Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 17 Ebrill 2024.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud at y bleidlais gyntaf.
Mae'r bleidlais gyntaf hwnnw ar eitem 5, y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.