Cyllid Teg i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Ebrill 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 1:30, 17 Ebrill 2024

(Cyfieithwyd)

Rydym wrth gwrs yn gweld canlyniadau cyllid annigonol a chamalinio ag anghenion pobl yn y ffyrdd llymaf yma yng Nghymru. Mae’r achos dros gael gwared ar fformiwla Barnett a chyflwyno system sy’n seiliedig ar anghenion yn aruthrol o gryf ac wedi’i atgyfnerthu gan y ffaith bod consensws trawsbleidiol ynghylch yr angen i edrych yn fanwl iawn ar y dirwedd ariannol. Nawr, er bod pawb yma yn cydymdeimlo â’r ddadl, ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn arbennig o ddylanwadol o ran annog Llywodraeth Geidwadol y DU i newid y polisi. Pam felly, ym marn Ysgrifennydd y Cabinet? A chydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, pa warantau a geir y byddai Llywodraeth Lafur yn darparu cyllid teg?