Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Ebrill 2024.
Mae’n werth ailadrodd weithiau fod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr—difidend yr Undeb. Ac mae'n rhaid bod hyd yn oed Keir Starmer yn credu bod honno'n fargen dda, gan nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i'w newid ychwaith. Ond efallai fod angen inni siarad mwy am y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud gyda’i harian. Mae llywodraethu'n golygu dewis, ac rydych wedi dewis terfynau cyflymder o 20 mya yn hytrach nag addysg, meysydd awyr yn hytrach na phrentisiaethau, a 36 yn rhagor o wleidyddion yn hytrach na 650 yn rhagor o nyrsys. A wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru o dan arweinyddiaeth newydd ddewis ystyried ei chyflawniad ei hun mewn grym a’r dewisiadau y mae’n eu gwneud gyda’i gwariant, yn hytrach na gwneud esgusodion a thaflu bai ar eraill?