddwn hefyd yn arbed degau o filiynau o bunnoedd i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol eraill mewn gwasanaethau sy'n cynorthwyo gydag iechyd meddwl a gordewdra. Nid yw'r Bil hwn yn un ffansïol; dylai fod yn rhan bwysig o'n haddysgeg. Prawf o hynny yw'r ffaith bod Biliau tebyg yn cael eu cyflwyno yn Holyrood a San Steffan. Ond mae gennym gyfle unigryw i basio'r Bil hwn cyn i unrhyw un arall wneud hynny. Gadewch inni beidio â dilyn y dorf yn unig. Mae angen inni arwain y ffordd a heddiw, Senedd, mae gennym gyfle i wneud hynny.
Rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil hwn a'i alluogi i symud ymlaen i Gyfnod 2. Gellir ystyried yr holl bethau y mae pawb wedi siarad amdanynt sydd ag elfen ychydig bach yn negyddol yn ystod Cyfnod 2, drwy welliannau. Pam nad ydym yn caniatáu i'r pethau hyn symud ymlaen a gweld beth sy'n digwydd? Ac os na allwch ddod o hyd i ffordd drwy hynny, gellir atal pethau yn y dyfodol. Pam ein bod bob amser yn atal deddfwriaeth cyn iddi gael cyfle i symud ymlaen, i anadlu ac i ddangos yr hyn y mae ganddi botensial i'w wneud? Mae'n hanfodol ein bod yn diogelu llesiant ein plant yn y dyfodol, ac nid Bil am nawr yn unig yw hwn, rwy'n ei ystyried yn Fil ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Diolch.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands am ei holl waith caled ar y Bil hwn? Dwi wedi cael y pleser o fod ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu ar y Bil yma. Dwi wedi gofyn nifer o gwestiynau i Sam a dwi wedi cael nifer o drafodaethau bywiog ar y mater, a dwi’n credu, fel roedd Peter Fox yn ei ddweud, fod yna fudd inni symud ymlaen gyda'r Bil hwn, a gweld beth fedrith gael ei gytuno arno drwy welliannau.
Mae gen i bryderon, rhai ohonyn nhw ynglŷn â sut rydyn ni’n sicrhau bod y manteision a budd economaidd yn aros yma yng Nghymru. Oherwydd, yn sicr, os ydyn ni’n mynd i wneud y math yma o fuddsoddiad, mae’n ffantastig i feddwl y byddai gan bawb y cyfle, ac mae’r manteision economaidd i gymaint o'n cymunedau ni yn wych. Mi glywsom ni ynglŷn â’r ddarpariaeth y byddai angen cael ei hymestyn, a beth fyddai hyn yn ei olygu i nifer o ddarparwyr sydd, efallai, yn cael trafferth i gael llefydd yn llawn drwy gydol y flwyddyn—gwych, a gobeithio, wedyn, yn annog plant a phobl ifanc i fod yn annog eu teuluoedd nhw hefyd i fanteisio ar y cyfleusterau yma. Felly, wrth gwrs, mae yna angen inni sicrhau, dwi’n credu, fod y ddarpariaeth yma yng Nghymru os ydyn ni’n mynd i fod yn buddsoddi.
Dwi’n croesawu hefyd, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd Sam ynglŷn â rhai o'r pethau y mae o’n gytûn arnynt er mwyn cryfhau o ran yr ochr ddiwylliannol, nid dim ond ieithyddol, a'n bod ni’n cael y manteision hynny. Heb os, dwi’n gobeithio'n fawr ein bod ni i gyd yn gytûn ar y buddion sy’n dod nid yn unig o addysg awyr agored, ond cyfleoedd preswyl. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl athrawon a chynorthwywyr mewn ysgolion sydd eisoes yn cefnogi hyn i ddigwydd. Mi ydyn ni’n clywed yn aml yn ystod y drafodaeth yma ynglŷn â’r ffaith dyw pob plentyn yng Nghymru, yn anffodus, ddim yn cael y cyfle hwn, ond dwi hefyd yn gwybod am ysgolion sy'n gwneud gwaith rhagorol er mwyn sicrhau bod pob plentyn, dim ots beth ydy eu cefndir nhw, yn cael y cyfle yma. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni gydnabod bod rhai o'r pethau y mae'r Bil yma yn ceisio eu cyflawni eisoes yn digwydd—y broblem ydy ei fod o’n loteri cod post ar y funud, gan olygu dyw pob plentyn ddim yn cael y cyfle hwn yn gydradd.
Mae’n rhaid inni hefyd adlewyrchu ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog hefyd o ran y straen aruthrol sydd ar staff ar y funud. Maen nhw yn aml yn gwneud hyn yn wirfoddol, dŷn nhw ddim yn cael unrhyw fath o dâl ychwanegol amdano fo, ac maen nhw’n ei wneud o oherwydd eu bod nhw’n gweld y budd o ran y plant a phobl ifanc maen nhw’n gofalu amdanyn nhw pan ydyn nhw yn ein hysgolion ni.
Mi oedd yna rai pryderon a godwyd o ran yr Urdd hefyd, ynglŷn â’r ffaith fyddai gwersyll Caerdydd, er enghraifft, neu Bentre Ifan, ddim yn gymwys. Dwi’n meddwl mai dyna pam byddwn i’n hoffi gweld sut ydyn ni’n ehangu’r syniad yna o gyfleoedd preswyl i fod yn cynnwys dod i adnabod gwahanol lefydd o fewn ein cenedl ni. Hefyd, dwi’n gwybod am amryw ysgolion o ogledd Cymru sydd yn cymryd mantais o ddod lawr yma i Gaerdydd er mwyn ymweld a'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd roedden ni’n ei thrafod yn gynharach, dod i ymweld â’r Senedd hon, ac efallai fod angen inni sicrhau, felly, dŷn ni ddim yn cyfyngu cyfleoedd preswyl a golygu na fyddai’r math yna o dripiau yn gallu digwydd.
Dwi’n siŵr bod mwyafrif y bobl yma wedi bod ar gyfleoedd eu hunain. Fyddwn i, yn sicr, ddim wedi clywed am y black nun, er enghraifft, os fyddwn i ddim wedi bod yn Llangrannog a Glanllyn a chael hunllefau amdani hi. Ond mae’r manteision, dŷn nhw ddim jest o ran y gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud yna; mae cymdeithasu, dod i adnabod pobl o ysgolion eraill, i gyd yn rhan ohono fo. Felly, dwi’n awyddus ein bod ni’n edrych yn bragmataidd ar hyn, nid dim ond edrych ar yr ochr ariannol, ond edrych ar sut ydyn ni’n mynd i sicrhau, os oes yna ffordd drwy adael i’r Bil yma symud ymlaen, drwy welliannau, fod o’n gwneud yr hyn rydyn ni i gyd eisiau fo ei wneud, sef, rhoi’r cydraddoldeb hwnnw bod pob plentyn, ble bynnag eu bod nhw yng Nghymru, pa bynnag ysgol maen nhw ynddi, neu ddim mewn ysgol, yn cael y cyfle cydradd hwn. Ac os gallem ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau hynny, dwi’n meddwl y byddwn ni wedi cyflawni lot fel Senedd. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy longyfarch a diolch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands, am yr holl waith caled a wnaeth ar y Bil hwn ac i gyrraedd y cam hwn. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae fy nghyd-Aelodau i gyd wedi'i ddweud hyd yma ar y Bil hwn, ond yn enwedig geiriau olaf Peter Fox nawr fod hwn yn Fil ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod honno'n frawddeg allweddol iawn wrth ystyried y Bil hwn a pham y dylem ei wthio yn ei flaen.
Mae syniadau ac amcanion y Bil hwn yn gymeradwy, ond mae'r manteision yn enfawr—y dylai pob plentyn gael profiad awyr agored preswyl. Er yr hoffwn i'r Aelod, Sam Rowlands, wrth gwrs—mae'n ddrwg gennyf, ni allaf siarad yn dda iawn—sicrhau bod pob plentyn, ac rwy'n golygu pob plentyn, fel y mae'r Cadeirydd newydd ar gyfer y pwyllgor plant a phobl ifanc newydd ei amlinellu, yn cael y cyfle hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae rhai plant yn cael eu hepgor. Felly, mae'n hanfodol iawn ein bod yn cynnwys y plant hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, efallai mai'r plant hynny sy'n cael eu hamddifadu ohono ar hyn o bryd yw'r rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai a fyddai'n elwa fwyaf o Fil o'r math hwn.
Fel y gwyddom i gyd, byddai sicrhau bod gan blant fynediad at addysg awyr agored breswyl yn cael effaith gadarnhaol hirdymor ar iechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â chreu arferion da, fel yr amlinellodd yr Aelod yn gynharach yn ei araith. Mae hefyd yn arbed arian yn y tymor hir, oherwydd, drwy fabwysiadu dull iechyd ataliol, mae'n cryfhau iechyd meddyliol a chorfforol ar gyfer y dyfodol—sy'n arbennig o dda pan edrychwn ar ein hunain fel gwlad sydd â chyfraddau gordewdra ofnadwy o wael ymhlith plant.
Mae hefyd yn rhoi profiadau cofiadwy i bobl ifanc, sy'n rhoi hyder a sgiliau gwaith tîm iddynt, ac amrywiaeth o fanteision eraill a amlinellwyd gennym dro ar ôl tro yn ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn y Siambr hon eisoes, yn ogystal â hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg—mae cymaint o fanteision a chyfleoedd yno—a hefyd er budd ein canolfannau addysg awyr agored yng Nghymru, fel yr amlinellodd Heledd, a'n heconomïau lleol. Byddai'r Bil o fudd arbennig i blant o ardaloedd trefol nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i archwilio cefn gwlad a gweld popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Byddai hefyd o fudd i blant o deuluoedd tlotach, sy'n aml yn methu manteisio ar weithgareddau preswyl am eu bod yn rhy ddrud. Yn ei dro, byddai hyn yn helpu i gau'r bwlch anghydraddoldeb addysgol. Ar hyn o bryd, mae'r cyfleoedd hyn yn loteri cod post, fel y mae Heledd eisoes wedi'i amlinellu, ac nid yw hynny'n beth da i ni yma yng Nghymru. Mae'r gweithgareddau a gynigir yn heriol ac yn anturus, a byddai'r Bil yn gwella cymwyseddau syn ganolog i'r Cwricwlwm newydd i Gymru, sef unigolion iach, hyderus sy'n gyfranwyr creadigol, yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog ac yn ddinasyddion egwyddorol.
Wrth gwrs, mae yna rai pryderon yr ydym wedi'u trafod fel pwyllgor, ond rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ddal i gefnogi'r Bil hwn a gweld beth arall y gellir ei wneud. Rwy'n credu y byddai'n drueni mawr pe bai'n dod i stop nawr a phe na bai'n mynd yn ei flaen, oherwydd rwyf eisiau gweld y Llywodraeth yn rhoi mwy o ymdrech i weithio'n agos gyda'r Aelod i ddatblygu'r hyn sydd mor gadarnhaol am y Bil hwn. Ond hefyd, mae yna gyfleoedd ac mae yna atebion i'r hyn rydych chi'n pryderu yn ei gylch. Os edrychwn ni'n ddigon manwl ac os gweithiwn yn ddigon caled, gallwn ddod o hyd i'r arian hwnnw, fel y dywedodd Peter Fox, a gallwn ddod o hyd i atebion os ydym eisiau gwneud hynny.
Hyd yn oed os na all Llywodraeth Cymru ei gefnogi, rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn gweithio gyda'r Aelod dros Ogledd Cymru heddiw i weld beth y gellir ei gyflawni i ddarparu cyfleoedd gwell i blant ledled Cymru, gan geisio sicrhau cyfle cyfartal i bawb, rhywbeth a ddylai fod mor bwysig i bob Aelod yn y Senedd hon. Ond rwy'n annog pawb heddiw i gefnogi'r Bil hwn fel y gall symud ymlaen at y Cyfnod nesaf, Cyfnod 2, ac rwy'n eich annog i wneud hynny. Diolch.
Mewn egwyddor, mae'r Bil hwn yn syniad gwych. Rydym yn gwybod bod yr amgylchedd y mae plentyn yn dysgu ynddo yn hanfodol ar unrhyw oedran. Os na fydd plentyn yn cysylltu â natur erbyn ei fod yn 12 oed, ni fydd yn gwneud hynny fel oedolyn. Felly, er mwyn meithrin perthynas gadarnhaol gydol oes â natur ac amgylcheddau awyr agored, mae angen cyfleoedd parhaus ar ddysgwyr i ddysgu, chwarae ac archwilio yn yr awyr agored drwy bob cam o addysg orfodol, a thrwy fynediad at chwarae a hamdden.
Fodd bynnag, o ran deddfwriaeth, ni allwn fynd ar drywydd syniadau dymunol heb wynebu'r realiti llym. Ar ôl mwy na degawd o gyni, gwyddom fod cyllid yn dynn iawn. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £1.3 biliwn yn llai oherwydd bod y Ceidwadwyr wedi camreoli'r economi. Mae pob maes Llywodraeth yn gorfod aberthu a blaenoriaethu. Mae Sam yn amcangyfrif mai'r gost ychwanegol i'r gyllideb addysg fyddai £19.7 miliwn y flwyddyn, felly rydym yn gorfod edrych ar dalu am athrawon, llety, trafnidiaeth—mae'r cyfan yn costio—ac efallai dillad sydd eu hangen hefyd. Ar adeg pan fo ysgolion yn gorfod wynebu penderfyniadau anodd tu hwnt, gan gynnwys diswyddiadau, ni ellir meddwl am roi pwysau ychwanegol ar y gyllideb addysg. Clywsom yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod costau cludiant i'r ysgol wedi codi 40 y cant oherwydd chwyddiant, ac mae bodloni'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn her fel y mae. Rydym yn ystyried ei ymestyn, ond ni allwn dorri cyllidebau rheng flaen ysgolion i ariannu'r polisi hwn.
Ar ben hyn, mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 eisoes yn newid enfawr i leoliadau addysg. Bydd angen amser a chefnogaeth arnynt i weithredu honno'n llawn er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr. Mae gennym hefyd ddiwygiadau anghenion dysgu ychwanegol newydd yn dod i rym, ac roeddwn i'n eistedd yma pan glywais Natasha Asghar yn gofyn yn gynharach am gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, sy'n wirioneddol bwysig. Mae gennym yr holl geisiadau hyn am arian o'r gyllideb, sydd mor dynn. Bydd y newidiadau a gynigir gan y Bil yn rhoi beichiau ychwanegol ar staff ac yn mynd ag amser pan allant fod yn canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd. Gwn fod undebau athrawon wedi darparu tystiolaeth yn mynegi eu pryder dwfn am y baich ychwanegol y byddai'r Bil hwn yn ei roi ar ysgwyddau athrawon.
Nid yw teithiau preswyl yn bosibl pan nad yw lefelau staffio yn ddigon uchel i'w cyflwyno'n ddiogel, pan fo'r addysgu'n parhau ar gyfer grwpiau eraill. Er mwyn sicrhau cysylltiad hirsefydlog â natur a gweithgareddau awyr agored, mae angen cymaint mwy nag un profiad ar blant. Mae ysgolion ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych i ennyn diddordeb plant yn yr awyr agored, gan gynnwys ardaloedd dysgu awyr agored yn y cyfnod sylfaen, Ysgolion Coedwig a Dysgu drwy Dirweddau. Ymwelais ag ysgol Sant Pedr yn Wrecsam yn ddiweddar, lle roeddent wedi cael cyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn dysgu am eu hardal awyr agored, cysylltu â natur, ac maent wedi bod yn gweithio ar brosiectau morwellt, a daethant â nhw i lawr at risiau'r Senedd, ac roedd hynny'n anhygoel.
Mae angen inni sicrhau hefyd bod plant hŷn yn cael eu hannog i fod yn fwy egnïol. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwysleisio rôl dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm, a bydd yn parhau i wneud hynny, mewn meysydd sy'n cynnwys iechyd, llesiant, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a'r celfyddydau mynegiannol. Mae mynediad drwy'r Geidiaid, y Sgowtiaid, clybiau ieuenctid, Dug Caeredin a grwpiau eraill—. Mae'r Cerddwyr hefyd yn werthfawr iawn wrth sicrhau bod ein llwybrau tramwy cyhoeddus yn cael eu cadw ar agor. Mae'n bwysig iawn. Felly, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weld gwerth yr ymrwymiad a'r cyfraniad i'r sector addysg awyr agored a'r hyn y mae'n ei gynnig i addysg yng Nghymru, ond ni allwn anghofio'r cyd-destun ariannol.
Yn ddiweddar, ymwelais â Chanolfan Addysg Awyr Agored hyfryd Bryntysilio yn Llangollen, a buom yn siarad am gyllid ar gyfer y dyfodol a grantiau a allai fod ar gael iddynt nawr. Buom yn siarad am y gronfa ffyniant gyffredin, ac roeddent hefyd yn gwneud cais i gronfa Multiply, yr ymddengys bod ganddi lawer iawn o arian—mae gormod o arian yn y gronfa honno; ni allant ei wario—ond maent yn gwneud cais am hwnnw hefyd, i weithio'n wahanol. Ac maent hefyd yn edrych ar waith gydag ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a fydd yn barc cenedlaethol cyn bo hir, a bydd hynny yn eu helpu hefyd, yn rhoi hwb. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae angen inni wneud addysg rheng flaen yn flaenoriaeth, felly ni allaf gefnogi'r Bil hwn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o ddweud nad wyf yn rhannu ymagwedd negyddol y siaradwr blaenorol mewn perthynas â'r Bil hwn. Ac rwy'n diolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd heddiw, a gwelais drosof fy hun—wyddoch chi, rydych chi wedi gweithio ar y Bil hwn mewn sawl ffordd, nid dim ond wrth weithio ar fanylion y Bil yma yn y Senedd, a gweithio gyda'r bobl a'r staff perthnasol yma, rydych chi hefyd wedi mynd allan i wahanol rannau o Gymru. Rwyf wedi eich gweld mewn cychod canŵio, rwyf wedi eich gweld mewn coetiroedd, rwyf wedi eich gweld ledled y wlad. Felly, nid yn unig eich bod wedi gwneud hynny ar lefel polisi a Bil yma, rydych chi hefyd wedi gwneud yr ymdrech i fynd allan ac ymgysylltu â'r rhanddeiliaid cywir i ffurfio'r Bil hwn, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am eich ymrwymiad i'r Bil hwn, y credaf y dylid ei wobrwyo a'i drin gyda mwy o bositifrwydd ar y meinciau Llafur draw yn y fan acw.
Ac mae manteision dirifedi’n deillio o addysg awyr agored i blant, ac mae'r cyfoeth o dystiolaeth ar hyn yn ddiamheuaeth. Mae addysg awyr agored yn fuddiol i les meddyliol a chorfforol, ac mae'r manteision iechyd hefyd yn arbed arian ar wasanaethau cyhoeddus yn y tymor hir. Mae'n arfogi plant â sgiliau gydol oes hanfodol, yn rhoi mynediad i blant o ardaloedd trefol at yr awyr agored, ac mewn perthynas â phlant o aelwydydd lle mae canolfannau addysg awyr agored preifat yn anfforddiadwy, mae'n cynnig yr un cyfleoedd iddynt â phlant eraill. Mae'n fuddiol i blant yn academaidd a bydd yn helpu i gau'r bwlch anghydraddoldeb addysgol. Roedd gennym 44 o ganolfannau addysg awyr agored gennym yng Nghymru cyn COVID-19, a chaeodd dros 10 y cant o'r rhain yn ystod y pandemig, felly mae'r argaeledd yn crebachu, ac i lawer o rieni ar incwm is nid yw'n rhywbeth y gallant ei fforddio.
Ond i mi, y rhan bwysicaf o addysg awyr agored yw'r effaith y mae'n ei chael ar lesiant meddyliol plentyn. Yn dilyn y pandemig, lle roedd plant wedi cael eu cadw dan do am ddwy flynedd, mae mynediad at yr awyr agored yn hanfodol. Dangosodd arolwg gan YoungMinds fod 74 y cant o athrawon a staff ysgolion yn cytuno bod y cyfyngiadau symud wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ac mae manteision natur a'r awyr agored i'r ymennydd dynol bob amser wedi bod yn amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, ond mae gwyddoniaeth yn cydnabod hyn hefyd. Canfu astudiaeth gan Ysgol Feddygol Prifysgol Caerwysg fod manteision cryf a chyson i iechyd meddwl a llesiant o ddod i gysylltiad ag amgylcheddau naturiol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod yr anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol o ran llesiant meddyliol yn gulach ymhlith y rhai sy'n nodi bod ganddynt fynediad da at ardaloedd gwyrdd neu hamdden.
Yn dilyn y pandemig, rwy'n credu ein bod wedi meithrin gwerthfawrogiad newydd o ba mor bwysig yw gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol i ni, a pha mor bwysig yw natur a'r awyr agored i'n llesiant. Maent hyd yn oed yn bwysicach i ymennydd sy'n datblygu, a dylem ddefnyddio'r amser hwn i ailfeddwl sut y dylai ein plant dreulio eu diwrnod yn yr ysgol. Mae eistedd wrth ddesg am chwe awr yn annaturiol i unrhyw un, heb sôn am blentyn, a chyda'r Bil hwn, mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd ac amrywio'r diwrnod ysgol ac ymgorffori addysg awyr agored, ac rwyf wedi crynhoi manteision hynny'n fyr. Rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy ohonynt yn sylwadau Sam ar y diwedd a sylwadau unrhyw siaradwr arall yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Ond os ydych chi'n malio am wella iechyd meddwl ein plant, os ydych chi'n malio am gyrhaeddiad addysgol, os ydych chi'n malio am gael gwared ar anghydraddoldeb rhwng plant, ymunwch â'r Outward Bound Trust, Scouts UK, Sgowtiaid Cymru, UK Youth, Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid, y Geidiaid, y Cyngor Astudiaethau Maes a llawer mwy drwy gefnogi'r Bil hwn. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r materion hyn i'w trafod yn y ffordd a wnaeth. Rwy'n credu, fel y dywedodd eraill, ei bod yn amlwg yn bwysig iawn fod gan yr awyr agored, cysylltu â natur a gweithgaredd, rôl ganolog iawn ym mhrofiad addysgol ein plant a'n pobl ifanc, ac mae hynny'n digwydd yn y profiad addysgol cyffredinol sy'n digwydd yma yng Nghymru. Ond rwy'n credu hefyd, y tu hwnt i hynny, fod gan y profiad penodol o weithgarwch awyr agored preswyl ran bwysig iawn i'w chwarae, a gwelwn hynny'n cael ei adlewyrchu, rwy'n credu, yn y ffordd y mae ar gael ledled Cymru mewn cymaint o'n hysgolion. Ond mae hynny, rwy'n credu, yn codi'r cwestiwn, fel y mae Sam wedi ei ofyn, ynghylch yr amrywio a sut y gallwn sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael yn fwy cyson ar draws ein holl ysgolion i'n holl ddisgyblion, ac yn enwedig, rwy'n credu, i ddisgyblion o deuluoedd mwy difreintiedig, ac ydy, mae hynny'n cynnwys plant sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol. Rwy'n credu ei bod yn arwyddocaol, wrth i'r ddadl hon barhau, fod y mater penodol hwnnw wedi dod i'r amlwg.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud am barhau i weithio gyda Sam Rowlands, fel y bydd yna drafodaeth barhaus, y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth benodol hon, rhwng Llywodraeth Cymru a'r Aelod ynglŷn â sut y gallwn elwa mwy o'r ddadl a gawsom, o'r cynigion a wnaed, a sicrhau bod rhagor o'n disgyblion yma yng Nghymru, rhagor o'n teuluoedd, yn elwa o brofiad addysgol awyr agored preswyl, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwerus.
Mae oddi allan i'r profiad cyffredinol o addysg, onid yw, sy'n rhoi pŵer iddo y tu hwnt i'r profiad cyffredinol hwnnw. Ac oherwydd ei fod yn bwysig yn gymdeithasol, oherwydd ei fod yn brofiad newydd i rai disgyblion nad ydynt wedi bod ar wyliau gyda'u teuluoedd, nad ydynt wedi cael profiad o fynd i ffwrdd am benwythnosau gyda'u teuluoedd, i'r disgyblion hynny, mae'n rhywbeth newydd a gwahanol iawn, onid yw? Rwy'n credu ei fod yn magu hyder, mae'n meithrin sgiliau cymdeithasol, a gall yr hyder hwnnw wedyn hybu eu cyflawniad addysgol cyffredinol a'r hyder sydd ganddynt yn eu taith trwy fywyd.
Felly, mae ganddo ran bwysig eisoes, onid oes, ond gallai chwarae rhan bwysig yn fwy cyson yn ein profiad addysgol cyffredinol, a gallai fod o fudd arbennig i ddisgyblion o deuluoedd sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw. Mae cyllid yn rhwystr i'r teuluoedd hyn, onid yw? Dylem ddod o hyd i ffordd. Dylem sicrhau bod ffyrdd yn cael eu canfod, a phan fo'r cynnig ar gael yn yr ysgol ond nad ydynt yn gallu manteisio ar y cyfle am nad oes ganddynt fodd ariannol o fewn y teulu, fod y teuluoedd hynny'n cael eu helpu, er mwyn iddynt hwy gael y cyfle hwnnw hefyd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater sylfaenol o gyfiawnder cymdeithasol yn ein system addysgol.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu bod John Griffiths wedi gwneud gwaith ardderchog o gau'r ddadl a chrynhoi llawer o faterion yno, felly diolch, John, am eich sylwadau ar y diwedd yno heddiw, a diolch i'r holl Aelodau am eich cyfraniadau yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Fe af drwy ychydig o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u codi drwy'r trafodion, ac yn enwedig y Cadeiryddion ar y dechrau, a'ch sylwadau ynghylch yr argymhellion y dewisais eu derbyn neu eu gwrthod neu wneud sylwadau eraill arnynt. Roeddwn yn falch o allu derbyn nifer sylweddol o'r argymhellion a wnaethoch chi, ac a wnaethpwyd gan eich pwyllgorau, ond rwy'n gobeithio eich bod yn deall ac yn derbyn yr esboniadau y llwyddais i'w rhoi ar gyfer y rhai nad oeddwn yn gallu eu derbyn. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith y pwyllgorau yn craffu ar y Bil hwn ac a allai ei wneud, rwy'n credu, yn waith hyd yn oed yn well os caiff barhau.
Weinidog, diolch i chi am eich cyfraniad heddiw hefyd, ac am eich ymwneud cynnar yn eich rôl newydd yn y Cabinet. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Jeremy Miles yn ei rôl flaenorol, am ei ddidwylledd a'i her agored yn ôl i mi drwy'r broses hon hefyd. Er nad yw bob amser yn hawdd i'w glywed, mae bob amser yn well ei glywed yn syth na chael siarad dibwrpas. Rwy'n obeithiol y bydd y cyfle'n parhau yn y dyfodol i gydweithio ar addysg awyr agored breswyl, yn enwedig mewn perthynas â phethau fel fframweithiau addysg antur, cefnogaeth i athrawon a'u hyfforddiant, a systemau hefyd ar gyfer cefnogi teuluoedd sy'n wynebu heriau ariannol.
Hoffwn anghytuno â sylwadau a wnaed, Weinidog, am y goblygiadau ariannol a amlinellir yn y Bil. Clywsom gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod yr asesiad effaith rheoleiddiol, a amlinellais yn fy memorandwm esboniadol, yn enghraifft y gallai Llywodraeth Cymru geisio ei dilyn o ran lefel ei fanylder. A hoffwn wrthwynebu i raddau yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'gwendidau deddfwriaethol'. Rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â'r rhesymau dros y ffordd y cafodd y Bil ei fframio, ac rwyf wedi gallu derbyn addasiadau ac rwyf wedi derbyn gwelliannau ar gyfer y dyfodol os caiff y Bil barhau.
O ran Aelodau eraill, yn eich cyfraniadau, rwy'n sicr yn ddiolchgar am yr hyn a ddywedwyd. Peter Fox, fe amlinelloch chi fanteision addysg awyr agored, a rhan o'ch rôl mewn bywyd blaenorol, fel petai, o sicrhau bod y canolfannau hynny'n gallu aros ar agor i'r bobl ifanc hyn am eich bod yn gwerthfawrogi eu manteision. Fe wnaethoch chi ein herio ni hefyd, fel Senedd, i fyfyrio ar sut y dylem ymdrin â Biliau Aelodau nawr ac yn y dyfodol, o ran caniatáu'r cynnydd hwnnw a chaniatáu gwaith craffu yn y dyfodol hefyd. Felly, diolch.
Heledd Fychan, fe wnaethoch chi dynnu sylw at fanteision economaidd Bil fel hwn i Gymru, a gobeithio eich bod wedi gallu gweld fy mod yn derbyn llawer o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ystod hyn, yn ymwneud â manteision diwylliannol ac ieithyddol Bil fel hwn. Efallai y gellid ei gryfhau eto, ond rwy'n derbyn yn llwyr y sylwadau a wnaethoch dros y misoedd diwethaf ynglŷn â sut y gellid cryfhau hyn hyd yn oed ymhellach. Laura Anne Jones, roeddech chi'n gallu tynnu sylw at sut mae Bil fel hwn yn creu cynhwysiant i bobl, ac yn helpu i gefnogi cau'r bwlch cyrhaeddiad i bobl ifanc—pwynt pwysig iawn.
Carolyn Thomas, diolch am eich cyfraniad, a'r cysylltiad a nodwyd gennych rhwng plant yn cysylltu â natur ar oedran mor ifanc ac yna'n gallu cynnal hynny drwodd i'w bywydau fel oedolion. Fel y dywedoch chi, os yw plant o dan 12 oed yn cael cysylltiad o'r fath, mae'r tebygolrwydd y byddant yn ei barhau yn y tymor hir yn sylweddol. Yn amlwg, fe wnaethoch chi godi pryderon am gost y Bil, ac mae honno'n her. Yn ddiddorol, mae'r gost oddeutu'r un swm o arian bob blwyddyn ag y byddai'n ei gostio i gael 36 yn rhagor o wleidyddion yn y lle hwn, rhywbeth y mae'n ymddangos eich bod yn ei gefnogi. Ond ceir manteision traws-bortffolio i'r Bil hwn, ac nid wyf yn credu ei fod y tu hwnt i allu'r Cabinet i allu dod â'u pennau at ei gilydd i ddeall sut y gellid ariannu budd traws-bortffolio drwy'r lle hwn hefyd.
Llwyddodd Gareth Davies i gydnabod manteision iechyd meddwl y Bil. Yn sicr, mae llawer iawn i'w archwilio o'r manteision hynny os caiff y Bil barhau. Ac yna, i gau'r cylch yn llawn, John Griffiths, diolch eto am eich sylwadau i orffen. Mae cysondeb yn bwysig iawn ar draws Cymru i'n pobl ifanc. Ni all addysg fod yn loteri cod post, ac mae'r Bil hwn yn ceisio dod â'r loteri cod post hwnnw i ben. Ac fel y dywedoch chi, nid profiadau addysgol pwerus yn unig yw'r rhain; maent yn brofiadau pwerus i bobl ifanc nad ydynt o bosibl yn gallu cael y profiadau y bydd llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol trwy gydol plentyndod—y rhyngweithio cymdeithasol, ac amser i fod i ffwrdd o ble rydych chi fel arfer yn ei alw'n gartref. Felly, diolch am y cyfraniad hwnnw hefyd.
Rwyf am orffen fy sylwadau yno, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y trafodaethau yma y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at y bleidlais yn nes ymlaen, a gobeithio y cawn gefnogaeth lawn gan y Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.