8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth

– Senedd Cymru am ar 17 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:52, 17 Ebrill 2024

Yr eitem nesaf fydd dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, a dwi'n galw ar Natasha Asghar i wneud y cynnig. Natasha Asghar.

Cynnig NDM8538 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben.

2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng trafnidiaeth yng ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, a thros £1 biliwn i Fetro De Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gynnal adolygiad ar frys o'r profion adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl gynlluniau a gafodd eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd neu'n gwella diogelwch ar y ffyrdd;

b) i wrthdroi ar frys Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull wedi'i dargedu ar gyfer terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru; ac

c) i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio mewn car.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 5:52, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw, sy'n ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am fethiannau'r gorffennol yn y sector trafnidiaeth, ac yn adolygu meysydd polisi er mwyn rhoi hwb mawr ei angen i'n seilwaith a'n heconomi.

Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei rôl newydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi mewn modd cynhyrchiol i wella trafnidiaeth ledled Cymru wrth symud ymlaen. Yn anffodus, rwy'n credu eich bod wedi etifeddu sefyllfa druenus iawn o ran trafnidiaeth yma yng Nghymru. Rwyf mewn cysylltiad cyson â phobl ledled ein gwlad nad ydynt, yn anffodus, yn gallu dod i arfer â'r polisïau hyn, fel y mae llawer o Weinidogion wedi'i honni yn y gorffennol yn wir, ac maent yn dal i fod mor ddigalon ag erioed, os nad yn fwy digalon nag o'r blaen, o ystyried cryfder y farn gyhoeddus sydd wedi cael ei hanwybyddu a'i hysgubo o dan y mat dro ar ôl tro.

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr fy mod, ar y nodyn hwn, am ddechrau gyda'r polisi terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn hynod gadarnhaol clywed eich blaenoriaeth ar gyfer y polisi 20 mya, sef y byddwch yn gwrando. Roeddwn hefyd yn falch o glywed eich bod wedi estyn allan at brif brotestwyr y grwpiau 20 mya i drefnu cyfarfod, ac mae'n braf clywed am y weithred gadarnhaol hon a fydd yn digwydd—nid dim ond geiriau—o'r dechrau un, a'r parodrwydd a ddangoswyd gennych i gael y sgyrsiau agored a mawr eu hangen hynny.

Fel y gwyddoch, mae'r polisi hwn wedi bod yn hynod amhoblogaidd ledled Cymru, yn enwedig wrth ystyried y ddeiseb fwy nag erioed i'w ddiddymu, sydd wedi cyrraedd ychydig o dan 0.5 miliwn o lofnodion. Rwyf wedi gweld ambell Aelod yn y Siambr hon yn rholio eu llygaid, ond mae'r ffaith bod bron i 0.5 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn y polisi hwn pan fo poblogaeth Cymru ychydig dros 3 miliwn yn nifer anferthol, ac ni ellir ei anwybyddu.

Daw hyn â mi at fy ail bwynt: hyd y gwelaf, nid oes unrhyw dystiolaeth yn unrhyw le yn y byd fod terfyn 20 mya ar ei ben ei hun yn lleihau anafiadau neu wrthdrawiadau ar y ffordd. Pan fo gostyngiadau yn y terfyn cyflymder, fel parthau 20 mya, mae ffactorau eraill a allai ac a fyddai'n gyfrifol am liniaru effeithiau lleihau anafiadau mewn gwrthdrawiadau. Rhaid inni ystyried hefyd mai'r trothwy ar gyfer parthau 20 mya yng Nghymru yw 10 y cant a 4 mya, ac felly, nid yw ond 4 mya yn is na'r terfyn diofyn gwreiddiol o 30 mya. Golyga hyn fod llawer o effeithiau cadarnhaol gyrru ar gyflymder o 10 mya yn is wedi cael eu lleihau gan y dryswch a'r hyblygrwydd cynyddol ynghylch y 4 mya ychwanegol. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon yn y gorffennol, mae llawer gwell ffyrdd o addysgu a gwella diogelwch ar y ffyrdd na gwario £33 miliwn o arian trethdalwyr ar newid posibl o 4 mya, ac ar adegau, nid yw'n hynny hyd yn oed.

Rwyf hefyd wedi clywed gan etholwyr dirifedi fod y newid yn y terfynau cyflymder wedi achosi i bobl yrru'n fwyfwy peryglus, gyda chynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n brecio'n sydyn ac yn gyrru trwyn wrth gwt, ac mae'n ymddangos bod y niferoedd yn cynyddu fwyfwy. Rhaid inni hefyd fynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol y terfynau diofyn o 20mya, gyda cherddwyr a beicwyr yn teimlo'n fwy diogel ac yn cymryd llai o ofal wrth groesi ffyrdd oherwydd hyn. Yn wir, mae mwy a mwy o achosion o rwystredigaeth a gyrru peryglus, goddiweddyd a llawer o yrwyr yn talu mwy o sylw i'w cloc cyflymder yn lle'r ffordd o'u blaenau.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rhaid imi roi sylw i'r ffigur o £92 miliwn, a ddyfynnwyd gan Lywodraeth Cymru fel y swm a fyddai'n cael ei arbed gan y GIG o ganlyniad i'r polisi hwn. Yn anffodus, prin iawn yw'r dystiolaeth sydd gennym o ran sut y cyfrifwyd y ffigur hwn mewn gwirionedd a sut y cafodd ei ryddhau i mi, ac i'r cyhoedd yn wir. Mae hwn yn gysyniad anhygoel o anodd i'w fesur, ac rydym yn annhebygol o wybod beth yn benodol a achosodd y ddamwain na beth oedd y cyflymder teithio o'i gymharu ag effaith cyflymder, er enghraifft. Hefyd, mae'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd mewn perthynas â'r ffigur hwn yn amwys iawn. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad manwl o sut y cyfrifwyd y ffigur hwn, mewn ymgais i fod yn fwy tryloyw ac agored, nid yn unig gyda mi, ond gyda'r cyhoedd hefyd? Byddwn yn sicr yn cytuno bod angen inni atgyfnerthu addysg i gerddwyr a gyrwyr mewn perthynas â diogelwch a rheolaeth ar y ffyrdd. Nid yw gyrru'n araf yn gyfystyr â rheolaeth, ac rydym i gyd yn gwybod bod gan amseroedd ymateb ac ymwybyddiaeth ran enfawr i'w chwarae hefyd.

Daw hyn â mi'n dwt at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar brosiectau adeiladu ffyrdd mawr. Rydym i gyd yn gwybod bod buddsoddi mewn seilwaith yn arwain at dwf economaidd, ffyniant a chysylltedd, pethau y mae pob un ohonom yma eisiau eu gweld. Rydym hefyd yn gwybod, wrth atal pob prosiect adeiladu ffyrdd mawr ledled Cymru, fod y gwrthwyneb yn llwyr wedi bod yn digwydd dros y tair blynedd diwethaf. Mae hyn yn ddigon drwg wrth nodi cyflwr ein ffyrdd a'r tagfeydd ar draws de Cymru, heb sôn am nodi'r cyflwr yn y gogledd.

Fel Aelod dros dde-ddwyrain Cymru, rwy'n synnu'n fawr fy mod am ddweud hyn, ond rwy'n teimlo'n ffodus dros fy rhanbarth i raddau, ein bod yn derbyn cyfran fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith trafnidiaeth. Fodd bynnag, ni allaf help ond teimlo bod hyn yn annheg. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn hanu o ogledd Cymru ac wedi awgrymu y byddech yn ystyried adeiladu ffyrdd newydd, felly hoffwn ofyn i chi heddiw o flaen pawb: a oes gennych unrhyw brosiectau penodol mewn golwg? Ac os felly, a oes gennych chi unrhyw amserlenni penodol ar gyfer y prosiectau rydych wedi siarad amdanynt yn y gorffennol? Mae gwir angen inni fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd a gweld rhywfaint o arwyddion y gwelir ailgyflwyno'r gwelliannau a'r prosiectau hyn er mwyn ein cysylltedd a'n twf, ac mewn llawer o achosion er mwyn sicrhau diogelwch ar y ffyrdd hefyd.

Mae ein cynnig yma heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein bysiau a'n trenau i wneud y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hyn yn fwy cystadleuol na theithio mewn car. Yn ddiweddar, ymwelais â Japan a synnais glywed mai un funud yn hwyr ar gyfartaledd yw eu trenau'n flynyddol, dim ond un funud y trên, tra bo Trafnidiaeth Cymru, ar y llaw arall, wedi cael miliwn o funudau hwyr y llynedd yn unig. Dengys hyn yr angen dybryd am y buddsoddiad a'r arweiniad cywir i wella gwasanaethau er mwyn ein cymudwyr. Er y byddem i gyd wrth ein boddau yn gweld cynnydd mewn teithio llesol, nid yw beicio a cherdded bob amser yn ymarferol i bob un person yng Nghymru, ac mae angen inni gael dewis arall ymarferol yn lle defnyddio ein ceir bob dydd. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig heddiw er budd pawb yng Nghymru, sy'n haeddu gwasanaeth gwell a mwy o ddealltwriaeth am realiti cymudo na'r hyn y maent wedi bod yn ei gael gan Lywodraeth Cymru hyd yma. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:58, 17 Ebrill 2024

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Delyth Jewell nawr i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i’r diben;

b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn cael eu gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru;

c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau o fewn Cymru; a

d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr;

b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad parhaus o effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan bleidlais y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023;

c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod cyllid bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:58, 17 Ebrill 2024

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o’r cyfle i drafod y pynciau pwysig hyn. Rwy’n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl a dwi yn symud ein gwelliant.

Mae angen newid mawr yma. Dydyn ni ddim lle rŷn ni angen bod pan fo hi’n dod i drafnidiaeth. A’r rhai sy’n talu’r pris ydy teithwyr, wrth gwrs, heddiw ac yfory. Mae trafnidiaeth yn rhy aml yn rhy gostus ac yn anodd ei defnyddio. Yn 2022, ffeindiodd Sustrans fod 40 i 50 y cant o deuluoedd yn gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar redeg car. Rŷn ni angen gweld llai o bobl yn defnyddio ceir, ond mae diffyg buddsoddiad digonol wedi golygu bod niferoedd mawr yn ddibynnol ar geir achos does dim dewisiadau amgen ganddynt.

Mae prisiau tocynnau bws wedi cynyddu ar yr un adeg â phan fo gwasanaethau’n cael eu torri. Mae cymunedau’n cael eu hynysu. Ac mae tanwariant yn ein diwydiant bysys yn peri risg sylweddol i ardaloedd gwledig a’r Cymoedd. Dydy hanner ein gorsafoedd ddim yn hygyrch ar gyfer pobl anabl. Dydy’n gorsafoedd a’u cyrraedd nhw ddim wastad yn saff ar gyfer unrhyw un sy’n cael ei wneud yn fregus gan y ffordd mae ein cymdeithas yn cael ei gynllunio.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:59, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A lle mae'r rheilffyrdd yn dechrau ac yn gorffen, lle mae'r ffyrdd yn mynd, mae hynny'n bwysig. Mae'r diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn drosiad llwm o'r modd y mae San Steffan yn llesteirio ein cynnydd, oherwydd ni all fod llawer o wledydd eraill yn y byd lle mae teithio o un pen o'r wlad i'r llall yn golygu gorfod mynd i'r cyfeiriad arall yn gyntaf drwy wlad wahanol. Ond dyna sy'n digwydd pan fo penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth yn cael eu gwneud gan bobl y tu allan i Gymru. Ni fyddwn byth yn flaenoriaeth i San Steffan, dim ond lle i deithio drwyddo ar y ffordd i gyrchfan arall, neu'n wir, ar y ffordd i rym.

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 6:00, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Mae trafnidiaeth wedi’i ddatganoli ers amser maith. Anghofiwch am drafnidiaeth rheilffyrdd am eiliad, beth am ffyrdd? Beth am ffyrdd? Pam nad oes gennym ffordd well yn cysylltu gogledd a de Cymru? Mae ein ffyrdd yn wirioneddol erchyll, a bu eich cyn arweinydd, Ieuan Wyn Jones, yn gyfrifol am drafnidiaeth am bum mlynedd lawn, fel Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn y lle hwn, ac ni wnaeth unrhyw gynnydd o gwbl o ran mynd i’r afael â’r broblem honno. Beth sydd gennych i'w ddweud am hynny?

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Darren. Mae digonedd o ffyrdd, fel y dywedais, lle nad ydym yn y sefyllfa y mae angen inni fod ynddi, ac mae hynny'n fethiant ar ran Llywodraethau olynol i wneud digon ar y polisi hwn. Ond ar ffyrdd, os edrychwn ar ble mae’r ffyrdd mawr hynny’n mynd yng Nghymru, maent yn mynd drwy Gymru; nid ydynt ar gyfer pobl Cymru, eu pwrpas yw gwneud teithiau'n haws rhwng dau ben y—[Torri ar draws.] Ond os edrychwn ar y prif rydwelïau hynny, mae hwn yn rheswm hanesyddol sy'n mynd yn ôl at ble mae’r teithiau hynny bob amser wedi dechrau, ac ni chredaf—. Ac rwy'n gresynu at yr hyn a ddywedoch ynglŷn ag 'Anghofiwch am y rheilffyrdd am eiliad'. Dof at yr union bwynt hwnnw. Dim ond pan fydd yr holl benderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru y bydd hyn oll yn newid. A Darren, ar y pwynt hwn, rydym wedi cael ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd drwy orfod talu am HS2 pan nad oes milltir o drac yn croesi ein ffin genedlaethol. Rydym wedi talu tuag at wneud ein hunain yn dlotach, ac nid yw Sunak na Starmer yn gweld yr angen i unioni hynny. Bydd San Steffan, Darren, bob amser yn blaenoriaethu San Steffan, byth Cymru.

Nawr, byddwn wedi disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud yn wahanol. Mae ein gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i ailystyried ei phenderfyniad i beidio â herio dynodiad HS2 yn gyfreithiol, i beidio â mynd ar drywydd achos yn y llysoedd. Nawr, deallaf fod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrth Rhun ap Iorwerth na fydd hyn yn digwydd. Ni all hyn fod yn ddiwedd ar y mater. Byddai’r biliynau hynny’n cyfrannu at adfywio ein seilwaith trafnidiaeth, gan adeiladu’r cysylltiadau y mae Darren a minnau newydd fod yn sôn amdanynt yn ein gwlad ein hunain. Mae’n rhaid ailystyried hynny. Os ydym am gyrraedd lle mae angen inni fod fel cenedl, mae'n rhaid inni fynnu’r hyn sy’n ddyledus i ni, gyda’r biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i ni gan San Steffan. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:02, 17 Ebrill 2024

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth nawr i gynnig yn ffurfiol welliant 2.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd.

2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod:

a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a

b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith ffyrdd presennol Cymru.

3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 6:02, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cynnig, yn ffurfiol.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fel y trafodwyd gennym yn gynharach yn ein sesiynau cwestiynau, mae newid hinsawdd yn golygu bod angen newid sylweddol i’n system drafnidiaeth yma yng Nghymru, ac yn enwedig, mae arnom angen newid dulliau teithio o ddefnyddio ffyrdd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ac mae hynny’n allweddol, yn yr argyfwng hinsawdd, wrth lywio polisi trafnidiaeth yma yng Nghymru.

Yn ne-ddwyrain Cymru, Lywydd, rydym wedi cael comisiwn Burns a bellach mae gennym yr uned gyflawni, ac mae honno'n nodi cynlluniau ar gyfer pum gorsaf reilffordd newydd yn y de-ddwyrain a gwaith cysylltiedig i gefnogi hynny. A byddai hynny, felly, yn gwneud cyfraniad mawr o ran lleihau traffig ar yr M4, gan leddfu’r tagfeydd a’r problemau cysylltiedig. Ond mae angen buddsoddiad mawr er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs. Nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mae angen i’r arian hwnnw ddod gan Lywodraeth y DU. Felly, pan glywn Natasha Asghar, fel y clywsom yn gynharach, yn sôn am broblemau gyda'n gwasanaeth rheilffyrdd a'r buddsoddiad sydd ei angen, mae gwir angen y buddsoddiad hwnnw arnom gan Lywodraeth y DU, gan mai nhw sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac rydym wedi cael cyfran bitw o'r buddsoddiad hwnnw o gymharu â gweddill y DU. Felly, pan gawn Lywodraeth Lafur yn y DU cyn bo hir iawn, rwy'n mawr obeithio y gwelwn y buddsoddiad hwnnw ac y gallwn wneud y math o gynnydd y bydd angen inni ei wneud ar ôl yr holl flynyddoedd hyn o ddiffyg buddsoddi gan y Torïaid ar lefel y DU.

Ac ar deithio llesol, Lywydd, credaf fod angen mwy o gysondeb ledled Cymru. Mae angen inni sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru yn mynd ati o ddifrif i'n helpu i gyflawni'r newid i deithio llesol. Rwy’n falch o ddweud, yng Nghasnewydd, fod gennym sefydliad o’r enw Momentwm, sy’n darparu hyfforddiant beicio ac sy’n helpu’r ymdrech i gael pobl i feicio, ac yn wir, i gerdded gyda’r llwybrau newydd sydd ar gael. Un enghraifft o’r gwahaniaeth y gall ei wneud yw bod angen llwybr beicio newydd arnom sy’n cysylltu datblygiad tai Glan Llyn â’r parc manwerthu cyfagos. Ar hyn o bryd, mae tagfeydd sylweddol ar y ffyrdd yn yr ardal honno, a gwn fod llawer o bobl a fyddai’n defnyddio cyswllt teithio llesol i feicio a cherdded i’r siopau yn teimlo ar hyn o bryd nad oes dewis ganddynt ond defnyddio eu ceir.

Yn olaf, ar y terfyn 20 mya, ni allaf gredu pa mor negyddol oedd Natasha Asghar. Ymddengys nad yw'n mynd i achub bywydau, nid yw'n mynd i atal anafiadau. Mae'n ymagwedd mor negyddol. Mae’r bobl rwy'n siarad â nhw yn cydnabod gwerth terfynau 20 mya, ond maent am ei weld ar y ffyrdd cywir a’r ffyrdd priodol, a dyna fydd yr adolygiad yn ei gyflawni. Mae ar bobl ei eisiau. Maent am ei weld yn y lle iawn.

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 6:06, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Mae cysylltedd ledled Cymru yn hanfodol. Mae’n hanfodol er mwyn caniatáu i’n busnesau a’n teuluoedd symud o gwmpas. Mae trigolion sy’n byw yn ne sir Fynwy wedi teimlo effaith tagfeydd cynyddol o ganlyniad uniongyrchol i fethiant Llafur i ddarparu seilwaith digonol, neu i wella’r hyn sydd eisoes yn ei le. Gwaethygir hyn gan y terfynau 20 mya niweidiol yn economaidd ar ffyrdd lle nad oes eu hangen. Bob dydd yng Nghas-gwent, er enghraifft, daw'r tagfeydd â'r traffig i stop yn gyfan gwbl, yn bennaf am mai dyna’r porth i mewn i Gymru a dyma’r pwynt mynediad i’r M4 ac oddi arni, gyda miloedd o geir y dydd yn defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd i ddod o swydd Gaerloyw, drwy Gas-gwent, ar yr A48, sydd wedi'i gostwng i 20 mya. Mae hon yn enghraifft glir o ddiffyg rhagwelediad llwyr a diffyg gweithredu Llafur, ac mae wedi golygu bod y dref yn gorfod ymdopi â thagfeydd difrifol ac wedi ei llygru'n ddifrifol o ganlyniad. Diolch i'w penderfyniad i rewi adeiladu ffyrdd a'u meddylfryd negyddol am y seilwaith trafnidiaeth, mae unrhyw obaith am ffordd osgoi i Gas-gwent wedi'i ohirio'n ddifrifol. Mae taer angen ffordd osgoi ar y dref, ac mae’n rhaid i hynny ddigwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU i wneud i hynny ddigwydd. Mae tagfeydd traffig sy'n ymestyn hanner ffordd dros hen bont Hafren yn ddigwyddiad dyddiol. Mae'n giw sydd bron yn ddwy filltir o hyd, a chefais fy nal ynddo ddwywaith yr wythnos diwethaf. Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo mewn cyfarfodydd cyhoeddus y byddai'n rhoi mesurau traffig lleol ar waith ac yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i liniaru tagfeydd, ond haws dweud na gwneud, ac nid ydym yn gweld unrhyw beth yn digwydd.

Lywydd, defnyddiais Gas-gwent fel enghraifft ar gyfer y ddadl hon fel tref sy’n ysu am seilwaith, ond un sy’n cael ei hanwybyddu gan y Llywodraeth Lafur hon, fel llawer o gymunedau eraill ledled Cymru. Mae awydd y Llywodraeth i'n tynnu allan o’n ceir, ar ein beiciau, neu i ddefnyddio ein trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig iawn yn freuddwyd ofer sy’n anwybyddu realiti bywyd bob dydd a masnach. Mae gan y Prif Weinidog newydd ac Ysgrifennydd y Cabinet gyfle i newid pethau. Mae angen inni weld y cynlluniau ffyrdd a ganslwyd yn ôl ar y bwrdd er mwyn hybu’r economi a lleddfu'r tagfeydd ar ein ffyrdd. Ac yn sicr, mae'r wlad angen i Lafur newid i ddull gweithredu wedi'i dargedu mewn perthynas â therfynau 20 mya, a chael gwared ar y polisi difeddwl sydd ganddynt ar hyn o bryd. Rwy’n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 6:08, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Mae angen inni flaenoriaethu buddsoddiad i gynnal ein seilwaith priffyrdd presennol. Mae wedi dirywio'n gyflym wrth i gyllidebau grebachu fwyfwy dros y 14 mlynedd diwethaf, a'i waethygu ymhellach gan lifogydd cynyddol. Maent mewn cyflwr enbyd. Mae gan y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru yn unig ôl-groniad o £1 biliwn, ac amcangyfrifwyd bedair blynedd yn ôl fod gan strwythurau a gynhelir yn lleol ôl-groniad o £1.6 biliwn. Gyda chymaint o bwysau sy'n cystadlu â'i gilydd ar gyllidebau awdurdodau lleol, a rhai’n gorfod gwneud arbedion yn ystod y flwyddyn, mae angen inni fynd yn ôl at ddarparu cyllid grant wedi’i glustnodi ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd, yn union fel oedd i'w gael ychydig flynyddoedd yn ôl. Rwy'n ymwybodol fod yr arian wedi dod i ben mewn un awdurdod lleol y mis diwethaf ar gyfer llenwi tyllau yn y ffordd a'i fod wedi gorfod aros tan fis Ebrill. Mesur dros dro yn unig yw mynd ati'n adweithiol i gynnal a chadw tyllau yn y ffordd. Mae angen buddsoddiad cyson ar briffyrdd i osgoi gwaith atgyweirio adweithiol helaeth a drud, cau ffyrdd a risg uwch i ddefnyddwyr.

Rwy'n gobeithio eleni y bydd modd defnyddio rhywfaint o’r cyllid teithio llesol, sydd wedi treblu ac sy’n dal i fod wedi'i glustnodi fel cyllid grant, gan na allwn adeiladu llawer mwy o lwybrau beicio dynodedig, na ellir eu cynnal, pan fo beicwyr yn wynebu peryglon cwteri wedi cwympo a thyllau ar ffyrdd, sef lle mae'r rhan fwyaf ohonynt yn beicio. Mae'n wahanol iawn yng ngogledd Cymru ac mewn ardaloedd gwledig o gymharu ag ardaloedd fel yma yng Nghaerdydd, ac mae'n rhaid cael cydbwysedd.

Mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus yn ddrud ac mae pwysau chwyddiant wedi effeithio ar y ddarpariaeth honno. I wella'r canfyddiad o’r rhaniad rhwng y gogledd a'r de, hoffwn weld rhai cynlluniau peilot yn y gogledd fel rhan o fetro gogledd Cymru. Gallem dreialu capio prisiau siwrneiau, ymyriadau wedi’u targedu mewn perthynas â chyhoeddusrwydd a gwybodaeth, defnyddio cytundebau 106 gan ddatblygwyr i roi tocyn trafnidiaeth integredig am ddim i drigolion newydd am flwyddyn—mae hyn wedi digwydd yng Nghaer. Mae cynorthwyydd platfform rheilffordd a gyrrwr bws cyfeillgar a chymwynasgar yn amhrisiadwy ac yn gwneud byd o wahaniaeth i hyder pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I lawer dros 60 oed, nid yw tocynnau teithio consesiynol yn cael eu defnyddio, a bu gostyngiad yn eu defnydd ers COVID. Felly, gyda chymorth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, gellid cynnal ymgyrch wedi’i thargedu i ddarparu gwybodaeth, i roi hyder, gan ganolbwyntio ar ardal.

Ar y terfyn 20 mya, mae angen inni symud ymlaen mewn partneriaeth â chynghorau sydd wedi—. Mae'n ddrwg gennyf, os caf fynd yn ôl at drafnidiaeth gyhoeddus—gadewais ddarn bach allan—hoffwn edrych ar gapio prisiau siwrneiau hefyd, wrth symud ymlaen, i dreialu prisiau siwrneiau wedi'u capio, ac edrych ar bobl ifanc hefyd, efallai.

Ar y terfyn 20 mya, mae angen inni symud ymlaen mewn partneriaeth â chynghorau sydd wedi coladu rhestrau o ffyrdd i’w haddasu, ond sy’n aros am y canllawiau newydd. Nid ydynt am orfod gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig ddwywaith, ac mae angen iddynt fod yn dawel eu meddwl ynghylch atebolrwydd, pe bai'r hyblygrwydd yn cael ei ganiatáu i gynyddu cyflymder mewn perthynas â natur y ffordd. [Torri ar draws.] Rwy’n brin o amser.

Gwn fod gennym lawer o ddatblygu trefol a chysylltedd rhyngdrefol yng ngogledd Cymru, a dyna pam y cafodd llawer o lwybrau eu cynnwys yn y terfyn cyflymder diofyn newydd. Cafwyd galwadau am gadw terfynau 20 mya i ystadau yn unig, ond mae swyddogion priffyrdd wedi dweud wrthyf fod 90 y cant o ddamweiniau'n digwydd ar briffyrdd lle mae traffig trymach, dwysedd tai uwch, cerddwyr a beicwyr yn cymysgu â thraffig. Mae llawer o drigolion yn hoffi'r terfynau 20 mya lle maent yn byw, ond mae gyrwyr yn rhwystredig pan fo darnau hir o ffordd dan gyfyngiad heb unrhyw reswm amlwg. Gyda’r canllawiau cywir, a chan weithio gydag awdurdodau lleol mewn partneriaeth, gallwn gael y cydbwysedd cywir.

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 6:12, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr heddiw, ac yn croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i’r ddadl gyda rhywfaint o flas ar y polisïau a’r blaenoriaethau trafnidiaeth y byddaf yn eu hamlinellu’n fanylach ddydd Mawrth nesaf. Yn wir, credaf fod agweddau ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau hynny ac sy’n adlewyrchu llawer o’r hyn a glywsom ar draws y Siambr heddiw.

Mae dros flwyddyn wedi bod bellach ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb i'r adolygiad ffyrdd, ac wrth gwrs, mae'n iawn inni fyfyrio, pwyso a mesur a chymryd amser i wrando—gwrando ar ein gilydd, ar ein cymheiriaid ar gynghorau, yn San Steffan, ar gynghorau tref a chymuned, ac yn anad dim, ar y dinasyddion a wasanaethwn. Ers cyhoeddi’r adolygiad ffyrdd, rydym wedi parhau i adeiladu ffyrdd, ac mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Nowlais fel rhan o adrannau 5 a 6 o'r gwaith o ddeuoli’r A465 yn dystiolaeth o hynny, yn ogystal â bod yn ddarn hynod drawiadol yn fy marn i o seilwaith o safbwynt peirianneg. Byddwn yn parhau i adeiladu ffyrdd newydd, boed hynny er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd lleol, mannau cyfyng ac ansawdd aer gwael, gwella diogelwch, neu o ran hynny, i addasu ein rhwydwaith ffyrdd i’r math o dywydd eithafol a welwn yn frawychus o rheolaidd yma yng Nghymru. Fe fyddwn yn adeiladu ffyrdd newydd.

Ond yn fwy na dim, byddwn yn adeiladu'n well nag o'r blaen. Byddwn yn gwneud hynny er mwyn cyflawni’r rhwymedigaethau a gyflwynwyd, yn gywir ddigon, gan y Llywodraeth ddiwethaf i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Byddwn yn adeiladu’n well nag o’r blaen drwy ddefnyddio technegau adeiladu newydd sy’n arloesol yn rhyngwladol ac sy’n lleihau carbon corfforedig, drwy leihau’r effaith ar goetiroedd hynafol, fel rydym yn ei weld yn cael ei roi ar waith nawr yn Llanharan. A byddwn hefyd yn gwneud hynny drwy gynnwys llwybrau blaenoriaeth i fysiau o'r dechrau yn rhan o'n cynlluniau, a gwell cysylltiadau cerdded.

Ac rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn fy mod am wrando mewn perthynas â'r terfyn 20 mya. Ers imi gael fy mhenodi, rwyf wedi bod yn cyfarfod ag aelodau cabinetau trafnidiaeth ac arweinwyr llywodraeth leol o bob rhan o Gymru. Rydym wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i gyflwyno rhaglen wrando genedlaethol, i ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig, gyda busnesau, cymunedau a dinasyddion ledled Cymru, gan gynnwys plant, sy'n hollbwysig yn fy marn i. Rwy'n credu bod consensws cynyddol yn y ddadl hon y gallwn o leiaf adeiladu arno fod terfynau 20 mya yn briodol o gwmpas ein hysgolion, ein hysbytai, ein meithrinfeydd—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:14, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Os caf dorri ar draws y Gweinidog, mae Andrew R.T. Davies yn dymuno gwneud ymyriad. A ydych chi am dderbyn yr ymyriad?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur

(Cyfieithwyd)

Gyda phleser, ydw.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r Ceidwadwr yn ôl i’r Llywodraeth, ac mae hynny’n braf iawn ei weld. Ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog, wrth iddo sôn am y sgwrs y mae ef a'r Llywodraeth yn ei chael ynglŷn â'r terfyn 20 mya, beth yw'r terfyn amser ar y sgwrs honno, gan fod pobl yn dymuno gweld canlyniad un ffordd neu'r llall, a newidiadau radical i'r polisi wrth gwrs?

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 6:15, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Dywedaf wrth Andrew R.T. Davies y byddaf yn gwneud datganiad llafar ddydd Mawrth nesaf ar flaenoriaethau trafnidiaeth, lle byddaf yn amlinellu’r mesurau a roddir ar waith yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf mewn perthynas â phob mater sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, ac yn enwedig terfynau 20 mya. Ond mae'n rhaid imi ddweud eto fy mod yn teimlo'n gryf iawn fod yna gefnogaeth ar draws y Siambr i derfynau 20 mya yn y mannau lle maent yn briodol, yn enwedig lle mae plant a'r henoed mewn perygl. Credaf eu bod yn gwneud synnwyr mewn mannau o'r fath, maent yn gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel. Ond mae angen inni sicrhau bod terfynau 20 mya yn cael eu targedu’n briodol yn y lleoedd hynny, fel y gwnaethom addo o'r cychwyn. A bydd angen inni weithio'n eithriadol o agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, gyda chynghorau tref a chymuned, ac yn wir, gyda dinasyddion er mwyn cyflawni hynny. Bydd newidiadau’n cael eu gwneud gyda ac ar gyfer y cymunedau y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu, gyda llais dinasyddion yn ganolog i bopeth a wnawn.

Cyfeiriodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru at drafnidiaeth gyhoeddus, ac wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr angen am fuddsoddiad parhaus. Yn wir, roeddwn yn rhan o'r Llywodraeth a ymrwymodd gyntaf i drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd yn gyfan gwbl yng Nghymru, gyda buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon. Mae'n werth cofio y bydd hynny'n rhoi Cymru yn agos at frig y tabl o ran trenau newydd, a ninnau wedi bod yn agos at waelod y proffil oedran gyda'n fflyd yn y gorffennol. Wedyn, mae'r gwaith o drawsnewid rheilffyrdd craidd datganoledig y Cymoedd, a fydd yn darparu gwasanaeth 'cyrraedd a theithio', gwasanaeth metro, a fydd, heb os, yn trawsnewid bywydau ar draws y rhanbarth. A hefyd—peidied neb â chamgymryd—hoffwn weld mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru, gan gynnwys sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, gan mai nhw, nid ni, sy’n gwbl gyfrifol am hynny.

Ond fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, nid yw cymharu’r cyllid datblygu ar gyfer y gogledd â buddsoddiad yn rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn cymharu tebyg â’i debyg, a hynny am fod perchnogaeth ar reilffyrdd craidd y Cymoedd wedi’i throsglwyddo i ni, felly mae gennym bwerau i fuddsoddi ynddynt. Mae gogledd Cymru yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yn unig yng nghyswllt seilwaith rheilffyrdd. Yn ogystal, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn buddsoddi yn y rhaglen drawsnewid. Nid yw bargen twf gogledd Cymru wedi’i strwythuro yn yr un modd. Ni all ariannu prosiectau rheilffyrdd cyfatebol ac felly rydym yn gwbl ddibynnol ar Lywodraeth y DU i ddarparu’r holl gyllid ar gyfer gwelliannau i’r rheilffyrdd y maent hwy eu hunain yn gyfrifol amdanynt. Rwy'n gobeithio darbwyllo Gweinidogion yn San Steffan i ariannu’r hyn y mae ei wir angen ar y gogledd, a byddaf yn gweithio gyda nhw ac eraill i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer y gogledd yn ogystal â’r de-orllewin a chanolbarth a gorllewin Cymru.

Ac mae'n rhaid imi ddweud hyn: rwy'n hynod o awyddus i helpu i newid naws a chywair y ddadl ar drafnidiaeth. Rwy’n falch iawn fod llefarwyr y gwrthbleidiau wedi cytuno i gyfarfod â mi i gael trafodaethau rheolaidd ar sut y gallwn weithio’n fwy cydweithredol, oherwydd fel rwyf wedi'i ddweud erioed, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr ar ddatblygu atebion i’r heriau trafnidiaeth sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy’n cydnabod bod rhywfaint o rinweddau i gynnig Plaid Cymru hefyd. Yn gywir ddigon, mae'n nodi rhai o’r diffygion yn y setliad datganoli, ac rwy'n cytuno bod cysylltedd ar gyfer gogledd Cymru yn fater o flaenoriaeth, a bod yn rhaid inni barhau i adolygu effaith y terfyn cyflymder 20 mya. Ond mae angen datblygu'r atebion y mae'n eu hawgrymu ymhellach.

Rwy’n benderfynol o siapio dyfodol trafnidiaeth fel galluogydd economaidd a chymdeithasol. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd pan ofynnodd y Prif Weinidog imi ymgymryd â’r portffolio hwn, gan fod trafnidiaeth yn ymwneud â mwy na mynd o A i B yn unig, mae'n ymwneud â chysylltu pobl â gwasanaethau cyhoeddus, gwaith, addysg, ffrindiau a theulu, ac ar gyfer hamdden, a thwristiaeth. Dyma’r ethos sy’n sail i’m hymrwymiad i wrando ar bobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Rydym wedi ceisio cynhyrchu gwelliant gan y Llywodraeth sy'n cydnabod y tir cyffredin ar draws y Siambr ac sy'n dangos ein bod yn gwrando ar leisiau'r Aelodau yma ac ar bobl ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio ar draws Siambr y Senedd, ac rwy'n gobeithio bod pob Aelod yn teimlo heddiw y gallant gefnogi ein gwelliant. Diolch.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet newydd yn ei rôl, a’i groesawu yn ôl i’r Llywodraeth ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig? A gaf i groesawu cywair ei ymateb yn arbennig, ymateb a oedd yn llawer mwy adeiladol a chymodlon na'r hyn rydym wedi arfer ag ef ar bolisi trafnidiaeth dros y blynyddoedd diwethaf a bod yn onest? Rwy'n croesawu'n arbennig ei sylw ei fod yn awyddus i wrando mewn perthynas â'r terfyn 20 mya mewn rhai mannau. Credaf ichi grybwyll ysbytai ac ysgolion fel mannau lle mae terfynau 20 mya yn tueddu i fod yn synhwyrol. Dyna yw ein safbwynt wedi bod yma ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig ers tro, ac rwy’n falch o’ch clywed yn dweud hynny hefyd, Weinidog. Hoffwn hefyd eich canmol am ddweud dro ar ôl tro ar ddechrau eich sylwadau y byddwn yn adeiladu ffyrdd newydd, ac rwy'n credu y bydd hynny’n tawelu meddyliau pobl fel Peter Fox a’i etholwyr yng Nghas-gwent sy’n chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn gwrando ac yn ymgysylltu ar y mater hwn.

Os caf ymateb i rai pwyntiau a wnaed yn y ddadl, fe agorodd Natasha Asghar drwy ddweud bod y Gweinidog wedi etifeddu sefyllfa enbyd, ac yn anffodus, mae'n llygad ei lle. Fe welsom rai o’r mesurau gwrth-fodurwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd yr Athro Stuart Cole yn ddiweddar y dylai cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus fod wedi cael eu cyflwyno cyn unrhyw ddeddfwriaeth gwrth-fodurwyr arall, ac mae’n llygad ei le, gan nad oes ond angen inni edrych ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru i weld sut olwg sydd ar y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Clywsom y Prif Weinidog ddoe yn honni mai hwn oedd y gweithredwr sy’n perfformio orau, ond y gwir amdani yw mai nhw yw’r gwaethaf yn y DU o ran boddhad cwsmeriaid, ac mae hynny’n cynnwys sylwadau am brydlondeb, dibynadwyedd ac amlder gwasanaethau.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 6:21, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ymhelaethu ar y ddeddfwriaeth gwrth-fodurwyr hon? Nid wyf wedi'i gweld eto, nid wyf wedi clywed amdani. Am beth rydych chi'n sôn?

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

A gaf i awgrymu eich bod yn siarad â’ch etholwyr, sydd wedi codi nifer o faterion ynghylch y dull gweithredu blaenorol a welsom mewn perthynas ag adeiladu ffyrdd, y dull gweithredu blaenorol a welsom mewn perthynas â'r terfyn 20 mya, a’r pwerau a roddwyd iddynt mewn deddfwriaeth flaenorol i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn y dyfodol? Rwy'n gobeithio na fydd hynny’n dwyn ffrwyth, ac rwy'n gobeithio bod y newid o ran dull gweithredu a nododd y Gweinidog heddiw yn arwydd o bethau i ddod, ond nid dyna a welsom yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Delyth Jewell, am ryw reswm, fod holl ofidiau trafnidiaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi deillio o San Steffan mewn rhyw ffordd, ond mae’r ffigurau rwyf newydd eu darllen mewn perthynas â Trafnidiaeth Cymru yn awgrymu nad San Steffan yw’r broblem, y broblem yw Llywodraeth Cymru, y maent hwy wedi bod yn ei chynnal ers 25 mlynedd.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:22, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gywiro’r cofnod. Dywedais yn benodol mai methiant Llywodraethau olynol yng Nghaerdydd yn ogystal ag yn San Steffan oedd hyn, a nodais gryn dipyn o ffyrdd y mae angen i hyn wella. Ond mae biliynau'n ddyledus i ni gan San Steffan.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rwy’n derbyn y pwynt o eglurder ynghylch y Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd y buoch chi'n ei chynnal ers nifer o flynyddoedd, gan gynnwys gwasanaethu yn y Llywodraeth honno.

Soniodd John Griffiths am faterion trafnidiaeth yng Nghasnewydd. Pe bawn i'n siarad â’i etholwyr, rwy'n credu y byddent yn dweud wrthyf mai’r broblem drafnidiaeth fwyaf yng Nghasnewydd a’r cyffiniau yw canslo ffordd liniaru’r M4. A chlywsom gan Peter Fox nad dyna’r unig brosiect nas datblygwyd sy’n achosi problemau yn y rhan honno o’r byd, a ffordd osgoi Cas-gwent hefyd. Rwy’n siŵr y bydd gan Aelodau eraill enghreifftiau yn eu hardaloedd o brosiectau trafnidiaeth nas datblygwyd.

Yn olaf, soniodd Carolyn Thomas am gyflwr ffyrdd a thyllau yn y ffordd. Mae hwnnw’n fater enfawr, ac mae Carolyn yn llygad ei lle. Felly, rwy'n siŵr y bydd yn arswydo lawn cymaint â minnau fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £33 miliwn ar osod arwyddion ger y ffyrdd, yn hytrach na gwella cyflwr y ffyrdd hynny yn y lle cyntaf.

Rwy'n croesawu'r sylwadau gan y Gweinidog heddiw. Rwy'n gobeithio bod hyn yn arwydd o newid dull gweithredu, newid yn ymagwedd Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch polisi trafnidiaeth yma yng Nghymru, ond hoffwn annog yr Aelodau heddiw i anfon y neges honno fod pethau’n newid, i gefnogi ein cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:24, 17 Ebrill 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe ohiriwn ni'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.